Blogiau

DEFNYDDIO MAPIO UAV I FESUR ERYDIAD ARFORDIROL

Cylchlythyr

Beth yw mapio UAV?

Mae’r gallu i gynhyrchu mapio drwy orgyffwrdd ffotograffau o’r awyr drwy broses a elwir yn ffotogrametreg wedi bod yn dechneg graidd mewn mapio ers blynyddoedd lawer. Mae datblygiadau diweddar mewn prosesu ffotograffig gan ddefnyddio techneg sy’n cael ei hadnabod fel Strwythur o Symudiad (SfM) yn galluogi defnyddio technegau ffotogrametrig i’w defnyddio ar orsafoedd gwaith sylfaenol a gliniaduron gan ddefnyddio meddalwedd cost isel. Mae SfM yn dadansoddi delweddau’n gorgyffwrdd ac yn defnyddio technegau cyfateb pixel i echdynnu geometreg testun y ffotograffiaeth. O gyfuno hyn â’r gallu i dynnu lluniau o’r awyr o Gerbyd Awyr Dioruchwyliaeth (UAV) neu ddrôn mae’n creu system fapio bwerus a hyblyg.

Mae cynnyrch prosesu Strwythur o Symudiad yn Fodel Arwyneb Digidol (DSM) o’r ardal leol gyda manylder eithriadol uchel. Mae’r manylder arolygu yn gyffredinol yn yr ystod 2 i 5cm, gan hyd yn oed weithio gyda ffotograffiaeth o UAV lefel mynediad.

UAV Phantom 4 Pro yn hedfan arolwg mapio ym Mwnt Glascarrig, Sir Wexford.
UAV Phantom 4 Pro yn hedfan arolwg mapio ym Mwnt Glascarrig, Sir Wexford.

Un elfen hanfodol o'r broses hon, yn enwedig os mai canfod newid yw'r prif amcan, yw'r gallu i roi'r DSM yn fanwl gywir yn ei leoliad daearyddol. Mae'n debyg mai system fapio genedlaethol yw hon fel yr Irish Transverse Mercator (ITM) yn Iwerddon. Mae angen Systemau Lloeren Mordwyo Byd-eang (GNSS), naill ai drwy synwyryddion mewnol ar yr UAV neu drwy ddefnyddio marcwyr tir a arolygir yn fanwl gywir. Pan wneir hyn, mae arolwg sylfaen wedi’i sefydlu y gellir cymharu arolwg yn y dyfodol yn ei erbyn, a’i gynnal i'r un fanyleb. Wedyn gellir nodi a mesur newid.

Dull rheoli arolwg GNSS yn cael ei fesur ar darged rheoli ar y tir
Dull rheoli arolwg GNSS yn cael ei fesur ar darged rheoli ar y tir

Mwnt a Beili Glascarrig, Sir Wexford

Mae safle mwnt a beili Glascarrig ar bentir sy’n edrych dros yr arfordir. Yn 1167, glaniodd Diarmuid Mac Murchada yng Nglascarrig ar ôl dychwelyd i Iwerddon a gofyn am help Brenin Harri II i adfer ei deyrnas, sef Leinster. Mae’n bur debyg bod y castell mwnt a beili wedi cael ei adeiladu gan William de Caunteton ar ddiwedd y 12fed ganrif. Yn 1311, dinistriwyd Glascarrig gan MacMurchadas. Bryd hynny mae aneddiad sylweddol sy’n cynnwys 48 o diroedd bwrdais wedi’i gofnodi yng Nglascarrig ac efallai bod y safle wedi cael ei adael ar ôl yr ymosodiad hwn.

Mae’r mwnt, twmpath â chopa gwastad wedi’i orchuddio gan laswellt sy’n bron i 6m o uchder a 36m mewn diametr, wedi’i ddiffinio gan ffos gwaelod fflat. I’r de o’r mwnt mae ardal gaeedig neu feili sydd â chlawdd o ddaear o’i amgylch. Mae’r safle mewn ardal o ddrifft rhewlifol sy’n ei wneud yn eithriadol agored i erydiad. Mae erydiad ardal ddwyreiniol y beili a’r ffos wedi creu casgliad cyfoethog o grochenwaith ac esgyrn anifeiliaid.

Arolwg UAV ym Mwnt Glascarrig

Defnyddiwyd ap DJI Ground Station Pro i raglennu terfynau’r arolwg cyn cynnal arolwg mapio
Defnyddiwyd ap DJI Ground Station Pro i raglennu terfynau’r arolwg cyn cynnal arolwg mapio

Mae’r mwnt a’i dirwedd wedi cael eu mapio gan arolwg UAV ddwywaith hyd yma ar gyfer prosiect CHERISH (Mehefin 2018 a Chwefror 2019). Sefydlodd arolwg 2018 y llinell sylfaen, ar gyfer cymharu arolygon yn y dyfodol yn ei erbyn yn fanwl er mwyn canfod newid.

Mae’r arolygon hyd yma wedi defnyddio’r un UAV, ac wedi creu mwy na 400 o luniau, yn barod i gael eu prosesu drwy feddalwedd SfM. I sicrhau bod modd mapio arolwg yn fanwl gywir i ITM, sicrhawyd rheolaeth GNSS. Cynhyrchwyd DSM ac orthoddelwedd o’r mwnt, gyda manylder o 2.5cm, a manwl gywirdeb lleoliadol, mewn ITM, i radd arolygu well na 2cm.

