Fideos

CHERISH Sites in Ireland

Cylchlythyr

Other Videos

Read More →

Blogiau

CLODDIO CASTELL A CHAER BENTIR FERRITERS

Cylchlythyr

Cyflwyniad

Mae tîm CHERISH yn bwriadu gwneud gwaith cloddio archaeolegol yng Nghastell a Chaer Bentir Ferriter unwaith y bydd y cyfyngiadau presennol yn caniatáu hynny. Mae'r safle wedi'i leoli ar Benrhyn Ballyferriter, Dingle yn Sir Kerry. Mae Trwyn Doon (Dún an Fheirtéaraigh) yn bentir hir, cul sy'n ymestyn ychydig dros bum can metr o'r gogledd ddwyrain i'r de orllewin. Mae’r golygfeydd hardd o'r safle hwn yn cynnwys Trwyn Sybil i'r gogledd ac Ynysoedd Blasket i'r gorllewin. Mae’r gaer gynhanes yma’n un o 95 o geyrydd pentir arfordirol yn Sir Kerry, ac yn un o 508 o geyrydd o’r fath sydd wedi’u cofnodi o amgylch arfordir Iwerddon. Mae ceyrydd pentir yn cael eu heffeithio’n drwm gan erydiad ac felly mae prosiect CHERISH yn gwneud gwaith cloddio ar y safle rhyfeddol hwn er mwyn dysgu mwy am y math yma o safle archaeolegol Gwyddelig. Mae Caer Bentir Ferriter yn uniongyrchol i’r gogledd o’r safle cyfnod pontio Mesolithig Neolithig yng Nghildraeth Ferriter, a gloddiwyd yn y 1980au. Mae gan gloddio botensial i ddatgelu’r defnydd cyffrous iawn o’r pentir hwn dros filoedd o flynyddoedd. Bydd y cloddio’n adeiladu ar ein hymchwiliadau cychwynnol yng Nghaer Bentir Ferriter a oedd yn cynnwys arolwg drwy gerdded ar y safle, modelu tir manwl drwy fapio drôn ac arolwg geoffisegol gan ddefnyddio gradiometreg fagnetig ac arolygon gwrthedd. Mae canlyniadau'r arolygon hyn wedi llywio ein cynlluniau ar gyfer cloddio, gan nodi anomaleddau o ran topograffeg yr arwyneb a gwneuthuriad yr is-arwyneb, sydd â photensial i fod o wneuthuriad dyn.
Golygfa o'r awyr o Gaer Bentir a Chastell Ferriter, lle bydd gwaith cloddio CHERISH yn digwydd yr haf hwn.
Golygfa o'r awyr o Gaer Bentir a Chastell Ferriter, lle bydd gwaith cloddio CHERISH yn digwydd yr haf hwn.

Amddiffynfeydd y Safle

Mae'r ddwy gyfres o amddiffynfeydd ar y gaer bentir hon wedi'u lleoli lle mae dau gildraeth naturiol yn digwydd gan rannu'r pentir yn ddwy adran wahanol. Cafodd y ddau wddf yma o dir eu defnyddio a'u gwella gan adeiladwyr y gaer hon gyda chyfres o gloddiau a ffosydd, i ffurfio cyfres allanol a mewnol o amddiffynfeydd. Bydd y tîm yn edrych ar yr amddiffynfeydd hyn wrth gloddio i ddeall sut a phryd cawsant eu hadeiladu, yn ogystal â dysgu rhywbeth gobeithio am y bobl a'u hadeiladodd ac a oedd yn byw yn y gaer hon. Bydd y tîm yn cofnodi ac yn samplu deunyddiau adeiladu'r cloddiau a'r ffosydd i nodi gwahanol gyfnodau'r gwaith adeiladu, yn ogystal â'r dulliau a'r deunyddiau a ddefnyddiwyd wrth eu hadeiladu. Rydym yn gobeithio defnyddio dulliau dyddio gwyddonol i ddyddio rhai o'r cyfnodau deiliadaeth a/neu adeiladu.
Mae'r gyfres fewnol o amddiffynfeydd, gwaith carreg i'w gweld ar glawdd mewnol y clawdd dwbl yma o amddiffynfeydd
Mae'r gyfres fewnol o amddiffynfeydd, gwaith carreg i'w gweld ar glawdd mewnol y clawdd dwbl yma o amddiffynfeydd

