Blogiau

CHERISH: 2021 fel Blwyddyn Gron - Uchafbwyntiau Rheolwr Prosiect CHERISH, Clare Lancaster

Cylchlythyr

Mae'n anodd credu bod y prosiect bellach wedi cyrraedd diwedd ei bumed flwyddyn a’n bod yn cyrraedd yr hyn a fyddai wedi bod yn ddyddiad gorffen gwreiddiol Prosiect CHERISH. Rydym yn ffodus ein bod wedi cael estyniad i'r prosiect a chyllid Ewropeaidd ychwanegol i'n galluogi i fynd i mewn i gam pellach i hyrwyddo a marchnata canlyniadau a chynhyrchion y prosiect. Bydd CHERISH gyda chi tan fis Mehefin 2023 nawr!

Mae eleni wedi bod yn flwyddyn brysur iawn ac er gwaethaf y pandemig parhaus a'r newidiadau i'r ffordd rydym yn gweithio, mae'r tîm wedi bod yn brysur ledled Cymru ac Iwerddon. Dyma ychydig o'r uchafbwyntiau a ddewiswyd gennyf i ddod â 2021 i ben.

Roedd 2021 yn flwyddyn o waith cloddio i CHERISH, gan ddechrau ar Gildraeth Ferriter yn Swydd Kerry, am fwy na phythefnos ym mis Mai. Yma mae caer bentir a chastell wedi'u lleoli ar bentir cul ym mhellafion gorllewinol arfordir Iwerddon. Datgelodd y cloddio safle cwt mewn cyflwr da iawn ac rydym yn aros yn eiddgar am ganlyniadau dadansoddiad ôl-gloddio i ddatgelu pryd roedd rhywun yn byw ynddo. Mae sylw i'r gwaith cloddio yma yn 8fed cylchlythyr CHERISH sydd ar gael i'w lawrlwytho yma

Gwaith Cloddio Cildraeth Ferriters - Mai 2021
Gwaith Cloddio Cildraeth Ferriters - Mai 2021

Digwyddodd dau waith cloddio yng Nghymru hefyd. Ym mis Awst cyfrannodd CHERISH at ail dymor y cloddio yng nghaer arfordirol Dinas Dinlle. Roedd hyn yn adeiladu ar ein gwaith cloddio yn 2018 ac fe’i cwblhawyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, gyda chyllid gan Cadw, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a CHERISH. Heb os, uchafbwynt y cloddio oedd datgelu maint llawn y tŷ crwn trawiadol y tu mewn i’r fryngaer.

Gwaith Cloddio Dinas Dinlle Awst 2021 - yma gallwch weld maint llawn y tŷ crwn a'r agosrwydd at ymyl y clogwyn
Gwaith Cloddio Dinas Dinlle Awst 2021 - yma gallwch weld maint llawn y tŷ crwn a'r agosrwydd at ymyl y clogwyn

Wrth i’r cloddio yn Ninas Dinlle ddirwyn i ben, roedd gwaith newydd yn dechrau yng Nghaer Bentir Caerfai yn Sir Benfro. Yma rhoddodd CHERISH gontract i DigVentures i gynnal gwaith cloddio cymunedol ar ein rhan. Cafwyd tywydd gwych i’r pythefnos o gloddio a chymerodd mwy na 150 o wirfoddolwyr ran. Gellir gweld dyddiaduron a lluniau o'r cloddio ar wefan dig ventures a darparodd tîm DigVentures ddarlith hefyd ar gyfer Diwrnod Archaeoleg Sir Benfro sydd i’w gweld ar Sianel YouTube CHERISH

Gwaith Cloddio Caerfai Medi 2021 - montage o'r holl wirfoddolwyr a’r staff dan sylw
Gwaith Cloddio Caerfai Medi 2021 - golygfa o'r awyr o'r safle cloddio
Gwaith Cloddio Caerfai Medi 2021 - golygfa o'r awyr o'r safle cloddio

’Wnaethon ni ddim aros ar dir sych yn unig ac yn 2021 gwelwyd parhad ein rhaglen arolygu morol a deifio am y tro cyntaf i edrych ar longddrylliad, y Bronze Bell, llong gargo oedd yn cario marmor Carrera o Tuscany a longddrylliwyd ar rîff Sarn Padrig. Comisiynodd CHERISH MSDS Marine a gynhaliodd yr arolwg tanddwr cyntaf o'r llongddrylliad am y tro cyntaf er 2006. Mae'r tîm wedi cynhyrchu cyfres o ddyddiaduron deifio sydd ar gael i'w gweld ar sianel YouTube CHERISH. Bydd darlith ar-lein hefyd ar waith y tîm ar y Bronze Bell gan Alison James o MSDS Marine ar 17 Chwefror 2022, bydd tocynnau’n cael eu rhyddhau yn y flwyddyn newydd.

Deifwyr yn arolygu'r Bronze Bell
Deifwyr yn arolygu'r Bronze Bell

Roeddem yn ffodus iawn bod yr holl weithgarwch hwn wedi ennyn diddordeb y cyfryngau cenedlaethol a chafodd gwaith CHERISH sylw ar Newyddion Channel 4 a'r rhaglen Coast and Country ar ITV.

2021 oedd blwyddyn COP26 ac rydym wedi parhau i weithio'n galed i godi proffil #TreftadaethHinsawdd. Ym mis Mai cynhaliwyd cynhadledd CHERISH. Dylai fod wedi cael ei chynnal yng Nghastell Dulyn, ond gwnaethom symud ar-lein a gyda chymorth Fitwise llwyddwyd i gyflwyno cynhadledd rithwir gyda siaradwyr rhyngwladol o bob cwr o'r byd. Roedd yn gynhadledd lwyddiannus yn dangos y nod cyffredin i'r sector treftadaeth i ddeall effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ein treftadaeth arfordirol a sut gallwn addasu i hyn. Mae'r holl sgyrsiau ar gael i'w gweld ar wefan y prosiect a sianel YouTube bellach

Hefyd bu Arddangosfa CHERISH ar ymweliad â’i lleoliadau cyntaf: Bangor yng Nghymru a Dun Laoghaire a Rush yn Iwerddon. Hyfryd oedd ei gweld o'r diwedd, ar ôl bod o’r golwg mewn storfa oherwydd y pandemig. Mae gennym lawer mwy o leoliadau wedi’u trefnu yn 2022, cadwch lygad ar ein gwefan a'n cyfryngau cymdeithasol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Yn ystod cyfnod COP26 gwnaethom gyfrannu at nifer o ddigwyddiadau a siarad ynddynt, a hefyd ymuno â phrosiectau treftadaeth arfordirol eraill ledled y DU i gynhyrchu cyfres o ffilmiau i godi ymwybyddiaeth o dreftadaeth arfordirol a newid yn yr hinsawdd.  

Rwy'n credu ei bod yn saff dweud bod y tîm wedi bod yn brysur iawn eleni a phur anaml, fel Rheolwr Prosiect, ydych chi’n cael cyfle i gydnabod a diolch yn gyhoeddus i'r tîm sydd wedi cymryd rhan, felly diolch yn fawr! Edrychwn ymlaen at 2022 yr un mor brysur ac addysgiadol!

Mae hefyd yn gyfle i ddymuno’n dda i ddau o dîm CHERISH wrth iddyn nhw adael y prosiect, mae James Barry o bartner CHERISH, Arolwg Daearegol Iwerddon, a Dan Hunt, o’r tîm yma yn y Comisiwn Brenhinol, yn symud ymlaen ar ôl pedair blynedd a hanner yn gweithio ar y prosiect a dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol.

CHERISH Team
CHERISH Team
Read More →

Blogiau

Tirweddau coll – Cipolwg ar y gorffennol a rhybudd ar gyfer y dyfodol!

