Ardaloedd Cymru

8. Castell Bach a Ynys Aberteifi

Cylchlythyr

Map Lleoliad

Cyflwyniad

Mae ardal prosiect 8 yn cynnwys dau safle cynhanesyddol arfordirol diddorol a dirgel Castell Bach ac Ynys Aberteifi. Mae'r ddau wedi'u lleoli ar hyd arfordir hardd de Ceredigion ac maent yn cynrychioli rhai o'r olion archaeolegol cynhanesyddol gorau yn y rhanbarth. Er eu bod yn amlwg yn arwyddocaol i stori'r cyfnod cynhanesyddol yn y rhan hon o Gymru, ychydig iawn rydym yn ei wybod amdanynt oherwydd bod diffyg ymchwil o ddifrif wedi bod iddynt.

Castell Bach

Llun o’r awyr yn dangos Castell Bach
Llun o’r awyr yn dangos Castell Bach

Mae safle Castell Bach ar ddarn diarffordd a chudd o'r arfordir tua 3km i'r de orllewin o Geinewydd, Ceredigion. Mae'r gaer arfordirol wedi'i lleoli o fewn 'powlen arfordirol' fel amffitheatr ac mae yn y canol ar ynys fechan, tebyg i byramid bron. Mae ei hamddiffynfeydd yn cynnwys cylched o ddau glawdd a ffos consentrig sy'n amgáu pentir bach. Mae tystiolaeth o fynedfa wedi goroesi ar ei hochr ddwyreiniol. Mae'n bosibl bod y bentir wedi amgáu'r fynedfa i bont dir yn flaenorol, a allai fod wedi cysylltu'r ynys fechan yn y canol â'r tir mawr. Hefyd, i'r dwyrain o'r gaer, mae olion trydydd clawdd a ffos sy'n creu atodiad, wedi’i ychwanegu’n ddiweddarach o bosibl fel estyniad i'r gaer fewnol. Mae'r amddiffynfeydd mewnol yn erydu bellach ar eu hochr orllewinol.

Ynys Aberteifi

Y safle gogleddol sy'n erydu ar Ynys Aberteifi.
Y safle gogleddol sy'n erydu ar Ynys Aberteifi.
Mae Ynys Aberteifi yn ynys fechan heb neb yn byw arni sydd wedi'i lleoli yn aber Afon Teifi. Mae'r ynys gyfan yn heneb gofrestredig oherwydd y ddau anheddiad caeedig sydd wedi goroesi sydd, ar sail eu ffurf, yn debygol o fod yn tarddu o’r Oes Haearn. Ar y ddau safle ceir tystiolaeth o dai crwn posibl sydd bellach i'w gweld fel gwrthgloddiau bas. Mae erydiad arfordirol wedi effeithio'n amlwg ar yr anheddiad gogleddol lle mae llawer o'r clogwyni wedi syrthio.

Pam rydym yn gweithio yma?

Mae erydiad arfordirol wedi cael effaith amlwg ar archaeoleg y ddau safle lle mae rhannau o’r safleoedd wedi’u colli i brosesau erydu. Mae CHERISH yn gweithio yn yr ardal hon i ddarparu data sylfaen ar gyfer safleoedd nad ydynt wedi cael llawer o sylw gan archaeolegwyr yn y gorffennol. Bydd ymchwil archaeolegol gan y prosiect yn ceisio datgelu rhai o gyfrinachau’r safleoedd yn ogystal ag edrych ar y prif brosesau sy’n achosi’r erydiad.
Erydu amlwg ar ochr orllewinol amddiffynfeydd Castell Bach.
Erydu amlwg ar ochr orllewinol amddiffynfeydd Castell Bach.

