Cylchlythyr

Ymgysylltu â’r Gymuned

Mae ymgysylltu â'r gymuned yn rhan sylfaenol o CHERISH. Ers dechrau'r prosiect yn 2017 rydym wedi bod yn ymgysylltu â'r cyhoedd mewn amryw o ffyrdd a lleoliadau ledled Iwerddon a Chymru.

Staff CHERISH yn arwain taith gyhoeddus o amgylch safle Dinas Dinlle yng Ngogledd Cymru.
Staff CHERISH yn arwain taith gyhoeddus o amgylch safle Dinas Dinlle yng Ngogledd Cymru.

Rydym wedi cynnal gweithgareddau ymgysylltu yn yr awyr agored fel teithiau cerdded tywys ar hyd yr arfordir ac ar yr ynysoedd, ymarferion cerdded maes i adnabod arteffactau mewn pridd wedi'i aredig a glanhau traethau cymunedol. Rydym hefyd yn parhau i gydweithio â sefydliadau eraill sydd hefyd yn curadu ac yn ymchwilio i safleoedd teftadaeth arfordirol sydd dan fygythiad.

Mae'r prosiect hefyd wedi cynnal nifer o ddyddiau agored sy'n arddangos ei natur amrywiol. Mae digwyddiadau fel y rhai a gynhaliwyd yn ystod yr Wythnos Treftadaeth Genedlaethol wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda mwy na 1,000 o bobl yn camu ar fwrdd llongau arolygu GSI i ddysgu am waith morol CHERISH.

Aelodau Sgowtiaid Iwerddon yn ystod diwrnod agored llong CHERISH.
Aelodau Sgowtiaid Iwerddon yn ystod diwrnod agored llong CHERISH.

Yn 2019 cynhaliwyd digwyddiad cloddio cymunedol cyntaf CHERISH yng nghaer arfordirol Dinas Dinlle yng Ngwynedd ac roedd cyfle i hanner cant o wirfoddolwyr o'r ardal leol gymryd rhan yn y cloddio. Daeth y cloddio i benllanw gyda diwrnod agored a chyfle i fwy na 400 o ymwelwyr ddysgu am y safle a'r ffyrdd mae newid yn yr hinsawdd ac erydiad yn effeithio arno. Cafodd yr ymwelwyr daith dywys hefyd o amgylch y ffosydd cloddio lle gallent weld un o'r tai crwn cynhanesyddol mwyaf erioed i gael ei ddarganfod yng Nghymru.

Yng ngham nesaf Prosiect CHERISH, bydd y gymuned yn cael gwahoddiad i helpu i gofnodi newidiadau i'w harfordir gan ddefnyddio ein ap sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Darperir hyfforddiant a chefnogaeth i grwpiau cymunedol sy'n dymuno cymryd rhan.

Prosiect CHERISH yn gweithio gydag ysgolion yng Ngwynedd yn 2019.
Prosiect CHERISH yn gweithio gydag ysgolion yng Ngwynedd yn 2019.
Archaeolegwyr Prosiect CHERISH Dan Hunt a Toby Driver yn dangos i ysgol sut mae dronau’n cael eu defnyddio i gofnodi safleoedd archaeolegol.
CHERISH Project archaeologists Dan Hunt & Toby Driver demonstrate to a school how drones are used to record archaeological sites.

Cofnodi Cymunedol

Bydd prosiect CHERISH yn cefnogi'r rôl weithredol y gall cymunedau ei chwarae wrth gofnodi'r amgylchedd arfordirol drwy ddatblygu a hyrwyddo cofnodi cymunedol. Yn seiliedig ar brofiadau llwyddiannus CITiZAN (Rhwydwaith Archaeolegol Parth Arfordirol a Rhynglanwol)yn Lloegr ac Ap ShoreUpdate sydd wedi’i ddatblygu gan Ymddiriedolaeth SCAPE yn yr Alban, bydd CHERISH yn datblygu rhaglenni peilot sy'n galluogi dinesydd wyddonwyr i adnabod a chofnodi treftadaeth arfordirol drwy ddefnyddio dyfeisiau symudol a darparu tystiolaeth ffotograffig ac ysgrifenedig o unrhyw ddifrod posibl. Bydd yr adnodd yn cael ei ddatblygu ar gyfer defnydd y cyhoedd yn 2022 ac yn ystod Cam II prosiect CHERISH.

Cynnwys Cysylltiedig

CYMRYD RHAN

cyCY