Pellter: 8.5km

Hyd: Amcangyfrifir 3.5 awr

Bydd Tîm CHERISH yn arwain taith gerdded o Farloes i Barc y Ceirw, ac yn ôl eto.
Ar hyd y daith bydd cyfle i weld llongddrylliad stemar yr Albion a dwy gaer bentir gynhanesyddol.
 
Cawn glywed am ryngweithio pobl yr arfordir gyda’r môr dros amser, ac effeithiau newid hinsawdd ar y dreftadaeth hon heddiw.
 
Bydd y daith gerdded yn cynnwys golygfeydd anhygoel o'r ynysoedd a bywyd gwyllt ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro.
 
Cawn ein tywys gan Julian Whitewright, Archaeolegydd Morwrol gyda
Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
 
Bydd archaeolegwyr eraill o dîm CHERISH yn bresennol i sgwrsio â hwy am archaeoleg yr arfordir a pham rydyn ni’n gweithio yn yr ardal heddiw.
 
Byddwn yn gorffen yn ôl ym maes parcio Marloes, lle mae caffi a thoiledau, neu
gallech ddod â phicnic i orffen y diwrnod.
 
PWYNTIAU I’W NODI:
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal ar yr arfordir ac ar dir a all fod yn heriol. Gwisgwch yn addas ar gyfer y tywydd a gwisgwch esgidiau call. Cofiwch ddod â dŵr, ac unrhyw feddyginiaeth neu fwyd y gallai fod arnoch eu hangen. Toiledau ar gael yn y maes parcio ond nid ar hyd y llwybr. Bydd y tywyswyr yn cynnwys swyddogion cymorth cyntaf cymwys. Os oes gennych chi unrhyw gyflyrau iechyd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau’r daith gerdded hon, neu os oes arnoch angen unrhyw feddyginiaeth, siaradwch ag aelod o'r tîm yn gyfrinachol ymlaen llaw. Os oes gennych chi unrhyw anghenion mynediad yr hoffech eu trafod, cysylltwch â ni ac fe wnawn ein gorau i ddarparu ar gyfer pawb. Dewch i’n digwyddiad Taith Gerdded o’r Gadair Freichiau os na allwch chi ymuno â ni ar y safle. Er y bydd y digwyddiad hwn yn digwydd y tu allan, byddem yn gwerthfawrogi gofal yr un fath ar ran y cyfranogwyr mewn perthynas â Covid-19: peidiwch â mynychu os oes gennych chi symptomau salwch neu os ydych chi wedi profi’n bositif.
 
Archebu yn hanfodol: https://www.eventbrite.co.uk/e/archaeology-guided-walk-marloes-to-deer-park-tickets-336315166717

Map Lleoliad

cyCY