Map Lleoliad
Cyflwyniad
Porth y Rhaw yw un o'r ceyrydd pentir mwyaf trawiadol yn Sir Benfro ond mae wedi'i herydu'n drwm. Mae'r gaer ar safle cymharol ddisylw ar ddarn hynod ysgythrog ac wedi erydu o’r arfordir tua 1.1km i'r gorllewin o Solfach. Wedi'i guddio yng nghanol pentiroedd, clogwyni a chilfachau bach eraill dirifedi, mae'r safle'n manteisio ar bentir naturiol serth sydd wedi'i gerflunio i greu cyfres o ragfuriau a ffosydd sy'n wynebu am y tir. Mae arolygon archaeolegol a gwaith cloddio wedi datgelu bod Porth y Rhaw wedi’i adeiladu a bod pobl wedi dod i fyw iddo yn ystod cyfnod cynnar yr Oes Haearn – cyfnod Rhufeinig Prydeinig (800CC – 400 OC) - ond mae tystiolaeth yn awgrymu nad oedd pobl yn byw ar y safle drwy gydol y cyfnod hwnnw. Cafodd yr amddiffynfeydd eu hailfodelu hefyd, o leiaf bum gwaith mae’n bur debyg, gan adlewyrchu newidiadau amrywiol yn swyddogaeth y safle yn ystod ei hanes hir.
Pam rydym yn gweithio yma?
Mae erydu arfordirol wedi cael effaith amlwg iawn ar Borth y Rhaw sydd wedi dylanwadu ar y safle dros filoedd o flynyddoedd. Mae CHERISH yn gweithio ar y safle i ddarparu data 3D gwrthrychol ar gyfer monitro erydiad ac i ddeall ymhellach yr archaeoleg dan fygythiad sydd ar y safle. Mae ymchwil archaeolegol manwl wedi tynnu sylw at y ffaith nad ffenomenon fodern yw erydiad gweladwy o bell ffordd, gyda'r adeiladwyr yn parchu'r hafn canolog enfawr sydd wedi erydu drwy adeiladu'r amddiffynfeydd o'i amgylch. Awgrymodd dehongliadau blaenorol fod yr hafn wedi ffurfio i raddau helaeth ar ôl i'r safle gael ei adeiladu.