Ardaloedd Cymru

3. Rhosneigr, Llyn Coron, Dinas Dinlle a Morfa Dinlle

3. Rhosneigr, Llyn Coron, Dinas Dinlle a Morfa Dinlle

Map Lleoliad

Cyflwyniad

Mae ardal prosiect Cymru 3 yn cwmpasu ystod amrywiol iawn o amgylcheddau naturiol a safleoedd treftadaeth sy'n agored i effeithiau newid yn yr hinsawdd sy'n cynnwys erydu a lefel y môr yn codi. Mae'r ymchwiliadau archaeolegol a phalaeoamgylcheddol sydd wedi’u cynnal gan CHERISH yn yr ardal hon yn cynnwys creiddio llynnoedd i ailadeiladu newid amgylcheddol ar raddfa filenial, dyddio digwyddiadau symudiad tywod, sganio gwely'r môr, arolygu llongddrylliadau rhynglanwol, a chloddio caer arfordirol gynhanes sy'n erydu. Mae tystiolaeth archaeolegol yn dangos bod pobl wedi crwydro a meddiannu'r darn hwn o arfordir ers miloedd o flynyddoedd. Fodd bynnag, mae CHERISH yn datgelu deinameg yr amgylchedd arfordirol sydd wedi siapio nid yn unig yr arfordir ond bywydau ei drigolion drwy ymchwiliadau palaeoamgylcheddol ac archaeolegol cyfunol. climate change which include erosion and sea-level rise. The archaeological and palaeoenvironmental investigations undertaken by CHERISH within this area include coring of lakes to reconstruct millennial-scale environmental change, dating of sand movement events, seabed scanning, intertidal wreck surveying, and the excavation of an eroding prehistoric coastal fort. Archaeological evidence demonstrates that people have roamed and occupied this stretch of coastline for thousands of years. However, CHERISH is uncovering the dynamism of the coastal environment that has shaped not only the coastline but the lives of its inhabitants through combined palaeoenvironmental and archaeological investigations.

Rhosneigr

Llun o’r awyr o Lyn Maelog o dan bentref arfordirol Rhosneigr.
Llun o’r awyr o Lyn Maelog o dan bentref arfordirol Rhosneigr.

Mae Rhosneigr yn bentref bach ar frigiad creigwely ar arfordir de orllewin Ynys Môn. O dan y pentref mae llyn 20 hectar o’r enw Llyn Maelog sydd wedi’i wahanu oddi wrth y traeth gan dwyni tywod 500m o led. Mae’r twyni’n codi i uchder o tua 20 metr yn union tu ôl i Draeth Llydan. Mae’r llyn yn gynefin ecolegol arwyddocaol i amrywiaeth o blanhigion, adar ac anifeiliaid, ond hefyd yn ganolbwynt pwysig i drigolion a thwristiaid fel ei gilydd. Mae wedi’i amgylchynu gan ystod amrywiol o safleoedd archaeolegol pwysig fel beddrodau, safleoedd aneddiadau a safle lle daganfuwyd 180 o wrthrychau aloi haearn a chopr. Felly, mae’n ymddangos yn debygol y byddai’r llyn dŵr croyw yma wedi bod yn safle arwyddocaol yn y gorffennol.

Mae CHERISH wedi adfer creiddiau o waddod y llyn er mwyn ail-greu esblygiad y llyn a'i amgylchedd. Mae dadansoddiad paill wedi'i gynnal i ailadeiladu'r newidiadau mawr i lystyfiant ar y safle, ac mae deunydd organig wedi'i ddyddio o ran radiocarbon i ddarparu amserlen gadarn. Mae dadansoddiad diatom wedi'i ddefnyddio gan CHERISH hefyd i ailadeiladu sut mae'r llyn ei hun wedi newid. Algâu microsgopig yw diatomau sy'n byw ym mhob math o ddŵr bron, ac fel unrhyw blanhigyn, mae gwahanol rywogaethau’n ffafrio gwahanol gynefinoedd. Maent yn sensitif i newidiadau ffisegol a chemegol ac felly maent yn ddefnyddiol iawn i benderfynu sut mae’r llyn wedi newid dros amser. Mae gwaddodion Llyn Maelog yn dangos iddo ffurfio ar ddiwedd y bennod rewlifol ddiwethaf a'i fod wedi'i orlifo gan y môr tua 7000 o flynyddoedd yn ôl gan ei newid i amgylchedd morol efallai am rai cannoedd o flynyddoedd. Mae hyn yn ei wneud yn safle pwysig yng nghyd-destun newid yn lefel y môr yng Nghymru yn y gorffennol, ond mae hefyd yn dangos sut gallai cynnydd yn lefel y môr yn y dyfodol effeithio ar gymunedau arfordirol a'r amgylchedd naturiol.