Cylchlythyr

Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol – sy’n cael eu cyflymu gan weithgarwch dynol - bellach yn cael eu hadrodd, eu trafod a'u cydnabod yn eang. Mae'r holl dystiolaeth yn dangos y bydd cynnydd yn nwysedd systemau tywydd y ddaear sy'n arwain at fwy o stormydd, mwy o sychder a llifogydd, mwy o rewlifau a chapanau iâ’n toddi, a chynnydd yn lefelau'r môr yn fyd-eang. Ac eto, rywsut, gall y goblygiadau i ni'n bersonol ymddangos yn anghysbell ac yn anodd eu gweld. Fodd bynnag, mae arfordir Cymru’n cynnig cyfle i ni edrych ar y gorffennol i weld nad ffenomenon newydd yw lefelau'r môr yn codi. O amgylch arfordiroedd Cymru ac Iwerddon mae olion coetiroedd pinwydd a derw a darnau tameidiog o fawn sy'n arwydd o gynefinoedd anghofiedig y gorffennol i'r tonnau sydd bellach yn curo yn erbyn y draethlin.

Mae Prosiect CHERISH wedi bod yn gweithio yn y parth rhynglanwol hwn i gofnodi llongddrylliadau a thirweddau archaeolegol gweddillol, sydd hefyd yn adrodd am golled a newid arfordirol. Fodd bynnag, agwedd arall ar ein gwaith fu penderfynu ar oedran rhai o dirweddau gweddillol Penrhyn Llŷn mewn perthynas â'n gwaith ar newid yn lefel y môr yn y gorffennol.

Wrth fonitro llongddrylliad ar Draeth Warren yn Abersoch yng Ngwynedd yn 2018, darganfu tîm CHERISH wastatir sylweddol o foncyffion coed wedi syrthio a blociau o fawn. Roedd stormydd y gaeaf wedi cael gwared ar lawer iawn o dywod gan amlygu'r mawn. Roedd rhywfaint o'r mawn wedi cael ei dorri'n flociau, ar gyfer tanwydd yn ôl pob tebyg, ond yn yr ardaloedd lle nad oedd wedi'i gyffwrdd, roedd wedi'i fritho ag olion carnau anifeiliaid, cymysgedd o geirw ac ych gwyllt mae'n debyg.

Olion carnau mewn mawn ar Draeth Warren, Abersoch, Gwynedd
Olion carnau mewn mawn ar Draeth Warren, Abersoch, Gwynedd

Yn ystod y bennod rewlifol ddiwethaf, cafodd llawer iawn o ddŵr môr ei gloi yn yr haenau iâ enfawr sy'n gorchuddio rhannau helaeth o hemisffer y gogledd. Amcangyfrifir bod lefel y môr wedi bod fwy na 75 metr yn is nag ydyw heddiw. Fodd bynnag, mae ffigur 3 yn dangos bod llawer o Fae Ceredigion yn gorwedd lai na 50 metr yn is na'i lefel bresennol. Mae'r ardal hon yn unig yn cyfateb i 4400 cilometr sgwâr – 1/5fed o gyfanswm arwynebedd Cymru. 

Cyfuchlinau dwfn ym Mae Ceredigion
Cyfuchlinau dwfn ym Mae Ceredigion

Mae ein hymchwil yn dangos bod Traeth Warren yn gynefin coediog tua 7,700 o flynyddoedd yn ôl, ond hefyd bod yr amgylchedd yn newid. Mae’n ymddangos bod lefelau’r dŵr daear wedi codi, gan foddi'r coed mae’n debyg, a dechrau ffurfio mawn. Gallwn ddyfalu, wrth i lefelau'r môr godi, bod rhwystrau'r traeth wedi blocio draeniad afonydd fel Afon Soch wrth iddynt symud tua’r mewndir. Rydym hefyd wedi darganfod bod y môr yn cyrraedd Llyn Maelog ger Rhosneigr ar Ynys Môn tua 7000 o flynyddoedd yn ôl, gan ei newid o lyn dŵr croyw i fod yn gilfach forol.

Mae dyddio radiocarbon wedi datgelu bod coed wedi tyfu unwaith eto ar y blaendraeth yn Abersoch tua 4,300 o flynyddoedd yn ôl, ac yn Borth ac Ynyslas roeddent yn ffynnu rhwng 6,200 a 4,300 o flynyddoedd yn ôl. Ar y ddau safle daeth mawn i gymryd lle’r cynefin o goetir wrth i’r môr barhau i godi’n ddi-ildio gan orchuddio’r gwlybdir yn y diwedd a ffurfio’r draethlin bresennol.

Llun ehangach yn dangos llawr fforest gynhanes ac olion carnau anifeiliaid, wedi’u hymgorffori yn y mawn, sy’n dod i’r golwg ar lanw isel.
Llun ehangach yn dangos llawr fforest gynhanes ac olion carnau anifeiliaid, wedi’u hymgorffori yn y mawn, sy’n dod i’r golwg ar lanw isel.

Mae'n ddiddorol dychmygu'r cynefinoedd a fyddai wedi bod yn gartref i faeddod gwyllt, ych gwyllt Ewrasiaidd, eirth, lyncs a bleiddiaid a fyddai wedi cael eu hela gan y trigolion Mesolithig. Mae'n ymddangos yn gredadwy y byddent wedi bod yn dyst i’r môr yn ymledu a cholli tirwedd, gan drosglwyddo straeon am amgylcheddau’n newid i’r cenedlaethau a’u dilynodd. Pwy a ŵyr sut roeddent yn gwneud synnwyr o'r newidiadau a brofwyd ganddynt, ond mae'n amlwg nad oeddent yn ymwybodol o'r achosion nac yn abl i ddylanwadu arnynt.

Efallai nad yw'n fawr o gysur bod rhaid i'n hynafiaid cynhanes ymdopi â'r un bygythiadau ag yr ydym ni’n eu hwynebu heddiw. Mae'r llwybr ar gyfer lefelau'r môr yn y dyfodol yn golygu bod colled bellach a newid amgylcheddol yn anochel. Fodd bynnag, yn wahanol i'n hynafiaid, dylem ni fod yn ymwybodol ein bod yn rhannol gyfrifol am y newidiadau a fydd yn effeithio ar ein plant a'n hwyrion, ac yn bwysicach na hynny, bod gennym rym i wneud rhywbeth yn eu cylch.

Map Lleoliad

Read More →

Blogiau

Caer Rosslare: yn nannedd y storm ac ymchwydd y tonnau

Cylchlythyr

Cyflwyniad

Ar un adeg safai pentref wrth aber Harbwr Wexford, yn gwarchod y fynedfa, pysgota, ac yn achub pobl a ddrylliwyd ar y cloddiau tywod oddi ar y lan. Heddiw, mae adeiladau'r pentref hwn, a elwir yn Gaer Rosslare, wedi’u marcio gan waliau cerrig wedi malu, ar wasgar, a physt brics a phren sy'n dod i’r golwg ar lanw isel y gwanwyn yn unig, os yw’r tywod symudol yn caniatáu.

Golygfa o ochr Harbwr Wexford o'r tafod gyda thai'r sgwâr i'r dde a’r lanfa i'r chwith. O gasgliad Mary Hughes fel y dangosir yng Nghyfrol 2 County Wexford in the Rare Oul’ Times gan Nicholas Furlong a John Hayes (1987).
Golygfa o ochr Harbwr Wexford o'r tafod gyda thai'r sgwâr i'r dde a’r lanfa i'r chwith. O gasgliad Mary Hughes fel y dangosir yng Nghyfrol 2 County Wexford in the Rare Oul’ Times gan Nicholas Furlong a John Hayes (1987).

