Newid yn yr Hinsawdd a Threftadaeth Arfordirol

Mae CHERISH (Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd) yn brosiect 6 blynedd ar gyfer Iwerddon a Chymru sy’n cael ei gyllido gan Ewrop ac mae’n dod â phedwar partner ar draws dwy wlad at ei gilydd: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, y Rhaglen Ddarganfod: Canolfan Archaeoleg ac Arloesi Iwerddon, Prifysgol Aberystwyth: Yr Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear ac Arolwg Daearegol, Iwerddon. Dechreuodd y prosiect ym mis Ionawr 2017 a bydd yn weithredol tan fis Mehefin 2023. Bydd yn elwa o €4.9 miliwn drwy Raglen Iwerddon-Cymru 2014-2020.

 

Mae CHERISH yn brosiect gwirioneddol drawsddisgyblaethol sydd â'r nod o gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effeithiau newid yn yr hinsawdd, stormydd a thywydd eithafol yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol agos ar dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ein môr a'n harfordir. Rydym yn cysylltu tir a môr ac yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau a dulliau i astudio rhai o'r lleoliadau arfordirol mwyaf eiconig yn Iwerddon a Chymru.

Amcanion

Datblygu cyfarwyddyd arfer da ar y cyd

Rhwydwaith parhaol o farcwyr arolwg sefydlog ‘newid lleol’ 

Rhestr data amgylcheddol hanesyddol uwch

Rhestr data palaeo-amgylcheddol uwch

Modelau 3D ar / oddi ar y lan di-dor

Hyfforddi’r dinesydd wyddonydd

Cloddio cymunedol ar asedau treftadaeth sydd mewn perygl

Porthol gwe a rennir gyda mynediad agored

Cynlluniau rheoli perchnogion tir

Cynnydd CHERISH

Hyd yma mae Prosiect CHERISH wedi cyflawni’r canlynol

0
o safleoedd wedi’u cofnodi
0 km²
o arolygon morol
0
o longddrylliadau wedi’u harolygu
0
o ffotograffau archaeolegol o’r awyr
0 m
o greiddiau wedi’u samplu

Blogiau Diweddar

Golygfa o'r awyr o Gaer Bentir a Chastell Ferriter, lle bydd gwaith cloddio CHERISH yn digwydd yr haf hwn.
Sandra Henry

CLODDIO CASTELL A CHAER BENTIR FERRITERS

Cyflwyniad Mae tîm CHERISH yn bwriadu gwneud gwaith cloddio archaeolegol yng Nghastell a Chaer Bentir Ferriter unwaith y bydd y cyfyngiadau presennol yn caniatáu hynny. Mae'r safle wedi'i leoli ar Benrhyn Ballyferriter, Dingle yn Sir Kerry. Mae Trwyn Doon (Dún an Fheirtéaraigh) yn bentir hir, cul sy'n ymestyn ychydig dros bum can metr o'r gogledd ddwyrain i'r de orllewin. Mae’r golygfeydd hardd o'r safle hwn yn cynnwys Trwyn Sybil i'r gogledd ac Ynysoedd Blasket i'r gorllewin. Mae’r gaer gynhanes yma’n un o 95 o geyrydd pentir arfordirol yn Sir Kerry, ac yn un o 508 o geyrydd o’r fath sydd wedi’u cofnodi o amgylch arfordir Iwerddon. Mae ceyrydd pentir....

Darllen mwy

Twitter

Cylchlythyr

Dadlwythwch rifyn newydd y Newyddion CHERISH
Rhif. 7

Subscribe to our email list and stay up-to-date!

cyCY