Llyn Coron

Llyn 30 hectar yw Llyn Coron wedi'i amgylchynu gan system twyni Aberffraw, tua 5 km i'r de orllewin o Lyn Maelog. Credid bod y llyn wedi datblygu yn y cyfnod canoloesol, ac mae tystiolaeth ddogfennol yn awgrymu ei fod yn gyfnod arbennig o stormus yn y rhanbarth. Credir, wrth i'r twyni tywod ddatblygu, eu bod wedi rhwystro Afon Ffraw rhag creu argae naturiol a bod y llyn wedi ffurfio y tu ôl iddynt. Mae'r system twyni’n gorchuddio tua 360 hectar ac, ynghyd â'r llyn, mae'n rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Tîm CHERISH yn paratoi i greiddio Llyn Coron.
Tîm CHERISH yn paratoi i greiddio Llyn Coron.

Mae CHERISH yn ymchwilio i waddodion y llyn i weld a ydynt yn cynnwys cofnod o stormydd y gellir ei ddefnyddio i nodi newidiadau ym mhatrymau tywydd y gorffennol. Rydym yn defnyddio elfennau cemegol fel bromin a phresenoldeb grawn tywod i ailadeiladu newidiadau mewn dwysedd neu amledd stormydd. Rydym yn cyfuno'r technegau hyn â dyddio OSL i ddyddio haenau o dywod a darparu cronoleg ar gyfer y craidd. Rydym hefyd yn edrych ar sut ymatebodd gwahanol rywogaethau o ddiatomau (algâu microsgopig sydd i’w canfod ym mhob corff o ddŵr) i esblygiad y llynnoedd. Mae diatomau’n sensitif i olau, pH, halltedd a statws maethynnau eu hamgylchedd, sy'n eu gwneud yn ddangosyddion da.

Dinas Dinlle a Morfa Dinlle

Esgair o ro mân a system dwyni Morfa Dinlle wrth fynedfa ddeheuol Afon Menai.
Esgair o ro mân a system dwyni Morfa Dinlle wrth fynedfa ddeheuol Afon Menai.

Wedi'i leoli yn y fynedfa dde orllewinol i Afon Menai mae Morfa Dinlle, sef y system esgair traeth gro mân weithredol fwyaf ym Mhrydain. Mae'n cynnwys cyfres o esgeiriau mewn llinell (rhai dros gilometr o hyd), sydd wedi cronni i gyfeiriad y gogledd orllewin. Mae'r adran ganolog hefyd yn cynnwys twyni tywod helaeth sy'n cyfuno â'r esgeiriau o ro mân i ffurfio ecosystem arfordirol bwysig a bregus sy'n gartref i lawer o ffawna a fflora prin. Mae ymchwil blaenorol yn awgrymu bod system yr esgair wedi datblygu dros y 2000 mlynedd diwethaf, ond nid yw union gyfradd tyfiant y gefnen wedi'i sefydlu. Nid yw'n glir chwaith sut gallai lefel y môr yn codi yn y dyfodol effeithio ar ei ddatblygiad. Nod CHERISH yw darparu cronoleg fanwl ar gyfer esblygiad y gefnen er mwyn deall yn well y broses ffurfio a chludiant gwaddodion arfordirol.

Tua 3 km i'r de o Forfa Dinlle mae caer arfordirol gynhanesyddol Dinas Dinlle sydd wedi’i herydu'n drwm. Mae'r safle wedi'i leoli ar farian rhewlifol, sydd wedi'i gerflunio a'i addasu gan bobl yn y gorffennol pell i greu cyfres aruthrol o amddiffynfeydd. Mae'r ochr orllewinol yn cael ei herydu'n weithredol gan brosesau hinsoddol ac arfordirol, gan arwain at golli'r rhagfur gorllewinol a oedd, mae’n debyg, yn amgylchynu’r anheddiad yn llwyr yn y gorffennol. Mae arolygon geoffisegol a gwaith cloddio yn Ninas Dinlle gan CHERISH wedi datgelu tystiolaeth o anheddiad sylweddol o fewn yr amddiffynfeydd, yn fwyaf nodedig darganfod tŷ crwn wedi'i adeiladu o gerrig sy'n 13 metr mewn diametr – y mwyaf o'i fath y gwyddom amdano yng Nghymru. Mae darganfyddiadau archaeolegol yn dangos preswyliaeth yn ystod y cyfnod Rhufeinig Prydeinig ond mae'n debygol iddo gael ei adeiladu yn ystod cyfnod yr Oes Haearn. Er bod y strwythurau eu hunain yn drawiadol ac yn bwysig dros ben, efallai bod y ffaith eu bod wedi'u cau mewn llawer iawn o dywod sy'n cael ei chwythu gan y gwynt yn fwy diddorol. Er na allwn fod yn sicr, mae'n bosibl i'r gaer gael ei gadael yn y pen draw oherwydd bod gormod o dywod yn dod i'r safle. Mae graddfa’r dyddodion tywod yn pwysleisio'r pŵer a'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd arfordirol naturiol a'i allu i effeithio ar y cymunedau sy'n byw yn y parth arfordirol ac yn ei ddefnyddio.

