Newyddion, Newyddion Prosiect

Estynnwch am eich esgidiau cryf, byddwch yn barod am antur … a dechreuwch gloddio!

Cylchlythyr

Ydych chi wedi bod eisiau cymryd rhan mewn cloddio archaeolegol erioed? Dod o hyd i drysor wedi’i gladdu a dysgu am y gorffennol….

Yn dilyn llwyddiant cloddio cymunedol CHERISH yng Nghaer Bentir Caerfai ger Tyddewi yn Sir Benfro y llynedd, mae’r tîm wedi cyffroi am gynnig cyfle arall i ymchwilio i’r safle.

Rhwng Medi’r 3yddydd - 18fed 2022, mae DigVentures yn trefnu ail dymor o gloddio yng Nghaerfai. Bydd yr ysgol faes yn addysgu sgiliau cloddio, sut i ddod o hyd i nodweddion archaeolegol ac ymchwilio i effeithiau newid yn yr hinsawdd.  

Mae prosiect CHERISH yn cynnig 4 lle wedi’u cyllido i fyfyrwyr 17+ oed sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn archaeoleg neu bobl sy’n ddi-waith ar hyn o bryd ac yn chwilio am gyfleoedd hyfforddi. Mae pob lle yn werth £700 ac yn cyllido wythnos o gloddio. Ni allwn ddarparu llety ac yn ddelfrydol rhaid i’r ymgeiswyr fyw yn Sir Benfro hefyd.   

Os hoffech chi wneud cais, anfonwch baragraff byr [300 gair ar y mwyaf] ynghylch pam yr hoffech fynychu’r ysgol faes. Bydd gofyn i chi hefyd ysgrifennu blog a negeseuon ar gyfer cyfryngau cymdeithasol yn ystod eich cyfnod yn cloddio. Byddwch yn cael eich cefnogi gyda hyn gan dîm CHERISH.   

Gwaith Cloddio Caerfai Medi 2021 - montage o'r holl wirfoddolwyr a’r staff dan sylw

Mae manylion yr ysgol faes ar gael yma https://digventures.com/projects/caerfai/

Er gwybodaeth:

Dig Ventures yw Ysgol Faes Achrededig gyntaf Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr gyda chwricwlwm ysgol faes pwrpasol a strwythuredig i hyfforddi gwirfoddolwyr ym mhob agwedd ar y broses gloddio a chefnogi’r Pasbort Sgiliau Archaeoleg.

Anfonwch eich cais ar e-bost i cherish@cbhc.gov.uk gan gofio cynnwys eich enw, cyfeiriad a nodi ai myfyriwr neu berson di-waith ydych chi ar hyn o bryd. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau - Dydd Gwener 5 Awst

 

Byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi ar y safle!  

Map Lleoliad

Read More →

Newyddion

TEITHIAU CERDDED A DIGWYDDIADAU TREFTADAETH HINSAWDD CHERISH

Read More →

Blogiau, Newyddion Prosiect

Llongddrylliad ‘The Albion’

Cylchlythyr

Roedd ‘Fyddet ti’n hoffi treulio’r diwrnod gyda ni ar y traeth ym Marloes, yn arolygu llongddrylliad yr Albion?’ yn wahoddiad na allwn i ei wrthod. Fis wedi i mi gael fy mhenodi i fy rôl newydd fel Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata gyda phrosiect CHERISH, dyma gyfle euraidd i weld y tîm ar waith yn y maes, yn gwneud yr hyn maent yn ei wneud orau. 

Felly i ffwrdd â ni – tîm o 6 o faes parcio Marloes yn Sir Benfro, yn rhannu’r offer rhwng pawb ac yn anelu am yr arfordir. Fe wnaethon ni gerdded drwy gae o ddefaid syn, at Lwybr yr Arfordir, a chyfle i ryfeddu at rai o olygfeydd mwyaf godidog Sir Benfro. Fe wnaeth yr haul ymddangosiad prin ar gyfer dechrau mis Chwefror hefyd ac roedd yn teimlo'n dda cael bod allan yn yr awyr agored.

