Cylchlythyr
20fed Gorffennaf
Teithiau safle am 11am a 2pm
Dim angen archebu
Lluniaeth ar gael yn Neuadd Goffa Caerwedros
Ymunwch â thîm CHERISH yn y gaer bentir ddiddorol hon o'r Oes Haearn. Rhowch gynnig ar rywfaint o arolygu archaeolegol neu dewch am daith o amgylch y safle.
Mae prosiect CHERISH yn gweithio ar hyd arfordiroedd Cymru ac Iwerddon i ymchwilio i safleoedd archaeolegol sydd mewn perygl oherwydd Newid Hinsawdd. Dewch i ddysgu am y gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud yng nghaer Castell Bach yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cwmtydu, Ceredigion a rhoi cynnig ar y math o arolygu archaeolegol rydyn ni’n ei ddefnyddio i ymchwilio i safleoedd a’u cofnodi cyn iddyn nhw gael eu colli.
Bydd tîm archaeolegwyr CHERISH ar y safle drwy’r dydd i ateb eich cwestiynau, a bydd teithiau safle am 11am a 2pm. Bydd ein harddangosfa i’w gweld yn Neuadd Goffa Caerwedros gerllaw, gyda mwy o wybodaeth am y prosiect a gwaith Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Gellir cyrraedd Castell Bach ar hyd Llwybr Arfordir Ceredigion. Mae lle i barcio ar draeth Cwmtydu, lle mae toiledau cyhoeddus a chaffi hefyd. Mae ychydig o lefydd parcio ar gael hefyd ger Eglwys Sant Tysilio (yn SN 363 573). Bydd lluniaeth, toiledau a pharcio ar gael yn Neuadd Goffa Caerwedros, sydd tua 45 munud ar droed o Gastell Bach neu 5 munud mewn car o draeth Cwmtydu/Sant Tysilio.
Mae'r daith gerdded i Gastell Bach yn serth mewn mannau ac nid oes cyfleusterau ar gael ar y safle. Gwisgwch yn addas ar gyfer yr awyr agored, beth bynnag fo'r tywydd. Dewch â dŵr ac unrhyw feddyginiaeth sydd arnoch ei hangen. Byddem yn gwerthfawrogi gofal ar ran y cyfranogwyr mewn perthynas â Covid-19: peidiwch â mynychu os oes gennych chi symptomau salwch neu os ydych chi wedi profi’n bositif.