Ystyr Rosslare yw ‘pentir canol’ ac mae’r gaer yn enw’r pentref, sy’n gwahaniaethu rhyngddo a’r porthladd Ewropeaidd mwy adnabyddus i deithwyr a nwyddau 10km i’r de, yn cyfeirio at amddiffyniad yn erbyn cyrchoedd a farciwyd gyntaf ar fapiau o’r 16fedganrif. Roedd y cloddiau tywod yn yr harbwr ac oddi ar y lan yn ddigon sefydlog i alluogi i’r twyni a'r anheddiad hwn ddatblygu ar derfynfa tafod tywod 200m o led a 6km o hyd, a oedd yn cysylltu â'r tir mawr yn y de. Yn y 19 egfedganrif, roedd gan y pentref fwy na deugain o dai, peilotiaid, pwmp, ysgol, eglwys, gorsaf tollau a refeniw, goleudy, a gorsaf bad achub. Yn anffodus, nid yw bariau a thwyni tywod yn sefydlog am byth, ac roedd erydiad difrifol wedi ei wneud yn amhosibl byw ynddo erbyn y 1920au.

Y Siwrnai i Gaer Rosslare

Fis diwethaf, yn ystod llanw cyhydnos y gwanwyn, y dychwelodd tîm CHERISH i Gaer Rosslare. Roedd pedair blynedd bron ers ein hymweliad diwethaf ym mis Tachwedd 2017. Roeddem yn awyddus i weld sut roedd y safle wedi newid, a oedd nodweddion newydd wedi ymddangos, a monitro’r prosesau erydol sy'n effeithio ar yr adfeilion. Mae lluniau lloeren ar-lein yn dangos symudiadau tywod deinamig ar draws yr harbwr gydag ynysoedd bach a sianeli yn ymddangos ac yn diflannu.

Y Gwasanaethau Morol yn ein gollwng wrth y clawdd tywod ger aber yr harbwr.
Y Gwasanaethau Morol yn ein gollwng wrth y clawdd tywod ger aber yr harbwr.

Cyfarfu Gwasanaethau Morol Harbwr Wexford â ni yng Nghei Ferrybank ac aethom allan heibio’r Clawdd Balast, sydd bellach yn nodwedd segur ond yn ddigon pwysig i'n RIB ni a bar lleol gael eu henwi ar ei ôl. Teithiodd ein Ballast Bank ni yn araf rhwng y bwiau marcio’r sianel, weithiau ar gyflymder o dair filltir môr yn unig oherwydd y dyddodiad tywod diweddar. Dywedodd Aidan, ein capten, bod tywod yn symud yn arwain at orfod symud y bwiau yn aml a bod cychod mwy’n gorfod dod i mewn ar lanw uchel, yn enwedig pan oedd ganddynt lwyth llawn. Mae angen profiad a gwybodaeth leol i fordwyo’r sianel fas sy'n newid yn gyson: rhywbeth y byddai'r peilotiaid yng Nghaer Rosslare wedi gorfod ei wneud i longau masnach oedd yn ymweld.

Adnabod newid

Cawsom ein gollwng wrth ymyl bwi coch rhif 11, tua 700m i'r dwyrain o'r gaer, lle roedd silff y clawdd tywod yn ddigon serth i'r cwch fynd yn agos a dadlwytho ein hoffer. Wrth i ni agosáu at y pentref gwag, gan gerdded ar hyd y bar tywod cregynnog, roeddem yn meddwl bod pethau'n edrych yn wahanol - roeddem yn cofio tywod gweddol wastad yn arwain at y pentref. Fodd bynnag, heddiw roeddem ar far tywod oedd â darnau bach o laswellt yn ei safle uchaf, troellog. Roedd yn edrych i lawr ar y gaer lle gwnaethom sefydlu ein safle gweithredu (GPS wedi'i sefydlu ar gyfer lleoli helipad Cerbyd Awyr Heb Oruchwyliaeth ar gyfer ein drôn). Fe wnaethom sylwi hefyd bod clawdd tywod newydd wedi ffurfio tua'r môr o'r gaer.

Ein drôn a’r safle GPS ar y bar tywod gydag adfeilion Caer Rosslare yn y pellter.
Ein drôn a’r safle GPS ar y bar tywod gydag adfeilion Caer Rosslare yn y pellter.

Fe wnaethom gerdded i lawr ar hyd y tywod gwastad i gael archwilio gweddillion y pentref, ac i osod targedau ffotogrametrig ar gyfer y drôn y gellid eu harolygu gan ddefnyddio RTK GNSS i reoli'r ddaear yn fanwl gywir. Roedd morloi wedi ymgartrefu yn y pentref. Mae eu gwybodaeth am y sianeli a'r bwyd môr yn cynnal gweithgareddau’r peilotiaid a’r pysgotwyr oedd yn byw yma. Ymhen rhyw fis arall bydd eu rhai bach i’w gweld lle roedd plant y pentref yn nofio ac yn chwarae. Roeddent yn ffroeni a rhochian wrth i ni ddynesu cyn llithro i'r môr gan ein gwylio'n frwd o'r dŵr, yn aros i ni fynd. Cadarnhawyd ein hamheuon am y newidiadau wrth i ni sylweddoli bod llawer mwy o adfeilion yma. Roedd y pyst a'r adeiladau a ddaeth i’r golwg yn rhannol yn unig y tro diwethaf yn gliriach ac yn agored i'w dehongli. Roedd tonnau tywod gyda slefrod môr wedi dod i’r lan yn gorchuddio'r tywod gwastad, ac roedd sianeli’n parhau i lifo drwy'r pentref wrth i ddŵr yr harbwr barhau i wagio gan ein gorfodi ni i rydio.

Wrth gerdded tua'r de orllewin o'r bar tywod, daethom at y grŵp cyntaf o adfeilion. Fe wnaethom sylwi ar sylfeini a lloriau adeiladau posibl, er bod llinell anwastad eu waliau'n dangos bod ymsuddiant difrifol wedi digwydd. Hunllef i unrhyw berchennog tŷ! Mae’r ffaith bod gwymon gwyrdd a brown wedi ymgartrefu yma’n datgelu perygl iechyd llaith ynghyd â bod o dan ddŵr ar bob llanw gyda cherhyntau cryf. Mae hyn yn awgrymu bod yr adfeilion wedi bod yn y golwg uwchben y tywod am gyfnod hir gan alluogi i'r gwymon dyfu. Mae hyn yn fwy o syndod i ni gan fod ffotograffiaeth o'n hymweliad blaenorol yn cadarnhau bod clawdd tywod yn gorchuddio'r ardal hon bedair blynedd yn ôl. Mae llinell ddwbl o byst pren i'r dwyrain, a allai fod yn lanfa refeniw ar ochr yr harbwr, pan oedd y tafod tywod yn bodoli. I'r gogledd mae olion llithrfa garreg a phier. Gallai'r adeiladau hyn fod yn dŷ a storfa'r bad achub, a phostyn roced. Mae map Arolwg Ordnans 1903 yn dangos goleudy ger yr ardal yma.

Ardal ogledd ddwyreiniol yr adfeilion yng Nghaer Rosslare yn dangos sylfaen a llawr tŷ.
Ardal ogledd ddwyreiniol yr adfeilion yng Nghaer Rosslare yn dangos sylfaen a llawr tŷ.
Roedd ardal ogledd ddwyreiniol yr adfeilion yn cynnwys llithrfa a phier.
Roedd ardal ogledd ddwyreiniol yr adfeilion yn cynnwys llithrfa a phier.

Roedd rhaid i ni groesi sianel fas i gyrraedd yr ardal nesaf o adfeilion i'r de ddwyrain. Roeddem yn cofio’r ardal hon o'n hymweliad diwethaf ond roedd mwy yn y golwg heddiw. Roedd yn bosibl gweld simnai frics wedi dymchwel a dod o hyd i ddarnau o lechi to, glo a chrochenwaith crwn o'r tonnau. Efallai bod jar garreg oedd yn gyflawn bron a adferwyd gennym yma yn 2017 wedi bod ar gyfer jam neu bicls.

