Map Lleoliad
Cyflwyniad
Prin yw'r safleoedd sy'n dangos erydiad arfordirol, colled a newid amgylcheddol yn fwy na phentir Ynys Dinas a phentref Cwm yr Eglwys. Mae'r pentir wedi'i ddadlinellu o'r tir mawr drwy brosesau rhewlifol sy'n creu cwm cul siâp u, tua 70 metr o ddyfnder. Mae'r clwstwr o fythynnod ym mhen gogleddol y cwm yn ffurfio pentrefan Cwm yr Eglwys.
Y tirnod mwyaf nodedig yn y cwm yw'r eglwys adfeiliedig sydd wedi’i chyflwyno i Sant Brynach. Mae ar lwyfan tua 3 metr uwchben ac yn union y tu ôl i'r traeth. Fe'i hamgylchynir gan lond llaw o gerrig beddau wedi'u hindreulio.
Cafodd yr eglwys ei difrodi gan storm yn 1850 a 1851 gan ddinistrio'r gangell a thynnu arwyneb y fynwent gan amlygu olion dynol. Yr hoelen olaf yn ei harch oedd Storm y Royal Charter yn 1859 a ddymchwelodd y waliau a chodi'r to gan arwain at droi cefn arni. Mae’r erydu wedi'i sefydlogi am y tro drwy adeiladu waliau môr concrid modern, ond mae'n ansicr sut gall newid yn yr hinsawdd a chynnydd yn lefel y môr yn y dyfodol effeithio ar y cildraeth.
