Cylchlythyr

Cydweithredu a Hyfforddiant

Mae Prosiect CHERISH wedi trefnu nifer o weithdai proffesiynol ac wedi ymrwymo i drefnu mwy o weithdai a digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Seminarau Proffesiynol

Cynhaliodd Prosiect CHERISH Seminar Broffesiynol lwyddiannus ddydd Iau 17eg Mai 2018 yn Venue Cymru, Llandudno. Mynychodd bron i 80 o gynrychiolwyr y seminar gan gynnwys aelodau o Bwyllgor Cynghori CHERISH a Phartneriaid y Prosiect. Cyflwynodd amrywiaeth o siaradwyr bapurau sefyllfa ar bolisi treftadaeth arfordirol a newid yn yr hinsawdd y DU o'r Alban, Lloegr, Cymru ac Iwerddon yn ogystal â sgyrsiau am arolygu, ymchwil ac ymgysylltu â'r cyhoedd. Roedd y seminar undydd am ddim yn cynnwys tri sesiwn yn canolbwyntio ar ‘Strategaethau ar gyfer ein Harfordiroedd sy’n Newid - Persbectif Rhanbarthol a Chenedlaethol’, ‘Wynebu’r her: Diweddariad Prosiect CHERISH’ ac ‘Ymgysylltu â Chymunedau Arfordirol’.
Cyfranogwyr ysgol hedfan 2019 CHERISH yn derbyn brîff cyn cynnal eu harolwg ffotograffig cyntaf.
Cyfranogwyr ysgol hedfan 2019 CHERISH yn derbyn brîff cyn cynnal eu harolwg ffotograffig cyntaf.

Ysgolion Dydd

Mae nifer o ysgolion dydd wedi cael eu trefnu ar ddwy ochr Môr Iwerddon gydag ysgol awyr yn Iwerddon yn 2019 yn uchafbwynt penodol. Fe'i rhannwyd yn ysgol ddydd UAV ac ysgol ddydd hedfan. Dechreuodd y ddwy ysgol ddydd gyda sesiynau ystafell ddosbarth yn y bore, ac wedyn sesiwn ymarferol yn y prynhawn. Cynhaliwyd sesiwn ymarferol UAV ar Fryn Uisneach, Sir Westmeath. Esboniwyd ymarferoldeb trefnu a chynllunio arolwg UAV ar y safle. Roedd y tiwtoriaid yn cynnwys Robert Shaw, y Rhaglen Ddarganfod, James Barry, Arolwg Daearegol Iwerddon a Ronan O’Toole, Arolwg Daearegol Iwerddon.
James Barry o'r GSI yn briffio cynrychiolwyr Ysgol Hedfan UAV CHERISH 2019 cyn arolwg.
James Barry o'r GSI yn briffio cynrychiolwyr Ysgol Hedfan UAV CHERISH 2019 cyn arolwg.
Parhaodd sesiwn ymarferol yr ysgol hedfan ym Maes Awyr Weston yn Nulyn. Rhannwyd y myfyrwyr yn ddau grŵp o dri a buont yn hedfan mewn awyren pedair sedd gyda'r peilot ac un o'r hyfforddwyr (Dr Toby Driver, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Damien Grady, Historic England). Roedd y llwybr hedfan yn gyfle i'r myfyrwyr dynnu lluniau o Gastell Trim, Bryn Tara a Safle Treftadaeth y Byd Bru Na Boinne. Cymerodd cyfanswm o 13 o fyfyrwyr ran yn yr ysgol arolygu o’r awyr gan gynnwys myfyrwyr ôl-raddedig, archaeolegwyr masnachol a chydweithwyr yn sector y wladwriaeth. Roedd yr adborth o’r ysgol yn gadarnhaol iawn.
Yn 2018, gwelodd Cymru hefyd ei hysgol ddydd gyhoeddus gyntaf, a gynhaliwyd gan y Comisiwn Brenhinol a Phrifysgol Aberystwyth. Roedd 'Wynebu’r Stormydd' yn cynnwys cyflwyniadau gan holl Bartneriaid CHERISH ochr yn ochr â dau siaradwr gwadd, Rebecca Evans o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Ken Murphy o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed.
Cyfranogwr ysgol hedfan CHERISH yn glanio wedi tynnu llun lletraws o Brú na Bóinne drwy ffenest agored y cocpit.
Cyfranogwr ysgol hedfan CHERISH yn glanio wedi tynnu llun lletraws o Brú na Bóinne drwy ffenest agored y cocpit.

Cynnwys Cysylltiedig

CYMRYD RHAN

cyCY