Cylchlythyr
Cyflwyniad
Mae cychod sy’n gadael Portmagee yn cludo teithwyr i fwlch Skelligs yn mynd heibio i Gastell Reencaheragh ar Benrhyn Iveragh yn Swydd Kerry, Iwerddon. Dechreuodd CHERISH astudio’r safle oherwydd ei fod yn cael ei erydu gan y môr ac mae ein hymchwil hefyd wedi datgelu pwysigrwydd lleoliad y safle a’i ddeiliadaeth aml-gyfnod gan deuluoedd uchel eu statws oedd â chysylltiadau â Sbaen. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r perchnogion tir a roddodd ganiatâd i ni arolygu’r safle ym mis Ebrill 2018.
Adeiladwyd y castell ar gaer bentir gynharach yn Doon Point ger mynedfa orllewinol Sianel Portmagee. Mae gan y gaer agored olygfeydd tuag at Safle Treftadaeth Byd UNESCO Skellig Michael, ac mae'r safle mynachaidd cynnar ar Long Island mor agos â 300m i'r gogledd. Mae ei leoliad arfordirol hardd yn golygu ei fod yn arbennig o agored i effeithiau newid hinsawdd, ac mae ei erydiad yn troi’r pentir hwn yn ynys arall yn raddol. Mae Prosiect CHERISH wedi bod yn cofnodi'r safle hwn er mwyn monitro cyfradd a graddfa’r newid i'r safle. Defnyddiwyd y cofnod o'r safle hwn i greu model 3D y gallwch ei ddefnyddio i fynd ar daith rithwir o amgylch y safle.
Ystyr Reencaheragh yw pentir y gaer garreg. Mae'r gaer bentir yn ymestyn 190m allan i'r môr ac adeiladwyd wal garreg yn y fan lle mae'r pentir yn cysylltu â'r tir mawr (Rhif 4 yn y model 3D). Mae’n debyg bod y wal hon wedi cael ei hadeiladu ar ddechrau’r cyfnod canoloesol a sylwodd y tîm ar waith adeiladu tebyg i amddiffynfeydd (cashels) crwn fel yn Cahergall ger Cahersiveen, a byddai gan Dunbeg ar Benrhyn Dingle i’r gogledd arglawdd carreg syth tebyg cyn atgyweiriadau’r 19fed ganrif (Edrychwch ar ein blog am Dunbeg). Roedd yr O’Falveys yn rheoli’r hyn sydd heddiw yn benrhyn Iveragh yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar ac roedd yn rhan o deyrnas ranbarthol Corca Dhuibhne. Mae'r safle strategol mawr hwn mewn ardal o dir fferm ac mae’r adnoddau morol yn awgrymu deiliadaeth gan deuluoedd pwysig.
Hanes Reencaheragh
Heddiw, mae'r fynedfa i'r gaer bentir yn cael ei hamddiffyn gan y wal garreg a phorthdy (Rhif 1 yn y model 3D). Yn y 13fed eg ganrif, roedd y MacCarthys a'u perthnasau, yr O'Sullivans, yn rheoli Penrhyn Iveragh. Roedd gan yr O'Sullivans gangen o'r enw y MacCrohans, a oedd yn rheoli ardal Reencaheragh. Mae'n debyg mai yn ystod eu perchnogaeth hwy yr adeiladwyd y porthdy a phwyntio’r wal garreg. Mae castell wedi’i gofnodi ar y safle ers 1576, yn ystod teyrnasiad y Frenhines Elizabeth, pan oedd yn cael ei alw’n Ryncaharragh. Mae'n bosibl mai'r fynedfa yn y wal garreg wrth ymyl y porthdy oedd y fynedfa wreiddiol.

Yn wreiddiol, roedd y porthdy, sy'n betryal ei gynllun (6.75m o'r dwyrain i’r gorllewin x 4.3m o’r gogledd i'r de) yn ddeulawr o ran uchder. Ceir mynediad iddo drwy fynedfa fwaog y mae cofnod Arolwg Archaeolegol Iwerddon yn awgrymu iddi gael ei hailadeiladu yn ddiweddarach. Dim ond yn y pen gogleddol y ceir to ar y cyntedd mynediad, sef pâr o slabiau. Ar y naill ochr i'r cyntedd mynediad mae dwy siambr fewnol (siambrau wedi'u creu yn nhrwch y wal). Mae'r siambr ar yr ochr orllewinol yn cynnwys y grisiau ac mae’r siambr ar yr ochr orllewinol wedi'i thoi â linteli. Mae gan y ddwy siambr ffenestri neu ddolenni yn y wal ogleddol, sy'n caniatáu golau i mewn i'r siambrau. Mae'r grisiau yn rhoi mynediad i'r siambr ar y llawr cyntaf.

Y tu mewn i'r gaer mae twmpath petryal a allai fod wedi bod yn dŷ (Rhif 3 yn y model 3D). Mae tŷ arall posibl wedi'i leoli i'r dwyrain o'r porthdy lle mae rhes o gerrig unionsyth. Canfu ein harolwg dystiolaeth o ble roedd cychod yn glanio ar y traeth ar ochr ogleddol y gaer. Yma, roedd cerrig mawr wedi'u symud i greu llwybr lle gellid lansio cychod yn hwylus heb eu difrodi. Ymhellach i'r gogledd ar y pentir nesaf roedd dwy garnedd isel ddiddorol. O'r fan yma buom yn edrych yn hiraethus dros y sianel gul draw am Long Island, lle gallem weld y clostir eglwysig sy’n erydu, gan ddymuno bod gennym amser i gyrraedd yno - y tro nesaf efallai!

Roedd teimladau o hiraeth am Reencaheragh i'w gweld hefyd yng nghofnodion y trigolion. Ymfudodd llawer o arweinwyr y teulu O’Sullivan i Sbaen yn ystod yr 17fed eg ganrif. Yn 1660, dyfarnodd Siarl II Reencaheragh i Goleg y Drindod Dulyn. Talodd ffermwyr tenant rent i’r Drindod tan 1913. Mae cerdd Murragh O’Connor yn 1719 yn nodi ei alltudiaeth o Reencaheragh:
Cyfeiriadau
King, J. (1911) History of Kerry Part V: The Kerry Bards. Easons and Sons, Dublin.
MacCotter, P. and J. Sheehan (2009) Medieval Iveragh: Kingdoms and Dynasties. In, J. Crowley & J. Sheehan (eds), The Iveragh Peninsula: A Cultural Atlas of the Ring of Kerry. Cork University Press.
Westropp, T. (1912) Notes on the Promontory Forts and Similar Structures of County Kerry. Part V. Iveragh (Valencia to Sr. Finan’s Bay) The Journal of the Royal Society of Antiquaries of Ireland 2, No. 4, pp. 285-324