Ymgysylltu â’r Gymuned

Cloddio Caerfai

Cloddio Caerfai

Archwilio safle cynhanesyddol Gwersyll Caerfai cyn ei golli i erydiad arfordirol

Mae Caer Bentir Caerfai yn Heneb Gofrestredig ac yn un o dirnodau cynhanesyddol mwyaf cyfarwydd penrhyn Tyddewi, ond ychydig iawn rydym yn ei wybod am ei hanes a’i hadeiladwaith.

 

Gan weithio ochr yn ochr â CHERISH, bydd gwirfoddolwyr o bob rhan o Sir Benfro yn cael eu harwain gan dîm o DigVentures i gloddio, nodweddu a dyddio agweddau ar y gaer a’i chyffiniau.

Mae’r heneb a’r isthmws y mae wedi’i lleoli arno mewn perygl o erydiad yr arfordir a’r tir yn ogystal â thyfiant llystyfiant niweidiol. Bydd yr holl wybodaeth a geir o’r gwaith cloddio’n cael ei fwydo i ddull gweithredol o reoli cadwraeth sy’n cael ei wneud gan Cadw, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP), yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (YG) a Phrosiect CHERISH

Mae’r gwaith cloddio am bythefnos (a gynhelir rhwng 2il ac 16eg Medi) ar agor i bawb ymuno ag ef hefyd. Gall oedolion a phlant ymuno â’r tîm archaeolegol, gan ddysgu sut i ymchwilio i ddarn o hanes cenedlaethol bwysig tra hefyd yn helpu i ddatgelu manylion newydd am y Gaer Bentir yng nghalon Sir Benfro ac ar arfordir cynhanesyddol Tyddewi.

Gallwch ddilyn y gwaith ar yr ‘amserlin gwaith’ isod yma

Modelau 3D Caerfai

Map Lleoliad

Read More →

CYMRYD RHAN

Arddangosfa CHERISH

Arddangosfa CHERISH

Arddangosfa CHERISH

Arddangosfa deithiol yw Arddangosfa CHERISH a fydd yn cael ei harddangos mewn llyfrgelloedd, amgueddfeydd, canolfannau treftadaeth, orielau ac adeiladau cyhoeddus eraill ledled Iwerddon a Chymru. Mae'r arddangosfa'n tynnu sylw at effaith newid yn yr hinsawdd ar dreftadaeth ddiwylliannol arfordirol a'r gwaith y mae CHERISH yn ei wneud i asesu risg, mesur newid a chofnodi safleoedd yn y ddwy wlad. Nod yr arddangosfa yw codi ymwybyddiaeth o'r effeithiau y mae newid yn yr hinsawdd yn parhau i'w cael ar ein treftadaeth arfordirol werthfawr. Mae hefyd yn ceisio denu gwirfoddolwyr sy'n barod i gofnodi newid i'w harfordir a’u treftadaeth arfordirol leol yn y dyfodol gan ddefnyddio ap CHERISH sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.s

Mae ein cynlluniau i arddangos yr arddangosfa wedi cael eu gohirio i raddau helaeth oherwydd cyfyngiadau Covid-19 ond gobeithiwn gael amserlen newydd ar gyfer yr arddangosfa deithiol hon yn y dyfodol agos. Gwyliwch y gofod yma. Os hoffech chi groesawu’r arddangosfa, cysylltwch â thîm y prosiect am fanylion.

 

Arddangosfa CHERISH yn lleoliad Storiel (Amgueddfa Gwynedd) ym Mangor
Arddangosfa CHERISH yn lleoliad Storiel (Amgueddfa Gwynedd) ym Mangor

Cynnwys Cysylltiedig

Read More →

CYMRYD RHAN

Cydweithredu a Hyfforddiant

Cydweithredu a Hyfforddiant

Cydweithredu a Hyfforddiant

Mae Prosiect CHERISH wedi trefnu nifer o weithdai proffesiynol ac wedi ymrwymo i drefnu mwy o weithdai a digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Seminarau Proffesiynol

