Mae'r map hwn yn dangos ardaloedd y prosiect yng Nghymru. Yn ystod blwyddyn gyntaf CHERISH buom yn gweithio'n galed gydag asiantaethau, rhanddeiliaid, perchnogion tir a grwpiau lleol i gwblhau ein meysydd gwaith ar y cyd ar sail bylchau gwybodaeth a data, meysydd blaenoriaeth o ran y risg o erydu, a’r potensial ar gyfer cydweithredu. Rydym yn parhau i wneud gwaith arolygu yn yr ardaloedd arfordirol a ddangosir tra bydd ein safleoedd monitro sylfaen â blaenoriaeth (gan gynnwys y rhai yn y llun) yn cael ymweliadau a'u harolygu'n amlach, yn enwedig ar ôl stormydd gaeaf niweidiol, i fonitro newid tymor hir.