Yn ôl at y gwaith maes
Mae epidemig y Coronafeirws wedi gwneud 2020 yn flwyddyn anarferol ac anodd i filiynau o bobl. Ynghyd â'r rhan fwyaf o sefydliadau eraill, dechreuodd staff y Comisiwn Brenhinol yng Nghymru, sy'n arwain Prosiect CHERISH, weithio gartref ym mis Mawrth 2020. Ailddechreuodd y gwaith maes blaenoriaeth ym mis Awst, gyda phob tasg yn gofyn am achos busnes cadarn ac asesiad risg manwl.
Ganol mis Awst cymeradwywyd gwaith maes monitro Tîm CHERISH o'r Comisiwn Brenhinol ar Safle Tanio Castellmartin. Nod y gwaith maes newydd hwn oedd cynnal yr arolygon ffotogrametrig cyntaf o'r awyr gyda drôn o'r pedair prif gaer bentir arfordirol, Trwyn Linney, Trefflemin, Crocksydam a Buckspool/Y Castell i ddarparu modelau sylfaen i fonitro newid yn y dyfodol. Roedd angen arolygon tir topograffig newydd hefyd ar gyfer ceyrydd Buckspool a Crocksydam, a arolygwyd ddiwethaf yn y 1970au. Yn ogystal, roedd angen ymchwilio i gaer bentir 'newydd' bosib a nodwyd yn ystod arolwg o'r awyr ar Dwyn Crickmail.
Arolwg archeolegol ar safle tanio byw
Dim ond pan mae seibiant tanio wedi’i drefnu y gallwn gynnal gwaith maes ar y safle milwrol prysur iawn hwn. Er bod posib cael mynediad i gaer bentir Bae Trefflemin ar rai nosweithiau ac ar benwythnosau, mae caer bentir Trwyn Linney yn yr ardal danio fyw a dim ond pan fydd y safle cyfan ar gau y gellir ymweld â hi, yn ystod y Pasg a mis Awst fel rheol.
Er bod Dan a Toby yn y tîm yn beilotiaid drôn cymwys, roedd angen caniatâd uwch gan Cadw, y Parc Cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Sefydliad Seilwaith Amddiffyn ar gyfer ein harolygon drôn hefyd. Rydym yn ddiolchgar i'r holl staff y buom yn gweithio â nhw i gael caniatâd. Roedd amseriad arolwg mis Awst yn osgoi sensitifrwydd adar sy'n nythu ar y clogwyni ond roedd rhaid i ni fod yn ymwybodol o hyd o forloi’n geni eu rhai bach yn gynnar ar y traethau.
Cynhaliwyd ymweliad cyntaf Prosiect CHERISH â'r safle ym mis Mawrth 2018 gyda chydweithwyr o Brifysgol Aberystwyth, ond gwnaed yr arolygon manwl modern cyntaf ar geyrydd Trwyn Linney a Threfflemin ddegawd yn gynharach gan Louise o'r Comisiwn Brenhinol yn 2008. Mae'r arolygon cynharach hyn, ynghyd â mapiau canrif oed a ffotograffau hanesyddol o'r awyr, yn darparu llinellau sylfaen ardderchog i farnu patrymau erydu tymor hwy yn wyneb newid yn yr hinsawdd yn eu herbyn.
Gan deithio mewn ceir ar wahân, a neilltuo setiau o offer ar wahân, roedd ein stop cyntaf ni yn Swyddfa Safle Castellmartin yn gynnar ar ddiwrnod cyntaf y gwaith maes ar gyfer Briff y Safle. Roedd hyn er mwyn sicrhau y gallem ganfod ac osgoi unrhyw arfau a allai fod yn gorwedd hyd y lle yn yr ardaloedd tanio byw.
Arolygu ar ymyl y clogwyni
Roeddem yn ffodus o gael wythnos o dywydd poeth a heulog a phrin ddim gwynt i gynnal ein harolygon drôn. Y drôn rydym yn ei hedfan yw Phantom IV Advanced, gan ddefnyddio meddalwedd sy'n ein galluogi i rag-raglennu hediad arolygu grid ar gyfer ffotogrametreg, gan gynnwys pennu altitiwd a manylder daear. Cyn dechrau hedfan, mae rhwydwaith o 'groesau' rheoli’n cael eu gosod yn y ddaear a'u harolygu gydag offer GNSS (System Lloeren Llywio Fyd-eang) fel bod y model 3D gorffenedig wedi'i leoli'n fanwl gywir o fewn ychydig gentimetrau neu'n well.