Simnai frics yn 2017 o’r ardal sgwâr.
Simnai frics yn 2017 o’r ardal sgwâr.
Jar storio garreg o Gaer Rosslare.
Jar storio garreg o Gaer Rosslare.

Gan mai hon yw'r ardal sydd yn y golwg fwyaf, mae'n haws ei dehongli o'n lluniau drôn. Roedd y gwynt yn 20 kmya ac roedd yn agos at fod yn rhy wyntog i'r drôn ond gan fod yr amser a’r cyfleoedd yn gyfyngedig i'r gaer fod yn y golwg, fe wnaethom benderfynu hedfan yn fuan ar ôl cyrraedd yn hytrach nag aros i’r gwynt ostegu. Roedd yn dangos bod yr ardal yn weddol sgwâr ei siâp felly mae'n debyg mai sgwâr y pentref oedd hwn - clwstwr o tua dwsin o dai a oedd yn cynnwys cartref y swyddogion refeniw a’u teuluoedd yn ogystal â'r eglwys.

Llun drôn o’r gaer yn 2017.
Llun drôn o’r gaer yn 2017.
Llun drôn o’r gaer yn 2021 isod yn dangos sgwâr pentref yn y blaendir.
Llun drôn o’r gaer yn 2021 isod yn dangos sgwâr pentref yn y blaendir.

Efallai bod y gwaith o adfer tir yn y 19fedeg ganrif yn yr harbwr a pheirianneg y pier yn Harbwr Rosslare wedi gwaethygu dirywiad y gaer, gan fod hyn wedi effeithio ar gerhyntau a dyddodiad gwaddodion. Nododd arolwg gan Sefydliad y Bad Achub yn 1915 bod y goleudy wedi cael ei danseilio a'i ddinistrio gan y môr mewn storm yn ystod y gaeaf blaenorol. Fe wnaethant ddisgrifio ymhellach bod y môr wedi bod yn 140 troedfedd tua'r môr o'r sgwâr yn 1840, ond roedd angen morglawdd bellach i amddiffyn yr adeiladau. Mae'r morglawdd carreg a choncrit hwn, er ei fod ar chwâl heddiw, yn siâp llinell bras o hyd gyda rhai troadau ar hyd ochr ddwyreiniol y sgwâr. Gwelir pier yn berpendicwlar i linell y morglawdd hwn.

Llun o sgwâr y pentref Tachwedd 2017.
Llun o sgwâr y pentref Tachwedd 2017.
Llun cymharol o sgwâr y pentref Medi 2021 – rydym yn gweld mwy o gerrig yn y golwg a thyfiant gwymon, yn ogystal â difrod i’r postyn marcio.
Llun cymharol o sgwâr y pentref Medi 2021 – rydym yn gweld mwy o gerrig yn y golwg a thyfiant gwymon, yn ogystal â difrod i’r postyn marcio.
Y morglawdd a’r pier ar ochr orllewinol y sgwâr yn 2017.
Y morglawdd a’r pier ar ochr orllewinol y sgwâr yn 2017.
Y morglawdd a’r pier ar ochr orllewinol y sgwâr uchod yn 2021 ac isod yn dangos gwymon brown yn hytrach na gwyrdd ar y safle.
Y morglawdd a’r pier ar ochr orllewinol y sgwâr uchod yn 2021 ac isod yn dangos gwymon brown yn hytrach na gwyrdd ar y safle.

Stormydd Nadolig 1924

Mae’r rhain yn edrych fel y pier a’r morglawdd ar yr ochr tua’r môr o’r sgwâr pan oedd pobl yn byw yn y pentref. O gasgliad Mary Hughes fel y dangosir yng Nghyfrol 2 County Wexford in the Rare Oul’ Times gan Nicholas Furlong a John Hayes (1987).
Mae’r rhain yn edrych fel y pier a’r morglawdd ar yr ochr tua’r môr o’r sgwâr pan oedd pobl yn byw yn y pentref. O gasgliad Mary Hughes fel y dangosir yng Nghyfrol 2 County Wexford in the Rare Oul’ Times gan Nicholas Furlong a John Hayes (1987).

Mae’r papurau newydd (sy’n cael eu cadw yn Llyfrgell Wexford) yn sôn am Noswyl Nadolig 1924 tan y bore wedyn ac yn cyfeirio at wynt de de orllewinol eithriadol gryf yn cyd-daro â llanw uchel ‘tair troedfedd yn uwch na’r llanw arferol’. Ar hyd y tafod, cafodd y bryniau tywod eu chwalu gan y môr, lefelwyd y cloddiau, trodd bryniau’n draethau, llifodd y môr o’r bae i mewn i’r harbwr mewn lle o’r enw Billy’s Gap, a dymchwelwyd tŷ a oedd eisoes wedi’i adael yn wag oherwydd yr erydiad yn gyfan gwbl bron. Am 8.30am roedd waliau'r tŷ peilot wedi cwympo wrth i donnau pwerus ymestyn dros y cloddiau a gorlifo’r lloriau isaf. Amlygodd asesiad peiriannydd o'r difrod bod y cyfathrebu dros y ffôn â gorsaf y bad achub wedi'i atal gan olygu ei bod yn anymarferol parhau. Adroddwyd hefyd bod gan Harbwr Wexford bedair mynedfa nawr gan fod tri bwlch yn y tafod tywod. Roedd y sylwadau’n crybwyll gostyngiad mwy graddol yn uchder Clawdd Dogger; roedd wedi bod yn chwe troedfedd uwchben y llanw uchel, yn gweithredu fel morglawdd yn amddiffyn y pentref.

Ardal yr orsaf peilot yn edrych i’r gogledd tuag at y tai ar y sgwâr yn y cefndir. Mae’r llun yn dangos y pwll tywod gyda’r môr wedi’i chwalu rhwng yr orsaf peilot a’r sgwâr. O gasgliad Larry Duggan fel y dangosir yng Nghyfrol 1 County Wexford in the Rare Oul’ Times gan Nicholas Furlong a John Hayes (1985).
Ardal yr orsaf peilot yn edrych i’r gogledd tuag at y tai ar y sgwâr yn y cefndir. Mae’r llun yn dangos y pwll tywod gyda’r môr wedi’i chwalu rhwng yr orsaf peilot a’r sgwâr. O gasgliad Larry Duggan fel y dangosir yng Nghyfrol 1 County Wexford in the Rare Oul’ Times gan Nicholas Furlong a John Hayes (1985).
Tŷ pren gyda simneiau brics wedi’i ddifrodi gan storm. Yr un ardal â’r llun blaenorol o’r orsaf peilot o bosibl uchod oherwydd deunyddiau tebyg. O gasgliad Larry Duggan fel y dangosir yng Nghyfrol 1 County Wexford in the Rare Oul’ Times gan Nicholas Furlong a John Hayes (1985).
Tŷ pren gyda simneiau brics wedi’i ddifrodi gan storm. Yr un ardal â’r llun blaenorol o’r orsaf peilot o bosibl uchod oherwydd deunyddiau tebyg. O gasgliad Larry Duggan fel y dangosir yng Nghyfrol 1 County Wexford in the Rare Oul’ Times gan Nicholas Furlong a John Hayes (1985).

Arolygu yn erbyn y llanw

O ble roeddem yn arolygu gallem weld tonnau'n torri dros nodwedd 200m i'r de orllewin, yn agos at y sianel fodern. Yn anffodus, ni allem ymweld oherwydd ei bod o dan ddŵr. Gallai'r rhain fod yn adfeilion tai neu'n ardal y Lanfa Peilot a'r Orsaf. Mae hyn yn dangos yr angen am fonitro parhaus wrth i fwy o nodweddion ddod i’r golwg.