Camau prosesu Agisoft Photoscan; y ffotograffiaeth yn barod ar gyfer echdynnu Model Gweddlun Digidol (DEM), a’r DEM o ganlyniad
Camau prosesu Agisoft Photoscan; y ffotograffiaeth yn barod ar gyfer echdynnu Model Gweddlun Digidol (DEM), a’r DEM o ganlyniad

Dadansoddiad GIS Glascarrig

I asesu a oes unrhyw newid wedi digwydd, mae’r ddau DSM yn cael eu harchwilio yn ein System Gwybodaeth Daearyddol (GIS). Mae model rhyddhad cysgodol o bob DSM yn galluogi cymharu gweledol, sy’n awgrymu nad oes unrhyw newid dramatig wedi digwydd.

Mae archwiliad gweledol yn hynod oddrychol. Nid yw’n arbennig o wyddonol a gallai golli newidiadau bychain ond arwyddocaol yn y dirwedd. Mae GIS yn galluogi i ni wneud yn llawer gwell na hyn drwy gyfrifiadau mathemategol i gyfrifiadura’r gwahaniaethau a’u harddangos yn raffig ar fap gwyriad.

Cymharu gweledol rhwng y modelau rhyddhad cysgodol wedi’u creu o ddata DEM a gofnodwyd ym mis Mehefin 2018 (llun ar y chwith) a Chwefror 2019 (dde)
Cymharu gweledol rhwng y modelau rhyddhad cysgodol wedi’u creu o ddata DEM a gofnodwyd ym mis Mehefin 2018 (llun ar y chwith) a Chwefror 2019 (dde)

Beth mae hyn yn ei ddweud wrthym?

Mae’r map gwyriad yn cadarnhau nad oes llawer wedi newid yng Nglascarrig yn ystod y cyfnod Mehefin 2018 – Chwefror 2019; mae’r safle wedi parhau’n sefydlog. Nid yw hyn yn syndod mawr efallai gan fod hwn yn gyfnod cymharol fyr o amser, heb storm fawr. Mae mwyafrif y safle o fewn yr ystod +/-0.1m ond mae rhai ardaloedd, yr arlliwiau glas, a oedd yn uwch yn 2018. Gellir esbonio hyn gan y gwahaniaethau mewn tyfiant llystyfiant tymhorol, arolwg ym mis Mehefin yn 2018, ac arolwg ym mis Chwefror yn 2019. Dyma wers i’w dysgu – wrth gynllunio ail arolygon, os yw’n bosibl, dylid cyfateb yr amser o’r flwyddyn. Traeth o gerrig mân yw’r arlliwiau coch ar ymyl ddwyreiniol yr ardal, sy’n ymddangos yn uwch yn 2019, gan ddynodi natur ddeinamig y blaendraeth.

Mae’r dadansoddiad hwn, er nad yw’n datgelu unrhyw ddifrod sylweddol ar y safle y tro hwn, wedi rhoi gwybodaeth eithriadol ddefnyddiol o ran profi gwerth y dechneg. Mae’n rhoi hyder y bydd mapio UAV ailadroddus yn datgelu graddfa unrhyw erydiad a fydd yn digwydd ar ein safleoedd monitro yn y dyfodol.

Map gwyriad yn dangos y gwahaniaeth uchder gafodd ei gyfrif yn y DEM o 2019 a 2018
Map gwyriad yn dangos y gwahaniaeth uchder gafodd ei gyfrif yn y DEM o 2019 a 2018

Map Lleoliad

Read More →

Blogiau

Mwyngloddio ac Erydiad ar hyd yr Arfordir Copr

Cylchlythyr

Mae Arfordir Copr Waterford, gyda’i doreth o geyrydd pentir ac adroddiadau am erydu difrifol, yn ardal astudiaeth achos ar gyfer prosiect CHERISH. Gelwir yr ardal yn Arfordir Copr ar ôl y dyddodion mwynau sydd yno a fwyngloddiwyd yn helaeth rhwng 1824 a 1908.

Mae o leiaf 26 o geyrydd pentir wedi goroesi ar glogwyni hyd at 70m o uchder ac mae ymchwil mewn ceyrydd pentir Gwyddelig, gan gynnwys Drumanagh ac Ynys Dalkey yn Swydd Dulyn a Dunbeg yn Swydd Kerry, yn awgrymu bod defnydd ohonynt o'r Oes Haearn i gyfnodau canoloesol cynnar. Mae cerrig Ogham sydd wedi’u cofnodi ar hyd arfordir Swydd Waterford yn Knockmahon, Island a Kilgrovan yn awgrymu bod safleoedd eglwysig yn yr ardal gyfagos yn y 5ed i'r 7fed ganrif.

Mae ffeiliau topograffig Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon (NMI) yn cofnodi darganfod nifer o wrthrychau yn yr ardal sy'n dynodi hanes hir o fwyngloddio. Disgrifiodd y Parchedig Patrick Power (1909) ingot copr crwn o fath Romano Prydeinig a ddarganfuwyd tua 6km i fyny'r afon o'r aber yn Bunmahon. Roedd grŵp o ddarganfyddiadau a roddwyd i'r NMI yn 1850 yn cynnwys dau offeryn derw siâp rhwyf a ddarganfuwyd ar ddyfnder o 20m. Roeddent ‘yn ôl pob golwg o oedran mawr’ yn y 19eg ganrif. Mae'r disgrifiad o'u handlenni cul hir a'u llafnau siâp llwy yn dynodi y gallent fod wedi cael eu defnyddio i gasglu darnau o graig wedi malu mewn tân, sy'n gynnyrch y broses fwyngloddio. Gallai masnachwr neu forwyr a oedd yn cludo'r adnoddau naturiol a gynhyrchwyd gan y mwyngloddio fod wedi colli’r tocyn masnach Gwyddelig o'r 17eg ganrif a ddarganfuwyd ger Castell Knockmahon.

