Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gyfarwydd â rôl yr archaeolegydd, o Indiana Jones i’r Time Team. Mae llawer o bobl yn meddwl amdanom fel pobl sy’n agor tyllau er mwyn darganfod hen bethau ar gyfer llenwi amgueddfeydd, er fy mod i’n siwr bod ambell archaeolegydd anturus yn chwilio am feddrodau dirgel yn rhywle! Er mai cloddio sy’n ganolog i’r ddisgyblaeth, mae yna lawer ohonom nad ydym bron byth yn mynd yn agos at ffos gloddio – er enghraifft, ffotograffwyr o’r awyr, gwyddonwyr, arolygwyr ac arbenigwyr darganfyddiadau. Mae natur amlddisgyblaethol archaeoleg yn adlewyrchu’r heriau niferus a wynebwn wrth geisio darganfod ac ail-greu bywydau pobl y gorffennol. Tasg gymhleth yw hon sy’n gofyn am lawer mwy na chloddio am grochenwaith ac aur. Fel yn achos gwyddorau eraill, mae archaeoleg yn datblygu’n gyson, gan gofleidio technolegau a thechnegau newydd er mwyn gwella ein dealltwriaeth o’r gorffennol a dod â’r gorffennol yn fyw yn y presennol a’i ddiogelu i’r cenedlaethau a ddaw. Mae manteisio i’r eithaf ar y technolegau hyn yn allweddol hefyd o ran rheoli ein treftadaeth ddiwylliannol yn llwyddiannus yn wyneb bygythiadau di-rif.
Fel tîm sy’n edrych ar fygythiadau newid hinsawdd i dreftadaeth arfordirol roedd yn bwysig i ni fabwysiadu technegau modern er mwyn cofnodi, monitro a hyrwyddo ein dealltwriaeth o rai o’r safleoedd ar hyd yr arfordir sy’n wynebu’r perygl mwyaf. Rydym yn gwneud hyn drwy ddefnyddio llu o wahanol dechnegau, a eglurir mewn darluniau hardd ar ein graffigyn ‘technegau’ newydd!
Maer gyfer llawer o’r gwaith hwn fe ddefnyddir technolegau digidol fel dronau, lloerennau a GPS, laser-sganio ar y ddaear a laser-sganio o’r awyr i gofnodi safleoedd archaeolegol fel maen nhw’n edrych ar hyn o bryd. Gan ddefnyddio’r dechnoleg hon, gallwn gasglu data a gwybodaeth am safleoedd archaeolegol yn gyflymach ac yn fanylach nag erioed o’r blaen. Yn ogystal â chyflymu ein gwaith, mae cofnodi digidol yn hwyluso dadansoddi mwy cymhleth, ail-greu safleoedd, a chyhoeddi’r canlyniadau drwy fforymau fel cyfryngau cymdeithasol. Mae gweithio fel hyn yn arbennig o bwysig yn ystod yr argyfwng presennol pan na all archaeolegwyr na’r cyhoedd gyrchu ac archwilio archaeoleg ac eithrio drwy eu sgriniau cyfrifiadur. Ond sut mae hyn yn bosibl, sut gallwn fynd i’r afael ag archaeoleg o gysur ein cartrefi ein hunain drwy ddefnyddio data digidol, a beth mae CHERISH wedi bod yn ei wneud yn y maes digidol ers dechrau’r prosiect? Mae gorfod aros gartref wedi rhoi cyfle i aelodau’r tîm CHERISH fyfyrio ar rai o’r gweithgareddau digidol y maen nhw wedi ymgymryd â nhw yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Pan ddeuthum i weithio i CHERISH fel archaeolegydd ifanc fe roddwyd i mi’r dasg o brosesu’r data LiDAR (laser-sganio o awyren) ar gyfer chwech o ynysoedd Cymru – gorchwyl arswydus braidd i rywun nad oedd wedi cael fawr ddim profiad o weithio gyda data 3D! Roedd y gwaith hwn yn cynnwys defnyddio meddalwedd i brosesu’r data pwyntiau laser a’u paratoi ar gyfer ‘holi’ mewn perthynas â nodweddion archaeolegol. Defnyddiwyd meddalwedd o’r enw Real Visualisation Toolbox , a grëwyd gan Ganolfan Ymchwil Academi Gwyddorau a Chelfyddydau Slovenia, i gynhyrchu gwahanol ddelweddiadau er mwyn dangos cynrychioliadau 3D o dopograffi ac archaeoleg yr ynysoedd. Roedd y gwahanol ddelweddiadau’n ein galluogi i weld yr ynysoedd fel nad oedd neb wedi’u gweld nhw o’r blaen...