Ar ôl ychydig oriau yn unig, roedd y llanw wedi troi a bu’n rhaid i ni bacio a dychwelyd i’r RIB a oedd wedi aros yn amyneddgar amdanom yn y sianel. Fe wnaethom dynnu rhai ffotograffau munud olaf ac adfer y marcwyr - roedd rhai ohonynt wedi eu gorchuddio eisoes gan y llanw yn codi.

Cofnodi lleoliad ein targedau wrth i'r môr ddychwelyd yn gyflym.
Cofnodi lleoliad ein targedau wrth i'r môr ddychwelyd yn gyflym.

Mae olion ac atgofion y gaer heddiw yn adrodd stori am gymuned forwrol brysur a chwaraeodd ran bwysig mewn achub bywydau a rheoli mynediad i Harbwr Wexford, ac a oedd hefyd yn pysgota ac yn hela adar gwyllt i wneud bywoliaeth. Roedd rhai pobl yn dod yma ar wyliau hefyd ac yn defnyddio'r gyrchfan fel lleoliad ar gyfer pysgota môr dwfn. Mae llawer o'r tai, y gaer o bosibl a hyd yn oed Tŵr Martello yr adroddwyd amdano, wedi’u gorchuddio o hyd gan y tywod. Pan fydd y llanw a'r tywod yn eu hamlygu, mae'r safle'n ein hatgoffa yn glir o bŵer y môr ac yn enghraifft o newid tirwedd oherwydd erydiad sy'n effeithio ar gymunedau. Mae’n sicr bod hyn wedi digwydd mewn sawl ardal yn Iwerddon dros y miloedd o flynyddoedd o fyw yn y wlad, ac ar hyd arfordiroedd yn fyd-eang. Fodd bynnag, wrth i lefel y môr godi, gyda mwy o wlybaniaeth, a’r stormydd difrifol a ragwelir gan newid yn yr hinsawdd, bydd llawer mwy o aneddiadau arfordirol yn cael eu heffeithio.

Yn ôl gartref rydym wedi dechrau cymharu hen ffotograffau a disgrifiadau o'r gaer â'r hyn a welsom yn ystod yr ymweliad â'r safle a'i gofnodi gyda drôn fel ein bod yn gallu dechrau dehongli'r adfeilion.
Yn ôl gartref rydym wedi dechrau cymharu hen ffotograffau a disgrifiadau o'r gaer â'r hyn a welsom yn ystod yr ymweliad â'r safle a'i gofnodi gyda drôn fel ein bod yn gallu dechrau dehongli'r adfeilion.

Cydnabyddiaeth

Diolch i Darina Tully am wybodaeth am y pentref, Gráinne Doran o Archifau Sir Wexford am adael i ni edrych drwy eu hen ffotograffau, a Chapten Gwasanaethau Morol Harbwr Wexford Phil Murphy ac Aidan Bates am fynd â ni yno. Fe wnaeth y disgrifiad o gynllun yr anheddiad ar wefan Cofio Bad Achub Rosslare helpu i ddehongli’r ardal roeddem wedi ei harchwilio.

Map Lleoliad

Read More →

Blogiau

Bronze Bell Wreck Dive

Bronze Bell Wreck Dive

Deifio at Longddrylliad y Bronze Bell

Ffilmio dyddiaduron deifio yn edrych allan i safle Bronze Bell.

Mae CHERISH wedi comisiynu MSDS Marine Marine i gwblhau gwaith archwilio, arolygu, ymchwilio, cofnodi a monitro ar longddrylliad y Bronze Bell, safle llongddrylliad sydd wedi cael ei fonitro a'i ddynodi yn flaenorol yn nyfroedd Cymru. Mae'r prosiect yma’n mynd â gwaith CHERISH o dan y dŵr i safle llongddrylliad gwarchodedig y Bronze Bell. Mae'r gwaith yn adeiladu ar arolwg blaenorol a gynhaliwyd gan ddeifwyr hamdden a chontractwyr archaeolegol eraill gyda phrosiect deifio pum niwrnod yn cael ei gynnal ym mis Medi 2021.

 

 

Bydd yr arolwg yn ceisio datgelu unrhyw dystiolaeth o newid i'r llongddrylliad, gan ganolbwyntio'n benodol ar newid a achosir gan newidiadau hinsoddol fel stormydd cynyddol. Bydd dyddiaduron fideo dyddiol o'r deifio gan y tîm yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd am y gwaith wrth iddo ddigwydd. Yn ystod y prosiect bydd cyfleoedd i ymweld â threlar allgymorth y tîm ym Mhwllheli i gael gwybod mwy am y gwaith a gweld beth mae'r tîm wedi'i ddarganfod.

 

Gwyliwch y gofod yma am fideos dyddiol gan y tîm.

Dive Diaries

Diwrnod 0 - Dydd Sul 12fed Medi

Ddydd Sul teithiodd tîm MSDS Marine, yng nghwmni criw ffilmio, i Abermaw i gwrdd ag un o'r tîm gwreiddiol a ddaeth o hyd i'r safle ddiwedd y 1970au. Roedd Geraint Jones yn llawn brwdfrydedd a gwybodaeth am y safle ac roedd yn gallu rhannu ei brofiadau gyda'r tîm. Mae'n awyddus iawn bod ei wybodaeth am y safle’n cael ei throsglwyddo i genhedlaeth newydd o ddeifwyr sy'n barod i ddeall y llongddrylliad ymhellach. Rhannodd ei brofiadau am y safle gyda ni a llwyddodd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r tîm gyda'i arsylwadau am sut oedd y safle wedi newid dros yr ugain mlynedd pan fu’n deifio i safle’r llongddrylliad. Mae'n credu bod y rhywogaethau ar y safle wedi newid dros amser ac mae'n credu bod hyn oherwydd newid yn yr hinsawdd a'r môr yn cynhesu.

 

Cawsom ein tywys o amgylch Amgueddfa Abermaw gan ddau o'r gwirfoddolwyr sy'n agor yr Amgueddfa i ymwelwyr. Nid yw'r Amgueddfa'n agor yn 2021 oherwydd Covid-19 ond mae'r tîm yn gobeithio bod yn ôl ar agor adeg y Pasg 2022. Mae'r Amgueddfa'n gartref i gasgliad gwych o ddeunyddiau o'r llongddrylliad gan gynnwys y Gloch Efydd a roddodd enw i'r llongddrylliad a llawer o eitemau hynod ddiddorol, o ynnau troi i bryf bach a ddaeth allan o goncrit. Gwarchodwyd llawer o'r darganfyddiadau gan Geraint ac mae eu cyflwr presennol yn dyst i'w sgiliau

Ymunodd Ian Cundy o Uned Ddeifio Archaeolegol Malvern (MADU) â ni hefyd. Mae Ian wedi bod yn ymwneud â'r safle ers blynyddoedd lawer. Ymwelodd y tîm â'r traeth yn Nhal-y-Bont a llwyddo i edrych allan ar y safle sydd ond ychydig gannoedd o fetrau o'r lan. Wedyn ymunodd Ian â thîm MSDS Marine yn eu llety ym Mhwllheli a threuliodd y noson yn rhannu ei wybodaeth am y safle ac yn ennyn brwdfrydedd y tîm am y llongddrylliad.

 

Erbyn diwedd y dydd roedd y tîm wedi sicrhau dealltwriaeth well o lawer o safle'r llongddrylliad, a'i hanes, ac yn awyddus i fynd allan i ddeifio drannoeth. Hoffem fanteisio ar y cyfle yma i ddiolch i Geraint, Ian, Alan a John am eu hamser a'u parodrwydd i rannu eu gwybodaeth a'u profiad.