Cynhaliodd Prosiect CHERISH Seminar Broffesiynol lwyddiannus ddydd Iau 17eg Mai 2018 yn Venue Cymru, Llandudno. Mynychodd bron i 80 o gynrychiolwyr y seminar gan gynnwys aelodau o Bwyllgor Cynghori CHERISH a Phartneriaid y Prosiect. Cyflwynodd amrywiaeth o siaradwyr bapurau sefyllfa ar bolisi treftadaeth arfordirol a newid yn yr hinsawdd y DU o'r Alban, Lloegr, Cymru ac Iwerddon yn ogystal â sgyrsiau am arolygu, ymchwil ac ymgysylltu â'r cyhoedd. Roedd y seminar undydd am ddim yn cynnwys tri sesiwn yn canolbwyntio ar ‘Strategaethau ar gyfer ein Harfordiroedd sy’n Newid - Persbectif Rhanbarthol a Chenedlaethol’, ‘Wynebu’r her: Diweddariad Prosiect CHERISH’ ac ‘Ymgysylltu â Chymunedau Arfordirol’.
Cyfranogwyr ysgol hedfan 2019 CHERISH yn derbyn brîff cyn cynnal eu harolwg ffotograffig cyntaf.
Cyfranogwyr ysgol hedfan 2019 CHERISH yn derbyn brîff cyn cynnal eu harolwg ffotograffig cyntaf.

Ysgolion Dydd

Mae nifer o ysgolion dydd wedi cael eu trefnu ar ddwy ochr Môr Iwerddon gydag ysgol awyr yn Iwerddon yn 2019 yn uchafbwynt penodol. Fe'i rhannwyd yn ysgol ddydd UAV ac ysgol ddydd hedfan. Dechreuodd y ddwy ysgol ddydd gyda sesiynau ystafell ddosbarth yn y bore, ac wedyn sesiwn ymarferol yn y prynhawn. Cynhaliwyd sesiwn ymarferol UAV ar Fryn Uisneach, Sir Westmeath. Esboniwyd ymarferoldeb trefnu a chynllunio arolwg UAV ar y safle. Roedd y tiwtoriaid yn cynnwys Robert Shaw, y Rhaglen Ddarganfod, James Barry, Arolwg Daearegol Iwerddon a Ronan O’Toole, Arolwg Daearegol Iwerddon.
James Barry o'r GSI yn briffio cynrychiolwyr Ysgol Hedfan UAV CHERISH 2019 cyn arolwg.
James Barry o'r GSI yn briffio cynrychiolwyr Ysgol Hedfan UAV CHERISH 2019 cyn arolwg.
Parhaodd sesiwn ymarferol yr ysgol hedfan ym Maes Awyr Weston yn Nulyn. Rhannwyd y myfyrwyr yn ddau grŵp o dri a buont yn hedfan mewn awyren pedair sedd gyda'r peilot ac un o'r hyfforddwyr (Dr Toby Driver, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Damien Grady, Historic England). Roedd y llwybr hedfan yn gyfle i'r myfyrwyr dynnu lluniau o Gastell Trim, Bryn Tara a Safle Treftadaeth y Byd Bru Na Boinne. Cymerodd cyfanswm o 13 o fyfyrwyr ran yn yr ysgol arolygu o’r awyr gan gynnwys myfyrwyr ôl-raddedig, archaeolegwyr masnachol a chydweithwyr yn sector y wladwriaeth. Roedd yr adborth o’r ysgol yn gadarnhaol iawn.
Yn 2018, gwelodd Cymru hefyd ei hysgol ddydd gyhoeddus gyntaf, a gynhaliwyd gan y Comisiwn Brenhinol a Phrifysgol Aberystwyth. Roedd 'Wynebu’r Stormydd' yn cynnwys cyflwyniadau gan holl Bartneriaid CHERISH ochr yn ochr â dau siaradwr gwadd, Rebecca Evans o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Ken Murphy o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed.
Cyfranogwr ysgol hedfan CHERISH yn glanio wedi tynnu llun lletraws o Brú na Bóinne drwy ffenest agored y cocpit.
Cyfranogwr ysgol hedfan CHERISH yn glanio wedi tynnu llun lletraws o Brú na Bóinne drwy ffenest agored y cocpit.

