Cyllid
Ariennir y prosiect drwy Raglen Iwerddon-Cymru 2014-2020, sy'n rhan o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, sy'n canolbwyntio ar geisio atebion i heriau a rennir ar ddwy ochr Môr Iwerddon. Llywodraethir Rhaglen Iwerddon-Cymru 2014-2020 gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO). Cefnogir y prosiect hefyd drwy'r Cyngor Treftadaeth yn Iwerddon.