Diwrnod 1 - Dydd Llunfed Medi

Cyfarfu'r tîm â’r cwch i gefnogi’r deifio, SeeKat C, yn Hafan Pwllheli. Roedd y Capten, Jon Shaw, wedi dod â'r cwch o Amlwch y noson gynt. Llwythwyd yr offer ar fwrdd y cwch a chychwynnodd y tîm i'r safle. Mae'r llongddrylliad wedi'i lleoli fwy nag awr ar y môr o Bwllheli, sy'n siwrnai hirach fyth oherwydd rîff Sarn Bardrig sy'n gofyn am daith hirach o'i chwmpas er mwyn osgoi taro’r ddaear.


Mae'r tîm i gyd wedi llwyddo i ddeifio at y llongddrylliad i gael cyfeiriadedd ac i ddechrau deall y llongddrylliad yn ogystal â chwblhau nifer o dasgau. Mae'r llongddrylliad mewn 10m o ddŵr sy'n gymharol fas ac yn galluogi i'r deifwyr dreulio hyd at 232 munud yn y gwaelod heb fod angen unrhyw seibiau datgywasgu. Archwiliodd y tîm deifio cyntaf, sef Tom a Jess, y safle cyfan a dechrau tynnu lluniau fideo o ansawdd uchel ar draws y llongddrylliad, a fydd yn cael eu defnyddio yn y trelar allgymorth yr wythnos yma yn ogystal ag yn ystod ymweliadau ag ysgolion.


Jenny a Simon oedd yr ail don o ddeifwyr ac roeddent wedi bod yn rhan o'r tîm o Wessex Archaeology wnaeth arolygu’r safle yn 2004. Roedd y deifio’n gyfle iddynt wneud arsylwadau am sut mae'r safle wedi newid yn ystod y ddwy flynedd ar bymtheg ddiwethaf yn ogystal â chasglu samplau dŵr môr ar gyfer profi pH. Bydd y tîm yn cymryd llawer o samplau i'w profi yr wythnos yma fel rhan o'r gwaith o gasglu data sylfaen i alluogi ymchwilwyr y dyfodol i fonitro effeithiau newid yn yr hinsawdd. Yn ystod y sesiwn deifio olaf gwelwyd Tom yn mynd yn ôl i'r dŵr gyda Felix. Mae Felix yn arbenigwr ffotogrametreg tanddwr ac wrth ddeifio llwyddodd i gasglu lluniau o'r blociau marmor sy'n ffurfio'r twmpath cargo. Heno fe fydd yn dechrau prosesu'r ffilm a bydd y tîm yn rhannu hyn yn ystod y dyddiau nesaf.


Mae’r gyda’r nosau’n amser prysur wrth gymryd rhan mewn prosiect deifio; mae angen llenwi silindrau, mae angen cwblhau gwaith papur, mae angen golygu fideos, mae angen prosesu ffotogrametreg ac mae angen cynllunio tasgau’r diwrnod canlynol. Cadwch mewn cysylltiad am fwy gan y tîm fory yn ogystal â'r dyddiadur fideo cyntaf.

Diwrnod 2 - Dydd Mawrth 14fed Medi

 

Yn ystod ein hail ddiwrnod yn deifio at y llongddrylliad, cafwyd heulwen hyfryd a oedd yn newid braf i law y dyddiau blaenorol ac roedd yn ddechrau da i’r tîm oedd wedi aros ar eu traed yn prosesu data tan oriau mân y bore. Fe ostegodd y gwynt hefyd o gymharu â'r diwrnod cynt a chwblhaodd tair ton o ddeifwyr bron i chwe awr o dan y dŵr ar y llongddrylliad. Mae natur fas y safle’n galluogi’r deifwyr i dreulio cyfnodau hirach ar wely'r môr na mewn safleoedd dyfnach.

 

Yn ystod y don gyntaf o ddeifio, dechreuodd Tom a Jess, dynes camera danddwr broffesiynol, dynnu lluniau o bwyntiau allweddol ar y llongddrylliad, gan efelychu'r rhai a dynnwyd gan Wessex Archaeology yn 2004 yn ogystal â sefydlu pwyntiau monitro newydd. Parhaodd yr ail dîm deifio, sef Simon a Felix, â'r ffotogrametreg ar draws y safle. Ar ôl cwblhau'r twmpath cargo y diwrnod blaenorol, roedd y tîm bellach yn canolbwyntio ar ardal gyda sawl canon ac angor yn bresennol. Fe wnaeth y tîm deifio olaf, Tom a Jenny, ddechrau cynnal arolwg o’r fflora a’r ffawna morol sy'n bresennol ar y safle, yn ogystal â chasglu mwy o samplau pH. Bydd y data sylfaen yma’n bwysig ar gyfer monitro effeithiau newid yn yr hinsawdd ar y safle ymhen blynyddoedd i ddod.

 

Wrth i ni baratoi i godi ein hangor cafodd y cwch ei amgylchynu gan haid o slefrod môr casgen yn amrywio o rai bach iawn, dim ond ychydig gentimetrau o led, i rai enfawr dros hanner metr o hyd. 

Diwrnod 3 Dydd Mercher 15fed Medi

 

Dechreuodd y trydydd diwrnod ar y safle yn dda iawn gyda'r cyfle i agor trelar Cwch Treftadaeth MSDS Marine i'r cyhoedd i siarad am ein gwaith ar y llongddrylliad. Mae gan y trelar lawer o weithgareddau i blant roi cynnig arnyn nhw yn ogystal â theledu sy'n dangos ein dyddiaduron fideo dyddiol. Mae hefyd yn gweithredu fel canolbwynt gwybodaeth ar y lan i ddod â'n gwaith o dan y dŵr i gynulleidfa ehangach ac i roi cyfle i bobl gwrdd â'r tîm a gofyn cwestiynau.

 

Allan ar y llongddrylliad roedd yn ddiwrnod gwych arall o ran y tywydd ond cawsom amodau ychydig yn waeth o dan y dŵr gyda llai o welededd a oedd yn golygu bod ein deifwyr ond yn gallu gweld am bellteroedd byrrach yn unig. Er gwaethaf hyn, fe wnaethom lwyddo i gael chwe awr yn y dŵr yr un fath! Cwblhaodd y tîm cyntaf i fynd i mewn i'r dŵr, Tom a Jess, y lluniau monitro a fydd yn galluogi cymharu cyflwr y llongddrylliad â'r ymweliad gan Wessex Archaeology yn 2004 yn ogystal â gweithredu fel llinell sylfaen yn y dyfodol ar gyfer gwaith monitro pellach. Mae ein deifwyr wedi gweld nifer o dagiau monitro o arolwg 2004 o amgylch y safle. Hefyd cwblhaodd Tom nifer o fesuriadau o ganon ar y safle i helpu i ddiweddaru cynllun y safle ac i fireinio ei fanwl gywirdeb. Tua diwedd y deifio gwelodd Tom fag plastig ar wely'r môr sy'n dystiolaeth o lygredd plastig morol ar y safle.

 

Cwblhaodd yr ail dîm deifio ddwy dasg; cwblhaodd Felix y ffotogrametreg a chymerodd Simon samplau pH a helpu'r tîm ar yr wyneb i raddnodi a gwirio'r system tracio deifwyr. Mae'r holl ddeifwyr yn y tîm yn cael eu tracio gan ddefnyddio system Sonardyne Micro Ranger. Llwyddodd Mark, ein goruchwyliwr deifio, i gyfeirio Simon o'r wyneb i gynorthwyo Phoebe gyda’i gwaith ar y GIS a thracio. Cafodd Simon y dasg o nofio i nifer o leoliadau o amgylch y twmpath cargo i raddnodi’r system ac i wirio manwl gywirdeb y system. Roeddem yn falch iawn o allu dangos bod y system yn gweithredu gyda manwl gywirdeb rhagorol.