Roedd y stop cyntaf ar ben y clogwyn gyferbyn ag Ynys Gateholm – traeth Marloes i’r chwith ac i’r dde, ein cyrchfan, Traeth Albion, sydd wedi’i enwi ar ôl y llongddrylliad yr oeddem ar fin ymweld ag ef a’i arolygu. Ar ôl tynnu lluniau wrth gwrs, dyma droi yn syth at y gwaith. Mewn llecyn ansicr, yn uchel uwchben y tonnau, dechreuodd Louise Barker, uwch ymchwilydd archaeolegol gyda phrosiect CHERISH, ddrilio twll bach yn y graig.  

Yr archaeolegydd Louise Barker yn drilio i wyneb y graig yn uchel uwchben y tonnau
Yr archaeolegydd Louise Barker yn drilio i wyneb y graig yn uchel uwchben y tonnau

“Mae hwn yn rhan bwysig o’n prosiect ni” eglurodd, “gosod marcwyr arolygu ar ein safleoedd ni, er mwyn gwella’r monitro arfordirol yn y dyfodol. Bydd y marcwyr yma’n ei gwneud yn haws i arolygwyr ddychwelyd ac ailadrodd arolwg gan eu galluogi i fonitro newid yn fanwl gywir o fewn ychydig gentimetrau.” 

Gyda’r marciwr metel bach yn ei le, roedd yn ddringfa serth i lawr i’r traeth, gyda chlogfeini mawr wedi’u gorchuddio gan wymon yn darparu her ychwanegol cyn i ni gyd gyrraedd y tywod o’r diwedd. Roedd y diwrnod wedi cael ei ddewis oherwydd ei lanw arbennig o isel ac roedd y tonnau eisoes yn cilio. Roedd yr archaeolegwyr morwrol Julian Whitewright a Jack Pink, sydd hefyd yn geoffisegydd, eisoes yn brasgamu ar hyd y traeth, yn marcio gridiau ar gyfer yr arolwg. 

“Does neb yn gwybod faint o’r llongddrylliad sydd wedi goroesi a faint o falurion sydd wedi’u gwasgaru ar draws y traeth. Fe ddylai'r arolwg geoffiseg yma ddatgelu maint y llongddrylliad” esboniodd Julian. 

Yr Archaeolegydd Morwrol Jack Pink gyda'r magnetomedr, Toby Driver yn paratoi i hedfan y drôn
Yr Archaeolegydd Morwrol Jack Pink gyda'r magnetomedr, Toby Driver yn paratoi i hedfan y drôn

Roeddem yn gallu gweld rhan o'r llong eisoes - polyn haearn mawr i'w weld uwchben y tonnau. Stemar oedd yr Albion, yn teithio rhwng Dulyn a Bryste ym mis Mai 1837, yn cario cargo o 50 o deithwyr, tua 400 o foch [mae’r nifer yn amrywio yn ôl wrth bwy rydych chi’n gofyn!] ac ychydig o geffylau. Roedd Capten Bailey wedi addo taith gyflym i’w deithwyr ac wedi gwneud y penderfyniad mentrus i hwylio drwy Swnt Jac yn lle’r llwybr arferol o amgylch cefn Ynys Sgogwm. Mae'r straeon yn amrywio, ond tarodd y llong graig a dechreuodd gymryd dŵr ar ei bwrdd, gan orfodi'r capten i wneud y penderfyniad i lywio’r llong i'r tir. Tarodd draeth Marloes tua 5pm.

Fe oroesodd pawb, er na lwyddodd y moch i gyd i gyrraedd pen y clogwyn yn ddiogel – fel golygfa o’r ffilm ‘Whisky Galore!’, mae adroddiadau ei bod yn flwyddyn dda am gig moch yn ardal Marloes! 

Crancsiafft yr Albion i'w weld uwchben y tonnau
Crancsiafft yr Albion i'w weld uwchben y tonnau

Heddiw, mae gweddillion yr Albion yn cynnwys ffrâm haearn yr olwyn rodli, y plymiwr o'r pwmp gwactod, gwialen piston a llawer mwy, yn gorwedd o dan y tywod. Roedd y stemar tua 160 troedfedd o hyd yn wreiddiol – tua hyd 3 cherbyd rheilffordd, a byddai wedi chwyldroi teithio rhwng Iwerddon a thir mawr y DU – gan leihau’r amser i daith 20 awr. 