Dechreuodd yr wythnos yng nghaer bentir Trwyn Linney, yn yr ardal tanio byw o'r safle, gydag archwiliad cyflwr ar Wersyll Bulliber gerllaw hefyd. Wedyn aethom tua'r dwyrain i gynnal arolwg drôn arfordirol cysylltiedig ar geyrydd pentir Trefflemin a Crocksydam cyn adleoli yn y diwedd i safle ger Trwyn Sain Gofan ar gyfer mynediad i gaer Buckspool a'r safle sydd wedi’i nodi o’r newydd yn Nhwyn Crickmail.
Caer bentir newydd a chei chwarel hanesyddol
Roedd pentir diddorol yn Nhwyn Crickmail wedi edrych fel caer bentir bosib o arolwg o'r awyr yn 2018 ond roedd angen ymweliad ar y tir i fod yn siŵr. Canfuwyd bod sarn bendant yn mynd i mewn i'r gaer rhwng gweddillion dwy ffos sydd wedi'u herydu. Y tu mewn mae olion waliau cerrig isel, o un neu ddau o dai crynion bach o bosib. Mae cymeriad y gwrthgloddiau isel sydd wedi goroesi a’r ffosydd wedi'u llenwi yn awgrymu y gallai Twyn Crickmail fod o gyfnod cynharach na'r ceyrydd pentir eraill, mwy sylweddol, gerllaw, yn dyddio o'r Oes Efydd Ddiweddarach o bosib.
Cawsom ein synnu hefyd o ddarganfod wal gerrig uchel yn y gyli arfordirol o dan y gaer, wedi'i gosod rhwng clogwyni môr uchel. Mae'n ymddangos bod hwn yn llwyfan llwytho ar gyfer y fasnach galchfaen hanesyddol a ffynnai tan flynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. Er nad yw'r wal wedi'i marcio ar fapiau hanesyddol, ac er nad yw wedi'i chofnodi ar hyn o bryd, mae'n awgrymu safle lle’r oedd cerrig wedi’u chwarelu’n cael eu llwytho i longau’n aros, yn debyg i gei llwytho yn nhrwyn caer bentir Trefflemin.
Prosesu’r canlyniadau
Dyma'r arolygon drôn archeolegol cyntaf ar y clogwyni sy’n erydu yng Nghastellmartin, gan arwain at gofnod 3D eithriadol fanwl o ymyl y clogwyn a'r ceyrydd, ac yn rhagori ar yr hen arolwg sganio laser yn yr awyr gyda manylder 2 fetr (LiDAR) yn 2004, y gellir ei weld ar Borthol Lle y llywodraeth.
Yn ystod yr wythnos, fe wnaethom arolygu 2.8km o arfordir i fanylder 2cm gyda'r drôn, gan hedfan 87.5 hectar o ffotogrametreg fertigol a chasglu tua 3200 o ddelweddau fertigol ynghyd â llawer o rai lletraws, yn ogystal â sawl munud o fideo o'r awyr. Mae prosesu'r holl ddata hyn gan weithio gartref yn heriol, ond rydym yn dechrau cynhyrchu modelau gorffenedig o'r safleoedd arfordirol.
Mae'r modelau 3D newydd ar gyfer ceyrydd pentir Bae Trefflemin a Crocksydam yn dangos y ddau safle mewn manylder eithriadol. Mae dyluniad Crocksydam yn wahanol iawn i'r gwrthgloddiau tal ar dro yn Nhrefflemin ac efallai bod dibenion eithaf gwahanol wedi bod i’r ddau safle yma sy’n agos at ei gilydd. Mae'r modelau 3D newydd hyn yn darparu'r sail ar gyfer dadansoddiad newydd o'r ceyrydd arfordirol cynhanes diddorol hyn.