Modelau 3D

Illauntannig, County Kerry

Cylchlythyr

Other Models

Read More →

Newyddion, Newyddion Prosiect

Lluniau newydd dramatig yn dod â cheyrydd arfordirol cynhanesyddol Cymru sy'n erydu yn fyw

Cylchlythyr

Mae ailgreadau digidol newydd dramatig o ddwy o geyrydd arfordirol cynhanesyddol mwyaf agored i niwed Cymru newydd gael eu cwblhau, gan ddod â phentrefi caerog o Oes yr Haearn a’r Rhufeiniaid yn fyw iawn mewn manylder ffotograffig realistig.

 

Mae caer arfordirol Dinas Dinlle ger Caernarfon yng Ngwynedd, a a chaer bentir arfordirol Caerfai ger Tyddewi yn Sir Benfro, y ddau safle’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o dan fygythiad o erydiad arfordirol a cholli clogwyni. Mae mwy o dywydd stormus a glawiad dwys, ynghyd â’r cynnydd a ragwelir yn lefel y môr oherwydd newid yn yr hinsawdd, yn erydu’n raddol archaeoleg fregus y ddau safle yma.

Mae Prosiect CHERISH sy’n cael ei gyllido gan yr UE wedi gweithio’n agos gyda thîm o artistiaid yn Wessex Archaeology, ac amrywiaeth o randdeiliaid ac arbenigwyr, i ail-greu lluniau manwl gywir o’r ddau safle yma pan oeddent yn eu hanterth.

Mae caer arfordirol Dinas Dinlle wedi cael ei chloddio am dair blynedd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, CHERISH, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cadw i achub, a deall yn well, yr archaeoleg sydd wedi’i chladdu o fewn yr amddiffynfeydd. Mae tua 40 metr o’r clogwyni tywod a graean meddal wedi’u colli yn ystod y ganrif ddiwethaf yn unig. Mae tŷ crwn Brythonaidd Rhufeinig a gloddiwyd yn agos at ymyl y clogwyn bellach wedi'i ail-greu i'r cyhoedd ei weld. Bydd yn ffurfio dangosydd newid hinsawdd wrth iddo erydu'n raddol dros y clogwyn. Mae un o'r ailgreadau newydd yn dychmygu'r tŷ crwn hwn yn 150 OC, fel canolbwynt i gymuned gyda phennaeth benywaidd.

Ailgread o dŷ crwn Brythonaidd Rhufeinig wedi’i gloddio a’i ailadeiladu o fewn caer arfordirol Dinas Dinlle, Gwynedd.
Ailgread o dŷ crwn Brythonaidd Rhufeinig wedi’i gloddio a’i ailadeiladu o fewn caer arfordirol Dinas Dinlle, Gwynedd. (© Y Goron: PROSIECT CHERISH 2022. Cynhyrchwyd gyda chronfeydd yr UE drwy Raglen Cydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2023. Mae’r holl ddeunydd ar gael am ddim drwy'r Drwydded Llywodraeth Agored. Gwaith Celf gan Wessex Archaeology. NPRN 95309/703001).

Mae'r llun ailgread ehangach yn dangos bryngaer Dinas Dinlle yn y cyfnod Rhufeinig, cyn i erydiad arfordirol dorri’r ochr orllewinol i ffwrdd. Mae’r arfordir o’r cyfnod Rhufeinig, a chilfach aberol y tu ôl i’r pentref modern, wedi’u dangos yn fanwl gywir yn dilyn rhaglen gynhwysfawr o greiddio ac ail-greu tirwedd gan Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth. Mae tu mewn y fryngaer, sy'n dangos tai crwn, strydoedd a buarthau, wedi'i ail-greu'n fanwl gywir ar sail tystiolaeth arolwg Radar Treiddio i'r Tir (GPR).

Ailgread o gaer arfordirol Dinas Dinlle, Gwynedd, o'r gogledd orllewin
Ailgread o gaer arfordirol Dinas Dinlle, Gwynedd, o'r gogledd orllewin (© Y Goron: PROSIECT CHERISH 2022. Cynhyrchwyd gyda chronfeydd yr UE drwy Raglen Cydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2023. Mae’r holl ddeunydd ar gael am ddim drwy'r Drwydded Llywodraeth Agored. Gwaith Celf gan Wessex Archaeology. NPRN 95309).

Mae ailgread caer bentir arfordirol Caerfai ger Tyddewi yn Sir Benfro yn dangos yr anheddiad caerog tua 50CC. Ar un adeg roedd rhagfuriau amddiffynnol cryf, ffosydd dwfn a phyrth tyrog yn amddiffyn y pentref hwn o'r Oes Haearn. Y tu mewn, mae tystiolaeth sy’n seiliedig ar arolygon a gwaith cloddio gan Brosiect CHERISH a DigVentures, gan weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn dangos pentref o dai crwn a gweithdai gyda mwyn copr yn cael ei gloddio o glogwyni’r môr. Ar y môr, mae pobl leol mewn cychod tebyg i gwryglau’n rhwyfo allan i gwrdd â llong fasnach Galo-Rufeinig.

Ailgread o gaer arfordirol Caerfai, Sir Benfro, o'r gogledd.
Ailgread o gaer arfordirol Caerfai, Sir Benfro, o'r gogledd. (© Y Goron: PROSIECT CHERISH 2022. Cynhyrchwyd gyda chronfeydd yr UE drwy Raglen Cydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2023. Mae’r holl ddeunydd ar gael am ddim drwy'r Drwydded Llywodraeth Agored. Gwaith Celf gan Wessex Archaeology. NPRN 305396).

Mae’r ddwy gaer arfordirol yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac wedi gweld sawl blwyddyn o gloddio cymunedol ac ymchwil tirwedd gan Brosiect CHERISH sy’n cael ei gyllido gan yr UE ac yn cyfuno arbenigedd y Comisiwn Brenhinol a Phrifysgol Aberystwyth, gan weithio gydag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro , DigVentures a Cadw. Mae'r ailgreadau wedi'u bwriadu ar gyfer paneli gwybodaeth newydd ac adnoddau ar-lein, i helpu ymwelwyr â'r safleoedd i greu darlun o’r gorffennol cynhanesyddol a Rhufeinig.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: nicola.roberts@rcahmw.gov.uk neu toby.driver@rcahmw.gov.uk

 

Am ganiatâd i atgynhyrchu'r lluniau cysylltwch â nmr.wales@rcahmw.gov.uk

Gellir darparu copïau cydraniad uchel o'r delweddau

Read More →

Modelau 3D

Coastal Battery, Dalkey Island

Cylchlythyr

Other Models

Read More →
cyCY