“Mae’n lleoliad anodd ei gyrraedd ond mae’n werth yr ymdrech oherwydd dyma un o’r llongddrylliadau stemar cynharaf yn y DU” meddai Julian, “hyd y gwyddom, dyma un o’r arolygon geoffisegol cyntaf o longddrylliad ar draeth yng Nghymru. Drwy fapio'r safle, gallwn ddeall mwy am y llong a beth ddigwyddodd iddi. Mae ychydig fel jig-so ond dydych chi ddim yn gallu gweld yr holl ddarnau ac maen nhw’r ffordd anghywir!”

Piston o un o bympiau gwactod y llong
Piston o un o bympiau gwactod y llong

Roedd Dr Toby Driver yn brysur ar y traeth hefyd, yn paratoi i hedfan drôn uwchben safle’r llongddrylliad. Byddai hyn yn darparu gwybodaeth hanfodol am faint y safle. 

“Mae tua 6000 o longddrylliadau wedi’u gwasgaru o amgylch arfordir Cymru – ond dim ond 6 ohonyn nhw sy’n llongddrylliadau gwarchodedig. Dyma un o amcanion prosiect CHERISH – argymell mwy o’r safleoedd hyn i’w dynodi’n henebion gwarchodedig oherwydd eu bod yn rhan mor bwysig o’n treftadaeth arfordirol.”

Chris Jessop a Lousie Barker ar safle'r llongddrylliad
Chris Jessop a Lousie Barker ar safle'r llongddrylliad

Wrth i’r llanw fynd allan, roedd mwy o’r llongddrylliad yn dod i’r golwg – nes bod modd gweld y crancsiafft i gyd a’r ffrâm a fyddai wedi bod yn gartref i injan y llong. Daeth y cynghorydd cymuned lleol i ymuno â ni, gŵr sydd â diddordeb mawr yn yr Albion, Chris Jessop, sydd wedi treulio oriau lawer yn astudio’r llongddrylliad a’i hanes. Roedd Chris yn beiriannydd drwy hyfforddiant ac mae'n disgrifio ei hun fel archwiliwr traethau brwd. 

“Mae darnau o’r llongddrylliad yn dal i ddod i’r lan – ac mae pren o’r llong ar y traeth o hyd. Pan fydd llanw arbennig o isel, rydw i’n dod i lawr yma i dynnu mwy o luniau. Drwy ein hymchwil ni, rydyn ni hefyd wedi darganfod replica gweithredol o'r llong yn Sweden sydd â'r un injan â'r Albion hyd yn oed. Mae hefyd fodel o’r Albion yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Llundain, yr hyn y bydden nhw wedi’i alw’n ‘fodel ystafell fwrdd’ i ddangos i fuddsoddwyr sut yn union y byddai’r llong yn cael ei hadeiladu.”

Lousie Barker a Hannah Genders Boyd yn y safle arolygu uwchben Traeth Albion
Lousie Barker a Hannah Genders Boyd yn y safle arolygu uwchben Traeth Albion

Hwn hefyd oedd yr ymweliad cyntaf â safle llongddrylliad ar gyfer aelod newydd arall o dîm CHERISH. Dechreuodd yr archaeolegydd Hannah Genders Boyd yr un pryd â mi, ond yn gweithio fel dadansoddwr data gyda CHERISH, gan ddod i Gymru o Brifysgol Caeredin lle bu’n gweithio fel cynorthwy-ydd ymchwil.     

“Mae hwn yn gyfle gwych i weld treftadaeth hinsawdd ar waith – drwy gynnal arolwg o’r safle yma, fe allwn ni godi proffil y llongddrylliad a’r gobaith yw cael cydnabyddiaeth o’i bwysigrwydd cenedlaethol. Mae’r llongddrylliad yn erydu yn yr holl ddŵr hallt, felly mae’n ras yn erbyn amser i fonitro’r safle. Mae heddiw yn bendant yn un o’r dyddiau ‘Rydw i wrth fy modd yn fy swydd’!”  

Roedd yn ras yn erbyn y llanw i gwblhau'r holl waith arolygu. Roedd Jack Pink o Brifysgol Southampton yn cyflymu pethau, yn brasgamu ar draws y traeth yn ‘gwisgo’ magnetomedr – ffrâm siâp pyst rygbi, y cit geoffiseg ar gyfer cofnodi nodweddion archaeolegol o dan y tywod.

“Mae hyn yn cŵl iawn. Rydw i bob amser yn mynd yn nerfus pan fydd llawer o fetel ar safle, ond rydyn ni wedi gorchuddio ardal dda heddiw. Rydyn ni wedi gorfod rasio yn erbyn un o’r rasys llanwol cyflymaf yn y byd, ond rydw i’n falch o ddweud bod fy nhraed i dal yn sych!”

