Cylchlythyr

Map Lleoliad

Cyflwyniad

Mae ardal prosiect Cymru 3 yn cwmpasu ystod amrywiol iawn o amgylcheddau naturiol a safleoedd treftadaeth sy'n agored i effeithiau newid yn yr hinsawdd sy'n cynnwys erydu a lefel y môr yn codi. Mae'r ymchwiliadau archaeolegol a phalaeoamgylcheddol sydd wedi’u cynnal gan CHERISH yn yr ardal hon yn cynnwys creiddio llynnoedd i ailadeiladu newid amgylcheddol ar raddfa filenial, dyddio digwyddiadau symudiad tywod, sganio gwely'r môr, arolygu llongddrylliadau rhynglanwol, a chloddio caer arfordirol gynhanes sy'n erydu. Mae tystiolaeth archaeolegol yn dangos bod pobl wedi crwydro a meddiannu'r darn hwn o arfordir ers miloedd o flynyddoedd. Fodd bynnag, mae CHERISH yn datgelu deinameg yr amgylchedd arfordirol sydd wedi siapio nid yn unig yr arfordir ond bywydau ei drigolion drwy ymchwiliadau palaeoamgylcheddol ac archaeolegol cyfunol. climate change which include erosion and sea-level rise. The archaeological and palaeoenvironmental investigations undertaken by CHERISH within this area include coring of lakes to reconstruct millennial-scale environmental change, dating of sand movement events, seabed scanning, intertidal wreck surveying, and the excavation of an eroding prehistoric coastal fort. Archaeological evidence demonstrates that people have roamed and occupied this stretch of coastline for thousands of years. However, CHERISH is uncovering the dynamism of the coastal environment that has shaped not only the coastline but the lives of its inhabitants through combined palaeoenvironmental and archaeological investigations.

Rhosneigr

Llun o’r awyr o Lyn Maelog o dan bentref arfordirol Rhosneigr.
Llun o’r awyr o Lyn Maelog o dan bentref arfordirol Rhosneigr.

Mae Rhosneigr yn bentref bach ar frigiad creigwely ar arfordir de orllewin Ynys Môn. O dan y pentref mae llyn 20 hectar o’r enw Llyn Maelog sydd wedi’i wahanu oddi wrth y traeth gan dwyni tywod 500m o led. Mae’r twyni’n codi i uchder o tua 20 metr yn union tu ôl i Draeth Llydan. Mae’r llyn yn gynefin ecolegol arwyddocaol i amrywiaeth o blanhigion, adar ac anifeiliaid, ond hefyd yn ganolbwynt pwysig i drigolion a thwristiaid fel ei gilydd. Mae wedi’i amgylchynu gan ystod amrywiol o safleoedd archaeolegol pwysig fel beddrodau, safleoedd aneddiadau a safle lle daganfuwyd 180 o wrthrychau aloi haearn a chopr. Felly, mae’n ymddangos yn debygol y byddai’r llyn dŵr croyw yma wedi bod yn safle arwyddocaol yn y gorffennol.

Mae CHERISH wedi adfer creiddiau o waddod y llyn er mwyn ail-greu esblygiad y llyn a'i amgylchedd. Mae dadansoddiad paill wedi'i gynnal i ailadeiladu'r newidiadau mawr i lystyfiant ar y safle, ac mae deunydd organig wedi'i ddyddio o ran radiocarbon i ddarparu amserlen gadarn. Mae dadansoddiad diatom wedi'i ddefnyddio gan CHERISH hefyd i ailadeiladu sut mae'r llyn ei hun wedi newid. Algâu microsgopig yw diatomau sy'n byw ym mhob math o ddŵr bron, ac fel unrhyw blanhigyn, mae gwahanol rywogaethau’n ffafrio gwahanol gynefinoedd. Maent yn sensitif i newidiadau ffisegol a chemegol ac felly maent yn ddefnyddiol iawn i benderfynu sut mae’r llyn wedi newid dros amser. Mae gwaddodion Llyn Maelog yn dangos iddo ffurfio ar ddiwedd y bennod rewlifol ddiwethaf a'i fod wedi'i orlifo gan y môr tua 7000 o flynyddoedd yn ôl gan ei newid i amgylchedd morol efallai am rai cannoedd o flynyddoedd. Mae hyn yn ei wneud yn safle pwysig yng nghyd-destun newid yn lefel y môr yng Nghymru yn y gorffennol, ond mae hefyd yn dangos sut gallai cynnydd yn lefel y môr yn y dyfodol effeithio ar gymunedau arfordirol a'r amgylchedd naturiol.