Llun o’r awyr o gaer arfordirol gynhanes Dinas Dinlle.
Llun o’r awyr o gaer arfordirol gynhanes Dinas Dinlle.

Mae CHERISH yn defnyddio dyddio Goleuedd a Ysgogir yn Optegol (OSL) ar y dyddodion tywod sydd dros y tŷ crwn, ynghyd â samplau o wyneb y clogwyn sy'n erydu a'r twyni ym Morfa Dinlle, i benderfynu pryd gosodwyd y dyddodion tywod hyn yn eu lle. Gobeithiwn y bydd y dechneg hon yn darparu cronoleg gadarn ar gyfer y safleoedd eu hunain, ond rydym hefyd yn ceisio ail-greu darlun rhanbarthol o newidiadau amgylcheddol arfordirol sy'n ymchwilio i safleoedd eraill yn yr ardal. Hefyd, mae CHERISH yn gobeithio darparu cyd-destun palaeoamgylcheddol ar gyfer preswyliaeth pobl yn y gaer.

Pam rydym yn gweithio yma?

Mae'r dirwedd arfordirol yn ardal prosiect 3 yn cynrychioli rhai o'r amgylcheddau arfordirol mwyaf deinamig a sensitif yng Nghymru. Mae tîm amlddisgyblaethol CHERISH yn addas iawn ar gyfer ymchwilio i'r amgylcheddau heriol hyn. Drwy gyfuno dulliau a ddefnyddir yn gyffredin gan archaeolegwyr a gwyddonwyr pridd, mae'r prosiect wedi dechrau datgelu sut cafodd yr amgylcheddau arfordirol hyn eu llunio gan yr hinsawdd sy'n newid dros y 12,000 o flynyddoedd diwethaf. Mae'r gwaith hwn hefyd yn bwysig o ran datgelu sut byddai pobl a oedd yn byw yn y rhan hon o Gymru wedi cael eu heffeithio gan newid amgylcheddol ac wedi ymateb iddo. Mae datgelu newidiadau amgylcheddol arfordirol yn y gorffennol nid yn unig yn rhoi cipolwg diddorol i ni ar y gorffennol ond hefyd yn rhoi cipolwg ar sut gallai'r tirweddau hyn newid yn y dyfodol.
Aelodau o dîm CHERISH yn cofnodi wyneb agored y clogwyn sy'n erydu yn Ninas Dinlle.
Aelodau o dîm CHERISH yn cofnodi wyneb agored y clogwyn sy'n erydu yn Ninas Dinlle.

Cynnwys Cysylltiedig

Read More →

Ardaloedd Cymru

2. Ynys Seiriol

2. Ynys Seiriol

Map Lleoliad

Cyflwyniad

Mae Ynys Seiriol ychydig oddi ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn, wedi'i gwahanu oddi wrth Drwyn Penmon gan rasys llanwol ffyrnig Swnt Seiriol. Mae'r ynys ei hun yn gogwyddo i’r de orllewin / gogledd ddwyrain ac mae'n codi'n ddramatig o'r môr gyda chlogwyni serth ar bob ochr. Mae Ynys Seiriol hefyd yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) gan ei bod yn darparu noddfa bwysig i sawl rhywogaeth o adar môr fel y Fulfran, Gwylog, Llurs, Mulfran Werdd a Gwylan Goesddu. orientated south-west/north-east and rises dramatically from the sea with steep cliffs on all sides. Puffin Island is also Special Protection Area (SPA) as it provides an important sanctuary for several species of sea birds such as the Great Cormorant, Guillemot, Razorbill, Shag and Kittiwake.