Llongddrylliad yr Albion ar lanw isel
Llongddrylliad yr Albion ar lanw isel

Gyda’r llanw’n troi a’r tonnau’n dechrau gorchuddio’r llongddrylliad a’i holl gyfrinachau eto, roedd yn amser troi am adref dros y clogfeini ac i fyny’r llwybr serth i ben y clogwyn. Roedd yr haul i’w weld o hyd, yn disgleirio ar y dŵr. Cwblhawyd diwrnod da o waith maes, gyda’r canlyniadau eto i ddod. 

Trysor wedi’i gladdu ar draeth yng Nghymru – sy’n dal i ddatgelu ei hanes 185 mlynedd ar ôl cyrraedd ei orffwysfan terfynol yn Sir Benfro.      

Map Lleoliad

Read More →

Blogiau

Reencaheragh: caer gyda golygfeydd mynachaidd

Cylchlythyr

Cyflwyniad

Mae cychod sy’n gadael Portmagee yn cludo teithwyr i fwlch Skelligs yn mynd heibio i Gastell Reencaheragh ar Benrhyn Iveragh yn Swydd Kerry, Iwerddon. Dechreuodd CHERISH astudio’r safle oherwydd ei fod yn cael ei erydu gan y môr ac mae ein hymchwil hefyd wedi datgelu pwysigrwydd lleoliad y safle a’i ddeiliadaeth aml-gyfnod gan deuluoedd uchel eu statws oedd â chysylltiadau â Sbaen. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r perchnogion tir a roddodd ganiatâd i ni arolygu’r safle ym mis Ebrill 2018.

Adeiladwyd y castell ar gaer bentir gynharach yn Doon Point ger mynedfa orllewinol Sianel Portmagee. Mae gan y gaer agored olygfeydd tuag at Safle Treftadaeth Byd UNESCO Skellig Michael, ac mae'r safle mynachaidd cynnar ar Long Island mor agos â 300m i'r gogledd. Mae ei leoliad arfordirol hardd yn golygu ei fod yn arbennig o agored i effeithiau newid hinsawdd, ac mae ei erydiad yn troi’r pentir hwn yn ynys arall yn raddol. Mae Prosiect CHERISH wedi bod yn cofnodi'r safle hwn er mwyn monitro cyfradd a graddfa’r newid i'r safle. Defnyddiwyd y cofnod o'r safle hwn i greu model 3D y gallwch ei ddefnyddio i fynd ar daith rithwir o amgylch y safle.

Ystyr Reencaheragh yw pentir y gaer garreg. Mae'r gaer bentir yn ymestyn 190m allan i'r môr ac adeiladwyd wal garreg yn y fan lle mae'r pentir yn cysylltu â'r tir mawr (Rhif 4 yn y model 3D). Mae’n debyg bod y wal hon wedi cael ei hadeiladu ar ddechrau’r cyfnod canoloesol a sylwodd y tîm ar waith adeiladu tebyg i amddiffynfeydd (cashels) crwn fel yn Cahergall ger Cahersiveen, a byddai gan Dunbeg ar Benrhyn Dingle i’r gogledd arglawdd carreg syth tebyg cyn atgyweiriadau’r 19fed ganrif (Edrychwch ar ein blog am Dunbeg). Roedd yr O’Falveys yn rheoli’r hyn sydd heddiw yn benrhyn Iveragh yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar ac roedd yn rhan o deyrnas ranbarthol Corca Dhuibhne. Mae'r safle strategol mawr hwn mewn ardal o dir fferm ac mae’r adnoddau morol yn awgrymu deiliadaeth gan deuluoedd pwysig.

Hanes Reencaheragh

Heddiw, mae'r fynedfa i'r gaer bentir yn cael ei hamddiffyn gan y wal garreg a phorthdy (Rhif 1 yn y model 3D). Yn y 13fed eg ganrif, roedd y MacCarthys a'u perthnasau, yr O'Sullivans, yn rheoli Penrhyn Iveragh. Roedd gan yr O'Sullivans gangen o'r enw y MacCrohans, a oedd yn rheoli ardal Reencaheragh. Mae'n debyg mai yn ystod eu perchnogaeth hwy yr adeiladwyd y porthdy a phwyntio’r wal garreg. Mae castell wedi’i gofnodi ar y safle ers 1576, yn ystod teyrnasiad y Frenhines Elizabeth, pan oedd yn cael ei alw’n Ryncaharragh. Mae'n bosibl mai'r fynedfa yn y wal garreg wrth ymyl y porthdy oedd y fynedfa wreiddiol.