Llyn Coron

Llyn 30 hectar yw Llyn Coron wedi'i amgylchynu gan system twyni Aberffraw, tua 5 km i'r de orllewin o Lyn Maelog. Credid bod y llyn wedi datblygu yn y cyfnod canoloesol, ac mae tystiolaeth ddogfennol yn awgrymu ei fod yn gyfnod arbennig o stormus yn y rhanbarth. Credir, wrth i'r twyni tywod ddatblygu, eu bod wedi rhwystro Afon Ffraw rhag creu argae naturiol a bod y llyn wedi ffurfio y tu ôl iddynt. Mae'r system twyni’n gorchuddio tua 360 hectar ac, ynghyd â'r llyn, mae'n rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Tîm CHERISH yn paratoi i greiddio Llyn Coron.
Tîm CHERISH yn paratoi i greiddio Llyn Coron.

Mae CHERISH yn ymchwilio i waddodion y llyn i weld a ydynt yn cynnwys cofnod o stormydd y gellir ei ddefnyddio i nodi newidiadau ym mhatrymau tywydd y gorffennol. Rydym yn defnyddio elfennau cemegol fel bromin a phresenoldeb grawn tywod i ailadeiladu newidiadau mewn dwysedd neu amledd stormydd. Rydym yn cyfuno'r technegau hyn â dyddio OSL i ddyddio haenau o dywod a darparu cronoleg ar gyfer y craidd. Rydym hefyd yn edrych ar sut ymatebodd gwahanol rywogaethau o ddiatomau (algâu microsgopig sydd i’w canfod ym mhob corff o ddŵr) i esblygiad y llynnoedd. Mae diatomau’n sensitif i olau, pH, halltedd a statws maethynnau eu hamgylchedd, sy'n eu gwneud yn ddangosyddion da.

Dinas Dinlle a Morfa Dinlle

Esgair o ro mân a system dwyni Morfa Dinlle wrth fynedfa ddeheuol Afon Menai.
Esgair o ro mân a system dwyni Morfa Dinlle wrth fynedfa ddeheuol Afon Menai.

Wedi'i leoli yn y fynedfa dde orllewinol i Afon Menai mae Morfa Dinlle, sef y system esgair traeth gro mân weithredol fwyaf ym Mhrydain. Mae'n cynnwys cyfres o esgeiriau mewn llinell (rhai dros gilometr o hyd), sydd wedi cronni i gyfeiriad y gogledd orllewin. Mae'r adran ganolog hefyd yn cynnwys twyni tywod helaeth sy'n cyfuno â'r esgeiriau o ro mân i ffurfio ecosystem arfordirol bwysig a bregus sy'n gartref i lawer o ffawna a fflora prin. Mae ymchwil blaenorol yn awgrymu bod system yr esgair wedi datblygu dros y 2000 mlynedd diwethaf, ond nid yw union gyfradd tyfiant y gefnen wedi'i sefydlu. Nid yw'n glir chwaith sut gallai lefel y môr yn codi yn y dyfodol effeithio ar ei ddatblygiad. Nod CHERISH yw darparu cronoleg fanwl ar gyfer esblygiad y gefnen er mwyn deall yn well y broses ffurfio a chludiant gwaddodion arfordirol.