Cynnwys Cysylltiedig

Read More →

Ardaloedd Cymru

7. Ynyslas a Cors Fochno

Cylchlythyr

Map Lleoliad

Cyflwyniad

Mae pentrefi glan môr Borth ac Ynyslas wedi'u hadeiladu ar dirffurf arfordirol o’r enw cefnen. Mae wedi datblygu'n naturiol dros amser yn unol â gweithgarwch y gwynt a thonnau sy'n symud ac yn gadael tywod traeth a graean yn ystod stormydd. Nid yw'r gefnen wedi bod yn ei lleoliad presennol erioed, mae wedi cael ei gwthio'n raddol tua'r gorllewin wrth i lefel y môr godi ers diwedd yr oes iâ ddiwethaf. Y tu ôl ac o dan y gefnen mae Cors Fochno, sef y gyforgors fwyaf ym Mhrydain.
Llun o’r awyr o Ynyslas, Ceredigion
Llun o’r awyr o Ynyslas, Ceredigion

Yr amgylchedd

Gellir gweld tystiolaeth o sut mae amgylchedd Borth ac Ynyslas wedi newid ar flaendraeth y traeth. Mae boncyffion coed hynafol a blociau trwchus o hen fawn i’w gweld ar y traeth gan ddangos sut mae lefel y môr wedi newid. Tua 5000 o flynyddoedd yn ôl roedd llawer o'r ardal yn goedwig pinwydd a derw, gyda'r môr yn llawer pellach allan ym Mae Ceredigion. Fodd bynnag, ar ôl tua 1000 o flynyddoedd, dechreuodd y lefel trwythiad lleol godi, gan foddi'r coed a dechrau ffurfio Cors Fochno. Wrth i lefel y môr godi, symudwyd y gefnen oedd yn diogelu'r gors i mewn am y tir gan aros wedyn yn ei lleoliad presennol.
Y coetir hynafol yn Borth
Y coetir hynafol yn Borth
Mae corsydd mawn yn archif wych o wybodaeth balaeoamgylcheddol, gan warchod deunydd biolegol, mwynyddol a chemegol y gellir ei ddefnyddio i ailadeiladu amodau amgylcheddol y gorffennol. Mae Cors Fochno eisoes wedi datgelu'r newidiadau naturiol ac o wneuthuriad dyn i'r llystyfiant lleol, tystiolaeth o gloddio metel yn ystod yr Oes Efydd a'r Cyfnod Rhufeinig, lludw folcanig o losgfynyddoedd Alasga a Gwlad yr Iâ a llofnod cemegol stormydd yn ystod y mil o flynyddoedd diwethaf.
Mae'n bwysig deall amseriad a chyfraddau datblygu nodweddion arfordirol fel cefnennau. Maent yn ecosystemau deinamig, bregus ond maent hefyd yn effeithio ar y dirwedd a'r cynefinoedd ehangach ynddynt. Gall cynnydd yn lefel y môr yn y dyfodol, ynghyd â stormydd amlach neu ddwysach, fod â goblygiadau sylweddol i gymunedau arfordirol a safleoedd treftadaeth.

Pam rydym yn gweithio yma?

Mae CHERISH yn gweithio yn Borth ac Ynyslas i ddeall pryd cyrhaeddodd y gefnen ei lleoliad presennol a pha mor hir y cymerodd i ddatblygu drwy'r broses a elwir yn ddrifft traeth hir. Rydym yn cymryd creiddiau o'r twyni a'r esgeiriau traeth ac yn dyddio'r tywod sydd ar y dyddodion mawn gan ddefnyddio OSLRydym wedi cynnal radar treiddio ar y ddaear i edrych o dan wyneb y ddaear a chyfuno hyn â data ALS manylder uchel i ailadeiladu sut mae llwybr afon Leri wedi newid dros amser.

Cynnwys Cysylltiedig

Read More →

Ardaloedd Cymru

6. Sarn Padrig a Morfa Harlech

Cylchlythyr

Map Lleoliad

Cyflwyniad

Mae ardal prosiect 6 yn cynnwys llain arfordirol cul sy'n codi'n serth i Fynyddoedd y Rhinogydd Cromen Harlech. Mae'r mynyddoedd wedi'u creithio’n drwm gan effeithiau rhew yn llifo drostynt o'r dwyrain i'r gorllewin yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf ac mae ganddynt rai o'r enghreifftiau gorau o dirffurfiau rhewlifol ym Mhrydain. Mae darnau hir o draethau tywodlyd ar hyd yr arfordir ac ambell gyfres fawr o dwyni tywod.

