Cylchlythyr

Mae'r hinsawdd fyd-eang yn newid, ac mae'n newid yn gyflymach fyth. Mae tymereddau byd-eang wedi codi dros 1°C ers 1850 sydd wedi cael effaith amlwg ar ein planed. Mae rhewlifoedd yn toddi'n gyflym ac mae'r tywydd yn fwyfwy anodd ei ddarogan. Mae lefelau cyfartalog y môr wedi codi 16cm hefyd rhwng 1902 a 2015. Bydd y newidiadau hyn yn parhau a byddant yn cyflymu oni bai ein bod yn gwneud newidiadau allweddol i'r ffordd rydym yn byw ein bywydau. 

Yn Iwerddon a Chymru, rydym yn disgwyl profi gaeafau cynhesach, gwlypach a hafau poethach, sychach. Gall digwyddiadau tywydd eithafol fel glawiad dwys, sychder a stormydd ddigwydd yn amlach.

Mae'r newidiadau mewn tymheredd wedi'u cyflwyno'n dda ym mhrif lun y dudalen hon sy'n dangos tymheredd blynyddol cyfartalog Cymru (top) ac Iwerddon (gwaelod). Mae pob stribed yn cynrychioli tymheredd cyfartalog blynyddol rhwng 1884 a 2018. Mae’r stribedi glas yn oerach, mae’r stribedi coch yn dymheredd cynhesach. Mae'n amlwg yn y lluniau bod canran sylweddol uwch o'r tymheredd blynyddol uchaf yn ystod y cyfnod hwn wedi digwydd yn ystod y 30 mlynedd blaenorol. (graffig a gynhyrchwyd gan ddefnyddio data Swyddfa Dywydd y DU gan E. Hawkins, Prifysgol Reading, www.showyourstripes.info)

Sut mae Newid yn yr Hinsawdd yn effeithio ar ein Treftadaeth Arfordirol?

Bydd newidiadau a ragwelir yn yr hinsawdd yn y dyfodol yn cael effaith wahanol ar ein treftadaeth arfordirol. Bydd rhai newidiadau i'r hinsawdd yn digwydd yn gyffredinol tra bydd eraill yn amlwg yn dibynnu ar yr adeg o'r flwyddyn. Edrychwch ar y gwahanol newidiadau a ragwelir isod a ble disgwylir iddynt gael eu gweld yn ein hamgylchedd arfordirol.

1 Lefelau’r môr yn codi yn effeithio ar bob agwedd ar dreftadaeth arfordirol o ganlyniad i lifogydd ac ymchwydd stormydd

 

2 Tymheredd y môr yn cynhesu yn dod â rhywogaethau morol a phlâu newydd sy’n effeithio ar dreftadaeth danddwr a rhynglanwol

3 Wynebau clogwyni’n sychu sy’n cynyddu'r risg o ansefydlogi a dymchwel sy'n effeithio ar safleoedd treftadaeth ar yr arfordir

 

4 Darganfod safleoedd treftadaeth newydd sydd i'w gweld fel ardaloedd cras ac olion cnydau

5Y tir yn mynd yn ddirlawn gan gynyddu'r perygl o lifogydd, tirlithriadau ac erydiad ar safleoedd treftadaeth

6 Moroedd cythryblus yn niweidio treftadaeth ar wely'r môr a’r blaendraeth

 

7 Erydu a cholli ar ymyl yr arfordir oherwydd gweithredoedd y tonnau

 

8 Torri rhwystrau arfordirol sy'n arwain at lifogydd

 

9 The movement of sand reshaping dune systems but also revealing hidden heritage

 

10 Structural damage to buildings

Illustration displaying the potential effects climate change will have on our our coastal heritage
1
1
2
3
3
4
5
5
6
6
6
7
7
8
9
9
10
10
cyCY