 

Yn ystod y don olaf o ddeifwyr gwelwyd Jenny a Jess yn deifio ar y safle i wella ein gwybodaeth am y fflora a'r ffawna morol sy'n bresennol ar draws y llongddrylliad. Mae hon yn astudiaeth bwysig a fydd yn galluogi i ni ddechrau deall sut gallai newid yn yr hinsawdd effeithio ar y safle yn y dyfodol. Ymhlith y rhywogaethau a welwyd roedd nifer o dwmpotiaid, gwrachen resog, mathau amrywiol o wymon a chwrel cwpan posib.

 

Diwrnod 4 - Dydd Iaufed Medi

Our fourth day on the wreck saw us joined by a team from Channel 4 news. They are interested in the work of CHERISH in relation to climate change and were keen to find out more about our work on the Bronze Bell wreck site. They interviewed members of the team and found out more about our work. Watch Channel 4 news next week to see if you can spot the team!

 

Parhaodd Felix â'i fodelu ffotogrametreg ar draws y llongddrylliad, gan dynnu miloedd o luniau mewn ardal i'r dwyrain o'r safle yr oedd arnom eu hangen i gwblhau'r model. Yn cadw cwmni iddo roedd y ddynes camera danddwr broffesiynol, Jessica Mitchell. Cafodd Jess y dasg o dynnu lluniau o ansawdd uchel o’r arolwg ar waith yn ogystal â thynnu lluniau o'r llongddrylliad ei hun. Bydd Felix yn gwneud y gwaith prosesu cychwynnol ar y ffotogrametreg heno ond bydd y modelau terfynol yn cymryd nifer o wythnosau i'w prosesu unwaith y bydd y tîm yn ôl yn y swyddfa gyda chyfrifiaduron prosesu pwrpasol.

 

Bu Tom, Simon a Jenny yn cofnodi’r canon i'r gorllewin o'r twmpath cargo yn fanwl. Bydd deall union ddimensiynau'r canon yn galluogi'r tîm i ddarganfod mwy amdano, gan gynnwys ein helpu i ddeall ei ddyddiad a ble cafodd ei wneud. Mae ein protocolau deifio’n golygu mai dim ond dau ddeifiwr all fod yn y dŵr ar unrhyw un adeg. Tom a Simon ddeifiodd gyntaf ac wedyn Jenny a Simon oedd yn rhan o sesiwn deifio olaf y dydd.

 

Unwaith eto fe wnaethom ni gwblhau chwe awr o amser yn y gwaelod heddiw. Efallai nad yw hyn yn ymddangos yn llawer ond mae logisteg prosiect deifio’n golygu bod hwn mewn gwirionedd yn gyflawniad da iawn gan y tîm. Mae'r tywydd yn edrych yn ansefydlog iawn fory ac rydym yn ansicr a fyddwn yn gallu mynd yn ôl allan at y llongddrylliad ar gyfer ein diwrnod olaf. Mae hyn yn hynod rwystredig i'r tîm ond rydym yn hyderus ein bod wedi cyflawni cryn dipyn yn ystod y pedwar diwrnod rydym wedi'u treulio ar y llongddrylliad hyd yn hyn.

 

Diwrnod 5 - Dydd Gwenerfed Medi

Cafodd ein diwrnod olaf ar y llongddrylliad ei ddifetha gan y tywydd! Oherwydd gwyntoedd cryfion nid oedd posib i ni gyrraedd y cwch allan o farina Pwlhelli i gyrraedd y safle. Roedd y tîm wedi rhagweld hyn ddoe ond mae bob amser yn rhwystredig o hyd pan nad ydych chi’n gallu deifio. Er gwaethaf hyn, mae'r tîm wedi cyflawni ein holl flaenoriaethau ar gyfer yr wythnos a mwy! Yn ystod yr wythnosau nesaf byddwn yn gallu rhannu model ffotogrametreg gyda'r cyhoedd fel bod mwy o bobl yn gallu gweld sut mae'r llongddrylliad yn edrych o dan y dŵr.

 

Ond ni chafodd y diwrnod ei wastraffu oherwydd roedd gennym raglen brysur o ymweliadau ysgol ac allgymorth wedi'i chynllunio. Ymwelodd rhai o'r tîm ag ysgol gynradd leol, Ysgol Gynradd Abererch, i siarad am archaeoleg danddwr a gwaith CHERISH ar longddrylliad y Bronze Bell. Roedd brwdfrydedd y plant a'r cwestiynau oeddent yn eu holi i’r tîm yn arbennig iawn. Fe gafodd y plant i gyd gyfle i roi cynnig ar offer deifio a gorffen drwy wneud bathodyn wedi'i ysbrydoli gan y Bronze Bell i fynd adref i gofio am yr ymweliad. Bydd yr ysgol yn dilyn yr ymweliad y tymor yma gyda rhaglen waith yn edrych ar longddrylliadau lleol.

 

Agorodd aelodau eraill y tîm drelar Cwch Treftadaeth MSDS Marine. Cafodd y trelar yr enw Cwch Treftadaeth neu Heritage Hive ar ôl sylw gan aelod o'r cyhoedd bod y tîm yn edrych fel gwenyn prysur yn eu crysau-t melyn a du nodedig. Roedd cyfle i siarad ag aelodau'r cyhoedd oedd yn pasio am ein gwaith yr wythnos yma a gwaith CHERISH ar safleoedd eraill. Roeddem yn falch iawn o siarad â chlwb deifio o Southport sy'n ymweld â'r ardal yn rheolaidd ac rydym wedi eu hannog i wneud cais am drwydded i ymweld â'r llongddrylliad. Gallai ymweliadau â'r safle gan grwpiau fel hyn fod yn adnodd defnyddiol ar gyfer rheoli’r safle yn y dyfodol.

 

Parhaodd aelodau olaf y tîm i olygu’r fideos yn y dyddiaduron deifio terfynol a phrosesu'r ffotogrametreg. Gall y prosesu ffotogrametreg gymryd wythnosau i'w gwblhau. Mae’r gwaith deifio yr wythnos yma wedi arwain at fwy na 7,500 o luniau sydd wedi'u tynnu ar draws y llongddrylliad. Rydym wedi rhoi sylw i ardal 46m x 30m - rhan sylweddol o'r safle! Bydd Felix yn parhau â'r prosesu unwaith y bydd yn dychwelyd i'r swyddfa'r wythnos nesaf.

 

Fory byddwn yn mynd adref i ganolfan MSDS Marine yn Sir Derby ond mae llawer mwy o waith i'w wneud o hyd ar gyfer CHERISH ar y safle. Cadwch mewn cysylltiad am fwy o fideos, modelau ac adroddiadau deifio!