Yr amgylchedd

Credir bod twyni Morfa Harlech yn dyddio o’r cyfnod ôl-ganoloesol. Credid bod modd teithio at waelod Castell Harlech mewn cwch gyda mynediad i'r môr yn ystod teyrnasiad Edward I. Mae unrhyw dystiolaeth o sut oedd y dyfrffyrdd yn edrych efallai wedi'i chladdu bellach o dan Forfa Harlech, datblygiadau modern a thir pori wedi'i wella.

Mae Sarn Padrig yn ymestyn tua 20km oddi ar y lan ac wedi’i greu o gerrig mawr, rhydd sydd wedi dod o Fynyddoedd y Rhinogydd a thu hwnt. Nid yw union fecanwaith ei adeiladu yn cael ei ddeall yn llawn o hyd, ond mae'n amlwg yn dirffurf o'r cyfnod rhewlifol diwethaf rhwng 15 ac 20 mil o flynyddoedd yn ôl. Mae'n frith o ddwsinau o longddrylliadau ôl-ganoloesol a aeth i drafferthion o amgylch y rîff. Mae CHERISH yn cynhyrchu arolwg bathymetrig manwl mewn ymgais i ddangos ei raddfa a chynyddu ymwybyddiaeth o unrhyw safleoedd llongddrylliadau y gellir eu hadnabod.

Rîff Sarn Padrig
Rîff Sarn Padrig

Pam rydym yn gweithio yma?

Mae gwaith CHERISH yn yr ardal hon yn canolbwyntio ar y tir o amgylch Sarn Padrig oddi ar y lan. Dyma'r mwyaf o'r sarnau sy'n ymestyn i Fae Ceredigion – mae Sarn-y-Bwch a Sarn Cynfelyn i'r de o Sarn Padrig. Mae nodweddion fel hyn fel arfer yn destun mythau a chwedlau ac nid yw Sarn Padrig yn eithriad. Roedd Cantre'r Gwaelod yn deyrnas ffrwythlon hynafol, chwedlonol ym Mae Ceredigion rhwng ynysoedd Dewi a Enlli. Mae wedi cael ei disgrifio fel "Atlantis Cymreig" ac mae'n adnabyddus yn llên gwerin a llenyddiaeth Cymru.

Cynnwys Cysylltiedig

Read More →

Ardaloedd Cymru

5. Sant Tudwal a'r Gwninger, Abersoch

Cylchlythyr

Map Lleoliad

Ynysoedd Sant Tudwal

Mae Ynysoedd Sant Tudwal (Sant Tudwal Dwyrain a Gorllewin) ychydig oddi ar arfordir penrhyn Llŷn yn Abersoch. Mae'r ddwy ynys yn cynnwys olion archaeolegol a strwythurol sy'n rhychwantu'r cyfnod canoloesol cynnar hyd heddiw. Mae Sant Tudwal Gorllewin yn enwog am ei goleudy a adeiladwyd yn 1877 ar gais y Pwyllgor Goleudai Seneddol. Rydym yn gwybod bod Sant Tudwal Dwyrain wedi bod ag anheddiad mynachaidd arni gyda phriordy Awgwstinaidd cysylltiedig wedi'i adeiladu yn 1291. Yn 2017 comisiynodd CHERISH arolwg ALS ar gyfer yr ynysoedd ac roedd modd mapio a chofnodi nodweddion archaeolegol.
Llun o'r awyr o Sant Tudwal Gorllewin (blaendir) a Dwyrain (cefndir).
Llun o'r awyr o Sant Tudwal Gorllewin (blaendir) a Dwyrain (cefndir).

