Mae Arfordir Copr Waterford, gyda’i doreth o geyrydd pentir ac adroddiadau am erydu difrifol, yn ardal astudiaeth achos ar gyfer prosiect CHERISH. Gelwir yr ardal yn Arfordir Copr ar ôl y dyddodion mwynau sydd yno a fwyngloddiwyd yn helaeth rhwng 1824 a 1908.
Mae o leiaf 26 o geyrydd pentir wedi goroesi ar glogwyni hyd at 70m o uchder ac mae ymchwil mewn ceyrydd pentir Gwyddelig, gan gynnwys Drumanagh ac Ynys Dalkey yn Swydd Dulyn a Dunbeg yn Swydd Kerry, yn awgrymu bod defnydd ohonynt o'r Oes Haearn i gyfnodau canoloesol cynnar. Mae cerrig Ogham sydd wedi’u cofnodi ar hyd arfordir Swydd Waterford yn Knockmahon, Island a Kilgrovan yn awgrymu bod safleoedd eglwysig yn yr ardal gyfagos yn y 5ed i'r 7fed ganrif.
Mae ffeiliau topograffig Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon (NMI) yn cofnodi darganfod nifer o wrthrychau yn yr ardal sy'n dynodi hanes hir o fwyngloddio. Disgrifiodd y Parchedig Patrick Power (1909) ingot copr crwn o fath Romano Prydeinig a ddarganfuwyd tua 6km i fyny'r afon o'r aber yn Bunmahon. Roedd grŵp o ddarganfyddiadau a roddwyd i'r NMI yn 1850 yn cynnwys dau offeryn derw siâp rhwyf a ddarganfuwyd ar ddyfnder o 20m. Roeddent ‘yn ôl pob golwg o oedran mawr’ yn y 19eg ganrif. Mae'r disgrifiad o'u handlenni cul hir a'u llafnau siâp llwy yn dynodi y gallent fod wedi cael eu defnyddio i gasglu darnau o graig wedi malu mewn tân, sy'n gynnyrch y broses fwyngloddio. Gallai masnachwr neu forwyr a oedd yn cludo'r adnoddau naturiol a gynhyrchwyd gan y mwyngloddio fod wedi colli’r tocyn masnach Gwyddelig o'r 17eg ganrif a ddarganfuwyd ger Castell Knockmahon.
Wrth gynnal arolygon o'r awyr ac arolygon geoffisegol ar y ceyrydd pentir ar yr Arfordir Copr, mae'n anochel bod tîm CHERISH wedi dod ar draws tystiolaeth o fwyngloddio: ceuffyrdd neu fynedfeydd i fwyngloddiau tanddaearol yn y clogwyni, siafftiau mwyngloddiau a thomenni gwastraff uwchben y clogwyni, ynghyd â iardiau mwyn a thai injan.
Efallai bod adnoddau mwynau’r Arfordir Copr wedi bod yn bwysig ers y cyfnod cynhanesyddol, ond mae'n debyg bod mwyngloddio ôl-ganoloesol ac erydiad wedi tarfu ar lawer o'r dystiolaeth honno. Mae ffynonellau hanesyddol yr unfed ganrif ar bymtheg yn cofnodi mwyngloddio ger caer bentir Knockmahon ac yng nghanol y 18fed ganrif, cymerodd Francis Wyse o Ddinas Waterford brydles ar gyfer yr hawliau mwynau i'r gorllewin o Bunmahon (Cowman, 1983). Uwchben y traeth i'r gorllewin o gaer bentir Trwyn Bunmahon, yn nhref Templeyvrick, gellir gweld y fynedfa i fwyngloddiau tanddaearol. Gweithiwyd llawer o fwyngloddiau ar hyd yr arfordir am hyd at 400m allan i'r môr.
