Mae Ynys Seiriol neu Puffin Island/Priestholm yn codi o’r môr yn gefnen serth o garreg galch oddi ar arfordir dwyreiniol Môn yng ngogledd Cymru. Mae’r ynys hudol hon sydd yn eiddo preifat yn gartref i adar môr a warchodir, mulfrain gan mwyaf, a cheir yma adfeilion mynachlog ganoloesol gynnar. Ni chaniateir i’r cyhoedd lanio arni heb gael caniatâd y tirfeddiannwr
Mae’r fynachlog wedi denu ymwelwyr ers blynyddoedd lawer. Mae tŵr eglwys y priordy Awstinaidd yn parhau i sefyll yn falch ar y graig. Ym 1868 fe wnaeth Herford Hopps arolwg sylfaenol o’r adeiladau a darganfu lawer o sgerbydau yng nghyffiniau’r eglwys lle roedd cwningod wedi codi’r esgyrn. Dychwelodd Harold Hughes ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i gynnal arolygon manylach o’r adeiladau ac i ymgymryd â’i gloddiadau ei hun, a daeth ar draws olion allor gynnar a oedd yn hŷn na thŵr yr eglwys. Aeth y Comisiwn Brenhinol i’r ynys gyntaf ym 1929 i’w harolygu ar gyfer Rhestr Môn 1937. Yr unig adeilad arall o sylwedd ar yr ynys yw’r orsaf delegraff adfeiliedig restredig o’r 19eg ganrif yn y gogledd-ddwyrain.
Yn ystod y cyfnod modern mae llystyfiant wedi tagu’r ynys a’r adfeilion ac ni chawsai arolwg diweddar ei wneud nes i Ynys Seiriol gael ei dewis yn safle astudio ar gyfer y Prosiect CHERISH a ariennir gan yr UE. Y rhesymau dros ei dewis oedd ei bod mor anhygyrch, bod yr adeiladau wedi’u gwarchod, ac i gynnal arolwg hynod fanwl newydd o’r adeiladweithiau er mwyn gallu monitro newid ac erydiad yn y dyfodol. Roedd dull ‘pecyn offer’ CHERISH yn golygu y câi’r ynys ei harolygu’n drylwyr o’r awyr, ar y tir ac o’r môr.
Yn 2017 fe gomisiynodd CHERISH laser-sganio o’r awyr (‘LiDAR’) dros yr ynys gyfan. Mae’r laser yn treiddio’r gorchudd o dyfiant ac yn caniatáu i goed a phrysgwydd gael eu ‘stripio i ffwrdd’ yn ddigidol ar gyfrifiadur. Drwy ddefnyddio’r dechneg hon roeddem yn gallu mapio caeau ac adeiladau cuddiedig a darganfod lloc pentir newydd, gan adeiladu rhith olwg o’r ynys.

Ni all synhwyro o bell adrodd ond rhan o’r stori. Ym mis Mehefin 2018 aeth staff CHERISH a Cadw i Ynys Seiriol yng nghwmni’r Dr Jonathan Green, arbenigwr ar adar môr, ar antur debyg i rai’r ‘Famous 5’, gan ddechrau drwy lanio yng nghanol morloi’n torheulo ar draeth y gorllewin. Ar ôl ymlafnio drwy wellt a mieri uchel a chropian o dan ganghennau isel, cyraeddasom lonyddwch ac unigedd yr hen eglwys 800 oed. Edrychai’r tŵr Romanésg o garreg galch yn gyfandirol iawn yn haul mis Mehefin. Roedd cywion gwylanod yn rhythu arnom wrth i ni laser-sganio’r tŵr.
Yn ddiweddarach yr haf hwnnw fe gynhaliodd Arolwg Daearegol Iwerddon arolwg bathymetrig morol o arfordir dwyrain Môn, gan fonitro llongddrylliadau a mapio’r dyfroedd ar hyd y glannau. Dychwelsom mewn tywydd cryn dipyn yn oerach ym mis Tachwedd 2018 i hedfan drôn dros y tŵr er mwyn casglu ffotograffau 3D o’r rhannau nad oedd y sganiwr laser wedi gallu eu cyrraedd.
Ar sail yr arolygon newydd fe gynhyrchwyd cofnodion 3D soffistigedig o’r eglwys ganoloesol a’r adeiladweithiau cysylltiedig, a byddwn yn awr yn gallu mesur yn eithriadol o fanwl unrhyw newidiadau sy’n digwydd yn y dyfodol. Cysylltwyd y data o’r arolwg morol â’r data LiDAR i gynhyrchu map 3D atraeth/alltraeth di-dor rhyfeddol o’r ynys. Mae’r ‘cloi-lawr’ presennol yn golygu nad ydym wedi gallu gwneud unrhyw waith maes ac felly rydym wedi manteisio ar y cyfle i ysgrifennu am y gwahanol arolygon a chreu adroddiad archifol sylweddol a gaiff ei gyhoeddi yn 2020.

Mae’r tîm CHERISH yn gobeithio dychwelyd i Ynys Seiriol yn 2021 i wneud ymweliad monitro terfynol ac i fwynhau heddwch ac arwahanrwydd yr ynys wyllt hon am y tro olaf.