Cylchlythyr

Mae prosiect CHERISH yn ymgysylltu â chymunedau arfordirol i rannu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth o effaith newid yn yr hinsawdd ar dreftadaeth ddiwylliannol arfordirol. Rydym hefyd yn rhannu ein hymchwil, ein harbenigedd a'n methodolegau gyda rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys academyddion, llunwyr polisïau, awdurdodau lleol ac unrhyw un a allai elwa o'n hymchwil.

Rydym yn cyhoeddi cylchlythyr CHERISH ddwywaith y flwyddyn a gallwch lawrlwytho'r holl ôl-rifynnau o'r wefan hon.Os hoffech chi gael eich cynnwys ar y rhestr bostio a derbyn copi digidol o'r cylchlythyr ddwywaith y flwyddyn, cysylltwch â thîm y prosiect.

Gallwch ddilyn prosiect CHERISH ar Facebook, Twitter, YouTube ac Instagram, yn ogystal ag yma ar ein gwefan ni.

Mae gennym gyfres fideo fisol o'r enw Sgyrsiau CHERISH i dynnu sylw at rywfaint o'n hymchwil ddiweddar a'r cyfoeth o fideos a lluniau llonydd mae'r prosiect wedi'u casglu. Mae'r fideos hyn yn cael eu postio ar gyfryngau cymdeithasol ac maent hefyd ar gael ar ein sianel YouTube. Rydym hefyd yn cyhoeddi blogiau rheolaidd ar ein gwefan i dynnu sylw at ein hymchwil parhaus.

Gan fod ein holl waith bron yn defnyddio'r technolegau digidol diweddaraf, rydym yn gallu defnyddio’r data sy’n cael eu casglu i greu cynhyrchion difyr ac addysgiadol, fel ein modelau Sketchfab 3D o safleoedd sy'n galluogi i ddefnyddwyr fynd ar deithiau rhithwir o gyfforddusrwydd eu cartrefi eu hunain.

cyCY