At the mercy of the weather gods: marine surveying in Wales

Cynllunio

Mae cynllunio arolygon morol yn anodd. Rhaid trefnu arolygon fisoedd ymlaen llaw, ond mae'r tywydd yn pennu popeth ar y diwrnod. Os yw hi’n rhy wyntog, mae'r ymchwydd yn codi. Er bod gan y cychod rydym yn eu defnyddio offer (unedau mesur inertiol) sy'n olrhain symudiad y cwch, mae tonnau mawr a swigod sy'n dod gyda hynny'n gwasgaru'r tonnau sain o'r amlbelydr ac yn arwain at "ddata swnllyd". Mae methu arolygu oherwydd y tywydd yn digwydd yn aml.

Y ffordd o amgylch hyn yw cynllunio targedau lluosog sy'n ystyried yr holl dywydd. Mae'r prifwynt yn Iwerddon a'r DU yn dod o'r de orllewin. Dewiswch eich prif dargedau ac wedyn dewis mwy o faeau a chilfachau sy'n wynebu'r gogledd ddwyrain. Dewiswch rai targedau mewn dŵr bas, rhai mewn dŵr dwfn. Ceisiwch gael nifer o lefydd i fynd iddynt ac os bydd y gwynt yn newid cyfeiriad ac yn cryfhau, mae rhywbeth bob amser i geisio cynyddu'r siawns o arolwg llwyddiannus. Hyd yn hyn, rydyn ni wedi bod yn lwcus!

Blynyddoedd Blaenorol

Rydym bellach newydd gwblhau ein trydydd tymor yn arolygu yn nyfroedd Cymru. Yn 2018, roedd yr RV Keary yn gweithredu o amgylch Ynys Môn (Ffigur 1). Yn targedu llongddrylliadau i'r de orllewin o'r ynys i ddechrau, cynyddodd y gwyntoedd de orllewinol a gorfodwyd y cwch i symud i'r gogledd ddwyrain. Caniataodd amodau cysgodol yn y lleoliad yma i ni barhau i gasglu data, gyda'n holl bathymetreg yn cael ei osod ar grid hyd at fanylder 10 m, 5 m a 2 m. Gellir cynhyrchu mwy o fanylder, yn enwedig ar gyfer llongddrylliadau yr ydym yn eu gridio yn gyffredinol ar 0.25 m i lawr i 0.10 m. Mae data 2 m Ynys Seiriol bellach wedi'u cyfuno â data LiDAR CHERISH i gynhyrchu un o'n mapiau di-dor ar y tir-ar y môr (Ffigur 2).

Bathymetry coverage from KRY18_CHERISH
Ffigur 1: Bathymetreg o KRY18_CHERISH
Map di-dor ar y tir-ar y môr o Ynys Seiriol. 2 x chwyddo fertigol. Coch yn lefel uchel, gan newid at las ar gyfer ardaloedd dyfnach.
Ffigur 2: Map di-dor ar y tir-ar y môr o Ynys Seiriol. 2 x chwyddo fertigol. Coch yn lefel uchel, gan newid at las ar gyfer ardaloedd dyfnach.

Yn 2019, dychwelodd yr RV Keary i Gymru, gan symud i'r de y tro hwn a thargedu rîff Sarn Badrig ym Mae Ceredigion ynghyd â safleoedd tiriogaethol allweddol eraill CHERISH (Ffigur 3). Roedd y tywydd eleni yn garedig ac yn caniatáu i ni weithredu ar y lan orllewinol agored. Mae Sarn Badrig yn hynod o fas ac ar lanw isel symudodd yr RV Keary i Ynysoedd Sant Tudwal i barhau i gasglu data. Arolygwyd rhanbarthau oddi ar y lan Dinas Dinlle a Rhosneigr i gyd-fynd â gwaith ar y tir ein cydweithwyr yng Nghymru.

Safleoedd arolygu KRY19_CHERISH gyda’r bathymetreg a arolygwyd.
Ffigur 3: Safleoedd arolygu KRY19_CHERISH gyda’r bathymetreg a arolygwyd.

Arolwg 2020

Eleni, y bwriad oedd ymestyn y gwaith a ddechreuwyd yn 2019, gyda Sarn Badrig a'r Tywod Deheuol o amgylch Afon Menai yn brif dargedau i ni (Ffigur 4). Fodd bynnag, gan fod y rhain yn agored i wynt o’r de orllewin, nodwyd nifer o ardaloedd wrth gefn, yn ymestyn o'r gogledd o Ynys Môn i lawr i Sir Benfro. Cynlluniwyd yr arolwg o amgylch llanw mawr y gwanwyn, er mwyn manteisio'n llawn ar ddŵr dyfnach dros y targedau bas.

Bathymetreg amlbelydr o amgylch llongddrylliad y "Bronze Bell", gan gynnwys Marmor Carrara, angorau a chanon. Bas yw coch ac mae’n dyfnhau tuag at las.
Ffigur 5: Bathymetreg amlbelydr o amgylch llongddrylliad y "Bronze Bell", gan gynnwys Marmor Carrara, angorau a chanon. Bas yw coch ac mae’n dyfnhau tuag at las.
Cofnod amlbelydr o Sarn Badrig. Bas yw coch ac mae’n dyfnhau tuag at las.
Ffigur 6: Cofnod amlbelydr o Sarn Badrig. Bas yw coch ac mae’n dyfnhau tuag at las.
Bathymetreg oddi ar Ddinas Dinlle. Bas yw coch ac mae’n dyfnhau gyda gwyrdd. Caer Arianrhod yw’r rîff hirgrwn yn ne’r cofnod amlbelydr.
Ffigur 7: Bathymetreg oddi ar Ddinas Dinlle. Bas yw coch ac mae’n dyfnhau gyda gwyrdd. Caer Arianrhod yw’r rîff hirgrwn yn ne’r cofnod amlbelydr.

Rydyn ni bob amser wedi cael croeso cynnes yn nyfroedd Cymru. O gadw hyn mewn cof, ar ein diwrnod olaf yng Nghymru eleni, roedd yn bleser cymryd rhan yn yr hwylio er cof am Mark Shackleton, Docfeistr Caernarfon.

cyCY