Safleoedd Cytiau

Yn y bymthegfed neu'r unfed ganrif ar bymtheg, ailddefnyddiwyd y gaer pan adeiladodd y teulu Eingl-Normanaidd, Ferriter, gastell ar glawdd mewnol yr amddiffynfeydd allanol. Roedd y tŷ tŵr hwn yn wreiddiol yn dŵr petryal 4 i 5 llawr gyda’r teulu Ferriter yn byw ynddo tan yr ail ganrif ar bymtheg. Mae Castell Ferriter wedi’i adeiladu ar glawdd mewnol amddiffynfeydd allanol y gaer. Mae'r castell wedi'i gofnodi mewn manylder uwch gan arolwg sgan laser 3D. Mae hyn yn rhoi union gofnod o'r castell adeg yr arolwg, ac yn caniatáu i'r tîm fonitro unrhyw newidiadau sy'n digwydd i'r castell. Bydd cloddio yn y rhan hon o'r gaer yn canolbwyntio ar safleoedd y tai petryal, y credir eu bod yn gysylltiedig â'r gweithgarwch canoloesol diweddarach ar y safle. Bydd ffos yn cael ei chloddio i amlygu lefel yr hen lawr adeg eu deiliadaeth ac i weld pa fath o waith adeiladu a ddefnyddiwyd i'w hadeiladu. Gall hyn ein galluogi i benderfynu sut mae'r strwythurau hyn yn berthnasol i’r tŷ tŵr a'i ddeiliaid. Mae ffynnon wedi’i chofnodi yn y rhan hon o’r safle, a bydd craidd yn cael ei ddefnyddio i benderfynu ai ffynnon yw hi mewn gwirionedd, er mwyn casglu deunydd ar gyfer ymchwiliadau palaeo-amgylcheddol.
Arolwg Sgan Laser CHERISH yng Nghastell Ferriter, Mehefin 2018.
Arolwg Sgan Laser CHERISH yng Nghastell Ferriter, Mehefin 2018.
Yn ail ran y gaer, ceir nifer o safleoedd cytiau a phantiau is-gylchol. Mae erydiad yn effeithio'n drwm ar y nodweddion archaeolegol hyn oherwydd eu lleoliad ar ochr y clogwyni ac felly mae'n bwysig iawn bod y tîm yn cael cymaint o wybodaeth â phosibl am y math hwn o safle cyn iddynt gael eu bwyta i gyd gan y môr. Bydd y tîm yn cloddio un o'r safleoedd cytiau mwy yn llawn, ac nid yw'r enghraifft a ddewiswyd wedi'i lleoli ar hyd ymyl y clogwyn, i ddarparu amgylchedd gwaith diogel i'r tîm. Bydd yr ymchwiliadau hyn yn galluogi i ni ddeall natur gwaith adeiladu'r strwythurau hyn yn ogystal â phryd a pham yr adeiladwyd y safleoedd cytiau hyn. Mae'r pantiau is-gylchol yn yr ardal hon yn nodweddion anarferol, a bydd y ffosydd cloddio yn y nodweddion hyn yn galluogi i ni benderfynu a ydynt wedi'u gwneud gan ddyn neu'n ddaearegol. Os ydynt yn nodweddion a wnaed gan ddyn byddwn yn eu cofnodi a’u samplu i ateb yr un cwestiynau ag yr ydym wedi'u gofyn am y nodweddion archaeolegol eraill yn y gaer hon. Yn ystod y cloddio efallai y byddwn yn datgelu arteffactau sydd wedi'u claddu am gannoedd o flynyddoedd, neu filoedd mewn rhai achosion. Os ydym yn ddigon ffodus i ddatgelu arteffactau gallent daflu goleuni ar y gwahanol gyfnodau o ddefnydd o'r safle hwn, a rhoi cipolwg i ni efallai ar y math o bobl a oedd yn byw yn y lleoliad hardd ond agored hwn.
Archaeolegydd y prosiect Ted Pollard yn cynnal arolwg geoffisegol o'r safle yn 2019.
Archaeolegydd y prosiect Ted Pollard yn cynnal arolwg geoffisegol o'r safle yn 2019.
Mae tîm CHERISH yn ddiolchgar iawn i Dennis Curran am roi caniatâd i ni weithio ar ei dir, am ei gyfeillgarwch a'i haelioni yn ystod y gwaith arolygu, ac am y cyfoeth o wybodaeth leol mae wedi'i rhannu â'r tîm.

