Cylchlythyr

Map Lleoliad

Cyflwyniad

Mae’r arfordir rhwng Castellmartin a Chwninger Stagbwll yn adnabyddus am ei glogwyni calchfaen uchel, trawiadol lle adeiladwyd llawer o geyrydd pentir cynhanesyddol. Mae llawer o’r safleoedd hyn wedi dioddef yn y gorffennol o erydu arfordirol, gyda rhai wedi’u colli i’r môr yn llwyr erbyn hyn. Mae twyni tywod Cwninger Stagbwll yn eithriadol ddiddorol hefyd ac yn cynnwys gwybodaeth werthfawr am sut mae patrymau tywydd wedi newid yn y gorffennol a siapio’r dirwedd arfordirol rydym yn ei gweld heddiw. Hefyd mae’r twyni tywod wedi gorchuddio a gwarchod safleoedd archaeolegol pwysig o’r Oes Efydd a’r Oes Haearn.

Llun o’r awyr o arfordir Castellmartin.
Llun o’r awyr o arfordir Castellmartin.

Ceyrydd Pentir Castellmartin

Mae'r rhan hon o Sir Benfro wedi'i bendithio â digonedd o geyrydd pentir sy'n amrywio o safleoedd un ffos sengl i strwythurau mawr iawn. Mae llawer o'r safleoedd hyn wedi elwa o gael eu lleoli o fewn ffiniau maes ymarfer tanio Castellmartin lle maent bellach yn cael eu 'hamddiffyn' i bob pwrpas gan y fyddin. Fodd bynnag, er eu bod wedi'u diogelu'n dda rhag ymyrraeth ddynol, nid ydynt wedi'u diogelu cymaint rhag grymoedd byd natur sydd wedi cael effaith amlwg ar yr archaeoleg.
Caer Bentir Bae Trefflemin gyda’i ‘phair’ nodedig wedi'i erydu.
Caer Bentir Bae Trefflemin gyda’i ‘phair’ nodedig wedi'i erydu.

Yn yr ardal hon mae CHERISH yn monitro ac yn ymchwilio i bump o geyrydd pentir: Trwyn Linney, Bae Trefflemin, Crocksydam, Twyn Crickmail a Thwyn Buckspool. Mae pob un yn unigryw o ran natur y dirwedd a sut maent wedi cael eu hadeiladu. Drwy ddefnyddio cyfuniad o arolygon UAV ac arolygon gwrthgloddiau dadansoddol, mae CHERISH nid yn unig yn monitro erydiad diweddar ond hefyd yn ymchwilio i rai o'r cwestiynau archaeolegol niferus nad oedd wedi ceisio eu hateb o’r blaen.

Ceir hefyd safle Cors Castellmartin sy'n wlybdir yn y cwm sydd wedi cael ei ddylanwadu'n gryf gan systemau tywydd arfordirol a thwyni tywod symudol, mawr sy'n symud yn raddol i mewn am y tir. Mae CHERISH wedi creiddio'r gwlybdir ac wedi adfer craidd o waddodion sy'n dyddio'n ôl tua 5000 o flynyddoedd. Drwy ddefnyddio'r dechneg hon, y gobaith yw y gellir nodi patrymau amledd a dwysedd stormydd yn y cofnod biolegol a geogemegol er mwyn gwella'r ddealltwriaeth o newid yn yr hinsawdd yn y presennol a'r dyfodol.
Caer bentir Trwyn Linney.
Caer bentir Trwyn Linney.

Cwninger Stagbwll

Yn nwyrain ardal y prosiect mae system helaeth o dwyni tywod o’r enw Cwninger Stagbwll. Yn anarferol, mae’r twyni hyn ar ben clogwyni calchfaen uchel sy’n codi i tua 20m uwch ben lefel y môr. Mae gan y Gwninger dystiolaeth archaeolegol gyfoethog am breswylio yma rhwng y Cyfnod Mesolithig a’r Cyfnod Rhufeinig. Mae gwaith cloddio wedi dangos bod y tywod wedi cael ei symud mewn o leiaf ddau gyfnod nodedig, y tro cyntaf tua diwedd yr Oes Efydd ac wedyn symudiad tywod ysbeidiol yn ystod yr Oes Haearn i’r Cyfnod Rhufeinig Brydeinig.

Mae CHERISH wedi adfer creiddiau o dair ardal ar Gwninger Stagbwll, a fydd yn cael eu dyddio gan ddefnyddio Goleuedd a Ysgogir yn Optegol (OSL) i wella ein dealltwriaeth o pryd digwyddodd y digwyddiadau symud tywod hyn. Efallai y bydd hefyd yn bosibl penderfynu ar amserlen y dyddodi tywod. Drwy'r gwaith hwn, mae CHERISH yn gobeithio ysgogi gwerthfawrogiad ehangach o fywydau'r trigolion cynnar yn yr ardal hon, a'r heriau hinsoddol a wynebwyd ganddynt.

Y twyni tywod ar Gors Castellmartin.
Y twyni tywod ar Gors Castellmartin.

Pam rydym yn gweithio yma?

Mae erydu arfordirol wedi cael effaith amlwg ar yr archaeoleg yn y rhanbarth hwn lle mae cyfrannau mawr o safleoedd wedi disgyn i'r môr. Mae CHERISH yn gweithio yn yr ardal hon i ddarparu data sylfaen ar gyfer safleoedd nad ydynt wedi cael llawer o sylw gan archaeolegwyr yn y gorffennol. Bydd ymchwil archaeolegol a phaleoamgylcheddol yn llunio casgliadau ehangach hefyd am batrymau rhanbarthol o amrywioldeb hinsoddol yn y gorffennol yn ogystal â nodi'r prif brosesau sy'n achosi'r erydiad.

Cynnwys Cysylltiedig

cyCY