Blogiau

Ymchwilio i'r Cofnod o Stormydd Hanesyddol

Cylchlythyr

Mae un o agweddau allweddol ein gwaith ar y prosiect CHERISH yn canolbwyntio ar y cofnod o stormydd y gorffennol. Gellir defnyddio cofnodion gwaddodol o lynnoedd, corsydd a thwyni tywod i ail-greu cyfnodau lle bu cynnydd mewn gweithgarwch stormydd, yn ymestyn yn ôl dros sawl milenia. Ar gyfer y cyfnod hanesyddol mwy diweddar, mae cofnodion dogfennol yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar eithafion tywydd y gorffennol. Mae gweithio gydag archifau yn brofiad hynod ddiddorol. Mae'n fraint cael trin a thrafod dogfennau a all fod yn gannoedd o flynyddoedd oed, ac sydd wedi'u curadu a'u catalogio'n ofalus gan archifyddion. Diolch i’r ymdrechion aruthrol gan gadwrfeydd i ddigideiddio’u casgliadau, fel bod adnoddau gwych fel Papurau Newydd Cymru ar gael i bawb, gallwn barhau i ddatblygu'r gwaith hwn o'n cartrefi.

Mae stormydd wedi chwarae rhan bwysig yn hanes darogan y tywydd. Ar noson y 25ain o Hydref, 1859, cododd storm ffyrnig a achosodd ddinistr o gwmpas arfordir Cymru. Drylliwyd nifer o longau a chollwyd tua 800 o fywydau. Lladdwyd dros 400 o bobl ar un llong yn unig – y Royal Charter, a dyna’r enw a ddefnyddir am y storm honno bellach. Wrth ddychwelyd o Awstralia i Lerpwl, drylliwyd y llong yn erbyn creigiau oddi ar arfordir Ynys Môn, o fewn golwg i bentref Moelfre. Yn sgil y colledion enbyd datblygwyd rhwydwaith o orsafoedd darogan stormydd dan arweinyddiaeth y Capten Robert Fitzroy, gan osod y sylfeini ar gyfer yr hyn a adwaenir heddiw fel y Swyddfa Dywydd. Ar 31ain Ionawr 1953, achosodd ymchwydd storm ddinistriol ym Môr y Gogledd lifogydd helaeth ar hyd arfordir dwyreiniol Lloegr, Gwlad Belg a'r Iseldiroedd, ac fe gollodd llawer o bobl eu bywydau. Yn sgil y storm honno, sefydlwyd yr UK National Tide Gauge Network Mae'r datblygiadau hyn mewn ymateb i ddigwyddiadau eithafol yn golygu ein bod ni mewn sefyllfa well o lawer i wrthsefyll effeithiau ymchwyddiadau a stormydd arfordirol heddiw.

Photograph of the effects of the winter storms in 2013-2014 on the coastal town of Aberystwyth.
Photograph of the effects of the winter storms in 2013-2014 on the coastal town of Aberystwyth.

Gaeaf 2013-14 oedd y mwyaf stormus ar gofnod yn Iwerddon a'r DU. Wrth i un storm ddilyn y llall, taflwyd Aberystwyth i lygad y cyfryngau, a'r rhan fwyaf o'r traeth ar y prom - gan ddod â thrafodaethau ynglŷn â’r cysylltiad rhwng y newid yn yr hinsawdd a thywydd eithafol yn nes at adref. Wrth i'r hinsawdd gynhesu a lefelau'r môr godi, gallwn ddisgwyl gweld cynnydd yn yr effeithiau sy’n deillio o stormydd. Mae persbectif hanesyddol yn helpu i osod cyflymder y newidiadau presennol yr ydym yn eu profi o fewn cyd-destun mwy hirdymor. Yn ystod y cyfnod clo, llwyddodd y prosiect hynod lwyddiannusRainfall Rescue’ i harneisio grym bron i 16,000 o wirfoddolwyr i drawsgrifio arsylwadau hanesyddol ynglŷn â glawiad o bob cwr o'r DU. Erbyn hyn gellir defnyddio'r miliynau o bwyntiau data a adferwyd i archwilio tueddiadau hirdymor a phatrymau gofodol glawiadau yn ogystal â digwyddiadau eithafol unigol. Mae’r dadansoddiad hwn o 'Storm Ulysses’, a ysgubodd ar draws Iwerddon a'r Alban ym mis Chwefror 1903, yn esbonio pa mor bwysig yw arsylwadau meteorolegol hanesyddol i wella ein dealltwriaeth o stormydd y gorffennol.