Y Gwninger, Abersoch

Mae traeth Cwninger ger Abersoch yn ddiddorol am ei archaeoleg a'i dirwedd arfordirol naturiol ddeinamig. Ar hyd y traeth mae olion helaeth mawn rhyng-lanwol hynafol a boncyffion coed ynghyd â dau longddrylliad ôl-ganoloesol. Mae eu lleoliad ar draeth tywodlyd yn golygu nad yw'r mawn na’r llongddrylliadau i’w gweld yn aml, dim ond pan fydd stormydd dwys yn symud y tywod oddi ar y blaendraeth.
Gall mawn rhyng-lanwol fod yn archif werthfawr o amgylcheddau'r gorffennol. Gellir dyddio deunydd organig drwy ddyddio radiocarbon, a gellir echdynnu dangosyddion amgylcheddol eraill fel paill i ailadeiladu newidiadau llystyfiant dros amser. Rydym yn gobeithio eu defnyddio i ddatgelu gwybodaeth bwysig am gynnydd yn lefel y môr yng Nghymru dros yr 8,000 o flynyddoedd diwethaf. Mae gwaith rhagarweiniol gan CHERISH eisoes wedi dyddio gweddillion coed i benderfynu eu bod wedi tyfu mewn 2 gyfnod penodol – y cyntaf tua 7,700 o flynyddoedd yn ôl a'r ail tua 4,200 o flynyddoedd yn ôl. Ymhlith y boncyffion coed hefyd mae gweddillion prin olion carnau a allai fod wedi'u creu gan anifeiliaid hynafol a fu'n crwydro'r dirwedd yn ystod y 4,000 o flynyddoedd diwethaf.
Olion carnau anifail hynafol yn y mawn yn y Warren.
Olion carnau anifail hynafol yn y mawn yn y Warren.
Ceir hefyd olion dau longddrylliad, o'r 19eg ganrif mae’n debyg, ar y traeth, sydd wedi'u henwi fel 'Fosil' a 'Maria'. Mae ymchwil diweddar a wnaed gan y prosiect wedi dangos y gallai'r ddau longddrylliad ymwneud ag unrhyw un o'r 28 o longau o leiaf yr ydym yn gwybod eu bod wedi'u dinistrio yn ardal Abersoch yn ystod y 19eg ganrif. Cynhelir ymweliadau rheolaidd â'r safle gan CHERISH ar ôl cyfnodau o dywydd stormus dwys i asesu a chofnodi'r olion gweladwy yn ogystal ag unrhyw newidiadau a achoswyd o ganlyniad i’r stormydd.
Gweddillion llongddrylliad Fosil ar Draeth Warren, Abersoch.
Gweddillion llongddrylliad Fosil ar Draeth Warren, Abersoch.

Pam rydym yn gweithio yma?

Y prif fygythiad i'r ardal hon yw amledd a difrifoldeb cynyddol stormydd a'u heffaith ar y dreftadaeth ddiwylliannol ar y traeth. Nid oeddem yn gwybod am y mawn yn y Gwninger o'r blaen, tan ymchwiliadau CHERISH, ac ychydig iawn o ymchwil hanesyddol ac archaeolegol oedd wedi’i gynnal ar gyfer dau safle’r llongddrylliadau. Mae UAV a ffotogrametreg ddaearol wedi cael eu defnyddio i gofnodi'r safleoedd hyn ar gyfer monitro erydiad yn ogystal ag ymchwil pellach i strwythurau’r llongau ac olion traed anifeiliaid ar y mawn. Roedd casglu data ALS 3D hefyd yn mynd i'r afael â diffyg data 3D manylder uchel ar gyfer yr ynysoedd. Y tu hwnt i'r prosiect defnyddir y data hyn i fodelu effeithiau cynnydd yn lefel y môr yn y dyfodol ar yr ynysoedd a'u treftadaeth strwythurol a chynefin pwysig i adar môr.
Echdynnu creiddiau o'r mawn rhyng-lanwol sydd yn y golwg yn y Gwninger.
Echdynnu creiddiau o'r mawn rhyng-lanwol sydd yn y golwg yn y Gwninger.