Golygfa o'r awyr o'r safle lle gallwch weld y wal garreg a'r porthdy sy'n amddiffyn y gaer bentir
Golygfa o'r awyr o'r safle lle gallwch weld y wal garreg a'r porthdy sy'n amddiffyn y gaer bentir

Yn wreiddiol, roedd y porthdy, sy'n betryal ei gynllun (6.75m o'r dwyrain i’r gorllewin x 4.3m o’r gogledd i'r de) yn ddeulawr o ran uchder. Ceir mynediad iddo drwy fynedfa fwaog y mae cofnod Arolwg Archaeolegol Iwerddon yn awgrymu iddi gael ei hailadeiladu yn ddiweddarach. Dim ond yn y pen gogleddol y ceir to ar y cyntedd mynediad, sef pâr o slabiau. Ar y naill ochr i'r cyntedd mynediad mae dwy siambr fewnol (siambrau wedi'u creu yn nhrwch y wal). Mae'r siambr ar yr ochr orllewinol yn cynnwys y grisiau ac mae’r siambr ar yr ochr orllewinol wedi'i thoi â linteli. Mae gan y ddwy siambr ffenestri neu ddolenni yn y wal ogleddol, sy'n caniatáu golau i mewn i'r siambrau. Mae'r grisiau yn rhoi mynediad i'r siambr ar y llawr cyntaf.

Llun cwmwl pwynt wedi'i arlliwio o'r arolwg sgan laser a gynhaliwyd o'r Porthdy yn Reencaheragh
Llun cwmwl pwynt wedi'i arlliwio o'r arolwg sgan laser a gynhaliwyd o'r Porthdy yn Reencaheragh

Y tu mewn i'r gaer mae twmpath petryal a allai fod wedi bod yn dŷ (Rhif 3 yn y model 3D). Mae tŷ arall posibl wedi'i leoli i'r dwyrain o'r porthdy lle mae rhes o gerrig unionsyth. Canfu ein harolwg dystiolaeth o ble roedd cychod yn glanio ar y traeth ar ochr ogleddol y gaer. Yma, roedd cerrig mawr wedi'u symud i greu llwybr lle gellid lansio cychod yn hwylus heb eu difrodi. Ymhellach i'r gogledd ar y pentir nesaf roedd dwy garnedd isel ddiddorol. O'r fan yma buom yn edrych yn hiraethus dros y sianel gul draw am Long Island, lle gallem weld y clostir eglwysig sy’n erydu, gan ddymuno bod gennym amser i gyrraedd yno - y tro nesaf efallai!

Mae erydiad y cyswllt rhwng y pentir a'r tir mawr i'w weld yn glir yn y llun yma o'r awyr
Mae erydiad y cyswllt rhwng y pentir a'r tir mawr i'w weld yn glir yn y llun yma o'r awyr

Roedd teimladau o hiraeth am Reencaheragh i'w gweld hefyd yng nghofnodion y trigolion. Ymfudodd llawer o arweinwyr y teulu O’Sullivan i Sbaen yn ystod yr 17fed eg ganrif. Yn 1660, dyfarnodd Siarl II Reencaheragh i Goleg y Drindod Dulyn. Talodd ffermwyr tenant rent i’r Drindod tan 1913. Mae cerdd Murragh O’Connor yn 1719 yn nodi ei alltudiaeth o Reencaheragh:

Cyfeiriadau

King, J. (1911) History of Kerry Part V: The Kerry Bards. Easons and Sons, Dublin.

MacCotter, P. and J. Sheehan (2009) Medieval Iveragh: Kingdoms and Dynasties. In, J. Crowley & J. Sheehan (eds), The Iveragh Peninsula: A Cultural Atlas of the Ring of Kerry. Cork University Press.

Westropp, T. (1912) Notes on the Promontory Forts and Similar Structures of County Kerry. Part V. Iveragh (Valencia to Sr. Finan’s Bay) The Journal of the Royal Society of Antiquaries of Ireland 2, No. 4, pp. 285-324

Map Lleoliad

Read More →
cyCY