Newid Hinsawdd a Threftadaeth Arfordirol

Mae CHERISH (Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd) yn brosiect 6 blynedd ar gyfer Iwerddon a Chymru sy’n cael ei gyllido gan Ewrop ac mae’n dod â phedwar partner ar draws dwy wlad at ei gilydd: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, y Rhaglen Ddarganfod: Canolfan Archaeoleg ac Arloesi Iwerddon, Prifysgol Aberystwyth: Yr Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear ac Arolwg Daearegol, Iwerddon. Dechreuodd y prosiect ym mis Ionawr 2017 a bydd yn weithredol tan fis Mehefin 2023. Bydd yn elwa o €4.9 miliwn drwy Raglen Iwerddon-Cymru 2014-2020.

 

Mae CHERISH yn brosiect gwirioneddol drawsddisgyblaethol sydd â'r nod o gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effeithiau newid yn yr hinsawdd, stormydd a thywydd eithafol yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol agos ar dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ein môr a'n harfordir. Rydym yn cysylltu tir a môr ac yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau a dulliau i astudio rhai o'r lleoliadau arfordirol mwyaf eiconig yn Iwerddon a Chymru.

Amcanion

Datblygu cyfarwyddyd arfer da ar y cyd

Rhwydwaith parhaol o farcwyr arolwg sefydlog ‘newid lleol’ 

Rhestr data amgylcheddol hanesyddol uwch

Rhestr data palaeo-amgylcheddol uwch

Modelau 3D ar / oddi ar y lan di-dor

Hyfforddi’r dinesydd wyddonydd

Cloddio cymunedol ar asedau treftadaeth sydd mewn perygl

Porthol gwe a rennir gyda mynediad agored

Cynlluniau rheoli perchnogion tir

Cynnydd CHERISH

Hyd yma mae Prosiect CHERISH wedi cyflawni’r canlynol

0
o safleoedd wedi’u cofnodi
0 km²
o arolygon morol
0
o longddrylliadau wedi’u harolygu
0
o ffotograffau archaeolegol o’r awyr
0 m
o greiddiau wedi’u samplu

Blogiau Diweddar

Twitter

Tanysgrifiwch i'n rhestr e-bostio a chael y newyddion diweddaraf

cyCY