Roedd ‘Fyddet ti’n hoffi treulio’r diwrnod gyda ni ar y traeth ym Marloes, yn arolygu llongddrylliad yr Albion?’ yn wahoddiad na allwn i ei wrthod. Fis wedi i mi gael fy mhenodi i fy rôl newydd fel Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata gyda phrosiect CHERISH, dyma gyfle euraidd i weld y tîm ar waith yn y maes, yn gwneud yr hyn maent yn ei wneud orau.
Felly i ffwrdd â ni – tîm o 6 o faes parcio Marloes yn Sir Benfro, yn rhannu’r offer rhwng pawb ac yn anelu am yr arfordir. Fe wnaethon ni gerdded drwy gae o ddefaid syn, at Lwybr yr Arfordir, a chyfle i ryfeddu at rai o olygfeydd mwyaf godidog Sir Benfro. Fe wnaeth yr haul ymddangosiad prin ar gyfer dechrau mis Chwefror hefyd ac roedd yn teimlo'n dda cael bod allan yn yr awyr agored.
Roedd y stop cyntaf ar ben y clogwyn gyferbyn ag Ynys Gateholm – traeth Marloes i’r chwith ac i’r dde, ein cyrchfan, Traeth Albion, sydd wedi’i enwi ar ôl y llongddrylliad yr oeddem ar fin ymweld ag ef a’i arolygu. Ar ôl tynnu lluniau wrth gwrs, dyma droi yn syth at y gwaith. Mewn llecyn ansicr, yn uchel uwchben y tonnau, dechreuodd Louise Barker, uwch ymchwilydd archaeolegol gyda phrosiect CHERISH, ddrilio twll bach yn y graig.
“Mae hwn yn rhan bwysig o’n prosiect ni” eglurodd, “gosod marcwyr arolygu ar ein safleoedd ni, er mwyn gwella’r monitro arfordirol yn y dyfodol. Bydd y marcwyr yma’n ei gwneud yn haws i arolygwyr ddychwelyd ac ailadrodd arolwg gan eu galluogi i fonitro newid yn fanwl gywir o fewn ychydig gentimetrau.”
Gyda’r marciwr metel bach yn ei le, roedd yn ddringfa serth i lawr i’r traeth, gyda chlogfeini mawr wedi’u gorchuddio gan wymon yn darparu her ychwanegol cyn i ni gyd gyrraedd y tywod o’r diwedd. Roedd y diwrnod wedi cael ei ddewis oherwydd ei lanw arbennig o isel ac roedd y tonnau eisoes yn cilio. Roedd yr archaeolegwyr morwrol Julian Whitewright a Jack Pink, sydd hefyd yn geoffisegydd, eisoes yn brasgamu ar hyd y traeth, yn marcio gridiau ar gyfer yr arolwg.
“Does neb yn gwybod faint o’r llongddrylliad sydd wedi goroesi a faint o falurion sydd wedi’u gwasgaru ar draws y traeth. Fe ddylai'r arolwg geoffiseg yma ddatgelu maint y llongddrylliad” esboniodd Julian.
Roeddem yn gallu gweld rhan o'r llong eisoes - polyn haearn mawr i'w weld uwchben y tonnau. Stemar oedd yr Albion, yn teithio rhwng Dulyn a Bryste ym mis Mai 1837, yn cario cargo o 50 o deithwyr, tua 400 o foch [mae’r nifer yn amrywio yn ôl wrth bwy rydych chi’n gofyn!] ac ychydig o geffylau. Roedd Capten Bailey wedi addo taith gyflym i’w deithwyr ac wedi gwneud y penderfyniad mentrus i hwylio drwy Swnt Jac yn lle’r llwybr arferol o amgylch cefn Ynys Sgogwm. Mae'r straeon yn amrywio, ond tarodd y llong graig a dechreuodd gymryd dŵr ar ei bwrdd, gan orfodi'r capten i wneud y penderfyniad i lywio’r llong i'r tir. Tarodd draeth Marloes tua 5pm.
Fe oroesodd pawb, er na lwyddodd y moch i gyd i gyrraedd pen y clogwyn yn ddiogel – fel golygfa o’r ffilm ‘Whisky Galore!’, mae adroddiadau ei bod yn flwyddyn dda am gig moch yn ardal Marloes!
