Cylchlythyr

Dydd Sadwrn 13eg Awst: 10am – 4pm

Mae tîm CHERISH yn cydweithio â’r Weinyddiaeth Amddiffyn a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro i greu’r y daith arbennig iawn hon o amgylch y ceyrydd pentir trawiadol sydd wedi'u gosod yn y clogwyni calchfaen ger Dwyrain a Gorllewin Maes Tanio Castellmartin, mewn ardaloedd nad ydynt fel rheol yn hygyrch i’r cyhoedd.

Cofiwch, mae Castellmartin yn faes tanio byw a rhaid bod yn ofalus bob amser – ni ddylai unrhyw un sy’n bresennol gyffwrdd na chodi unrhyw beth ar y Maes Tanio a bydd angen i bawb lofnodi ffurflen Fynediad yn dilyn briff diogelwch. Ni chaniateir unrhyw un o dan 18 oed ar y daith hon. Nid oes toiledau ar gael yn y Maes Tanio. Mae’r llefydd yn hynod gyfyngedig, i gapasiti'r bws mini (14 sedd).

Mae’r llefydd ar y daith yma am ddim, ond maent yn gyfyngedig iawn – dim ond os ydych chi’n sicr y gallwch chi ymuno â ni ar y diwrnod ddylech chi archebu lle.

Map Lleoliad

https://www.facebook.com/events/1207464266668338/?ref=newsfeed

cyCY