Wrth gynnal arolygon o'r awyr ac arolygon geoffisegol ar y ceyrydd pentir ar yr Arfordir Copr, mae'n anochel bod tîm CHERISH wedi dod ar draws tystiolaeth o fwyngloddio: ceuffyrdd neu fynedfeydd i fwyngloddiau tanddaearol yn y clogwyni, siafftiau mwyngloddiau a thomenni gwastraff uwchben y clogwyni, ynghyd â iardiau mwyn a thai injan.

Efallai bod adnoddau mwynau’r Arfordir Copr wedi bod yn bwysig ers y cyfnod cynhanesyddol, ond mae'n debyg bod mwyngloddio ôl-ganoloesol ac erydiad wedi tarfu ar lawer o'r dystiolaeth honno. Mae ffynonellau hanesyddol yr unfed ganrif ar bymtheg yn cofnodi mwyngloddio ger caer bentir Knockmahon ac yng nghanol y 18fed ganrif, cymerodd Francis Wyse o Ddinas Waterford brydles ar gyfer yr hawliau mwynau i'r gorllewin o Bunmahon (Cowman, 1983). Uwchben y traeth i'r gorllewin o gaer bentir Trwyn Bunmahon, yn nhref Templeyvrick, gellir gweld y fynedfa i fwyngloddiau tanddaearol. Gweithiwyd llawer o fwyngloddiau ar hyd yr arfordir am hyd at 400m allan i'r môr.

 

Mwyngloddiau Templeyvrick ar Draethell Trawnamoe wrth ymyl Trwyn Bunmahon.
Mwyngloddiau Templeyvrick ar Draethell Trawnamoe wrth ymyl Trwyn Bunmahon.

Wrth ymyl caer bentir Knockmahon mae man glanio o'r enw Stage Cove. Mae ganddo lithrfa goncrid fodern heddiw ond ar lanw isel mae'n bosib gweld bod y mynediad drwy'r creigwely wedi'i glirio. Byddai hyn wedi caniatáu i longau mwy lanio a chael mynediad i'r iard fwynau. Yn 1863, roedd mwyn copr yn cael ei gludo oddi yma i’w farchnata yn Lerpwl ac Abertawe, pan oedd y tywydd yn caniatáu i longau ddod yn agos at y lan (Du Noyer, 1865). Mae siart UKHO sy'n dyddio o 1849 yn darlunio llongau wedi'u hangori oddi ar yr iard fwyn mewn golygfa hwylio.

 

Man glanio Stage Cove ar lanw isel, Knockmahon
Man glanio Stage Cove ar lanw isel, Knockmahon
Golygfa hwylio UKHO o 1849 yn dangos iard fwynau a thai injan o amgylch Knockmahon (L7194).
Golygfa hwylio UKHO o 1849 yn dangos iard fwynau a thai injan o amgylch Knockmahon (L7194).

Mae tair ar ddeg o geuffyrdd wedi’u cofnodi i'r clogwyn yng nghaer bentir Illaunobrick neu Ynys Danes yn nhref Ballynarrid. Awgrymwyd y gallai'r mwyngloddiau yn yr ardal fod wedi cael eu gweithio yn yr Oes Efydd. Gwrthbrofwyd hyn gan yr Hanesydd Des Cowman (1982) gan ddefnyddio cofnodion lleol a thrwy nodi twll drilio sy'n awgrymu bod y rhan fwyaf o'r dystiolaeth a welwn heddiw yn ganlyniad i fod yn fwyngloddiau yn y cyfnod Diwydiannol. Yn anhygyrch yn bennaf heddiw, mae’r mwyngloddiau hyn wedi cyfrannu at erydiad y clogwyni ac ychydig iawn o olion o amddiffynfeydd arglawdd y gaer bentir sydd yno, gyda dim ond ‘trac gafr’ amhosibl ei ddilyn ar y stac. Mae rhifyn 1840 o fap yr Arolwg Ordnans yn marcio 'safle ffos' ar yr ochr tua'r tir i Illaunobrick ac mae Thomas Westropp (1914-16) yn dweud ei fod wedi mynd bron erbyn 1841. Mae gwybodaeth leol yn cofnodi creigiau clogwyni’n cwympo o amgylch Ballynarrid a thref gyfagos Ballydowane yn y 1970au a'r 80au.

 

Illaunobrick gyda mwyngloddiau i mewn i'r clogwyn
Illaunobrick gyda mwyngloddiau i mewn i'r clogwyn

Mae'r dreftadaeth doreithiog yma o'r Arfordir Copr yn dangos bod hon yn ardal ag adnoddau mwynol, morol ac amaethyddol cyfoethog, gan ddenu anheddiad a oedd yn masnachu ar draws Môr Iwerddon a’r Môr Celtaidd efallai mor bell yn ôl â'r Oes Haearn. Mae'r arolygon sydd wedi’u cynnal hyd yma’n caniatáu i ni greu cofnod sylfaenol o'r safle i fesur erydiad yn ei erbyn yn y dyfodol. Mae hefyd yn caniatáu i ni daflu goleuni pellach ar hanes amrywiol y rhanbarth o'r cynhanes i'r gorffennol mwy diweddar.