Ar ôl ychydig o fisoedd o weithio ar y data roeddwn wedi gwirioni. Daeth chwilio am nodweddion archaeolegol ar yr ynysoedd (nad oeddwn wedi ymweld â nhw eto) yn ddifyrrwch newydd. Cafodd nodweddion di-rif (rhai’n anhysbys ar y pryd) eu mapio a’u cofnodi er mwyn cynhyrchu mapiau newydd o’r holl archaeoleg sy’n sefyll ar bob ynys, rhywbeth na chawsai ei wneud mor fanwl o’r blaen. Ynys Enlli oddi ar Benrhyn Llŷn oedd yr ynys fwyaf trawiadol o lawer a gafodd ei fapio gennym. Dangosodd y LiDAR fod cyfundrefnau caeau canoloesol ac ôl-ganoloesol yn ymestyn dros yr ynys gyfan a bod gan Enlli orffennol amaethyddol cyfoethog. Roeddem yn gallu mynd â’r gwaith hwn ymhellach drwy astudio mapiau hanesyddol ystâd Newborough o’r 18fed ganrif a’r 19fed ganrif er mwyn cael darlun o sut yr oedd yr ynys wedi’i rhannu gynt a sut y câi ei ffermio. Pan osodwyd y mapiau wedi’u digido ar ben y LiDAR daeth yn eglur bod peth o’r tir grwn a rhych (‘ridge and furrow’) y gellid ei weld ar y LiDAR mewn gwirionedd yn gysylltiedig â’r cyfundrefnau caeau a oedd i’w gweld ar y mapiau hanesyddol. Fodd bynnag, nid oedd nifer fawr o’r caeau yn dilyn y terfynau hyn, ac roeddem yn gallu eu dyddio’n ôl i’r cyfnod ôl-ganoloesol. Y peth nodedig am y gwaith hwn oedd i’r rhan fwyaf ohono gael ei wneud mewn swyddfa filltiroedd lawer o Enlli – darn go iawn o archaeoleg ddigidol.
Mae dronau hefyd yn chwarae rhan bwysig iawn yn ein gwaith arolygu digidol, sy’n cael ei wneud ar raddfa helaeth yng Nghymru a Lloegr. Roedd dronau’n agwedd ar waith archaeolegol nad oeddwn yn gwybod dim amdani bron cyn dod i weithio ar y prosiect CHERISH, ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf maen nhw wedi dod yn offer allweddol. Mae dronau (UAVs) yn prysur ddod yn gyfrwng safonol ar gyfer cofnodi archaeoleg ac mae hyn yn sicr yn wir yn achos CHERISH lle maen nhw wedi cael eu defnyddio ar ein holl safleoedd bron. Mae llawer o’n safleoedd yn rhy beryglus i’w harolygu mewn unrhyw ffordd arall. Bydd archaeolegwyr doeth yn osgoi clogwyni uchel ac ansefydlog! Ond mae dronau yn eu helfen yn y fath sefyllfaoedd a gellir eu defnyddio’n gyflym a diogel i gofnodi safleoedd a chlogwyni sy’n erydu a chwalu.
Wrth reswm, mae angen ymweld â’r safleoedd er mwyn casglu’r data cychwynnol a gwneir hyn drwy dynnu cannoedd o awyrluniau sy’n gorgyffwrdd. Serch hynny, gwneir y rhan fwyaf o’r gwaith cysylltiedig o gysur y swyddfa (neu ystafell wely ar hyn o bryd!). Prif nod y cam ôl-brosesu yw casglu ynghyd yr holl ffotograffau o safle unigol a’u ‘pwytho’ wrth ei gilydd i greu data 3D a all gael eu troi’n nifer fawr o allbynnau gwahanol. Cyflawnir hyn drwy fanteisio ar feddalwedd fel Agisoft Metashape sy’n defnyddio techneg o’r enw ffotogrametreg i adeiladu data cwmwl pwyntiau 3D drwy baru pwyntiau cyffredin rhwng ffotograffau 2D gorgyffyrddol. Ar ddiwedd y broses hon mae gennym filoedd neu weithiau filiynau o bwyntiau sy’n cynrychioli gwir siâp a maint yr heneb (meddyliwch am sut byddai’r safle’n edrych pe bai miliynau o beli bach sbonciog yn cael eu gosod dros yr heneb gyfan).
