Cylchlythyr

Mae prosiect 6 blynedd CHERISH yn canolbwyntio ar arolygu a chofnodi darnau blaenoriaeth o arfordir a dyfroedd mewndir ardal ariannu Rhaglen Iwerddon-Cymru 2014-2020, yn enwedig lle mae bylchau data a gwybodaeth yn bodoli. Mae gwaith prosiect arfordirol ac ynysoedd ar y cyd gan y ddwy wlad yn canolbwyntio ar safleoedd treftadaeth ar hyd arfordiroedd sy'n erydu ac mewn ardaloedd isel sy'n agored i lefel y môr yn codi a’i ymchwydd. Hefyd, mae môr-lynnoedd arfordirol a gwlybdiroedd sydd â photensial palaeoamgylcheddol uchel yn cael eu hastudio.
Mae ardaloedd arolygu morol ar y cyd rhwng y ddwy wlad yn ategu parthau blaenoriaeth arfordirol gyda gwaith wedi'i dargedu at longddrylliadau tanfor sydd â photensial archaeolegol, hanesyddol a newid hinsawdd uchel. Mae'r ardaloedd a ddewiswyd yn nodedig o ran daeareg gyda safleoedd treftadaeth ddiwylliannol sylweddol yn cael eu cynrychioli ym mhob un o'r ardaloedd. Mae gwahanol ddulliau, methodolegau ac arferion cofnodi’n cael eu gweithredu ar y gwahanol safleoedd i ddatblygu arfer gorau ar gyfer cofnodi treftadaeth ddiwylliannol sydd mewn perygl oherwydd y tywydd a phrosesau arfordirol sy'n cael eu cyflymu gan newid yn yr hinsawdd.
I gael rhagor o fanylion am ardaloedd y prosiect yn Iwerddon a Chymru, dewiswch y ddolen isod.
cyCY