Cyfeiriadau

  • Cowman, D. (1982) Bronze-Age Copper-Mines at Dane’s Island. Decies 20: 22-7.
    Cowman, D. (1983) Thomas (“Bullocks”) Wyse: A Catholic Industrialist during the Penal Laws, I. Decies 24: 8-13.
  • Du Noyer, G. (1865) Explanation to Accompany Sheets 167, 168, 178, and 179 of the Maps and Sheet 13 of the Longitundinal Sections of the Geological Survey of Ireland illustrating Parts of the Counties of Waterford, Wexford, Kilkenny and Tipperary. Hodges, Smoth and Co., Dublin.
  • Power, P. (1909) ‘On an ancient (prehistoric?) copper ingot from Bonmahon’, J Waterford SE Ir Archaeol Soc 12, 86-89.
  • Westropp, T 1906, ‘Notes on certain promontory forts in the counties of Waterford and Wexford’, J Roy Soc Antiq Ir 36, 239-58.
  • Westropp, T. 1914-16, ‘Fortified headlands and castles on the south coast of Munster: Part II, from Ardmore to Dunmore, Co. Waterford’, Proc Roy Ir Acad C 32, 188-227.
  • Westropp, T. (1920) The Promontory Forts and Traditions of the Beare and Bantry, Co. Cork Royal Society of Antiquaries of Ireland 10 (2): 140-159.

Map Lleoliad

Read More →

Blogiau

A ddylen ni ein galw ein hunain yn archaeolegwyr digidol nawr?

Cylchlythyr

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gyfarwydd â rôl yr archaeolegydd, o Indiana Jones i’r Time Team. Mae llawer o bobl yn meddwl amdanom fel pobl sy’n agor tyllau er mwyn darganfod hen bethau ar gyfer llenwi amgueddfeydd, er fy mod i’n siwr bod ambell archaeolegydd anturus yn chwilio am feddrodau dirgel yn rhywle! Er mai cloddio sy’n ganolog i’r ddisgyblaeth, mae yna lawer ohonom nad ydym bron byth yn mynd yn agos at ffos gloddio – er enghraifft, ffotograffwyr o’r awyr, gwyddonwyr, arolygwyr ac arbenigwyr darganfyddiadau. Mae natur amlddisgyblaethol archaeoleg yn adlewyrchu’r heriau niferus a wynebwn wrth geisio darganfod ac ail-greu bywydau pobl y gorffennol. Tasg gymhleth yw hon sy’n gofyn am lawer mwy na chloddio am grochenwaith ac aur. Fel yn achos gwyddorau eraill, mae archaeoleg yn datblygu’n gyson, gan gofleidio technolegau a thechnegau newydd er mwyn gwella ein dealltwriaeth o’r gorffennol a dod â’r gorffennol yn fyw yn y presennol a’i ddiogelu i’r cenedlaethau a ddaw. Mae manteisio i’r eithaf ar y technolegau hyn yn allweddol hefyd o ran rheoli ein treftadaeth ddiwylliannol yn llwyddiannus yn wyneb bygythiadau di-rif.

Fel tîm sy’n edrych ar fygythiadau newid hinsawdd i dreftadaeth arfordirol roedd yn bwysig i ni fabwysiadu technegau modern er mwyn cofnodi, monitro a hyrwyddo ein dealltwriaeth o rai o’r safleoedd ar hyd yr arfordir sy’n wynebu’r perygl mwyaf. Rydym yn gwneud hyn drwy ddefnyddio llu o wahanol dechnegau, a eglurir mewn darluniau hardd ar ein graffigyn ‘technegau’ newydd!

Maer gyfer llawer o’r gwaith hwn fe ddefnyddir technolegau digidol fel dronau, lloerennau a GPS, laser-sganio ar y ddaear a laser-sganio o’r awyr i gofnodi safleoedd archaeolegol fel maen nhw’n edrych ar hyn o bryd. Gan ddefnyddio’r dechnoleg hon, gallwn gasglu data a gwybodaeth am safleoedd archaeolegol yn gyflymach ac yn fanylach nag erioed o’r blaen. Yn ogystal â chyflymu ein gwaith, mae cofnodi digidol yn hwyluso dadansoddi mwy cymhleth, ail-greu safleoedd, a chyhoeddi’r canlyniadau drwy fforymau fel cyfryngau cymdeithasol. Mae gweithio fel hyn yn arbennig o bwysig yn ystod yr argyfwng presennol pan na all archaeolegwyr na’r cyhoedd gyrchu ac archwilio archaeoleg ac eithrio drwy eu sgriniau cyfrifiadur. Ond sut mae hyn yn bosibl, sut gallwn fynd i’r afael ag archaeoleg o gysur ein cartrefi ein hunain drwy ddefnyddio data digidol, a beth mae CHERISH wedi bod yn ei wneud yn y maes digidol ers dechrau’r prosiect? Mae gorfod aros gartref wedi rhoi cyfle i aelodau’r tîm CHERISH fyfyrio ar rai o’r gweithgareddau digidol y maen nhw wedi ymgymryd â nhw yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Y gwahanol ddelweddiadau LiDAR y gellir eu cynhyrchu
Y gwahanol ddelweddiadau LiDAR y gellir eu cynhyrchu

Pan ddeuthum i weithio i CHERISH fel archaeolegydd ifanc fe roddwyd i mi’r dasg o brosesu’r data LiDAR (laser-sganio o awyren) ar gyfer chwech o ynysoedd Cymru – gorchwyl arswydus braidd i rywun nad oedd wedi cael fawr ddim profiad o weithio gyda data 3D! Roedd y gwaith hwn yn cynnwys defnyddio meddalwedd i brosesu’r data pwyntiau laser a’u paratoi ar gyfer ‘holi’ mewn perthynas â nodweddion archaeolegol. Defnyddiwyd meddalwedd o’r enw Real Visualisation Toolbox , a grëwyd gan Ganolfan Ymchwil Academi Gwyddorau a Chelfyddydau Slovenia, i gynhyrchu gwahanol ddelweddiadau er mwyn dangos cynrychioliadau 3D o dopograffi ac archaeoleg yr ynysoedd. Roedd y gwahanol ddelweddiadau’n ein galluogi i weld yr ynysoedd fel nad oedd neb wedi’u gweld nhw o’r blaen...  

