Map Lleoliad

Cyflwyniad

Mae Ynys Enlli tua 3km i'r de orllewin o drwyn Penrhyn Llŷn, wedi'i gwahanu oddi wrth y tir mawr gan Swnt Enlli. Yn ystod y cyfnod Canoloesol roedd yr ynys yn lle pwysig i bererinion gyda thair pererindod i Enlli yn cael eu hystyried yn gyfwerth ag un i Rufain. Gellir gweld olion archaeolegol a strwythurol canoloesol ar draws yr ynys ac abaty Santes Fair, sydd bellach yn adfail ac yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg, yw’r mwyaf trawiadol. Mae olion archaeolegol gweladwy sydd wedi'u gwasgaru ar draws yr ynys hefyd yn dangos bod pobl wedi byw yma cyn y cyfnod canoloesol fwy na thebyg. Mae'r ynys wedi bod yn eiddo i Ymddiriedolaeth Enlli ers 1979 ac mae’n cael ei chynnal ganddi, ac mae hefyd wedi'i rhestru fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn ogystal â bod yn gartref i nifer o henebion ac adeiladau cofrestredig.

Model Gweddlun Digidol (DEM) Ynys Enlli.
Model Gweddlun Digidol (DEM) Ynys Enlli.

Mapio Archaeoleg yr Ynys

Mae gwaith sydd wedi’i wneud gan CHERISH wedi adeiladu ar y gwaith pwysig a wnaed gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn ei chynllun rheoli 2014-15 drwy ddefnyddio arolygu ALS UAV i fapio'r holl henebion archaeolegol gweladwy ar yr ynys er mwyn gwella ac ehangu’r cofnodion presennol am henebion yr ynys. Defnyddiwyd lluniau o’r awyr hanesyddol hefyd i ategu'r technegau hyn drwy ddarparu gwybodaeth am olion cnydau archaeolegol.

Mae'r adran sy’n erydu yn Henllwyn wedi'i darlunio â llaw hefyd i gofnodi’r nodweddion archaeolegol sy'n erydu'n fanwl gywir. Mae'r gwaith hwn yn bwysig gan fod arolygon geoffisegol blaenorol yn dangos bod y rhan hon o'r ynys yn cynnwys llawer o olion archaeolegol wedi’u claddu a allai fod yn gysylltiedig â mynwent gynhanesyddol. Mae sawl darn o asgwrn anifeiliaid wedi'u tynnu o'r adran hon hefyd. Mae'r rhain wedi'u dyddio o ran radiocarbon i 778-916 AD, yn gysylltiedig o bosibl â ffermio cynnar ar yr ynys.

Trawsgrifiad o nodweddion archaeolegol o ddata ALS Ynys Enlli.
Trawsgrifiad o nodweddion archaeolegol o ddata ALS Ynys Enlli.

Pam rydym yn gweithio yma?

Prif amcan Prosiect CHERISH ar Ynys Enlli yw gwella’r setiau data presennol sy'n ymwneud ag archaeoleg ac erydiad arfordirol yr ynys. Drwy ddefnyddio'r arolygu ALS ac UAV, mae CHERISH wedi gallu ategu’r arolygon sy'n bodoli eisoes drwy ddarparu lleoliad manwl gywir ar gyfer archaeoleg ac erydu ymylon arfordirol. Bydd y data 3D a gasglwyd ar gyfer yr ynys (yn benodol yr isthmws sy’n erydu) yn cael eu defnyddio i fodelu effeithiau erydu arfordirol yr ynys a'i safleoedd treftadaeth yn y dyfodol.

Tîm CHERISH yn monitro ac yn cofnodi erydiad ac archaeoleg ar hyd isthmws Henllwyn sy’n erydu.
Tîm CHERISH yn monitro ac yn cofnodi erydiad ac archaeoleg ar hyd isthmws Henllwyn sy’n erydu.

Cynnwys Cysylltiedig

cyCY