Cynnwys Cysylltiedig

Read More →

Ardaloedd Cymru

4. Ynys Enlli

Map Lleoliad

Cyflwyniad

Mae Ynys Enlli tua 3km i'r de orllewin o drwyn Penrhyn Llŷn, wedi'i gwahanu oddi wrth y tir mawr gan Swnt Enlli. Yn ystod y cyfnod Canoloesol roedd yr ynys yn lle pwysig i bererinion gyda thair pererindod i Enlli yn cael eu hystyried yn gyfwerth ag un i Rufain. Gellir gweld olion archaeolegol a strwythurol canoloesol ar draws yr ynys ac abaty Santes Fair, sydd bellach yn adfail ac yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg, yw’r mwyaf trawiadol. Mae olion archaeolegol gweladwy sydd wedi'u gwasgaru ar draws yr ynys hefyd yn dangos bod pobl wedi byw yma cyn y cyfnod canoloesol fwy na thebyg. Mae'r ynys wedi bod yn eiddo i Ymddiriedolaeth Enlli ers 1979 ac mae’n cael ei chynnal ganddi, ac mae hefyd wedi'i rhestru fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn ogystal â bod yn gartref i nifer o henebion ac adeiladau cofrestredig.

Model Gweddlun Digidol (DEM) Ynys Enlli.
Model Gweddlun Digidol (DEM) Ynys Enlli.

Mapio Archaeoleg yr Ynys

Mae gwaith sydd wedi’i wneud gan CHERISH wedi adeiladu ar y gwaith pwysig a wnaed gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn ei chynllun rheoli 2014-15 drwy ddefnyddio arolygu ALS UAV i fapio'r holl henebion archaeolegol gweladwy ar yr ynys er mwyn gwella ac ehangu’r cofnodion presennol am henebion yr ynys. Defnyddiwyd lluniau o’r awyr hanesyddol hefyd i ategu'r technegau hyn drwy ddarparu gwybodaeth am olion cnydau archaeolegol.

Mae'r adran sy’n erydu yn Henllwyn wedi'i darlunio â llaw hefyd i gofnodi’r nodweddion archaeolegol sy'n erydu'n fanwl gywir. Mae'r gwaith hwn yn bwysig gan fod arolygon geoffisegol blaenorol yn dangos bod y rhan hon o'r ynys yn cynnwys llawer o olion archaeolegol wedi’u claddu a allai fod yn gysylltiedig â mynwent gynhanesyddol. Mae sawl darn o asgwrn anifeiliaid wedi'u tynnu o'r adran hon hefyd. Mae'r rhain wedi'u dyddio o ran radiocarbon i 778-916 AD, yn gysylltiedig o bosibl â ffermio cynnar ar yr ynys.

Trawsgrifiad o nodweddion archaeolegol o ddata ALS Ynys Enlli.
Trawsgrifiad o nodweddion archaeolegol o ddata ALS Ynys Enlli.

Pam rydym yn gweithio yma?

Prif amcan Prosiect CHERISH ar Ynys Enlli yw gwella’r setiau data presennol sy'n ymwneud ag archaeoleg ac erydiad arfordirol yr ynys. Drwy ddefnyddio'r arolygu ALS ac UAV, mae CHERISH wedi gallu ategu’r arolygon sy'n bodoli eisoes drwy ddarparu lleoliad manwl gywir ar gyfer archaeoleg ac erydu ymylon arfordirol. Bydd y data 3D a gasglwyd ar gyfer yr ynys (yn benodol yr isthmws sy’n erydu) yn cael eu defnyddio i fodelu effeithiau erydu arfordirol yr ynys a'i safleoedd treftadaeth yn y dyfodol.

Tîm CHERISH yn monitro ac yn cofnodi erydiad ac archaeoleg ar hyd isthmws Henllwyn sy’n erydu.
Tîm CHERISH yn monitro ac yn cofnodi erydiad ac archaeoleg ar hyd isthmws Henllwyn sy’n erydu.

Cynnwys Cysylltiedig

Read More →
cyCY