Ar ôl ychydig o fisoedd o weithio ar y data roeddwn wedi gwirioni. Daeth chwilio am nodweddion archaeolegol ar yr ynysoedd (nad oeddwn wedi ymweld â nhw eto) yn ddifyrrwch newydd. Cafodd nodweddion di-rif (rhai’n anhysbys ar y pryd) eu mapio a’u cofnodi er mwyn cynhyrchu mapiau newydd o’r holl archaeoleg sy’n sefyll ar bob ynys, rhywbeth na chawsai ei wneud mor fanwl o’r blaen. Ynys Enlli oddi ar Benrhyn Llŷn oedd yr ynys fwyaf trawiadol o lawer a gafodd ei fapio gennym. Dangosodd y LiDAR fod cyfundrefnau caeau canoloesol ac ôl-ganoloesol yn ymestyn dros yr ynys gyfan a bod gan Enlli orffennol amaethyddol cyfoethog. Roeddem yn gallu mynd â’r gwaith hwn ymhellach drwy astudio mapiau hanesyddol ystâd Newborough o’r 18fed ganrif a’r 19fed ganrif er mwyn cael darlun o sut yr oedd yr ynys wedi’i rhannu gynt a sut y câi ei ffermio. Pan osodwyd y mapiau wedi’u digido ar ben y LiDAR daeth yn eglur bod peth o’r tir grwn a rhych (‘ridge and furrow’) y gellid ei weld ar y LiDAR mewn gwirionedd yn gysylltiedig â’r cyfundrefnau caeau a oedd i’w gweld ar y mapiau hanesyddol. Fodd bynnag, nid oedd nifer fawr o’r caeau yn dilyn y terfynau hyn, ac roeddem yn gallu eu dyddio’n ôl i’r cyfnod ôl-ganoloesol. Y peth nodedig am y gwaith hwn oedd i’r rhan fwyaf ohono gael ei wneud mewn swyddfa filltiroedd lawer o Enlli – darn go iawn o archaeoleg ddigidol.

Map yn dangos yr holl nodweddion archaeolegol gweladwy ar Ynys Enlli, gan gynnwys yr holl dir grwn a rhych a ddangosir
Map yn dangos yr holl nodweddion archaeolegol gweladwy ar Ynys Enlli, gan gynnwys yr holl dir grwn a rhych a ddangosir

Mae dronau hefyd yn chwarae rhan bwysig iawn yn ein gwaith arolygu digidol, sy’n cael ei wneud ar raddfa helaeth yng Nghymru a Lloegr. Roedd dronau’n agwedd ar waith archaeolegol nad oeddwn yn gwybod dim amdani bron cyn dod i weithio ar y prosiect CHERISH, ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf maen nhw wedi dod yn offer allweddol. Mae dronau (UAVs) yn prysur ddod yn gyfrwng safonol ar gyfer cofnodi archaeoleg ac mae hyn yn sicr yn wir yn achos CHERISH lle maen nhw wedi cael eu defnyddio ar ein holl safleoedd bron. Mae llawer o’n safleoedd yn rhy beryglus i’w harolygu mewn unrhyw ffordd arall. Bydd archaeolegwyr doeth yn osgoi clogwyni uchel ac ansefydlog! Ond mae dronau yn eu helfen yn y fath sefyllfaoedd a gellir eu defnyddio’n gyflym a diogel i gofnodi safleoedd a chlogwyni sy’n erydu a chwalu.

Wrth reswm, mae angen ymweld â’r safleoedd er mwyn casglu’r data cychwynnol a gwneir hyn drwy dynnu cannoedd o awyrluniau sy’n gorgyffwrdd. Serch hynny, gwneir y rhan fwyaf o’r gwaith cysylltiedig o gysur y swyddfa (neu ystafell wely ar hyn o bryd!). Prif nod y cam ôl-brosesu yw casglu ynghyd yr holl ffotograffau o safle unigol a’u ‘pwytho’ wrth ei gilydd i greu data 3D a all gael eu troi’n nifer fawr o allbynnau gwahanol. Cyflawnir hyn drwy fanteisio ar feddalwedd fel Agisoft Metashape sy’n defnyddio techneg o’r enw ffotogrametreg i adeiladu data cwmwl pwyntiau 3D drwy baru pwyntiau cyffredin rhwng ffotograffau 2D gorgyffyrddol. Ar ddiwedd y broses hon mae gennym filoedd neu weithiau filiynau o bwyntiau sy’n cynrychioli gwir siâp a maint yr heneb (meddyliwch am sut byddai’r safle’n edrych pe bai miliynau o beli bach sbonciog yn cael eu gosod dros yr heneb gyfan).

