Cylchlythyr

Prif amcan CHERISH yw cynyddu capasiti a gwybodaeth addasiad newid yn yr hinsawdd ar gyfer cymunedau Môr Iwerddon ac Arfordirol. 

Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy’r naw Fenter ganlynol gan CHERISH (MC):

MC 1 – CYFARWYDDYD ARFER DA

Bydd tîm CHERISH yn darparu cyfarwyddyd integredig ar sut i arolygu a chofnodi safleoedd treftadaeth sydd dan fygythiad oherwydd newid yn yr hinsawdd mewn cymunedau arfordirol targed, gan ddefnyddio’r technolegau arloesol diweddaraf a thechnegau synhwyro o bell.

MC 2 – MARCWYR AROLYGU SEFYDLOG

Fel gwaddol allweddol i’r gweithredu, bydd CHERISH yn darparu’r pwyntiau arolygu sefydlog sylfaen 3D cyntaf a data ar gyfer asedau treftadaeth dethol yn benodol ar gyfer monitro newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.

MC 3 – DATA AMGYLCHEDD HANESYDDOL GWELL

Drwy gyfrwng ei weithgareddau, bydd CHERISH yn gwella ac yn diweddaru cyfresi data hanesyddol cenedlaethol, sy’n helpu fel sail i restri blaenoriaeth ar gyfer dynodiad statudol.

MC 4 - DATA PALAEOAMGYLCHEDDOL GWELL

Bydd CHERISH yn creu data palaeoamgylcheddol aml-brocsi mewn fframwaith cronolegol cadarn, wedi’u datblygu o leoliadau penodol i ailadeiladu amgylcheddau’r gorffennol ac fel sail i strategaethau addasu yn y dyfodol.

 

MC 5 – DATA AR / ODDI AR Y LAN DI-DOR

Bydd nifer o ‘fapiau real’ digidol arloesol sy’n deillio o LiDAR a ffotogrametreg yn darparu data geomatig 3D ar gyfer cynllunio a rheoli yn yr amgylcheddau tiriogaethol, rhynglanwol a morol.

MC 6 – HYFFORDDI’R DINESYDD WYDDONYDD

Cynadleddau, gweithdai, seminarau a digwyddiadau allgymorth diddorol i godi ymwybyddiaeth a hyfforddi’r dinesydd wyddonydd mewn arolygu a chofnodi, treftadaeth mewn perygl, newid yn yr hinsawdd ac effaith stormydd.

MC 7- CLODDIO AR ASEDAU TREFTADAETH SYDD MEWN PERYGL

Bydd cloddio cymunedol yn digwydd yn ystod CHERISH i hyfforddi dinesydd wyddonwyr mewn cymunedau lleol i gofnodi safleoedd treftadaeth sydd mewn perygl.

MC 8 - PORTHOL GWE A RENNIR

Adnodd allweddol o CHERISH ar gyfer cyflwyno gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth a gwaddol pwysig ar gyfer gweithredu strategaethau addasu yn y dyfodol.

MC 9 - CYNLLUNIAU RHEOLI PERCHNOGION TIR

Cynlluniau rheoli manwl ar gyfer cyfresi data GIS ar gyfer riffiau, ynysoedd a phentiroedd sy’n cael eu hastudio gan ddangos asedau treftadaeth ddiwylliannol a bygythiadau newid yn yr hinsawdd.
cyCY