Map Lleoliad
Cyflwyniad
Mae Ynys Seiriol ychydig oddi ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn, wedi'i gwahanu oddi wrth Drwyn Penmon gan rasys llanwol ffyrnig Swnt Seiriol. Mae'r ynys ei hun yn gogwyddo i’r de orllewin / gogledd ddwyrain ac mae'n codi'n ddramatig o'r môr gyda chlogwyni serth ar bob ochr. Mae Ynys Seiriol hefyd yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) gan ei bod yn darparu noddfa bwysig i sawl rhywogaeth o adar môr fel y Fulfran, Gwylog, Llurs, Mulfran Werdd a Gwylan Goesddu. orientated south-west/north-east and rises dramatically from the sea with steep cliffs on all sides. Puffin Island is also Special Protection Area (SPA) as it provides an important sanctuary for several species of sea birds such as the Great Cormorant, Guillemot, Razorbill, Shag and Kittiwake.
Hanes a Henebion
Mae'r ynys yn fwyaf enwog am ei mynachlog Awgwstinaidd ganoloesol gyda'i thŵr trawiadol o'r 12fed ganrif a strwythurau mynachaidd cysylltiedig eraill. Yn cael ei hadnabod gan rai yn y gorffennol fel 'Priestholm', roedd y fynachlog ar Ynys Seiriol yn gysylltiedig â Phriordy Penmon yn ystod y cyfnod canoloesol, a gellir ymweld â’r priordy hwn o hyd heddiw.
Arolygwyd y strwythurau hyn ynghyd ag olion gwrthgloddiau clostir eglwysig cynharach posibl am y tro cyntaf yn ystod degawdau cynnar yr ugeinfed ganrif. Arolygwyd yr olion yn fanwl ac fe'u disgrifiwyd gan y Comisiwn Brenhinol yn 1937, gan adeiladu ar arolygon a gwaith cloddio cynharach. Ar drwyn gogledd-ddwyreiniol yr ynys hefyd mae olion strwythurol gorsaf delegraff o'r 19eg ganrif.
Pam rydym yn gweithio yma?
Ers arolygon dechrau'r 20fed ganrif prin fu'r ymchwil i olion archaeolegol yr ynys. Y rheswm am hyn yn bennaf yw bod llystyfiant trwchus wedi parhau i ledaenu ar draws yr ynys dros y degawdau diwethaf. Er mwyn rhoi sylw i’r bylchau yn y ddealltwriaeth o dreftadaeth yr ynys comisiynodd CHERISH arolwg LiDAR ar gyfer yr ynys gyfan yn 2017. Mae'r data hyn wedi caniatáu i archaeoleg gudd a than fygythiad yr ynys gael ei hasesu a'i mapio, gan ddarparu cofnodion archaeolegol llawn ar gyfer eu cadw gyda’r Cofnod Henebion Cenedlaethol. Mae data LiDAR hefyd wedi cyfuno â data Bathymetrig i greu set ddata 3D ar / oddi ar y lan ddi-dor sy'n dangos cyswllt yr ynys â'i thirwedd danddwr o amgylch. Cynhaliwyd arolygon 3D manwl o'r tŵr a'r adeiladau mynachaidd o’r 12fed ganrif sy'n dirywio gan y prosiect hefyd, drwy ddefnyddio UAV a sganio laser daearol.