Cwmwl pwyntiau 3D o Ddinas Dinlle, Gwynedd
Cwmwl pwyntiau 3D o Ddinas Dinlle, Gwynedd

Gallwn gymharu’r data hyn â data a gasglwyd ynghynt er mwyn gwneud gwaith monitro. Gwneir hyn drwy ddefnyddio meddalwedd fel CloudCompare sy’n cymryd dau gwmwl pwyntiau, yn eu paru, ac yna’n eu dadansoddi i ddarganfod rhannau o safle sydd wedi newid yn fetrig. Mae meintioli colled ac adnabod rhannau gwannach safleoedd yn rhan bwysig o waith CHERISH a bydd o gymorth i reoli safleoedd yn wyneb risgiau cymhleth newid hinsawdd. Bu’r gwaith hwn yn effeithiol yn Iwerddon lle mae safleoedd fel Dunbeg, Swydd Kerry wedi dioddef colledion enbyd o ganlyniad i erydiad arfordirol wedi’i achosi gan y cynnydd mewn stormydd yn y rhanbarth.

Colledion enbyd yng nghaer bentir Dunbeg, Swydd Kerry
Colledion enbyd yng nghaer bentir Dunbeg, Swydd Kerry

Un o nodau allweddol eraill y prosiect yw codi ymwybyddiaeth o archaeoleg safleoedd a’r bygythiadau iddynt o ganlyniad i newid hinsawdd. Mae dronau (wrth gwrs!) yn chwarae rhan bwysig yn yr agwedd hon ar ein gwaith hefyd. Defnyddiwn y data a gasglant i gynhyrchu modelau 3D digidol i’w rhannu ar-lein a’u defnyddio fel offer estyn-allan. Byddwn yn creu’r modelau hyn drwy ‘blethu’ y pwyntiau i greu gwrthrych digidol solet y gellir ei ddangos ar-lein. Gan nad ydw i’n meddu ar y sgiliau i wneud hyn, byddwn fel rheol yn anfon y data i fodelwyr 3D arbenigol (fel ein ffrindiau yn ThinkSee3D) i’w troi’n fodelau bendigedig y gallwn eu huwchlwytho i SketchFab i’r cyhoedd eu hastudio a’u harchwilio. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi manteisio ar y cyfle i gynhyrchu ‘teithiau digidol’ gan ddefnyddio anodiadau ar SketchFab sy’n tynnu sylw at yr archaeoleg weladwy (a chuddiedig weithiau) yn ogystal â’r mathau o risgiau a wynebant oherwydd newid hinsawdd. Beth am gael cip eich hunain!

Mae argraffu 3D hefyd yn ennill ei blwyf fel ffordd o ddod â data digidol yn ôl i’r byd real i’w defnyddio fel offer estyn-allan effeithiol. Cyn y cloi-lawr roeddem yn awyddus i gael lluniau o rai o’n safleoedd i’n helpu yn ein gwaith ymgysylltu â’r cyhoedd. Roeddem yn ddigon ffodus i gael print hyfryd o Ddinas Dinlle yng Ngwynedd sydd wedi cael ei ddefnyddio wrth ddisgrifio’r safle a dangos sut mae erydiad arfordirol yn effeithio arno. Mae wedi bod yn boblogaidd iawn gyda phlant ysgol ar hyd a lled Cymru! Yn y dyfodol gobeithiwn symud ymlaen â’r gwaith hwn a dechrau datblygu ailgreadau o safleoedd ac animeiddiadau digidol o sut yr oeddynt yn edrych yn y gorffennol a sut mae newid hinsawdd yn eu newid heddiw, felly cadwch eich llygad ar agor am fwy o wybodaeth...

Ymgysylltu ag ysgolion gan ddefnyddio dronau a modelau 3D
Ymgysylltu ag ysgolion gan ddefnyddio dronau a modelau 3D

Gan ddychwelyd i’r cwestiwn, ‘A ddylen ni ein galw ein hunain yn archaeolegwyr digidol nawr?’, yr ateb yw nad ydw i’n hollol sicr. Ond yr hyn sy’n glir yw bod y ffyrdd digidol o fynd i’r afael ag archaeoleg yn dod yn arferion prif ffrwd, yn enwedig ym maes arolygu archaeolegol. Ni all dulliau pell a digidol ddisodli gwaith maes (a rhaid cyfaddef fy mod i’n gweld eisiau gwaith maes yn ofnadwy!) ond pwy a ŵyr, efallai y bydd yr argyfwng presennol yn ein gorfodi i addasu ein dulliau a’n hysgogi i ddigido’r holl fapiau hardd a dogfennau hanesyddol diddorol sy’n llechu mewn archifdai ar hyd a lled y wlad. Archaeolegwyr digidol? Efallai ddim. Ond gallai archaeoleg ddod yn llawer mwy hygyrch i bobl wrth i archaeolegwyr gynyddu eu hymdrechion i gyfathrebu â phobl ar yr adeg anodd hon.

Read More →

Blogiau

Cyflwyniad i Lygad Iwerddon

Cylchlythyr

Llygad Iwerddon, ym Môr Iwerddon, i’r gogledd o Ddinas Dulyn yw’r tirnod sy’n dweud wrth deithwyr awyr o’r Dwyrain eu bod ar fin glanio yn Nulyn. Mae gan yr ynys stori hynod ryfeddol i'w hadrodd ac mae ei hanes maith yn cael ei adlewyrchu yn y dreftadaeth adeiledig sydd wedi goroesi ar yr ynys; ceyrydd pentir cynhanes, darganfyddiadau Rhufeinig, eglwys gyda hanes maith a thŵr amddiffyn o oes Napoleon. Mae hanesion ysgrifenedig yr ynys yn cynnwys adroddiadau am aneddiadau mynachaidd a chyrchoedd Llychlynnaidd.