Tua 3 km i'r de o Forfa Dinlle mae caer arfordirol gynhanesyddol Dinas Dinlle sydd wedi’i herydu'n drwm. Mae'r safle wedi'i leoli ar farian rhewlifol, sydd wedi'i gerflunio a'i addasu gan bobl yn y gorffennol pell i greu cyfres aruthrol o amddiffynfeydd. Mae'r ochr orllewinol yn cael ei herydu'n weithredol gan brosesau hinsoddol ac arfordirol, gan arwain at golli'r rhagfur gorllewinol a oedd, mae’n debyg, yn amgylchynu’r anheddiad yn llwyr yn y gorffennol. Mae arolygon geoffisegol a gwaith cloddio yn Ninas Dinlle gan CHERISH wedi datgelu tystiolaeth o anheddiad sylweddol o fewn yr amddiffynfeydd, yn fwyaf nodedig darganfod tŷ crwn wedi'i adeiladu o gerrig sy'n 13 metr mewn diametr – y mwyaf o'i fath y gwyddom amdano yng Nghymru. Mae darganfyddiadau archaeolegol yn dangos preswyliaeth yn ystod y cyfnod Rhufeinig Prydeinig ond mae'n debygol iddo gael ei adeiladu yn ystod cyfnod yr Oes Haearn. Er bod y strwythurau eu hunain yn drawiadol ac yn bwysig dros ben, efallai bod y ffaith eu bod wedi'u cau mewn llawer iawn o dywod sy'n cael ei chwythu gan y gwynt yn fwy diddorol. Er na allwn fod yn sicr, mae'n bosibl i'r gaer gael ei gadael yn y pen draw oherwydd bod gormod o dywod yn dod i'r safle. Mae graddfa’r dyddodion tywod yn pwysleisio'r pŵer a'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd arfordirol naturiol a'i allu i effeithio ar y cymunedau sy'n byw yn y parth arfordirol ac yn ei ddefnyddio.

Llun o’r awyr o gaer arfordirol gynhanes Dinas Dinlle.
Llun o’r awyr o gaer arfordirol gynhanes Dinas Dinlle.

Mae CHERISH yn defnyddio dyddio Goleuedd a Ysgogir yn Optegol (OSL) ar y dyddodion tywod sydd dros y tŷ crwn, ynghyd â samplau o wyneb y clogwyn sy'n erydu a'r twyni ym Morfa Dinlle, i benderfynu pryd gosodwyd y dyddodion tywod hyn yn eu lle. Gobeithiwn y bydd y dechneg hon yn darparu cronoleg gadarn ar gyfer y safleoedd eu hunain, ond rydym hefyd yn ceisio ail-greu darlun rhanbarthol o newidiadau amgylcheddol arfordirol sy'n ymchwilio i safleoedd eraill yn yr ardal. Hefyd, mae CHERISH yn gobeithio darparu cyd-destun palaeoamgylcheddol ar gyfer preswyliaeth pobl yn y gaer.

Pam rydym yn gweithio yma?

Mae'r dirwedd arfordirol yn ardal prosiect 3 yn cynrychioli rhai o'r amgylcheddau arfordirol mwyaf deinamig a sensitif yng Nghymru. Mae tîm amlddisgyblaethol CHERISH yn addas iawn ar gyfer ymchwilio i'r amgylcheddau heriol hyn. Drwy gyfuno dulliau a ddefnyddir yn gyffredin gan archaeolegwyr a gwyddonwyr pridd, mae'r prosiect wedi dechrau datgelu sut cafodd yr amgylcheddau arfordirol hyn eu llunio gan yr hinsawdd sy'n newid dros y 12,000 o flynyddoedd diwethaf. Mae'r gwaith hwn hefyd yn bwysig o ran datgelu sut byddai pobl a oedd yn byw yn y rhan hon o Gymru wedi cael eu heffeithio gan newid amgylcheddol ac wedi ymateb iddo. Mae datgelu newidiadau amgylcheddol arfordirol yn y gorffennol nid yn unig yn rhoi cipolwg diddorol i ni ar y gorffennol ond hefyd yn rhoi cipolwg ar sut gallai'r tirweddau hyn newid yn y dyfodol.
Aelodau o dîm CHERISH yn cofnodi wyneb agored y clogwyn sy'n erydu yn Ninas Dinlle.
Aelodau o dîm CHERISH yn cofnodi wyneb agored y clogwyn sy'n erydu yn Ninas Dinlle.

Cynnwys Cysylltiedig

cyCY