Cylchlythyr

Map Lleoliad

Cyflwyniad

Mae Ynys Dewi a Gwersyll Caerfai yn rhan o dirwedd arfordirol gynhanesyddol bwysig penrhyn Tyddewi sydd ag o leiaf 12 o geyrydd pentir arfordirol gan gynnwys y gaer drawiadol Clawdd y Milwyr ar Benmaen Dewi.

Ynys Dewi

Mae Ynys Dewi wedi'i gwahanu oddi wrth y tir mawr gan Swnt Dewi, swnt peryglus iawn, i'r gorllewin o Dyddewi. Gellir olrhain hanes rhyngweithiad dyn ag Ynys Dewi yn ôl i gyfnod yr Oes Efydd fwy na 4,000 i 5,000 o flynyddoedd yn ôl drwy bresenoldeb berfâu crwn, carneddau a ffiniau caeau ar draws yr ynys. Roedd hefyd yn lle pwysig yn ystod y cyfnod canoloesol ac yn cael ei adnabod mewn chwedlau fel safle claddu 20,000 o saint. Cofnodir hefyd fod dau gapel, Sant Justinian a Sant Tyfanog, wedi'u lleoli ar yr ynys yn ystod y cyfnod canoloesol.
Mae CHERISH wedi defnyddio Sganio Laser yn yr Awyr (ALS) a ffotograffiaeth Hanesyddol o'r awyr i nodi a mapio'r holl henebion archaeolegol gweladwy ar yr ynys er mwyn gwella ac ehangu’r cofnodion presennol am henebion ar gyfer yr ynys.
Model gweddlun digidol (DEM) Ynys Dewi a grëwyd o ddata ALS.
Model gweddlun digidol (DEM) Ynys Dewi a grëwyd o ddata ALS.

Gwersyll Caerfai

Mae safle caer bentir Gwersyll Caerfai i’w weld ar bentir arfordirol naturiol mawr ac amlwg iawn yn weledol tua 1.3km i’r de ddwyrain o ddinas Tyddewi. Mae’r safle’n unigryw gan ei fod ar flaen pentir naturiol hir sy’n ymwthio tua 500m allan i Fae Sain Ffraid lle byddai wedi bod yn amlwg eithriadol i forwyr y gorffennol. Mae’r safle’n nodedig oherwydd yr hafn sydd wedi’i erydu’n drwm dros amser i greu llain is-betryal o dir sy’n cysylltu ym mlaen eithaf y pentir naturiol hir. Mae cyfres o bedwar clawdd a ffos a adeiladwyd ac a addaswyd drwy gydol y cyfnod cynhanesyddol yn rhedeg yn gyfochrog â'r hafn ar ei ochr ogleddol. Diddorol yw'r ffordd mae'n ymddangos bod yr amddiffynfeydd sydd wedi’u hadeiladu’n parchu lle mae'r erydiad wedi digwydd.
Llun o’r awyr o Wersyll Caerfai wedi’i dynnu gan ddefnyddio UAV.
Llun o’r awyr o Wersyll Caerfai wedi’i dynnu gan ddefnyddio UAV.

Pam rydym yn gweithio yma?

Mae erydu arfordirol wedi cael effaith amlwg ar yr archaeoleg yn y rhanbarth hwn, yn enwedig yng Nghaerfai lle mae cryn dipyn o'r safle wedi'i golli i'r môr. Bydd ymchwil archaeolegol a phaleoamgylcheddol o'r ardal hon hefyd yn dod i gasgliadau ehangach am batrymau rhanbarthol o amrywioldeb hinsoddol yn y gorffennol yn ogystal â nodi'r prif brosesau sy'n achosi'r erydiad

Cynnwys Cysylltiedig

cyCY