Llun lletraws o'r awyr o Ynys Seiriol oddi ar arfordir Gogledd Cymru.
Llun lletraws o'r awyr o Ynys Seiriol oddi ar arfordir Gogledd Cymru.

Hanes a Henebion

Mae'r ynys yn fwyaf enwog am ei mynachlog Awgwstinaidd ganoloesol gyda'i thŵr trawiadol o'r 12fed ganrif a strwythurau mynachaidd cysylltiedig eraill. Yn cael ei hadnabod gan rai yn y gorffennol fel 'Priestholm', roedd y fynachlog ar Ynys Seiriol yn gysylltiedig â Phriordy Penmon yn ystod y cyfnod canoloesol, a gellir ymweld â’r priordy hwn o hyd heddiw.

Arolygwyd y strwythurau hyn ynghyd ag olion gwrthgloddiau clostir eglwysig cynharach posibl am y tro cyntaf yn ystod degawdau cynnar yr ugeinfed ganrif. Arolygwyd yr olion yn fanwl ac fe'u disgrifiwyd gan y Comisiwn Brenhinol yn 1937, gan adeiladu ar arolygon a gwaith cloddio cynharach. Ar drwyn gogledd-ddwyreiniol yr ynys hefyd mae olion strwythurol gorsaf delegraff o'r 19eg ganrif.

Tŵr eglwys o’r 12fed ganrif yn treiddio drwy'r canopi trwchus o lystyfiant.
Tŵr eglwys o’r 12fed ganrif yn treiddio drwy'r canopi trwchus o lystyfiant.

Pam rydym yn gweithio yma?

Ers arolygon dechrau'r 20fed ganrif prin fu'r ymchwil i olion archaeolegol yr ynys. Y rheswm am hyn yn bennaf yw bod llystyfiant trwchus wedi parhau i ledaenu ar draws yr ynys dros y degawdau diwethaf. Er mwyn rhoi sylw i’r bylchau yn y ddealltwriaeth o dreftadaeth yr ynys comisiynodd CHERISH arolwg LiDAR ar gyfer yr ynys gyfan yn 2017. Mae'r data hyn wedi caniatáu i archaeoleg gudd a than fygythiad yr ynys gael ei hasesu a'i mapio, gan ddarparu cofnodion archaeolegol llawn ar gyfer eu cadw gyda’r Cofnod Henebion Cenedlaethol. Mae data LiDAR hefyd wedi cyfuno â data Bathymetrig i greu set ddata 3D ar / oddi ar y lan ddi-dor sy'n dangos cyswllt yr ynys â'i thirwedd danddwr o amgylch. Cynhaliwyd arolygon 3D manwl o'r tŵr a'r adeiladau mynachaidd o’r 12fed ganrif sy'n dirywio gan y prosiect hefyd, drwy ddefnyddio UAV a sganio laser daearol.

Defnyddir y data 3D hyn i fonitro'r olion strwythurol ac archaeolegol gan ystyried lledaeniad y llystyfiant ar yr ynysoedd yn y dyfodol. Hefyd, mae data 3D Bathymetrig yn caniatáu monitro llongddrylliadau tanddwr sydd wedi'u lleoli oddi ar arfordir yr ynys. Oherwydd bod yr ynys mor anhygyrch bydd yr holl ddata hyn hefyd yn cael eu defnyddio i greu modelau a theithiau 3D llawn gwybodaeth a diddorol y gellir edrych arnynt gartref.
Roedd yr ymweliad traws-sefydliadol â'r ynys yn cynnwys staff o Brifysgol Lerpwl, Cadw a CHERISH.
Roedd yr ymweliad traws-sefydliadol â'r ynys yn cynnwys staff o Brifysgol Lerpwl, Cadw a CHERISH.
Cwmwl pwynt tŵr yr eglwys o’r 12fed ganrif a gynhyrchwyd drwy sganio laser daearol.
Cwmwl pwynt tŵr yr eglwys o’r 12fed ganrif a gynhyrchwyd drwy sganio laser daearol.
Y model 'ar / oddi ar y lan di-dor' a grëwyd drwy gyfuno data LiDAR a bathymetrig o wely'r môr.
Y model 'ar / oddi ar y lan di-dor' a grëwyd drwy gyfuno data LiDAR a bathymetrig o wely'r môr.

Cynnwys Cysylltiedig

Read More →

Ardaloedd Cymru

1. Y Moelrhoniad

Map Lleoliad

Cyflwyniad

Grŵp bach o ynysoedd afreolaidd eu siâp yw'r Moelrhoniaid, tua 3km oddi ar arfordir gogledd orllewin Ynys Môn. Mae'r grŵp o ynysoedd yn cynnwys ynys ganolog wedi'i hamgylchynu gan sawl ynys lai gan gynnwys Ynys Berchen i'r gogledd ddwyrain ac Ynys Arw i'r de orllewin. Maent yn adnabyddus am y goleudy hanesyddol a phwysig sydd wedi bod yn olau pwysig i longau'n mynd a dod o Lerpwl ers ei sefydlu yn 1717. Mae'r ynysoedd a'u treftadaeth yn cael eu bygwth bellach gan y peryglon a achosir gan y cynnydd yn lefel y môr ac erydiad gan fywyd gwyllt.

Llun lletraws o'r awyr o Ynysoedd y Moelrhoniaid
Llun lletraws o'r awyr o Ynysoedd y Moelrhoniaid

Hanes

Credir bod yr enw ‘Skerries’ yn Saesneg am y Moelrhoniaid wedi deillio o'r gair Saesneg 'skerry' (craig) ond gall hefyd fod â'i darddiad yn y gair Llychlynnaidd 'sker' sy'n golygu 'darn o graig, rîff' sy'n amlygu'r rôl y gallai'r ynysoedd fod wedi'i chwarae fel tirnod i forwyr Llychlynnaidd ar eu siwrneiau rhwng canolfannau Llychlynnaidd arfordirol fel Ynys Manaw, Dulyn, Caer a Phenrhyn Chilgwri.

The islands are first mentioned in 1535 as being owned by the Abbey of Conwy prior to its dissolution the same year. While under the ownership of the abbey it is said that the bishops of Conwy used to use the island as a fishing retreat. Whilst the island lacks archaeological remains from this period an early map created by William Williams in 1734 provides some placename evidence which may reflect how the islands were used and perceived during the late medieval period. Three areas of the Skerries appear to have been assigned names that refer to various ‘resting places’ which may have provenance in the time of the bishops. The southern bulge of the central island was named ‘Gorffwyffa-bach’ which translates roughly as ‘small resting place’ and the central islands which host the lighthouse and the buoy keeper’s cottage ‘Pen Gorffwyffa-fawr’ which translates as ‘top’ or ‘end of the big resting place’. The northern part of the Skerries was transcribed as ‘Gorfedd Ilawelin’, which possibly means ‘the resting place of… (an unknown individual)’. The following two centuries saw the islands change hands several times before it was eventually leased in 1713 for the construction of a lighthouse which was completed in 1717. The lighthouse itself has a long and interesting history where it was rebuilt and remodelled several times as it moved between different owners before being purchased by Trinity House for the stunning sum of £444,984.11. The lighthouse continues to serve as an important warning to vessels navigating the treacherous coast of northern Anglesey.

Llun lletraws o'r awyr o oleudy Ynys y Moelrhoniaid.
Llun lletraws o'r awyr o oleudy Ynys y Moelrhoniaid.

Pam rydym yn gweithio yma?

Y prif fygythiadau i'r ynysoedd yw lefel y môr yn codi ac erydu'r priddoedd a achosir gan fywyd gwyllt a bod yn agored i dywydd eithafol. Mae ymchwil hanesyddol ac archaeolegol cyfyngedig wedi'i gynnal gyda chofnodion archaeolegol cyfyngedig yn cael eu cadw ar gyfer yr ynysoedd. Mae CHERISH wedi defnyddio ffotograffiaeth o'r awyr a LiDAR i asesu a chofnodi archaeoleg yr ynys sydd dan fygythiad drwy fapio nodweddion o ffynonellau o'r awyr a darparu cofnodion archaeolegol llawn ar gyfer eu cadw gyda'r Cofnod Henebion Cenedlaethol. Roedd casglu data 3D LiDAR yn rhoi sylw hefyd i ddiffyg data 3D manylder uchel ar gyfer yr ynysoedd. Y tu hwnt i'r prosiect defnyddir y data hyn i fodelu effeithiau cynnydd yn lefel y môr yn y dyfodol ar yr ynysoedd a'u treftadaeth strwythurol a’r cynefin pwysig i adar môr.

Llun o fodel DEM lidar y Moelrhoniaid gan ddefnyddio delweddu Dadansoddi Prif Gydrannau (PCA) 16 cyfeiriad
Llun o fodel DEM lidar y Moelrhoniaid gan ddefnyddio delweddu Dadansoddi Prif Gydrannau (PCA) 16 cyfeiriad

Cynnwys Cysylltiedig

Read More →
cyCY