Cylchlythyr

Map Lleoliad

Cyflwyniad

Mae Ynys Gwales, Ynys Sgomer a Phenrhyn Marloes yn rhan bwysig o dirwedd arfordirol gynhanesyddol a hanesyddol unigryw de Sir Benfro. Mae arfordir Penrhyn Marloes hefyd yn enwog am longddrylliadau llongau’n teithio rhwng Iwerddon, de Cymru a de Lloegr.

Ynys Gwales ac Ynys Sgomer

Llun lletraws o'r awyr o Ynys Midland, Ynys Sgomer.
Llun lletraws o'r awyr o Ynys Midland, Ynys Sgomer.

Mae Ynys Gwales ac Ynys Sgomer yn ddwy ynys sy'n gyfoethog yn archaeolegol oddi ar arfordir gorllewinol penrhyn Marloes yn ne Sir Benfro. Ymhlith y miloedd o nythod huganod a thyllau palod sy'n gorchuddio’r ynysoedd mae olion strwythurau carreg dirgel, dirifedi, waliau cerrig sy’n rhyng-gysylltu, balciau wedi'u haredig a nodweddion archaeolegol eraill. Mae'r olion gweladwy’n cynrychioli pobl yn preswylio yma ac yn ffermio ar yr ynysoedd sy'n rhychwantu'r cyfnodau cynhanesyddol a chanoloesol. Mae ymchwil diweddar gan CHERISH wedi datgelu rhywfaint o ddirgelwch yr ynysoedd drwy archwilio a chofnodi eu harchaeoleg sy'n erydu.

Mae ymchwil archaeolegol wedi bod yn digwydd ar Sgomer ers 2011 ac mae’n cael ei wneud gan archaeolegwyr o'r Comisiwn Brenhinol, Prifysgol Sheffield a Phrifysgol Caerdydd fel rhan o Brosiect Sgomer. Un o brif gynhyrchion y prosiect oedd casglu data LiDAR 0.50cm ar gyfer yr ynys gyfan ac wedyn cynhaliwyd gwaith mapio archaeolegol. Arweiniodd y gwaith hwn at fapio systemau caeau dirifedi o'r Oes Efydd, yr Oes Haearn a'r cyfnod canoloesol, ac nid oedd llawer ohonynt yn hysbys o'r blaen. Yn ei hanfod, gosododd y gwaith hwn y blociau adeiladu yn eu lle ar gyfer casglu data LiDAR CHERISH am chwe ynys arall (gan gynnwys Ynys Gwales) yn 2017.

Llun o'r awyr o Ynys Gwales.
Llun o'r awyr o Ynys Gwales.

Dywed LiDAR survey of Grassholm allowed for the precise identification and mapping of all surviving prehistoric structures and field boundaries spread across the island. Based on this work several areas of interest were identified which were investigated during a 2019 visit by CHERISH. The main priority for the team was to undertake a rapid two-day evaluation excavation of a single stone-built structure towards the centre of the island that had become exposed due to the erosion of the previously overlying vegetation. A small segment of one of the structure’s walls was excavated to characterise the way in which it was constructed and to recover any possible artefactual evidence. The small part of the structure that was uncovered was very well-built, however, a lack of dating evidence made dating the structure extremely difficult.

Model Gweddlun Digidol (DEM) o Ynys Gwales wedi’i gynhyrchu o ddata LiDAR.
Model Gweddlun Digidol (DEM) o Ynys Gwales wedi’i gynhyrchu o ddata LiDAR.

Penrhyn Marloes

Mae penrhyn Marloes yn gartref i draethau hardd, clogwyni trawiadol a dyfrffyrdd peryglus. Mae'r arfordir trawiadol wedi'i fritho â detholiad gwych o geyrydd pentir cynhanesyddol ac aneddiadau arfordirol sy'n manteisio'n llawn ar y topograffeg naturiol yn ogystal â sawl llongddrylliad sy'n ein hatgoffa o berygl y môr. Mae CHERISH yn ymchwilio i un llongddrylliad penodol o'r enw 'The Albion' sydd wedi'i leoli ar Draeth Albion i'r de orllewin o Farloes. Adeiladwyd y stemar bren ym Mryste yn 1831 gan General S P Company i gludo pobl a nwyddau rhwng Bryste a Dulyn. Yn 1837 gorfodwyd capten y llong i newid llwybr er mwyn osgoi taro cwch rhwyfo gyda phedwar dyn ar ei fwrdd. Achosodd y newid cyfeiriad a grym y llanw i'r Albion daro craig a orfododd y llong i ddod i'r tir ym Marloes. Mae'r llongddrylliad bellach yn cael ei fonitro gan CHERISH i ddadansoddi sut mae stormydd yn dylanwadu ar symudiad tywod wrth i'r llongddrylliad ddod i’r golwg a chael ei orchuddio.
Gwahanol elfennau safle llongddrylliad yr Albion sy’n cynnwys sgwrfa stormydd (1), gweddillion y boeler (2), crancsiafft (3) ffon piston (4), a’r ffrâm sy’n dal y crancsiafft.
Gwahanol elfennau safle llongddrylliad yr Albion sy’n cynnwys sgwrfa stormydd (1), gweddillion y boeler (2), crancsiafft (3) ffon piston (4), a’r ffrâm sy’n dal y crancsiafft.

Pam rydym yn gweithio yma?

Er bod yr ardal hon yn arwyddocaol yn archaeolegol, ychydig rydym yn ei wybod am safleoedd yr arfordir a'r ynys. Mae ymchwil archaeolegol a gynhaliwyd gan CHERISH yn dechrau rhoi sylw i rai o'r bylchau hyn yn yr wybodaeth ac yn datgelu rhai o straeon archaeolegol yr arfordir hanesyddol bwysig hwn. Hefyd, mae data pwysig sy’n cael eu casglu gan y prosiect (fel data LiDAR, UAV a GNSS) yn darparu set ddata sylfaen bwysig y gellir ei defnyddio yn y dyfodol i fonitro newidiadau posibl ar hyd yr arfordir.

Cynnwys Cysylltiedig

cyCY