Map Lleoliad

Read More →

CIT ADNODDAU

Asesiad Parth Arfordirol

Cylchlythyr

Asesiad Parth Arfordirol

Mae arfordiroedd Cymru ac Iwerddon yn ffurfio darn helaeth o dirwedd, ac mae asesiadau parthau arfordirol yn darparu dull cyflym, ond manwl, o gasglu gwybodaeth am yr amgylchedd hanesyddol, am ddaeareg a geomorffoleg yr arfordir, ac am erydiad ar amser penodol.

Mae Asesiad Parth Arfordirol CHERISH o arfordir gogledd Dulyn yn dechrau i'r de o gaer bentir Drumanagh yn aber Rogerstown ac yn ymestyn i'r gogledd cyn belled â Loughshinny.
Mae Asesiad Parth Arfordirol CHERISH o arfordir gogledd Dulyn yn dechrau i'r de o gaer bentir Drumanagh yn aber Rogerstown ac yn ymestyn i'r gogledd cyn belled â Loughshinny.

Methodoleg

Ers y 1990au mae Asesiadau Parth Arfordirol wedi cael eu cynnal yng Nghymru, yr Alban a Lloegr sy'n dilyn methodoleg debyg yn fras sef:

  • Asesiad Seiliedig ar Ddesg -  Nodi'r adnodd archaeolegol, gan ddefnyddio cofnodion amgylcheddol hanesyddol, mapio, ffotograffiaeth o’r awyr a setiau data eraill fel LiDAR.
  • Arolwg Maes -  Lle mae tîm o archaeolegwyr, ac mewn rhai achosion daearegwyr, yn cerdded yr arfordir yn cofnodi ei ddaeareg a'i geomorffoleg ac yn asesu ei statws erydiad; a lleoli, gwirio, adnabod a chofnodi nodweddion archaeolegol a'u statws erydiad. Arolwg cyflym yw hwn sy'n defnyddio mapiau, ffurflen gofnodi a ffotograffiaeth i ddarparu cofnod gweledol a lefel sylfaenol o arolygu.
  • Adrodd - Cynhyrchu adroddiad yn amlinellu ardal yr arolwg, y fethodoleg, y canlyniadau a'r argymhellion gyda mapiau a mynegai cysylltiedig. Mae data sy'n ymwneud â safleoedd archaeolegol a henebion yn cael eu hymgorffori yn aml hefyd yn y Cofnodion Amgylcheddol Hanesyddol perthnasol.

Esiamplau o Asesiadau Parth Arfordirol

Mae gwybodaeth a gesglir drwy asesiadau parth arfordirol yn darparu set ddata sylfaen hynod werthfawr am sefydlogrwydd yr arfordir, natur a graddfa archaeoleg y parth arfordirol, y bygythiadau a chyfraddau’r erydiad i'r archaeoleg honno ynghyd ag argymhellion ar gyfer ei rheoli'n briodol. Un canlyniad i'r asesiadau hyn fu mentrau fel Arfordir yng Nghymru, SCHARP (Prosiect Treftadaeth Arfordirol mewn Perygl yr Alban) yn yr Alban a CITiZAN (Rhwydwaith Archaeolegol y Parth Arfordirol a Rhynglanwol) yn Lloegr sy'n gweithio gydag unigolion a chymunedau i ddarparu data ychwanegol a monitro tymor hwy ar yr archaeoleg yn y parth arfordirol. Mae SCHARP a CITiZAN yn defnyddio Ap sy'n caniatáu i wirfoddolwyr gasglu a chyflwyno gwybodaeth, ac mae Ap tebyg yn cael ei ddatblygu gan CHERISH ar gyfer Iwerddon a Chymru.

