Cloddio yng Nghaerfai 2022
Helo, fy enw i yw Eirlys Happs, rwy'n 19 oed. Rydw i’n dod o Gaerfyrddin yn ne Cymru. Mae archaeoleg yn bwysig iawn i mi.
Ar ôl gorffen yn y coleg a phenderfynu peidio â mynd i'r brifysgol eto, syrthiais i rigol y mae llawer o bobl yn gyfarwydd ag ef. Yn ystod y cyfnod yma dechreuais ailgynnau fy nghariad at y Gymraeg ac roeddwn i’n colli ei siarad mor aml ag yr oeddwn yn arfer. Fe es i i ysgol gynradd Gymraeg iaith gyntaf er fy mod i wedi fy magu, tan hynny, yn Saesneg yn unig.
Cyn hyn, doeddwn i ddim wedi ymddiddori mewn hanes mewn gwirionedd, a doeddwn i erioed wedi ystyried archaeoleg y tu hwnt i ambell bennod o Time Team. Er hynny, fe arweiniodd hyn at y dyhead wnaeth fy arwain i i gloddio yng Nghaerfai eleni. Rydw i wrth fy modd â diwylliannau, ieithoedd ac arddulliau celf Celtaidd ymhlith sawl agwedd ar hanes.
Ar fy niwrnod cyntaf fe wnes i gloddio yn ffos y rhagfur, croestoriad dwfn o'r ffos.
Rhan o bedwar clawdd uchel, a fyddai, yn wreiddiol, wedi bod nid yn unig yn fwy ond yn grandiach.
Mae'n debyg bod y gwrthgloddiau godidog wedi cael eu defnyddio i atal ymosodiad ac i bwysleisio cyfoeth neu hyd yn oed ba mor grefyddol oedd yr ardal a'i thrigolion.
Roeddwn i wrth fy modd yn cael siarad ag ymwelwyr a mentrwr arall oedd yn cael ei gyllido gan CHERISH yn y Gymraeg. Gall safleoedd fel hyn wneud i lawer deimlo'n agos iawn at eu cyndeidiau, Cymraeg, Saesneg neu fel arall.
Drwy gydol yr wythnos fe fûm i’n gweithio mewn llawer o ardaloedd eraill, ond yn fwyaf nodedig i fy nghyhyrau poenus, yn ôl-lenwi ffos 5. Cyn hir roeddwn i’n ôl yn ffos y rhagfur am fy nau ddiwrnod olaf o lanhau a chynllunio.
Roedd y cynllunio, y broses o gofnodi manwl gywir yn y ffos, yn sgil hollol newydd i mi er fy mod i wedi ei weld yn cael ei wneud; gwaith cain oedd dirnad cyd-destunau (dyddodion pridd) ac wedyn mesur pob un.
Er fy mod i’n drist i adael y safle yma, fe wnes i elwa cymaint o fy wythnos yng Nghaerfai, ac rydw i'n cyfaddef na fyddwn i byth wedi gallu bod yn bresennol heb gyllid CHERISH.
Rydw i'n hynod ddiolchgar i bawb yn CHERISH a roddodd sgwrs hyfryd a'r cyfle gwerthfawr yma; pawb yn Dig Ventures am greu amgylchedd croesawgar, cynhwysol ac addysgiadol; ac yn olaf ond yn sicr nid y lleiaf, i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd oedd yn gyson garedig a doniol er gwaethaf eu gwaith caled.