Roedd tîm CHERISH wedi cynnal nifer o ymweliadau â Llygad Iwerddon gyda’r nod o ychwanegu at y cofnod archaeolegol presennol ar gyfer yr ynys a datblygu dealltwriaeth o sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar yr Ynys hon. Roedd Llygad Iwerddon yn wahanol i safleoedd astudiaeth achos eraill CHERISH gan mai croniant (dyddodiad deunyddiau ychwanegol) ar hyd arfordir y gorllewin oedd y brif broses arfordirol ar waith.

Dywed Dinnseanchas, a gyfansoddwyd yn wreiddiol yn y chweched ganrif, , yn dweud wrthym fod yr Ynys yn cael ei hadnabod fel Inis-Ereann, ynys Eria. Wedi hynny mae enw'r ynys yn newid i Inis-mac-Nessan, gan dri mab Nessan, tywysog o deulu Brenhinol Leinster. Daw’r enw presennol, Llygad Iwerddon, o Seisnigeiddio’r enw Llychlynnaidd am Inis-Ereann lle mae ey yn dynodi ‘ynys’. Ymhlith y dystiolaeth gynharaf o weithgarwch ar yr Ynys mae’r ceyrydd pentir; mae'r safleoedd hyn fel rheol yn gysylltiedig â'r Oes Haearn, er bod gan rai hanes maith o ddefnydd. Cyn yr arolwg hwn, dim ond un gaer bentir oedd wedi’i chofnodi ar yr Ynys. Bydd y tîm yn diweddaru'r cofnod safleoedd a henebion gyda'r ceyrydd pentir sydd wedi’u nodi o’r newydd. Mae dau ddarn arian o’r Ymerodraeth Rufeinig sydd wedi’u darganfod ar yr Ynys yn darparu tystiolaeth o’r Oes Haearn o ryngweithio Iwerddon ag Ewrop Rufeinig, ac maent o bosibl yn cydoesi â’r defnydd cyntaf o’r ceyrydd pentir.

Staff surveying the promontory fort on Ireland's Eye
Staff yn arolygu caer bentir ar Lygad Iwerddon

Cyfeirir at yr eglwys fel Eglwys Kilmacnessan neu Sant Nessan ac yn ôl y sôn sefydlodd tri mab Nessan fynachlog yma yn y 6fedGanrif OC. Er bod y cyfrifon hanesyddol yn dangos bod eglwys ar yr ynys yn y 6fed ganrif, mae'n ymddangos bod y strwythur presennol wedi’i ddyddio i sawl canrif yn ddiweddarach. Awgrymir dyddiad o’r 12fedGanrif ar gyfer yr eglwys oherwydd ei hadeiladwaith corff a changell gydag un fynedfa yn y wal orllewinol. Ategir hyn gan y tebygrwydd i Eglwys Sant Michael o Pole yn Ninas Dulyn a thystiolaeth ddogfennol sy'n cofnodi bod yr eglwys wedi'i throsglwyddo i'r tir mawr, yn 1235 OC. Adferwyd yr eglwys yn helaeth yn y 19fedGanrif. Wrth aredig yn agos at yr eglwys yn 1868, daeth eirch cerrig i’r golwg, gan ddynodi mynwent gysylltiedig.

Heritage week event at the Church on Ireland's Eye
Digwyddiad wythnos treftadaeth yn yr Eglwys ar Lygad Iwerddon

Dywed Annals of the Four Masters fod yr ynys dan warchae gan Dramorwyr o Ddulyn yn 897 OC a'i bod wedi’i hysbeilio yn 960 OC (Gwynn a Hadcock, 1988). Mae Annals of the Four Masters yn manylu ar y Llychlynwyr yn sefydlu gwersyll ar ddiwedd y nawfed ganrif a fu dan warchae gan luoedd Iwerddon ac yn 960 OC ysbeiliodd fflyd Llychlynnaidd y fynachlog. Strwythur amlwg iawn arall yng ngogledd orllewin yr ynys yw tŵr Martello. Fe'i sefydlwyd ar yr Ynys yn 1805/1806 OC fel rhan o system amddiffyn arfordirol oes Napoleon ar hyd arfordir Iwerddon.

Heritage week event at the Napoleonic Era Tower on Ireland's Eye
Digwyddiad wythnos treftadaeth yn y Tŵr o Oes Napoleon ar Lygad Iwerddon

Yn ystod Haf 2019 cynhaliwyd taith gerdded dreftadaeth lwyddiannus iawn a sesiwn glanhau traeth gennym gyda Clean Coasts. Mae'r croniant sy'n digwydd ar ochr orllewinol yr ynys yn golygu bod deunyddiau gwastraff yn cael eu dyddodi ynghyd â gwaddodion traeth. Esboniodd tîm CHERISH hanes a threftadaeth adeiledig yr ynys yn ogystal â'r dreftadaeth ddaearegol. Ac wrth i'r tîm egluro ein hymchwil i'r cyfranogwyr, fe wnaethon ni hefyd ddysgu llawer gan y bobl leol wybodus iawn, gan gynnwys aelodau o'r grŵp hanes ac archaeoleg lleol, Resurrecting Monuments. Rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Lygad Iwerddon i gynnal ymchwil pellach gan gynnwys arolygon geoffisegol.