Gallwn gymharu’r data hyn â data a gasglwyd ynghynt er mwyn gwneud gwaith monitro. Gwneir hyn drwy ddefnyddio meddalwedd fel CloudCompare sy’n cymryd dau gwmwl pwyntiau, yn eu paru, ac yna’n eu dadansoddi i ddarganfod rhannau o safle sydd wedi newid yn fetrig. Mae meintioli colled ac adnabod rhannau gwannach safleoedd yn rhan bwysig o waith CHERISH a bydd o gymorth i reoli safleoedd yn wyneb risgiau cymhleth newid hinsawdd. Bu’r gwaith hwn yn effeithiol yn Iwerddon lle mae safleoedd fel Dunbeg, Swydd Kerry wedi dioddef colledion enbyd o ganlyniad i erydiad arfordirol wedi’i achosi gan y cynnydd mewn stormydd yn y rhanbarth.
Un o nodau allweddol eraill y prosiect yw codi ymwybyddiaeth o archaeoleg safleoedd a’r bygythiadau iddynt o ganlyniad i newid hinsawdd. Mae dronau (wrth gwrs!) yn chwarae rhan bwysig yn yr agwedd hon ar ein gwaith hefyd. Defnyddiwn y data a gasglant i gynhyrchu modelau 3D digidol i’w rhannu ar-lein a’u defnyddio fel offer estyn-allan. Byddwn yn creu’r modelau hyn drwy ‘blethu’ y pwyntiau i greu gwrthrych digidol solet y gellir ei ddangos ar-lein. Gan nad ydw i’n meddu ar y sgiliau i wneud hyn, byddwn fel rheol yn anfon y data i fodelwyr 3D arbenigol (fel ein ffrindiau yn ThinkSee3D) i’w troi’n fodelau bendigedig y gallwn eu huwchlwytho i SketchFab i’r cyhoedd eu hastudio a’u harchwilio. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi manteisio ar y cyfle i gynhyrchu ‘teithiau digidol’ gan ddefnyddio anodiadau ar SketchFab sy’n tynnu sylw at yr archaeoleg weladwy (a chuddiedig weithiau) yn ogystal â’r mathau o risgiau a wynebant oherwydd newid hinsawdd. Beth am gael cip eich hunain!
Mae argraffu 3D hefyd yn ennill ei blwyf fel ffordd o ddod â data digidol yn ôl i’r byd real i’w defnyddio fel offer estyn-allan effeithiol. Cyn y cloi-lawr roeddem yn awyddus i gael lluniau o rai o’n safleoedd i’n helpu yn ein gwaith ymgysylltu â’r cyhoedd. Roeddem yn ddigon ffodus i gael print hyfryd o Ddinas Dinlle yng Ngwynedd sydd wedi cael ei ddefnyddio wrth ddisgrifio’r safle a dangos sut mae erydiad arfordirol yn effeithio arno. Mae wedi bod yn boblogaidd iawn gyda phlant ysgol ar hyd a lled Cymru! Yn y dyfodol gobeithiwn symud ymlaen â’r gwaith hwn a dechrau datblygu ailgreadau o safleoedd ac animeiddiadau digidol o sut yr oeddynt yn edrych yn y gorffennol a sut mae newid hinsawdd yn eu newid heddiw, felly cadwch eich llygad ar agor am fwy o wybodaeth...
Gan ddychwelyd i’r cwestiwn, ‘A ddylen ni ein galw ein hunain yn archaeolegwyr digidol nawr?’, yr ateb yw nad ydw i’n hollol sicr. Ond yr hyn sy’n glir yw bod y ffyrdd digidol o fynd i’r afael ag archaeoleg yn dod yn arferion prif ffrwd, yn enwedig ym maes arolygu archaeolegol. Ni all dulliau pell a digidol ddisodli gwaith maes (a rhaid cyfaddef fy mod i’n gweld eisiau gwaith maes yn ofnadwy!) ond pwy a ŵyr, efallai y bydd yr argyfwng presennol yn ein gorfodi i addasu ein dulliau a’n hysgogi i ddigido’r holl fapiau hardd a dogfennau hanesyddol diddorol sy’n llechu mewn archifdai ar hyd a lled y wlad. Archaeolegwyr digidol? Efallai ddim. Ond gallai archaeoleg ddod yn llawer mwy hygyrch i bobl wrth i archaeolegwyr gynyddu eu hymdrechion i gyfathrebu â phobl ar yr adeg anodd hon.