Map Lleoliad

Read More →

Blogiau

CLODDIO CASTELL A CHAER BENTIR FERRITERS

Cylchlythyr

Cyflwyniad

Mae tîm CHERISH yn bwriadu gwneud gwaith cloddio archaeolegol yng Nghastell a Chaer Bentir Ferriter unwaith y bydd y cyfyngiadau presennol yn caniatáu hynny. Mae'r safle wedi'i leoli ar Benrhyn Ballyferriter, Dingle yn Sir Kerry. Mae Trwyn Doon (Dún an Fheirtéaraigh) yn bentir hir, cul sy'n ymestyn ychydig dros bum can metr o'r gogledd ddwyrain i'r de orllewin. Mae’r golygfeydd hardd o'r safle hwn yn cynnwys Trwyn Sybil i'r gogledd ac Ynysoedd Blasket i'r gorllewin. Mae’r gaer gynhanes yma’n un o 95 o geyrydd pentir arfordirol yn Sir Kerry, ac yn un o 508 o geyrydd o’r fath sydd wedi’u cofnodi o amgylch arfordir Iwerddon. Mae ceyrydd pentir yn cael eu heffeithio’n drwm gan erydiad ac felly mae prosiect CHERISH yn gwneud gwaith cloddio ar y safle rhyfeddol hwn er mwyn dysgu mwy am y math yma o safle archaeolegol Gwyddelig. Mae Caer Bentir Ferriter yn uniongyrchol i’r gogledd o’r safle cyfnod pontio Mesolithig Neolithig yng Nghildraeth Ferriter, a gloddiwyd yn y 1980au. Mae gan gloddio botensial i ddatgelu’r defnydd cyffrous iawn o’r pentir hwn dros filoedd o flynyddoedd. Bydd y cloddio’n adeiladu ar ein hymchwiliadau cychwynnol yng Nghaer Bentir Ferriter a oedd yn cynnwys arolwg drwy gerdded ar y safle, modelu tir manwl drwy fapio drôn ac arolwg geoffisegol gan ddefnyddio gradiometreg fagnetig ac arolygon gwrthedd. Mae canlyniadau'r arolygon hyn wedi llywio ein cynlluniau ar gyfer cloddio, gan nodi anomaleddau o ran topograffeg yr arwyneb a gwneuthuriad yr is-arwyneb, sydd â photensial i fod o wneuthuriad dyn.
Golygfa o'r awyr o Gaer Bentir a Chastell Ferriter, lle bydd gwaith cloddio CHERISH yn digwydd yr haf hwn.
Golygfa o'r awyr o Gaer Bentir a Chastell Ferriter, lle bydd gwaith cloddio CHERISH yn digwydd yr haf hwn.

Amddiffynfeydd y Safle

Mae'r ddwy gyfres o amddiffynfeydd ar y gaer bentir hon wedi'u lleoli lle mae dau gildraeth naturiol yn digwydd gan rannu'r pentir yn ddwy adran wahanol. Cafodd y ddau wddf yma o dir eu defnyddio a'u gwella gan adeiladwyr y gaer hon gyda chyfres o gloddiau a ffosydd, i ffurfio cyfres allanol a mewnol o amddiffynfeydd. Bydd y tîm yn edrych ar yr amddiffynfeydd hyn wrth gloddio i ddeall sut a phryd cawsant eu hadeiladu, yn ogystal â dysgu rhywbeth gobeithio am y bobl a'u hadeiladodd ac a oedd yn byw yn y gaer hon. Bydd y tîm yn cofnodi ac yn samplu deunyddiau adeiladu'r cloddiau a'r ffosydd i nodi gwahanol gyfnodau'r gwaith adeiladu, yn ogystal â'r dulliau a'r deunyddiau a ddefnyddiwyd wrth eu hadeiladu. Rydym yn gobeithio defnyddio dulliau dyddio gwyddonol i ddyddio rhai o'r cyfnodau deiliadaeth a/neu adeiladu.
Mae'r gyfres fewnol o amddiffynfeydd, gwaith carreg i'w gweld ar glawdd mewnol y clawdd dwbl yma o amddiffynfeydd
Mae'r gyfres fewnol o amddiffynfeydd, gwaith carreg i'w gweld ar glawdd mewnol y clawdd dwbl yma o amddiffynfeydd

Safleoedd Cytiau

Yn y bymthegfed neu'r unfed ganrif ar bymtheg, ailddefnyddiwyd y gaer pan adeiladodd y teulu Eingl-Normanaidd, Ferriter, gastell ar glawdd mewnol yr amddiffynfeydd allanol. Roedd y tŷ tŵr hwn yn wreiddiol yn dŵr petryal 4 i 5 llawr gyda’r teulu Ferriter yn byw ynddo tan yr ail ganrif ar bymtheg. Mae Castell Ferriter wedi’i adeiladu ar glawdd mewnol amddiffynfeydd allanol y gaer. Mae'r castell wedi'i gofnodi mewn manylder uwch gan arolwg sgan laser 3D. Mae hyn yn rhoi union gofnod o'r castell adeg yr arolwg, ac yn caniatáu i'r tîm fonitro unrhyw newidiadau sy'n digwydd i'r castell. Bydd cloddio yn y rhan hon o'r gaer yn canolbwyntio ar safleoedd y tai petryal, y credir eu bod yn gysylltiedig â'r gweithgarwch canoloesol diweddarach ar y safle. Bydd ffos yn cael ei chloddio i amlygu lefel yr hen lawr adeg eu deiliadaeth ac i weld pa fath o waith adeiladu a ddefnyddiwyd i'w hadeiladu. Gall hyn ein galluogi i benderfynu sut mae'r strwythurau hyn yn berthnasol i’r tŷ tŵr a'i ddeiliaid. Mae ffynnon wedi’i chofnodi yn y rhan hon o’r safle, a bydd craidd yn cael ei ddefnyddio i benderfynu ai ffynnon yw hi mewn gwirionedd, er mwyn casglu deunydd ar gyfer ymchwiliadau palaeo-amgylcheddol.
Arolwg Sgan Laser CHERISH yng Nghastell Ferriter, Mehefin 2018.
Arolwg Sgan Laser CHERISH yng Nghastell Ferriter, Mehefin 2018.
Yn ail ran y gaer, ceir nifer o safleoedd cytiau a phantiau is-gylchol. Mae erydiad yn effeithio'n drwm ar y nodweddion archaeolegol hyn oherwydd eu lleoliad ar ochr y clogwyni ac felly mae'n bwysig iawn bod y tîm yn cael cymaint o wybodaeth â phosibl am y math hwn o safle cyn iddynt gael eu bwyta i gyd gan y môr. Bydd y tîm yn cloddio un o'r safleoedd cytiau mwy yn llawn, ac nid yw'r enghraifft a ddewiswyd wedi'i lleoli ar hyd ymyl y clogwyn, i ddarparu amgylchedd gwaith diogel i'r tîm. Bydd yr ymchwiliadau hyn yn galluogi i ni ddeall natur gwaith adeiladu'r strwythurau hyn yn ogystal â phryd a pham yr adeiladwyd y safleoedd cytiau hyn. Mae'r pantiau is-gylchol yn yr ardal hon yn nodweddion anarferol, a bydd y ffosydd cloddio yn y nodweddion hyn yn galluogi i ni benderfynu a ydynt wedi'u gwneud gan ddyn neu'n ddaearegol. Os ydynt yn nodweddion a wnaed gan ddyn byddwn yn eu cofnodi a’u samplu i ateb yr un cwestiynau ag yr ydym wedi'u gofyn am y nodweddion archaeolegol eraill yn y gaer hon. Yn ystod y cloddio efallai y byddwn yn datgelu arteffactau sydd wedi'u claddu am gannoedd o flynyddoedd, neu filoedd mewn rhai achosion. Os ydym yn ddigon ffodus i ddatgelu arteffactau gallent daflu goleuni ar y gwahanol gyfnodau o ddefnydd o'r safle hwn, a rhoi cipolwg i ni efallai ar y math o bobl a oedd yn byw yn y lleoliad hardd ond agored hwn.
Archaeolegydd y prosiect Ted Pollard yn cynnal arolwg geoffisegol o'r safle yn 2019.
Archaeolegydd y prosiect Ted Pollard yn cynnal arolwg geoffisegol o'r safle yn 2019.
Mae tîm CHERISH yn ddiolchgar iawn i Dennis Curran am roi caniatâd i ni weithio ar ei dir, am ei gyfeillgarwch a'i haelioni yn ystod y gwaith arolygu, ac am y cyfoeth o wybodaeth leol mae wedi'i rhannu â'r tîm.

Map Lleoliad

Read More →
cyCY