Cylchlythyr
Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol – sy’n cael eu cyflymu gan weithgarwch dynol - bellach yn cael eu hadrodd, eu trafod a'u cydnabod yn eang. Mae'r holl dystiolaeth yn dangos y bydd cynnydd yn nwysedd systemau tywydd y ddaear sy'n arwain at fwy o stormydd, mwy o sychder a llifogydd, mwy o rewlifau a chapanau iâ’n toddi, a chynnydd yn lefelau'r môr yn fyd-eang. Ac eto, rywsut, gall y goblygiadau i ni'n bersonol ymddangos yn anghysbell ac yn anodd eu gweld. Fodd bynnag, mae arfordir Cymru’n cynnig cyfle i ni edrych ar y gorffennol i weld nad ffenomenon newydd yw lefelau'r môr yn codi. O amgylch arfordiroedd Cymru ac Iwerddon mae olion coetiroedd pinwydd a derw a darnau tameidiog o fawn sy'n arwydd o gynefinoedd anghofiedig y gorffennol i'r tonnau sydd bellach yn curo yn erbyn y draethlin.
Mae Prosiect CHERISH wedi bod yn gweithio yn y parth rhynglanwol hwn i gofnodi llongddrylliadau a thirweddau archaeolegol gweddillol, sydd hefyd yn adrodd am golled a newid arfordirol. Fodd bynnag, agwedd arall ar ein gwaith fu penderfynu ar oedran rhai o dirweddau gweddillol Penrhyn Llŷn mewn perthynas â'n gwaith ar newid yn lefel y môr yn y gorffennol.
Wrth fonitro llongddrylliad ar Draeth Warren yn Abersoch yng Ngwynedd yn 2018, darganfu tîm CHERISH wastatir sylweddol o foncyffion coed wedi syrthio a blociau o fawn. Roedd stormydd y gaeaf wedi cael gwared ar lawer iawn o dywod gan amlygu'r mawn. Roedd rhywfaint o'r mawn wedi cael ei dorri'n flociau, ar gyfer tanwydd yn ôl pob tebyg, ond yn yr ardaloedd lle nad oedd wedi'i gyffwrdd, roedd wedi'i fritho ag olion carnau anifeiliaid, cymysgedd o geirw ac ych gwyllt mae'n debyg.
Yn ystod y bennod rewlifol ddiwethaf, cafodd llawer iawn o ddŵr môr ei gloi yn yr haenau iâ enfawr sy'n gorchuddio rhannau helaeth o hemisffer y gogledd. Amcangyfrifir bod lefel y môr wedi bod fwy na 75 metr yn is nag ydyw heddiw. Fodd bynnag, mae ffigur 3 yn dangos bod llawer o Fae Ceredigion yn gorwedd lai na 50 metr yn is na'i lefel bresennol. Mae'r ardal hon yn unig yn cyfateb i 4400 cilometr sgwâr – 1/5fed o gyfanswm arwynebedd Cymru.
Mae ein hymchwil yn dangos bod Traeth Warren yn gynefin coediog tua 7,700 o flynyddoedd yn ôl, ond hefyd bod yr amgylchedd yn newid. Mae’n ymddangos bod lefelau’r dŵr daear wedi codi, gan foddi'r coed mae’n debyg, a dechrau ffurfio mawn. Gallwn ddyfalu, wrth i lefelau'r môr godi, bod rhwystrau'r traeth wedi blocio draeniad afonydd fel Afon Soch wrth iddynt symud tua’r mewndir. Rydym hefyd wedi darganfod bod y môr yn cyrraedd Llyn Maelog ger Rhosneigr ar Ynys Môn tua 7000 o flynyddoedd yn ôl, gan ei newid o lyn dŵr croyw i fod yn gilfach forol.
Mae dyddio radiocarbon wedi datgelu bod coed wedi tyfu unwaith eto ar y blaendraeth yn Abersoch tua 4,300 o flynyddoedd yn ôl, ac yn Borth ac Ynyslas roeddent yn ffynnu rhwng 6,200 a 4,300 o flynyddoedd yn ôl. Ar y ddau safle daeth mawn i gymryd lle’r cynefin o goetir wrth i’r môr barhau i godi’n ddi-ildio gan orchuddio’r gwlybdir yn y diwedd a ffurfio’r draethlin bresennol.
Mae'n ddiddorol dychmygu'r cynefinoedd a fyddai wedi bod yn gartref i faeddod gwyllt, ych gwyllt Ewrasiaidd, eirth, lyncs a bleiddiaid a fyddai wedi cael eu hela gan y trigolion Mesolithig. Mae'n ymddangos yn gredadwy y byddent wedi bod yn dyst i’r môr yn ymledu a cholli tirwedd, gan drosglwyddo straeon am amgylcheddau’n newid i’r cenedlaethau a’u dilynodd. Pwy a ŵyr sut roeddent yn gwneud synnwyr o'r newidiadau a brofwyd ganddynt, ond mae'n amlwg nad oeddent yn ymwybodol o'r achosion nac yn abl i ddylanwadu arnynt.
Efallai nad yw'n fawr o gysur bod rhaid i'n hynafiaid cynhanes ymdopi â'r un bygythiadau ag yr ydym ni’n eu hwynebu heddiw. Mae'r llwybr ar gyfer lefelau'r môr yn y dyfodol yn golygu bod colled bellach a newid amgylcheddol yn anochel. Fodd bynnag, yn wahanol i'n hynafiaid, dylem ni fod yn ymwybodol ein bod yn rhannol gyfrifol am y newidiadau a fydd yn effeithio ar ein plant a'n hwyrion, ac yn bwysicach na hynny, bod gennym rym i wneud rhywbeth yn eu cylch.