Mae adroddiadau naratif fel dyddiaduron, gohebiaeth, cofnodion plwyfi a phapurau newydd yn darparu adnoddau cyfoethog ar gyfer archwilio effeithiau tywydd y gorffennol. Mae prosiect Llên Natur wedi creu casgliad helaeth o gofnodion tywydd hanesyddol yn eu cronfa ddata Tywyddiadur tra bod cronfa ddata Tempest yn canolbwyntio ar gofnodion naratif o dywydd eithafol o bob rhan o'r DU. Gall y disgrifiadau cyfoethog hyn ein helpu i ddeall mwy am ddifrifoldeb a maint digwyddiadau unigol yn ogystal â'u heffeithiau ar gymunedau arfordirol. Gelwir y storm enbyd a darodd Iwerddon ar y 6ed a’r 7fed o Ionawr, 1839 yn Oíche na Gaoiy Móire – Noson y Gwynt Mawr. Mae'r atgof cenedlaethol am y dinistr erchyll a'r bywydau a gollwyd wedi’i drosglwyddo i lawr drwy’r cenedlaethau, ac wedi’i blethu i mewn i lên gwerin, barddoniaeth a phaentiadau. Er bod effeithiau dinistriol y noson honno yn adnabyddus yn Iwerddon, mae’r cofnodion dogfennol hefyd yn cyfeirio at ddifrod sylweddol o amgylch arfordir Cymru, yn enwedig ar draws gogledd Cymru.

Mae dyddiaduron William Bulkeley o Brynddu, Llanfechell, Ynys Môn ar gyfer y blynyddoedd 1734-43 a 1747-1760 i’w cael yn archif Prifysgol Bangor, ac maent ar gael i'w darllen ar-lein. Maent yn adnodd gwerthfawr sy’n rhoi darlun o fywyd ar Ynys Môn yn yr 18fed ganrif, ond maent hefyd yn cynnwys disgrifiadau dyddiol o'r tywydd. Ar y 1af o Dachwedd 1740, nodir ‘it blew a dreadfull Hurricane, throwing down & tearing ye slates from the Roof of Houses, breaking Hay & Corn Stacks...’ Dridiau yn ddiweddarach, mae’n cofnodi bod llong wedi'i dryllio yn ystod y storm yng Nghaergybi, a phawb wedi colli eu bywydau, a dau longddrylliad arall ym Miwmares. Ceir sawl disgrifiad o stormydd yn nyddiaduron Bulkeley. Mae'r rhain yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar hanes y tywydd ar Ynys Môn, un o'n hardaloedd astudio allweddol, cyn i gofnodion meteorolegol mwy systematig gael eu sefydlu tua canol y 19eg ganrif.

O'r 19eg ganrif, mae cofnodion papurau newydd yn darparu archif gyfoethog o wybodaeth am ymatebion cymunedau i eithafion y tywydd. Roedd y Borth ac Ynyslas, i'r gogledd o Aberystwyth, yn cael eu difrodi’n rheolaidd gan stormydd a llifogydd. Ar ôl storm ofnadwy ym mis Hydref 1896, dechreuodd y gymuned godi arian i adeiladu amddiffynfeydd môr. Cafodd y storm ei hun effeithiau pellgyrhaeddol yn ardal Bae Ceredigion; golchwyd rheilffordd Cambria ymaith mewn mannau, achoswyd difrod helaeth a llifogydd mewn llawer o drefi a phentrefi ac fe gollwyd bywydau ar y môr. Adeiladwyd grwynau i amddiffyn Borth, ond fe’u golchwyd ymaith mewn storm ffyrnig arall ym mis Rhagfyr 1910. Mae stormydd yn aml yn cael eu cofio am y difrod a'r colledion a achoswyd ganddynt. Serch hynny, mae cofnodion dogfennol hefyd yn cofnodi hanesion o ddewrder unigolion, ac ymatebion cymunedol a sefydliadol, sydd yn aml yn dangos gwytnwch yn wyneb adfyd. Maent yn ein hatgoffa o natur ddeinamig a bythol newidiol yr amgylcheddau hyn – rhywbeth y mae cymunedau arfordirol wedi bod yn byw ag ef ers tro byd.

Read More →
cyCY