Cynnwys Cysylltiedig

Read More →

CYMRYD RHAN

Cynhadledd a Seminarau

Cynhadledd a Seminarau

Dyma ddigwyddiad olaf prosiect CHERISH

 Ar ddydd Mawrth 21ain Mawrth 2023 bydd CHERISH yn cynnal ei gynhadledd derfynol. Yn y Printworks, Castell Dulyn, byddwn yn cyflwyno’r canfyddiadau terfynol, y cynnyrch a’r gwersi a ddysgwyd o’r prosiect chwe blynedd yma, gwerth €4.9 miliwn. Yn bwysicach na dim, bydd hyn yn cynnwys lansio ein Canllaw Arferion Da: canllaw ar “becyn adnoddau” y prosiect ar gyfer ymchwilio i safleoedd sydd mewn perygl.

Bydd y diwrnod yn cynnwys papurau gan aelodau’r tîm, gweithwyr treftadaeth proffesiynol sydd wedi gweithio gyda’r prosiect, a’r rhai sydd wedi datblygu a mireinio’r Pecyn Adnoddau. Bydd cynrychiolwyr o amrywiaeth eang o fusnesau yn ymuno â ni, gyda Stondinau Masnach i’w harchwilio yn ystod pob seibiant paned. Bydd paneidiau a chinio yn cael eu darparu, a bydd derbyniad diodydd gyda’r nos fel cyfle i rwydweithio.

Mae’r digwyddiad am ddim ac mae croeso i bawb:

Ymunwch â ni os ydych chi eisiau clywed am y ffyrdd o roi sylw i safleoedd arfordirol, rhynglanwol a morol sydd mewn perygl oherwydd newid yn yr hinsawdd. Bydd cyfle i drafod dyfodol treftadaeth hinsawdd, a sut gallwn ni fel gweithwyr treftadaeth proffesiynol ymgysylltu â pheryglon newid hinsawdd.

Os hoffai eich cwmni neu sefydliad chi gael stondin fasnachu yn y digwyddiad, cysylltwch â ni yn uniongyrchol ar cherish@cbhc.gov.uk.

Map Lleoliad

Save the date poster

Cynhadledd CHERISH 2021

Cynhaliwyd cynhadledd ar-lein Prosiect CHERISH ar 12 Mai 2021. Daeth y gynhadledd lwyddiannus ag ystod o siaradwyr rhyngwladol at ei gilydd a chafwyd cipolwg gwych ganddynt o sut mae newid yn yr hinsawdd a threftadaeth arfordirol yn cael sylw ledled y byd. 

CHERISH conference 2021 flyer

Gall y cyfranogwyr a gofrestrodd ar gyfer y gynhadledd weld y sgyrsiau o hyd ar Deledu Dal i Fyny Cynhadledd CHERISH, gan ddefnyddio’u manylion mewngofnodi fel cyfranogwyr drwy glicio ar y botwm isod.

For those that were unable to register for the event all recorded papers are available on the he CHERISH Youtube channel.

Mae cynhadledd diwedd cam un CHERISH wedi’i chynllunio ar gyfer 7 Medi 2022 yng Nghastell Dulyn. Bydd gan y gynhadledd ffocws rhyngwladol gyda phapurau gan arbenigwyr ac ymarferwyr blaenllaw. Bydd yn cyflwyno canfyddiadau'r prosiect ac yn edrych ar y ffordd ymlaen.

Cymryd Rhan yn y Gynhadledd

Mae Prosiect CHERISH yn parhau i ymgysylltu'n weithredol â'r gymuned newid yn yr hinsawdd a threftadaeth ddiwylliannol ryngwladol drwy gyflwyno mewn amrywiaeth o gynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol. Rydym wedi trefnu sesiynau gwyddonol mewn cynadleddau rhyngwladol yn Barcelona, Dulyn a Newcastle ac wedi cyflwyno i gynulleidfaoedd mewn gwledydd ledled Ewrop fel yr Eidal, Gwlad Pwyl, y Swistir, yr Iseldiroedd, Ynysoedd Erch a hyd yn oed Stockport!

