Map Lleoliad
Ynysoedd Sant Tudwal
Mae Ynysoedd Sant Tudwal (Sant Tudwal Dwyrain a Gorllewin) ychydig oddi ar arfordir penrhyn Llŷn yn Abersoch. Mae'r ddwy ynys yn cynnwys olion archaeolegol a strwythurol sy'n rhychwantu'r cyfnod canoloesol cynnar hyd heddiw. Mae Sant Tudwal Gorllewin yn enwog am ei goleudy a adeiladwyd yn 1877 ar gais y Pwyllgor Goleudai Seneddol. Rydym yn gwybod bod Sant Tudwal Dwyrain wedi bod ag anheddiad mynachaidd arni gyda phriordy Awgwstinaidd cysylltiedig wedi'i adeiladu yn 1291. Yn 2017 comisiynodd CHERISH arolwg ALS ar gyfer yr ynysoedd ac roedd modd mapio a chofnodi nodweddion archaeolegol.

Y Gwninger, Abersoch
Mae traeth Cwninger ger Abersoch yn ddiddorol am ei archaeoleg a'i dirwedd arfordirol naturiol ddeinamig. Ar hyd y traeth mae olion helaeth mawn rhyng-lanwol hynafol a boncyffion coed ynghyd â dau longddrylliad ôl-ganoloesol. Mae eu lleoliad ar draeth tywodlyd yn golygu nad yw'r mawn na’r llongddrylliadau i’w gweld yn aml, dim ond pan fydd stormydd dwys yn symud y tywod oddi ar y blaendraeth.
Gall mawn rhyng-lanwol fod yn archif werthfawr o amgylcheddau'r gorffennol. Gellir dyddio deunydd organig drwy ddyddio radiocarbon, a gellir echdynnu dangosyddion amgylcheddol eraill fel paill i ailadeiladu newidiadau llystyfiant dros amser. Rydym yn gobeithio eu defnyddio i ddatgelu gwybodaeth bwysig am gynnydd yn lefel y môr yng Nghymru dros yr 8,000 o flynyddoedd diwethaf. Mae gwaith rhagarweiniol gan CHERISH eisoes wedi dyddio gweddillion coed i benderfynu eu bod wedi tyfu mewn 2 gyfnod penodol – y cyntaf tua 7,700 o flynyddoedd yn ôl a'r ail tua 4,200 o flynyddoedd yn ôl. Ymhlith y boncyffion coed hefyd mae gweddillion prin olion carnau a allai fod wedi'u creu gan anifeiliaid hynafol a fu'n crwydro'r dirwedd yn ystod y 4,000 o flynyddoedd diwethaf.

Ceir hefyd olion dau longddrylliad, o'r 19eg ganrif mae’n debyg, ar y traeth, sydd wedi'u henwi fel 'Fosil' a 'Maria'. Mae ymchwil diweddar a wnaed gan y prosiect wedi dangos y gallai'r ddau longddrylliad ymwneud ag unrhyw un o'r 28 o longau o leiaf yr ydym yn gwybod eu bod wedi'u dinistrio yn ardal Abersoch yn ystod y 19eg ganrif. Cynhelir ymweliadau rheolaidd â'r safle gan CHERISH ar ôl cyfnodau o dywydd stormus dwys i asesu a chofnodi'r olion gweladwy yn ogystal ag unrhyw newidiadau a achoswyd o ganlyniad i’r stormydd.

Pam rydym yn gweithio yma?
Y prif fygythiad i'r ardal hon yw amledd a difrifoldeb cynyddol stormydd a'u heffaith ar y dreftadaeth ddiwylliannol ar y traeth. Nid oeddem yn gwybod am y mawn yn y Gwninger o'r blaen, tan ymchwiliadau CHERISH, ac ychydig iawn o ymchwil hanesyddol ac archaeolegol oedd wedi’i gynnal ar gyfer dau safle’r llongddrylliadau. Mae UAV a ffotogrametreg ddaearol wedi cael eu defnyddio i gofnodi'r safleoedd hyn ar gyfer monitro erydiad yn ogystal ag ymchwil pellach i strwythurau’r llongau ac olion traed anifeiliaid ar y mawn. Roedd casglu data ALS 3D hefyd yn mynd i'r afael â diffyg data 3D manylder uchel ar gyfer yr ynysoedd. Y tu hwnt i'r prosiect defnyddir y data hyn i fodelu effeithiau cynnydd yn lefel y môr yn y dyfodol ar yr ynysoedd a'u treftadaeth strwythurol a chynefin pwysig i adar môr.