Mae CHERISH yn cynnal asesiadau parth arfordirol mewn llawer o'n hardaloedd astudio. Ar gyfer Iwerddon ac ynysoedd Cymru, bydd hyn yn darparu set ddata sylfaen, ond ar gyfer ardaloedd astudio ar dir mawr Cymru bydd yn darparu cyfnod newydd o ddata cymharol i'r hyn a gofnodwyd gan Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru yn yr asesiadau o’r parth arfordirol rhwng 1993 a 1998.

Gweithgareddau yn Iwerddon

Yn Iwerddon, rydym wedi bod yn cynnal Asesiad Parth Arfordirol drwy ddadansoddi data UAV y Prosiect ynghyd ag arolwg cerdded. Roedd y dull hwn wedi galluogi'r tîm i ymgyfarwyddo ag ardal yr arolwg, cael mynediad i ardaloedd na ellir eu cyrraedd ar droed a thynnu sylw at ardaloedd o ddiddordeb. Mae dwy ardal arfordirol ar hyd arfordir dwyreiniol Iwerddon a phedair Ynys wedi bod yn destun Asesiad Parth Arfordirol.
Archaeolegydd yn cofnodi haenau archaeolegol agored yn ystod Asesiad Parth Arfordirol ar Ynys Great Saltee, Wexford
Archaeolegydd yn cofnodi haenau archaeolegol agored yn ystod Asesiad Parth Arfordirol ar Ynys Great Saltee, Wexford

Gweithgareddau yng Nghymru

Yng Nghymru, rydym wedi defnyddio data Lidar CHERISH a gasglwyd ar 6 ynys – y Moelrhoniaid, Seiriol, Enlli, dwy ynys Tudwal a Gwales - fel ein prif set ddata sylfaen, gan greu mapiau archaeolegol newydd sydd wedyn yn cael eu gwirio ar y tir. Yn ystod ymweliadau â’r ynysoedd, rydym hefyd yn cerdded yr arfordir i gofnodi daeareg a geomorffoleg, ac asesu statws erydiad.

Gwirio data LiDAR ar y tir ar Ynys Dewi, Sir Benfro
Gwirio data LiDAR ar y tir ar Ynys Dewi, Sir Benfro
Asesu erydiad yn ystod Asesiad Parth Arfordirol o amgylch ymyl arfordir Ynys Enlli, Gwynedd
Asesu erydiad yn ystod Asesiad Parth Arfordirol o amgylch ymyl arfordir Ynys Enlli, Gwynedd

Cynnwys Cysylltiedig

Other Activities

Read More →

Ardaloedd Iwerddon

Ferriters Castle and Promontory Fort, Kerry

Cylchlythyr

Map Lleoliad

Cyflwyniad

The CHERISH site Ferriter’s Castle and Promontory Fort is located on the Ballyferriter Headland, Dingle peninsula in county Kerry. Doon Point (Dún an Fheirtéaraigh) is a long, narrow promontory extending slightly over five hundred metres from north east to south west. This prehistoric fort is one of 95 coastal promontory forts in County Kerry, 42 of which are located on the Dingle peninsula.

Oblique aerial photograph of Bremore in North Couty Dublin, containing several passage tombs and later a 15th Century settlement
Oblique aerial photograph of Bremore in North Couty Dublin, containing several passage tombs and later a 15th Century settlement

Setting

This headland sits directly to the north of the Mesolithic- Neolithic transition period site at Ferriter’s Cove. Along the length of the promontory, narrow inlets of the sea are present in two locations due to softer sediments being carved out from the harder lava beds in these areas. These inlets divide the promontory into two distinct areas. These necks have been anthropogenically utilised and adapted in the construction of the Promontory Fort with a series of banks and ditches, forming an outer and inner set of defences. There are a number of hut sites and archaeological features visible within the boundaries of the fort. In the western section of the fort, there are a number of hut sites being heavily impacted by erosion. In the 15th or 16th century, later reuse of the fort occurred when the Anglo-Norman Ferriter family constructed a castle on the inner bank of the outer defences. This tower house was originally a 4-5 story rectangular tower, occupied by the Ferriter Family until the 17th century.

Read More →

Fideos

Impacts on County Dublin Coast

Cylchlythyr

Other Videos

Read More →
cyCY