Cylchlythyr

Map Lleoliad

Cyflwyniad

Mae pentrefi glan môr Borth ac Ynyslas wedi'u hadeiladu ar dirffurf arfordirol o’r enw cefnen. Mae wedi datblygu'n naturiol dros amser yn unol â gweithgarwch y gwynt a thonnau sy'n symud ac yn gadael tywod traeth a graean yn ystod stormydd. Nid yw'r gefnen wedi bod yn ei lleoliad presennol erioed, mae wedi cael ei gwthio'n raddol tua'r gorllewin wrth i lefel y môr godi ers diwedd yr oes iâ ddiwethaf. Y tu ôl ac o dan y gefnen mae Cors Fochno, sef y gyforgors fwyaf ym Mhrydain.
Llun o’r awyr o Ynyslas, Ceredigion
Llun o’r awyr o Ynyslas, Ceredigion

Yr amgylchedd

Gellir gweld tystiolaeth o sut mae amgylchedd Borth ac Ynyslas wedi newid ar flaendraeth y traeth. Mae boncyffion coed hynafol a blociau trwchus o hen fawn i’w gweld ar y traeth gan ddangos sut mae lefel y môr wedi newid. Tua 5000 o flynyddoedd yn ôl roedd llawer o'r ardal yn goedwig pinwydd a derw, gyda'r môr yn llawer pellach allan ym Mae Ceredigion. Fodd bynnag, ar ôl tua 1000 o flynyddoedd, dechreuodd y lefel trwythiad lleol godi, gan foddi'r coed a dechrau ffurfio Cors Fochno. Wrth i lefel y môr godi, symudwyd y gefnen oedd yn diogelu'r gors i mewn am y tir gan aros wedyn yn ei lleoliad presennol.
Y coetir hynafol yn Borth
Y coetir hynafol yn Borth
Mae corsydd mawn yn archif wych o wybodaeth balaeoamgylcheddol, gan warchod deunydd biolegol, mwynyddol a chemegol y gellir ei ddefnyddio i ailadeiladu amodau amgylcheddol y gorffennol. Mae Cors Fochno eisoes wedi datgelu'r newidiadau naturiol ac o wneuthuriad dyn i'r llystyfiant lleol, tystiolaeth o gloddio metel yn ystod yr Oes Efydd a'r Cyfnod Rhufeinig, lludw folcanig o losgfynyddoedd Alasga a Gwlad yr Iâ a llofnod cemegol stormydd yn ystod y mil o flynyddoedd diwethaf.
Mae'n bwysig deall amseriad a chyfraddau datblygu nodweddion arfordirol fel cefnennau. Maent yn ecosystemau deinamig, bregus ond maent hefyd yn effeithio ar y dirwedd a'r cynefinoedd ehangach ynddynt. Gall cynnydd yn lefel y môr yn y dyfodol, ynghyd â stormydd amlach neu ddwysach, fod â goblygiadau sylweddol i gymunedau arfordirol a safleoedd treftadaeth.

Pam rydym yn gweithio yma?

Mae CHERISH yn gweithio yn Borth ac Ynyslas i ddeall pryd cyrhaeddodd y gefnen ei lleoliad presennol a pha mor hir y cymerodd i ddatblygu drwy'r broses a elwir yn ddrifft traeth hir. Rydym yn cymryd creiddiau o'r twyni a'r esgeiriau traeth ac yn dyddio'r tywod sydd ar y dyddodion mawn gan ddefnyddio OSLRydym wedi cynnal radar treiddio ar y ddaear i edrych o dan wyneb y ddaear a chyfuno hyn â data ALS manylder uchel i ailadeiladu sut mae llwybr afon Leri wedi newid dros amser.

Cynnwys Cysylltiedig

cyCY