Cylchlythyr
Mae'n anodd credu bod y prosiect bellach wedi cyrraedd diwedd ei bumed flwyddyn a’n bod yn cyrraedd yr hyn a fyddai wedi bod yn ddyddiad gorffen gwreiddiol Prosiect CHERISH. Rydym yn ffodus ein bod wedi cael estyniad i'r prosiect a chyllid Ewropeaidd ychwanegol i'n galluogi i fynd i mewn i gam pellach i hyrwyddo a marchnata canlyniadau a chynhyrchion y prosiect. Bydd CHERISH gyda chi tan fis Mehefin 2023 nawr!
Mae eleni wedi bod yn flwyddyn brysur iawn ac er gwaethaf y pandemig parhaus a'r newidiadau i'r ffordd rydym yn gweithio, mae'r tîm wedi bod yn brysur ledled Cymru ac Iwerddon. Dyma ychydig o'r uchafbwyntiau a ddewiswyd gennyf i ddod â 2021 i ben.
Roedd 2021 yn flwyddyn o waith cloddio i CHERISH, gan ddechrau ar Gildraeth Ferriter yn Swydd Kerry, am fwy na phythefnos ym mis Mai. Yma mae caer bentir a chastell wedi'u lleoli ar bentir cul ym mhellafion gorllewinol arfordir Iwerddon. Datgelodd y cloddio safle cwt mewn cyflwr da iawn ac rydym yn aros yn eiddgar am ganlyniadau dadansoddiad ôl-gloddio i ddatgelu pryd roedd rhywun yn byw ynddo. Mae sylw i'r gwaith cloddio yma yn 8fed cylchlythyr CHERISH sydd ar gael i'w lawrlwytho yma
Digwyddodd dau waith cloddio yng Nghymru hefyd. Ym mis Awst cyfrannodd CHERISH at ail dymor y cloddio yng nghaer arfordirol Dinas Dinlle. Roedd hyn yn adeiladu ar ein gwaith cloddio yn 2018 ac fe’i cwblhawyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, gyda chyllid gan Cadw, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a CHERISH. Heb os, uchafbwynt y cloddio oedd datgelu maint llawn y tŷ crwn trawiadol y tu mewn i’r fryngaer.
Wrth i’r cloddio yn Ninas Dinlle ddirwyn i ben, roedd gwaith newydd yn dechrau yng Nghaer Bentir Caerfai yn Sir Benfro. Yma rhoddodd CHERISH gontract i DigVentures i gynnal gwaith cloddio cymunedol ar ein rhan. Cafwyd tywydd gwych i’r pythefnos o gloddio a chymerodd mwy na 150 o wirfoddolwyr ran. Gellir gweld dyddiaduron a lluniau o'r cloddio ar wefan dig ventures a darparodd tîm DigVentures ddarlith hefyd ar gyfer Diwrnod Archaeoleg Sir Benfro sydd i’w gweld ar Sianel YouTube CHERISH
’Wnaethon ni ddim aros ar dir sych yn unig ac yn 2021 gwelwyd parhad ein rhaglen arolygu morol a deifio am y tro cyntaf i edrych ar longddrylliad, y Bronze Bell, llong gargo oedd yn cario marmor Carrera o Tuscany a longddrylliwyd ar rîff Sarn Padrig. Comisiynodd CHERISH MSDS Marine a gynhaliodd yr arolwg tanddwr cyntaf o'r llongddrylliad am y tro cyntaf er 2006. Mae'r tîm wedi cynhyrchu cyfres o ddyddiaduron deifio sydd ar gael i'w gweld ar sianel YouTube CHERISH. Bydd darlith ar-lein hefyd ar waith y tîm ar y Bronze Bell gan Alison James o MSDS Marine ar 17 Chwefror 2022, bydd tocynnau’n cael eu rhyddhau yn y flwyddyn newydd.
Roeddem yn ffodus iawn bod yr holl weithgarwch hwn wedi ennyn diddordeb y cyfryngau cenedlaethol a chafodd gwaith CHERISH sylw ar Newyddion Channel 4 a'r rhaglen Coast and Country ar ITV..
2021 oedd blwyddyn COP26 ac rydym wedi parhau i weithio'n galed i godi proffil #TreftadaethHinsawdd. Ym mis Mai cynhaliwyd cynhadledd CHERISH. Dylai fod wedi cael ei chynnal yng Nghastell Dulyn, ond gwnaethom symud ar-lein a gyda chymorth Fitwise llwyddwyd i gyflwyno cynhadledd rithwir gyda siaradwyr rhyngwladol o bob cwr o'r byd. Roedd yn gynhadledd lwyddiannus yn dangos y nod cyffredin i'r sector treftadaeth i ddeall effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ein treftadaeth arfordirol a sut gallwn addasu i hyn. Mae'r holl sgyrsiau ar gael i'w gweld ar wefan y prosiect a sianel YouTube bellach
Hefyd bu Arddangosfa CHERISH ar ymweliad â’i lleoliadau cyntaf: Bangor yng Nghymru a Dun Laoghaire a Rush yn Iwerddon. Hyfryd oedd ei gweld o'r diwedd, ar ôl bod o’r golwg mewn storfa oherwydd y pandemig. Mae gennym lawer mwy o leoliadau wedi’u trefnu yn 2022, cadwch lygad ar ein gwefan a'n cyfryngau cymdeithasol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.
Yn ystod cyfnod COP26 gwnaethom gyfrannu at nifer o ddigwyddiadau a siarad ynddynt, a hefyd ymuno â phrosiectau treftadaeth arfordirol eraill ledled y DU i gynhyrchu cyfres o ffilmiau i godi ymwybyddiaeth o dreftadaeth arfordirol a newid yn yr hinsawdd.
Rwy'n credu ei bod yn saff dweud bod y tîm wedi bod yn brysur iawn eleni a phur anaml, fel Rheolwr Prosiect, ydych chi’n cael cyfle i gydnabod a diolch yn gyhoeddus i'r tîm sydd wedi cymryd rhan, felly diolch yn fawr! Edrychwn ymlaen at 2022 yr un mor brysur ac addysgiadol!
Mae hefyd yn gyfle i ddymuno’n dda i ddau o dîm CHERISH wrth iddyn nhw adael y prosiect, mae James Barry o bartner CHERISH, Arolwg Daearegol Iwerddon, a Dan Hunt, o’r tîm yma yn y Comisiwn Brenhinol, yn symud ymlaen ar ôl pedair blynedd a hanner yn gweithio ar y prosiect a dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol.