Newyddion, Newyddion Prosiect

Troi'r Cloc Yn Ôl yn Ninas Dinlle

Cylchlythyr

Mae animeiddiad newydd yn adrodd stori hinsawdd y pentref arfordirol hwn yng Ngwynedd o Oes yr Iâ i'r Ail Ryfel Byd

Rydyn ni'n gyffrous am lansio animeiddiad prosiect CHERISH o dirwedd Dinas Dinlle wrth iddi newid!

Yn ystod y 6 mlynedd diwethaf, mae archaeolegwyr a daearyddwyr wedi bod yn ymchwilio i gaer arfordirol Dinas Dinlle a thirwedd Morfa Dinlle i helpu i ddatgelu eu cyfrinachau cudd. Dechreuodd gwaith CHERISH yn 2017 yng nghaer arfordirol Dinas Dinlle, anheddiad cynhanesyddol hwyr sy'n erydu. Yma roedd y gwaith archaeolegol yn cynnwys arolygon o’r awyr a drôn newydd, arolygon topograffig a geoffisegol i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf a manwl gywir am yr heneb gofrestredig.

Arweiniodd y gwaith hwn at gloddio cymunedol, a wnaed ar ran CHERISH, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cadw gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd gyda chymorth byddin o wirfoddolwyr. Drwy gyfrwng dwy ffos, archwiliwyd y tu mewn i'r fryngaer yn agos at wyneb y clogwyn sy'n erydu a datgelwyd y tai crwn cynhanesyddol a Rhufeinig wedi'u claddu'n ddwfn o dan y tywod. Y datgeliad mwyaf arbennig oedd tŷ crwn mawr a thrawiadol, a gafodd ei gloddio'n llawn a'i gryfhau fel bod ymwelwyr yn gallu ymweld â'r strwythur trawiadol hwn heddiw.  

Y tŷ crwn wedi'i gloddio yn Ninas Dinlle a dynnwyd yn 2021
Y tŷ crwn wedi'i gloddio yn Ninas Dinlle a dynnwyd yn 2021

Yn ystod y cloddio canfuwyd bod yr archaeoleg o fewn y fryngaer wedi'i chladdu o dan fetrau o dywod, a oedd yn caniatáu i ni ddefnyddio techneg arbennig (Goleuedd a Ysgogir yn Optegol) i'n helpu i ddyddio pryd chwythodd y tywod i mewn. Mae’r dyddiadau'n dangos bod y tywod yn her bresennol erioed i ddeiliaid y fryngaer; mae tystiolaeth o ffos fewnol y fryngaer yn dangos bod tywod wedi dechrau casglu yma o’r Oes Haearn Ganol ymlaen (tua 250 CC). Y tu mewn, mae croniad y tywod dros y tŷ crwn mawr yn awgrymu bod y tywod wedi cael llonydd i gronni dros y safle erbyn dechrau'r cyfnod Canoloesol tua 1100 OC.

 

Llun llonydd o'r animeiddiad sy'n dangos stormydd yn dechrau'r gorchudd o dywod yn Ninas Dinlle
Llun llonydd o'r animeiddiad sy'n dangos stormydd yn dechrau'r gorchudd o dywod yn Ninas Dinlle

O amgylch y fryngaer, bu tîm CHERISH yn echdynnu creiddiau o’r gwlybdiroedd ac yn dyddio’r mawn oedd yn dod i’r golwg ar drai ar y blaendraeth i ddarparu tystiolaeth ar gyfer esblygiad y dirwedd a hanes y llystyfiant. Roedd hyn yn dangos bod coetir i’w gweld lle mae'r traeth heddiw, tua 7500 o flynyddoedd yn ôl, yn y cyfnod Mesolithig; roedd lefel y môr tua 5 metr yn is nag ydyw ar hyn o bryd. Roedd y gwaith hefyd yn dangos bod cilfach lanw ar un adeg y tu ôl i’r gaer lle mae’r pentref a’r caeau heddiw – lleoliad perffaith ar gyfer harbwr ar gyfer cychod Oes yr Haearn a’r Rhufeiniaid!

Llun llonydd o animeiddiad tirwedd Dinas Dinlle yn ystod yr Ail Ryfel Byd
Llun llonydd o animeiddiad tirwedd Dinas Dinlle yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Ymhellach i ffwrdd bu'r tîm yn archwilio a dyddio datblygiad Morfa Dinlle o amgylch Maes Awyr Caernarfon heddiw. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gallai Morfa Dinlle fod wedi datblygu i ddechrau fel ynys tua 2000 o flynyddoedd yn ôl, yn ystod y cyfnod pan oedd pobl yn byw ym mryngaer Dinas Dinlle. Yn ddiweddarach roedd y safle’n cael ei gau i ffwrdd oherwydd y llanw neu ei ynysu'n barhaol.

Map Lleoliad

Read More →

Newyddion, Newyddion Prosiect

Lluniau newydd dramatig yn dod â cheyrydd arfordirol cynhanesyddol Cymru sy'n erydu yn fyw

Cylchlythyr

Mae ailgreadau digidol newydd dramatig o ddwy o geyrydd arfordirol cynhanesyddol mwyaf agored i niwed Cymru newydd gael eu cwblhau, gan ddod â phentrefi caerog o Oes yr Haearn a’r Rhufeiniaid yn fyw iawn mewn manylder ffotograffig realistig.

 

Mae caer arfordirol Dinas Dinlle ger Caernarfon yng Ngwynedd, a a chaer bentir arfordirol Caerfai ger Tyddewi yn Sir Benfro, y ddau safle’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o dan fygythiad o erydiad arfordirol a cholli clogwyni. Mae mwy o dywydd stormus a glawiad dwys, ynghyd â’r cynnydd a ragwelir yn lefel y môr oherwydd newid yn yr hinsawdd, yn erydu’n raddol archaeoleg fregus y ddau safle yma.

Mae Prosiect CHERISH sy’n cael ei gyllido gan yr UE wedi gweithio’n agos gyda thîm o artistiaid yn Wessex Archaeology, ac amrywiaeth o randdeiliaid ac arbenigwyr, i ail-greu lluniau manwl gywir o’r ddau safle yma pan oeddent yn eu hanterth.

Mae caer arfordirol Dinas Dinlle wedi cael ei chloddio am dair blynedd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, CHERISH, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cadw i achub, a deall yn well, yr archaeoleg sydd wedi’i chladdu o fewn yr amddiffynfeydd. Mae tua 40 metr o’r clogwyni tywod a graean meddal wedi’u colli yn ystod y ganrif ddiwethaf yn unig. Mae tŷ crwn Brythonaidd Rhufeinig a gloddiwyd yn agos at ymyl y clogwyn bellach wedi'i ail-greu i'r cyhoedd ei weld. Bydd yn ffurfio dangosydd newid hinsawdd wrth iddo erydu'n raddol dros y clogwyn. Mae un o'r ailgreadau newydd yn dychmygu'r tŷ crwn hwn yn 150 OC, fel canolbwynt i gymuned gyda phennaeth benywaidd.

Ailgread o dŷ crwn Brythonaidd Rhufeinig wedi’i gloddio a’i ailadeiladu o fewn caer arfordirol Dinas Dinlle, Gwynedd.
Ailgread o dŷ crwn Brythonaidd Rhufeinig wedi’i gloddio a’i ailadeiladu o fewn caer arfordirol Dinas Dinlle, Gwynedd. (© Y Goron: PROSIECT CHERISH 2022. Cynhyrchwyd gyda chronfeydd yr UE drwy Raglen Cydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2023. Mae’r holl ddeunydd ar gael am ddim drwy'r Drwydded Llywodraeth Agored. Gwaith Celf gan Wessex Archaeology. NPRN 95309/703001).

Mae'r llun ailgread ehangach yn dangos bryngaer Dinas Dinlle yn y cyfnod Rhufeinig, cyn i erydiad arfordirol dorri’r ochr orllewinol i ffwrdd. Mae’r arfordir o’r cyfnod Rhufeinig, a chilfach aberol y tu ôl i’r pentref modern, wedi’u dangos yn fanwl gywir yn dilyn rhaglen gynhwysfawr o greiddio ac ail-greu tirwedd gan Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth. Mae tu mewn y fryngaer, sy'n dangos tai crwn, strydoedd a buarthau, wedi'i ail-greu'n fanwl gywir ar sail tystiolaeth arolwg Radar Treiddio i'r Tir (GPR).

Ailgread o gaer arfordirol Dinas Dinlle, Gwynedd, o'r gogledd orllewin
Ailgread o gaer arfordirol Dinas Dinlle, Gwynedd, o'r gogledd orllewin (© Y Goron: PROSIECT CHERISH 2022. Cynhyrchwyd gyda chronfeydd yr UE drwy Raglen Cydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2023. Mae’r holl ddeunydd ar gael am ddim drwy'r Drwydded Llywodraeth Agored. Gwaith Celf gan Wessex Archaeology. NPRN 95309).

Mae ailgread caer bentir arfordirol Caerfai ger Tyddewi yn Sir Benfro yn dangos yr anheddiad caerog tua 50CC. Ar un adeg roedd rhagfuriau amddiffynnol cryf, ffosydd dwfn a phyrth tyrog yn amddiffyn y pentref hwn o'r Oes Haearn. Y tu mewn, mae tystiolaeth sy’n seiliedig ar arolygon a gwaith cloddio gan Brosiect CHERISH a DigVentures, gan weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn dangos pentref o dai crwn a gweithdai gyda mwyn copr yn cael ei gloddio o glogwyni’r môr. Ar y môr, mae pobl leol mewn cychod tebyg i gwryglau’n rhwyfo allan i gwrdd â llong fasnach Galo-Rufeinig.

Ailgread o gaer arfordirol Caerfai, Sir Benfro, o'r gogledd.
Ailgread o gaer arfordirol Caerfai, Sir Benfro, o'r gogledd. (© Y Goron: PROSIECT CHERISH 2022. Cynhyrchwyd gyda chronfeydd yr UE drwy Raglen Cydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2023. Mae’r holl ddeunydd ar gael am ddim drwy'r Drwydded Llywodraeth Agored. Gwaith Celf gan Wessex Archaeology. NPRN 305396).

Mae’r ddwy gaer arfordirol yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac wedi gweld sawl blwyddyn o gloddio cymunedol ac ymchwil tirwedd gan Brosiect CHERISH sy’n cael ei gyllido gan yr UE ac yn cyfuno arbenigedd y Comisiwn Brenhinol a Phrifysgol Aberystwyth, gan weithio gydag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro , DigVentures a Cadw. Mae'r ailgreadau wedi'u bwriadu ar gyfer paneli gwybodaeth newydd ac adnoddau ar-lein, i helpu ymwelwyr â'r safleoedd i greu darlun o’r gorffennol cynhanesyddol a Rhufeinig.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: nicola.roberts@rcahmw.gov.uk neu toby.driver@rcahmw.gov.uk

 

Am ganiatâd i atgynhyrchu'r lluniau cysylltwch â nmr.wales@rcahmw.gov.uk

Gellir darparu copïau cydraniad uchel o'r delweddau

Read More →

Blogiau

Blog Gwirfoddolwr Caerfai: Joanne Murphy

Cylchlythyr

Cloddio yng Nghaerfai 2022

Roeddwn i’n ddigon ffodus i ymuno â gwaith cloddio CHERISH yng Nghaerfai yn 2021. Mae’r safle pentir yma o’r Oes Haearn ym Mhenpleidiau wedi’i amgylchynu gan y môr ar 3 ochr ac wedi’i warchod i’r gogledd gan nid un ond 4 (ie, 4!) o strwythurau rhagfur a ffos. Er bod y safle yma’n ymddangos fel pe bai’n cael ei warchod, mae newid hinsawdd a’i agosrwydd at y môr yn achosi iddo erydu. Fel yr ymchwiliad cyntaf i'r safle, o dan arweiniad DigVentures, doedd dim un ohonon ni’n gwybod beth i'w ddisgwyl. Roedd yr hyn welson ni yn syfrdanol ac yn codi mwy o gwestiynau. Cwestiynau y byddai'n rhaid aros i'w hateb wrth i amser brinhau ac wrth i'r ffosydd gael eu llenwi eto.

Jo yn cloddio yng Nghaerfai am y tro cyntaf yn 2021
Jo yn cloddio yng Nghaerfai am y tro cyntaf yn 2021

Yn 2022, gyda’r cloddio’n cael ei gyllido’n dorfol gan DigVentures, darparodd CHERISH y cyfle gwych o lefydd mewn ysgolion maes. Roedd hyn er mwyn helpu unigolion i ddatblygu eu sgiliau a'u dealltwriaeth archaeolegol gyda'r nod o gasglu cymaint o wybodaeth â phosibl cyn colli mwy o'r safle. Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael un o’r lleoliadau ysgol maes yma, ac ar ôl dychwelyd i’r safle, y peth cyntaf wnes i sylwi arno oedd maint yr erydu oedd wedi digwydd mewn blwyddyn. Roedd tua hanner metr wedi disgyn oddi ar yr ochr Orllewinol. 

A wide angle image of people working on the excavation site at Caerfai on a sunny day
Y ffos yn 2022, gyda’r ymyl yn erydu wedi’i ddynodi gan ffens oren

Yr ail i'w nodi oedd bod eleni yn fwy, yn well, ac yn fwy beiddgar. Roedd ardal ehangach a gloddiwyd yn golygu darlun ehangach, ac yn sicr fe wnaethom ni ychwanegu at stori Caerfai gan ddatgelu sawl tŷ crwn, tyllau pyst ac aelwydydd, dadorchuddio cerrig hogi, chwerfannau gwerthyd a’r mwyaf cyffrous, darn o grochan ar gyfer mwyndoddi mwynau (wnes i ei ddarganfod!). Y darganfyddiad mwyaf dyrys oedd strwythur hardd o stepiau yn cuddio ar waelod un o'r ffosydd rhagfur, a oedd fel petai'n parhau ar hyd y ffos. Roedd yn un o lawer o ddamcaniaethau a chwestiynau newydd a godwyd a fydd yn gorfod aros tan y cloddio nesaf.

A woman in a red t-shirt crouches in a trench, smiling
Jo yn cloddio darn drwy’r rhagfur mewnol yn 2022

Fel profiad cyffredinol, fe gefais i nid yn unig ymarfer sgiliau roeddwn i wedi’u dysgu yn ystod y blynyddoedd blaenorol ond hefyd datblygu sgiliau newydd mewn geoffiseg, samplu a chofnodi. Mae'r cyfle a ddarparwyd gan CHERISH wedi rhoi'r hyder i mi ymuno â mwy o gloddio a defnyddio popeth wnes i ei ddysgu yng Nghaerfai. 

A woman in a red t-shirt crouches at the edge of a trench, smiling at the camera and holding a toy puffin
Jo a Puffty gyda’i gilydd eto yn 2022!

Map Lleoliad

Read More →

Blogiau

Cynhadledd Diwedd y Prosiect: Uchelgais, Cyflawni a Gwaddol

Cylchlythyr

Dyma ddigwyddiad olaf prosiect CHERISH

Ar ddydd Mawrth 21ain Mawrth 2023 bydd CHERISH yn cynnal ei gynhadledd derfynol. Yn y Printworks, Castell Dulyn, byddwn yn cyflwyno’r canfyddiadau terfynol, y cynnyrch a’r gwersi a ddysgwyd o’r prosiect chwe blynedd yma, gwerth €4.9 miliwn. Yn bwysicach na dim, bydd hyn yn cynnwys lansio ein Canllaw Arferion Da: canllaw ar “becyn adnoddau” y prosiect ar gyfer ymchwilio i safleoedd sydd mewn perygl.

Bydd y diwrnod yn cynnwys papurau gan aelodau’r tîm, gweithwyr treftadaeth proffesiynol sydd wedi gweithio gyda’r prosiect, a’r rhai sydd wedi datblygu a mireinio’r Pecyn Adnoddau. Bydd cynrychiolwyr o amrywiaeth eang o fusnesau yn ymuno â ni, gyda Stondinau Masnach i’w harchwilio yn ystod pob seibiant paned. Bydd paneidiau a chinio yn cael eu darparu, a bydd derbyniad diodydd gyda’r nos fel cyfle i rwydweithio.

Ymunwch â ni os ydych chi eisiau clywed am y ffyrdd o roi sylw i safleoedd arfordirol, rhynglanwol a morol sydd mewn perygl oherwydd newid yn yr hinsawdd. Bydd cyfle i drafod dyfodol treftadaeth hinsawdd, a sut gallwn ni fel gweithwyr treftadaeth proffesiynol ymgysylltu â pheryglon newid hinsawdd.

Os hoffai eich cwmni neu sefydliad chi gael stondin fasnachu yn y digwyddiad, cysylltwch â ni yn uniongyrchol ar cherish@cbhc.gov.uk.

Map Lleoliad

Read More →

Blogiau

Blog gwirfoddolwr Caerfai: Eirlys Happs

Cylchlythyr

Cloddio yng Nghaerfai 2022

Helo, fy enw i yw Eirlys Happs, rwy'n 19 oed. Rydw i’n dod o Gaerfyrddin yn ne Cymru. Mae archaeoleg yn bwysig iawn i mi.

 

Ar ôl gorffen yn y coleg a phenderfynu peidio â mynd i'r brifysgol eto, syrthiais i rigol y mae llawer o bobl yn gyfarwydd ag ef. Yn ystod y cyfnod yma dechreuais ailgynnau fy nghariad at y Gymraeg ac roeddwn i’n colli ei siarad mor aml ag yr oeddwn yn arfer. Fe es i i ysgol gynradd Gymraeg iaith gyntaf er fy mod i wedi fy magu, tan hynny, yn Saesneg yn unig. 

A young person standing in a trench, wearing a red shirt and white t-shirt, holding a trowel and hand shovel, with the sea and coast behind them.
Eirlys gyda thrywel a rhaw llaw – yn barod i gloddio!

Cyn hyn, doeddwn i ddim wedi ymddiddori mewn hanes mewn gwirionedd, a doeddwn i erioed wedi ystyried archaeoleg y tu hwnt i ambell bennod o Time Team. Er hynny, fe arweiniodd hyn at y dyhead wnaeth fy arwain i i gloddio yng Nghaerfai eleni. Rydw i wrth fy modd â diwylliannau, ieithoedd ac arddulliau celf Celtaidd ymhlith sawl agwedd ar hanes. 

Ar fy niwrnod cyntaf fe wnes i gloddio yn ffos y rhagfur, croestoriad dwfn o'r ffos.

Rhan o bedwar clawdd uchel, a fyddai, yn wreiddiol, wedi bod nid yn unig yn fwy ond yn grandiach.

Mae'n debyg bod y gwrthgloddiau godidog wedi cael eu defnyddio i atal ymosodiad ac i bwysleisio cyfoeth neu hyd yn oed ba mor grefyddol oedd yr ardal a'i thrigolion.

A trench with several people working in it, on a green grassy headland with the blue sea behind
Y brif ffos ar ddiwrnod heulog – yn fwrlwm o weithgarwch!

Roeddwn i wrth fy modd yn cael siarad ag ymwelwyr a mentrwr arall oedd yn cael ei gyllido gan CHERISH yn y Gymraeg. Gall safleoedd fel hyn wneud i lawer deimlo'n agos iawn at eu cyndeidiau, Cymraeg, Saesneg neu fel arall. 

Drwy gydol yr wythnos fe fûm i’n gweithio mewn llawer o ardaloedd eraill, ond yn fwyaf nodedig i fy nghyhyrau poenus, yn ôl-lenwi ffos 5. Cyn hir roeddwn i’n ôl yn ffos y rhagfur am fy nau ddiwrnod olaf o lanhau a chynllunio.

Roedd y cynllunio, y broses o gofnodi manwl gywir yn y ffos, yn sgil hollol newydd i mi er fy mod i wedi ei weld yn cael ei wneud; gwaith cain oedd dirnad cyd-destunau (dyddodion pridd) ac wedyn mesur pob un. 

A close up shot of a deep archaeological trench through a rampart
Ffos y rhagfur (gyda Puffty yn ymchwilio)

Er fy mod i’n drist i adael y safle yma, fe wnes i elwa cymaint o fy wythnos yng Nghaerfai, ac rydw i'n cyfaddef na fyddwn i byth wedi gallu bod yn bresennol heb gyllid CHERISH. 

Rydw i'n hynod ddiolchgar i bawb yn CHERISH a roddodd sgwrs hyfryd a'r cyfle gwerthfawr yma; pawb yn Dig Ventures am greu amgylchedd croesawgar, cynhwysol ac addysgiadol; ac yn olaf ond yn sicr nid y lleiaf, i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd oedd yn gyson garedig a doniol er gwaethaf eu gwaith caled. 

A young person in a red shirt holding a toy puffin on a hand shovel
Eirlys a Puffty yn ffos Caerfai
Read More →
cyCY