Yn fwy diweddar mae aelodau prosiect CHERISH wedi cymryd rhan mewn nifer o gynadleddau ar-lein. Cyflwynodd Toby Driver a Sandra Henry bapurau yng Nghynhadledd Adapt Northern Heritage ym mis Mai 2020 (un o'r cynadleddau ar-lein cyntaf); cyflwynodd Edward Pollard bapur yng nghynhadledd flynyddol y Gymdeithas Archaeoleg Forol yn 2020; roedd Louise Barker a Kieran Craven yn gyfrifol am un o'r prif gyflwyniadau yng Nghynhadledd Digital Past 2021 a hefyd yn bresennol roedd James Barry, Daniel Hunt a Robert Shaw a gyflwynodd weithdy ar-lein ar ddefnyddio dronau ar gyfer archaeoleg.

Cynadleddau CHERISH yn y Gorffennol

Cynhaliwyd seminar archaeoleg o’r awyr a drefnwyd gan brosiect CHERISH ym mis Mehefin 2019. Roedd y gynhadledd gyda’r teitl Awyr a Daear 2: Datblygiadau mewn Archaeoleg o’r Awyr yn gynhadledd diwrnod llawn am ddim. Rhannwyd y seminar yn bedwar sesiwn ac roedd y sesiwn cyntaf, Darganfyddiadau Diweddar o'r Awyr, yn cynnwys papurau o Iwerddon, Cymru, yr Alban a Lloegr. Roedd pob sesiwn arall yn cynnwys tri phapur ar y pynciau Archifau Ffotograffig o'r Awyr, Lidar a dulliau synhwyro o bell eraill, ac Addysg a chynnwys y gymuned.

Uwch Geo-syrfëwr CHERISH yn cyflwyno yng Nghynhadledd Awyr a Daear 2 yn 2019.
CHERISH Senior Geo-surveyor presenting at the AIr & Earth 2 Conference in 2019.

Ym mis Mai 2018 cynhaliodd Prosiect CHERISH Seminar Broffesiynol lwyddiannus yn Venue Cymru, Llandudno. Mynychodd bron i 80 o gynrychiolwyr y seminar gan gynnwys aelodau o Bwyllgor Cynghori CHERISH a Phartneriaid y Prosiect. Cyflwynodd amrywiaeth o siaradwyr bapurau sefyllfa ar bolisi treftadaeth arfordirol a newid yn yr hinsawdd y DU o'r Alban, Lloegr, Cymru ac Iwerddon yn ogystal â sgyrsiau am arolygu, ymchwil ac ymgysylltu â'r cyhoedd. Roedd y seminar undydd am ddim yn cynnwys tri sesiwn yn canolbwyntio ar ‘Strategaethau ar gyfer ein Harfordiroedd sy’n Newid - Persbectif Rhanbarthol a Chenedlaethol’, ‘Wynebu’r her: Diweddariad Prosiect CHERISH’ ac ‘Ymgysylltu â Chymunedau Arfordirol’.

Aelodau’r gynulleidfa yn Seminar Broffesiynol CHERISH: Llandudno 2018.
Aelodau’r gynulleidfa yn Seminar Broffesiynol CHERISH: Llandudno 2018.

Mae Prosiect CHERISH hefyd wedi trefnu sawl sesiwn cynhadledd mewn cynadleddau rhyngwladol mawr gan gynnwys cynhadledd Cymdeithas Archaeoleg Ewrop (EAA) yn Bern (2019) a Barcelona (2018).

Speakers who contributed to the CHERISH Session at the European Archaeology Association (EAA) 2018 Conference in Barcelona.
Siaradwyr a gyfrannodd at Sesiwn CHERISH yng Nghynhadledd 2018 Cymdeithas Archaeoleg Ewrop (EAA) yn Barcelona.
Read More →

CYMRYD RHAN

Ymgysylltu â’r Gymuned

Ymgysylltu â’r Gymuned

Ymgysylltu â’r Gymuned

Mae ymgysylltu â'r gymuned yn rhan sylfaenol o CHERISH. Ers dechrau'r prosiect yn 2017 rydym wedi bod yn ymgysylltu â'r cyhoedd mewn amryw o ffyrdd a lleoliadau ledled Iwerddon a Chymru.