Wrth ymyl caer bentir Knockmahon mae man glanio o'r enw Stage Cove. Mae ganddo lithrfa goncrid fodern heddiw ond ar lanw isel mae'n bosib gweld bod y mynediad drwy'r creigwely wedi'i glirio. Byddai hyn wedi caniatáu i longau mwy lanio a chael mynediad i'r iard fwynau. Yn 1863, roedd mwyn copr yn cael ei gludo oddi yma i’w farchnata yn Lerpwl ac Abertawe, pan oedd y tywydd yn caniatáu i longau ddod yn agos at y lan (Du Noyer, 1865). Mae siart UKHO sy'n dyddio o 1849 yn darlunio llongau wedi'u hangori oddi ar yr iard fwyn mewn golygfa hwylio.
Mae tair ar ddeg o geuffyrdd wedi’u cofnodi i'r clogwyn yng nghaer bentir Illaunobrick neu Ynys Danes yn nhref Ballynarrid. Awgrymwyd y gallai'r mwyngloddiau yn yr ardal fod wedi cael eu gweithio yn yr Oes Efydd. Gwrthbrofwyd hyn gan yr Hanesydd Des Cowman (1982) gan ddefnyddio cofnodion lleol a thrwy nodi twll drilio sy'n awgrymu bod y rhan fwyaf o'r dystiolaeth a welwn heddiw yn ganlyniad i fod yn fwyngloddiau yn y cyfnod Diwydiannol. Yn anhygyrch yn bennaf heddiw, mae’r mwyngloddiau hyn wedi cyfrannu at erydiad y clogwyni ac ychydig iawn o olion o amddiffynfeydd arglawdd y gaer bentir sydd yno, gyda dim ond ‘trac gafr’ amhosibl ei ddilyn ar y stac. Mae rhifyn 1840 o fap yr Arolwg Ordnans yn marcio 'safle ffos' ar yr ochr tua'r tir i Illaunobrick ac mae Thomas Westropp (1914-16) yn dweud ei fod wedi mynd bron erbyn 1841. Mae gwybodaeth leol yn cofnodi creigiau clogwyni’n cwympo o amgylch Ballynarrid a thref gyfagos Ballydowane yn y 1970au a'r 80au.
Mae'r dreftadaeth doreithiog yma o'r Arfordir Copr yn dangos bod hon yn ardal ag adnoddau mwynol, morol ac amaethyddol cyfoethog, gan ddenu anheddiad a oedd yn masnachu ar draws Môr Iwerddon a’r Môr Celtaidd efallai mor bell yn ôl â'r Oes Haearn. Mae'r arolygon sydd wedi’u cynnal hyd yma’n caniatáu i ni greu cofnod sylfaenol o'r safle i fesur erydiad yn ei erbyn yn y dyfodol. Mae hefyd yn caniatáu i ni daflu goleuni pellach ar hanes amrywiol y rhanbarth o'r cynhanes i'r gorffennol mwy diweddar.
Cyfeiriadau
- Cowman, D. (1982) Bronze-Age Copper-Mines at Dane’s Island. Decies 20: 22-7.
Cowman, D. (1983) Thomas (“Bullocks”) Wyse: A Catholic Industrialist during the Penal Laws, I. Decies 24: 8-13. - Du Noyer, G. (1865) Explanation to Accompany Sheets 167, 168, 178, and 179 of the Maps and Sheet 13 of the Longitundinal Sections of the Geological Survey of Ireland illustrating Parts of the Counties of Waterford, Wexford, Kilkenny and Tipperary. Hodges, Smoth and Co., Dublin.
- Power, P. (1909) ‘On an ancient (prehistoric?) copper ingot from Bonmahon’, J Waterford SE Ir Archaeol Soc 12, 86-89.
- Westropp, T 1906, ‘Notes on certain promontory forts in the counties of Waterford and Wexford’, J Roy Soc Antiq Ir 36, 239-58.
- Westropp, T. 1914-16, ‘Fortified headlands and castles on the south coast of Munster: Part II, from Ardmore to Dunmore, Co. Waterford’, Proc Roy Ir Acad C 32, 188-227.
- Westropp, T. (1920) The Promontory Forts and Traditions of the Beare and Bantry, Co. Cork Royal Society of Antiquaries of Ireland 10 (2): 140-159.