Dyma ddigwyddiad olaf prosiect CHERISH
Ar ddydd Mawrth 21ain Mawrth 2023 bydd CHERISH yn cynnal ei gynhadledd derfynol. Yn y Printworks, Castell Dulyn, byddwn yn cyflwyno’r canfyddiadau terfynol, y cynnyrch a’r gwersi a ddysgwyd o’r prosiect chwe blynedd yma, gwerth €4.9 miliwn. Yn bwysicach na dim, bydd hyn yn cynnwys lansio ein Canllaw Arferion Da: canllaw ar “becyn adnoddau” y prosiect ar gyfer ymchwilio i safleoedd sydd mewn perygl.
Bydd y diwrnod yn cynnwys papurau gan aelodau’r tîm, gweithwyr treftadaeth proffesiynol sydd wedi gweithio gyda’r prosiect, a’r rhai sydd wedi datblygu a mireinio’r Pecyn Adnoddau. Bydd cynrychiolwyr o amrywiaeth eang o fusnesau yn ymuno â ni, gyda Stondinau Masnach i’w harchwilio yn ystod pob seibiant paned. Bydd paneidiau a chinio yn cael eu darparu, a bydd derbyniad diodydd gyda’r nos fel cyfle i rwydweithio.
Ymunwch â ni os ydych chi eisiau clywed am y ffyrdd o roi sylw i safleoedd arfordirol, rhynglanwol a morol sydd mewn perygl oherwydd newid yn yr hinsawdd. Bydd cyfle i drafod dyfodol treftadaeth hinsawdd, a sut gallwn ni fel gweithwyr treftadaeth proffesiynol ymgysylltu â pheryglon newid hinsawdd.
Os hoffai eich cwmni neu sefydliad chi gael stondin fasnachu yn y digwyddiad, cysylltwch â ni yn uniongyrchol ar cherish@cbhc.gov.uk.