Staff CHERISH yn arwain taith gyhoeddus o amgylch safle Dinas Dinlle yng Ngogledd Cymru.
Staff CHERISH yn arwain taith gyhoeddus o amgylch safle Dinas Dinlle yng Ngogledd Cymru.

Rydym wedi cynnal gweithgareddau ymgysylltu yn yr awyr agored fel teithiau cerdded tywys ar hyd yr arfordir ac ar yr ynysoedd, ymarferion cerdded maes i adnabod arteffactau mewn pridd wedi'i aredig a glanhau traethau cymunedol. Rydym hefyd yn parhau i gydweithio â sefydliadau eraill sydd hefyd yn curadu ac yn ymchwilio i safleoedd teftadaeth arfordirol sydd dan fygythiad.

Mae'r prosiect hefyd wedi cynnal nifer o ddyddiau agored sy'n arddangos ei natur amrywiol. Mae digwyddiadau fel y rhai a gynhaliwyd yn ystod yr Wythnos Treftadaeth Genedlaethol wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda mwy na 1,000 o bobl yn camu ar fwrdd llongau arolygu GSI i ddysgu am waith morol CHERISH.

Aelodau Sgowtiaid Iwerddon yn ystod diwrnod agored llong CHERISH.
Aelodau Sgowtiaid Iwerddon yn ystod diwrnod agored llong CHERISH.

Yn 2019 cynhaliwyd digwyddiad cloddio cymunedol cyntaf CHERISH yng nghaer arfordirol Dinas Dinlle yng Ngwynedd ac roedd cyfle i hanner cant o wirfoddolwyr o'r ardal leol gymryd rhan yn y cloddio. Daeth y cloddio i benllanw gyda diwrnod agored a chyfle i fwy na 400 o ymwelwyr ddysgu am y safle a'r ffyrdd mae newid yn yr hinsawdd ac erydiad yn effeithio arno. Cafodd yr ymwelwyr daith dywys hefyd o amgylch y ffosydd cloddio lle gallent weld un o'r tai crwn cynhanesyddol mwyaf erioed i gael ei ddarganfod yng Nghymru.

Yng ngham nesaf Prosiect CHERISH, bydd y gymuned yn cael gwahoddiad i helpu i gofnodi newidiadau i'w harfordir gan ddefnyddio ein ap sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Darperir hyfforddiant a chefnogaeth i grwpiau cymunedol sy'n dymuno cymryd rhan.

Prosiect CHERISH yn gweithio gydag ysgolion yng Ngwynedd yn 2019.
Prosiect CHERISH yn gweithio gydag ysgolion yng Ngwynedd yn 2019.
Archaeolegwyr Prosiect CHERISH Dan Hunt a Toby Driver yn dangos i ysgol sut mae dronau’n cael eu defnyddio i gofnodi safleoedd archaeolegol.
CHERISH Project archaeologists Dan Hunt & Toby Driver demonstrate to a school how drones are used to record archaeological sites.

Cofnodi Cymunedol

Bydd prosiect CHERISH yn cefnogi'r rôl weithredol y gall cymunedau ei chwarae wrth gofnodi'r amgylchedd arfordirol drwy ddatblygu a hyrwyddo cofnodi cymunedol. Yn seiliedig ar brofiadau llwyddiannus CITiZAN (Rhwydwaith Archaeolegol Parth Arfordirol a Rhynglanwol)yn Lloegr ac Ap ShoreUpdate sydd wedi’i ddatblygu gan Ymddiriedolaeth SCAPE yn yr Alban, bydd CHERISH yn datblygu rhaglenni peilot sy'n galluogi dinesydd wyddonwyr i adnabod a chofnodi treftadaeth arfordirol drwy ddefnyddio dyfeisiau symudol a darparu tystiolaeth ffotograffig ac ysgrifenedig o unrhyw ddifrod posibl. Bydd yr adnodd yn cael ei ddatblygu ar gyfer defnydd y cyhoedd yn 2022 ac yn ystod Cam II prosiect CHERISH.

Cynnwys Cysylltiedig

Read More →
cyCY