Map Lleoliad

Read More →

Blogiau

Arolwg newydd o Ynys Seiriol

Cylchlythyr

Mae Ynys Seiriol neu Puffin Island/Priestholm yn codi o’r môr yn gefnen serth o garreg galch oddi ar arfordir dwyreiniol Môn yng ngogledd Cymru. Mae’r ynys hudol hon sydd yn eiddo preifat yn gartref i adar môr a warchodir, mulfrain gan mwyaf, a cheir yma adfeilion mynachlog ganoloesol gynnar. Ni chaniateir i’r cyhoedd lanio arni heb gael caniatâd y tirfeddiannwr

Mae’r fynachlog wedi denu ymwelwyr ers blynyddoedd lawer. Mae tŵr eglwys y priordy Awstinaidd yn parhau i sefyll yn falch ar y graig. Ym 1868 fe wnaeth Herford Hopps arolwg sylfaenol o’r adeiladau a darganfu lawer o sgerbydau yng nghyffiniau’r eglwys lle roedd cwningod wedi codi’r esgyrn. Dychwelodd Harold Hughes ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i gynnal arolygon manylach o’r adeiladau ac i ymgymryd â’i gloddiadau ei hun, a daeth ar draws olion allor gynnar a oedd yn hŷn na thŵr yr eglwys. Aeth y Comisiwn Brenhinol i’r ynys gyntaf ym 1929 i’w harolygu ar gyfer Rhestr Môn 1937. Yr unig adeilad arall o sylwedd ar yr ynys yw’r orsaf delegraff adfeiliedig restredig o’r 19eg ganrif yn y gogledd-ddwyrain.

Yn ystod y cyfnod modern mae llystyfiant wedi tagu’r ynys a’r adfeilion ac ni chawsai arolwg diweddar ei wneud nes i Ynys Seiriol gael ei dewis yn safle astudio ar gyfer y Prosiect CHERISH a ariennir gan yr UE. Y rhesymau dros ei dewis oedd ei bod mor anhygyrch, bod yr adeiladau wedi’u gwarchod, ac i gynnal arolwg hynod fanwl newydd o’r adeiladweithiau er mwyn gallu monitro newid ac erydiad yn y dyfodol. Roedd dull ‘pecyn offer’ CHERISH yn golygu y câi’r ynys ei harolygu’n drylwyr o’r awyr, ar y tir ac o’r môr.

Yn 2017 fe gomisiynodd CHERISH laser-sganio o’r awyr (‘LiDAR’) dros yr ynys gyfan. Mae’r laser yn treiddio’r gorchudd o dyfiant ac yn caniatáu i goed a phrysgwydd gael eu ‘stripio i ffwrdd’ yn ddigidol ar gyfrifiadur. Drwy ddefnyddio’r dechneg hon roeddem yn gallu mapio caeau ac adeiladau cuddiedig a darganfod lloc pentir newydd, gan adeiladu rhith olwg o’r ynys.

Spectacular 3D LiDAR views of Puffin Island with and without its woodland vegetation
Spectacular 3D LiDAR views of Puffin Island with and without its woodland vegetation

Ni all synhwyro o bell adrodd ond rhan o’r stori. Ym mis Mehefin 2018 aeth staff CHERISH a Cadw i Ynys Seiriol yng nghwmni’r Dr Jonathan Green, arbenigwr ar adar môr, ar antur debyg i rai’r ‘Famous 5’, gan ddechrau drwy lanio yng nghanol morloi’n torheulo ar draeth y gorllewin. Ar ôl ymlafnio drwy wellt a mieri uchel a chropian o dan ganghennau isel, cyraeddasom lonyddwch ac unigedd yr hen eglwys 800 oed. Edrychai’r tŵr Romanésg o garreg galch yn gyfandirol iawn yn haul mis Mehefin. Roedd cywion gwylanod yn rhythu arnom wrth i ni laser-sganio’r tŵr.

Yn ddiweddarach yr haf hwnnw fe gynhaliodd Arolwg Daearegol Iwerddon arolwg bathymetrig morol o arfordir dwyrain Môn, gan fonitro llongddrylliadau a mapio’r dyfroedd ar hyd y glannau. Dychwelsom mewn tywydd cryn dipyn yn oerach ym mis Tachwedd 2018 i hedfan drôn dros y tŵr er mwyn casglu ffotograffau 3D o’r rhannau nad oedd y sganiwr laser wedi gallu eu cyrraedd.

Ar sail yr arolygon newydd fe gynhyrchwyd cofnodion 3D soffistigedig o’r eglwys ganoloesol a’r adeiladweithiau cysylltiedig, a byddwn yn awr yn gallu mesur yn eithriadol o fanwl unrhyw newidiadau sy’n digwydd yn y dyfodol. Cysylltwyd y data o’r arolwg morol â’r data LiDAR i gynhyrchu map 3D atraeth/alltraeth di-dor rhyfeddol o’r ynys. Mae’r ‘cloi-lawr’ presennol yn golygu nad ydym wedi gallu gwneud unrhyw waith maes ac felly rydym wedi manteisio ar y cyfle i ysgrifennu am y gwahanol arolygon a chreu adroddiad archifol sylweddol a gaiff ei gyhoeddi yn 2020.

3D drone photogrammetry of the church tower
3D drone photogrammetry of the church tower

Mae’r tîm CHERISH yn gobeithio dychwelyd i Ynys Seiriol yn 2021 i wneud ymweliad monitro terfynol ac i fwynhau heddwch ac arwahanrwydd yr ynys wyllt hon am y tro olaf.

Gweler ein cofnodion ar-lein ar gyfer Ynys Seiriol yma:

Darganfyddwch fwy yma

Map Lleoliad

Read More →
cyCY