Louise Barker
Senior Investigator - Archaeology (RCAHMW)
Mae Louise yn gweithio fel rhan o dîm CHERISH ddeuddydd yr wythnos ac mae'n ymwneud yn bennaf â'r arolygon a’r ymchwiliadau tir ar safleoedd treftadaeth ar hyd arfordir Cymru ac Iwerddon fel rhan o dîm trawsffiniol CHERISH.
Mae hi wedi gweithio fel archaeolegydd ers graddio o Brifysgol Newcastle gyda BA mewn Archaeoleg yn 1996. Dechreuodd ei gyrfa yn gweithio ym maes archaeoleg contract ar gyfer yr Archaeological Practice Ltd yng Ngogledd Lloegr. Wedyn symudodd i Gaergrawnt yn 1999 i weithio i English Heritage fel ymchwilydd archeolegol, cyn ymuno â'r Comisiwn Brenhinol yng Nghymru yn 2004.
Mae Louise yn arbenigo mewn arolygu a dehongli tirweddau, ac mae wedi gweithio ar ystod eang o safleoedd a thirweddau sy'n rhychwantu’r cyfnod cynhanes hyd heddiw. Mae ei gwaith diweddar sy'n berthnasol i CHERISH wedi bod gyda chydweithiwr o’r Comisiwn Brenhinol Toby Driver ar geyrydd pentir yn Sir Benfro, a gyda Toby, Dr Bob Johnston (Prifysgol Sheffield) a Dr Oliver Davis (Prifysgol Caerdydd) ar Ynys Sgomer.
Anthony Corns
RHEOLWR TECHNOLEG (RHAGLEN DARGANFOD)
Graddiodd Anthony mewn Daeareg a Daearyddiaeth Ffisegol gyda BSc (Anrh.) ac MSc mewn GIS o Brifysgol Caeredin, yr Alban yn 1997 a 1999 yn y drefn honno. Mae wedi bod yn Rheolwr Technoleg y Rhaglen Darganfod yn ystod y 15 mlynedd diwethaf ac mae'n gyfrifol am reoli'r ymchwil technoleg cymhwysol, gan gynnwys: rheoli prosiectau, casglu data 3D ar amrywiaeth o lefelau (lidar o'r awyr, sganio daearol, sganio ystod agos), GIS ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol, rheoli setiau data ac archifo, metadata, hyrwyddo a dosbarthu’r defnydd o dechnoleg mewn treftadaeth ddiwylliannol. Mae Anthony wedi cymryd rhan mewn sawl prosiect a ariennir gan yr UE gan gynnwys: 3DICONS (CIP), ARIADNE (FP7), LoCloud (CIP), ac ArchaeoLandscapes Europe (Diwylliant 2007-2013) ac ar hyn o bryd mae'n rheolwr prosiect prosiect E-RIHS (H2020) yn Iwerddon, cyfarwyddwr Rhwydwaith CARARE Ewrop ac aelod o dasglu Ewrop ar gyfer data 3D.
Sean Cullen
PRIF DDAEAREGYDD A RHEOLWR PROSIECT AR GYFER ADRAN GWELY’R MÔR (AROLWG DAEAREGOL IWERDDON)
Wedi'i eni yn Ne Affrica, daeth Sean i'r glannau hyn yn 1990 ac roedd yn ymwneud â hyfforddiant hwylio nes mynd i Brifysgol Plymouth i astudio Hydrograffeg. Wedi blynyddoedd lawer fel hwyliwr proffesiynol a physgotwr tiwna masnachol, parhaodd â'i ddatblygiad morol gydag Arolwg Fugro yn y Dwyrain Canol. Ymunodd â'r GSI i weithio ar Arolwg Cenedlaethol Iwerddon o Wely'r Môr yn 2001. Yn 2006 dyrchafwyd Sean i fod yn Uwch Ddaearegydd fel roedd y rhaglen INFOMAR yn dechrau. Mae ei brofiad wedi arwain at y GSI bellach yn berchen ar fflyd bwrpasol o gychod arolygu sy'n mapio dyfroedd arfordirol Iwerddon ac yn rheoli grŵp amrywiol o wyddonwyr.