Heddiw, mae gweddillion yr Albion yn cynnwys ffrâm haearn yr olwyn rodli, y plymiwr o'r pwmp gwactod, gwialen piston a llawer mwy, yn gorwedd o dan y tywod. Roedd y stemar tua 160 troedfedd o hyd yn wreiddiol – tua hyd 3 cherbyd rheilffordd, a byddai wedi chwyldroi teithio rhwng Iwerddon a thir mawr y DU – gan leihau’r amser i daith 20 awr.
“Mae’n lleoliad anodd ei gyrraedd ond mae’n werth yr ymdrech oherwydd dyma un o’r llongddrylliadau stemar cynharaf yn y DU” meddai Julian, “hyd y gwyddom, dyma un o’r arolygon geoffisegol cyntaf o longddrylliad ar draeth yng Nghymru. Drwy fapio'r safle, gallwn ddeall mwy am y llong a beth ddigwyddodd iddi. Mae ychydig fel jig-so ond dydych chi ddim yn gallu gweld yr holl ddarnau ac maen nhw’r ffordd anghywir!”
Roedd Dr Toby Driver yn brysur ar y traeth hefyd, yn paratoi i hedfan drôn uwchben safle’r llongddrylliad. Byddai hyn yn darparu gwybodaeth hanfodol am faint y safle.
“Mae tua 6000 o longddrylliadau wedi’u gwasgaru o amgylch arfordir Cymru – ond dim ond 6 ohonyn nhw sy’n llongddrylliadau gwarchodedig. Dyma un o amcanion prosiect CHERISH – argymell mwy o’r safleoedd hyn i’w dynodi’n henebion gwarchodedig oherwydd eu bod yn rhan mor bwysig o’n treftadaeth arfordirol.”
Wrth i’r llanw fynd allan, roedd mwy o’r llongddrylliad yn dod i’r golwg – nes bod modd gweld y crancsiafft i gyd a’r ffrâm a fyddai wedi bod yn gartref i injan y llong. Daeth y cynghorydd cymuned lleol i ymuno â ni, gŵr sydd â diddordeb mawr yn yr Albion, Chris Jessop, sydd wedi treulio oriau lawer yn astudio’r llongddrylliad a’i hanes. Roedd Chris yn beiriannydd drwy hyfforddiant ac mae'n disgrifio ei hun fel archwiliwr traethau brwd.
“Mae darnau o’r llongddrylliad yn dal i ddod i’r lan – ac mae pren o’r llong ar y traeth o hyd. Pan fydd llanw arbennig o isel, rydw i’n dod i lawr yma i dynnu mwy o luniau. Drwy ein hymchwil ni, rydyn ni hefyd wedi darganfod replica gweithredol o'r llong yn Sweden sydd â'r un injan â'r Albion hyd yn oed. Mae hefyd fodel o’r Albion yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Llundain, yr hyn y bydden nhw wedi’i alw’n ‘fodel ystafell fwrdd’ i ddangos i fuddsoddwyr sut yn union y byddai’r llong yn cael ei hadeiladu.”
Hwn hefyd oedd yr ymweliad cyntaf â safle llongddrylliad ar gyfer aelod newydd arall o dîm CHERISH. Dechreuodd yr archaeolegydd Hannah Genders Boyd yr un pryd â mi, ond yn gweithio fel dadansoddwr data gyda CHERISH, gan ddod i Gymru o Brifysgol Caeredin lle bu’n gweithio fel cynorthwy-ydd ymchwil.
“Mae hwn yn gyfle gwych i weld treftadaeth hinsawdd ar waith – drwy gynnal arolwg o’r safle yma, fe allwn ni godi proffil y llongddrylliad a’r gobaith yw cael cydnabyddiaeth o’i bwysigrwydd cenedlaethol. Mae’r llongddrylliad yn erydu yn yr holl ddŵr hallt, felly mae’n ras yn erbyn amser i fonitro’r safle. Mae heddiw yn bendant yn un o’r dyddiau ‘Rydw i wrth fy modd yn fy swydd’!”
Roedd yn ras yn erbyn y llanw i gwblhau'r holl waith arolygu. Roedd Jack Pink o Brifysgol Southampton yn cyflymu pethau, yn brasgamu ar draws y traeth yn ‘gwisgo’ magnetomedr – ffrâm siâp pyst rygbi, y cit geoffiseg ar gyfer cofnodi nodweddion archaeolegol o dan y tywod.
“Mae hyn yn cŵl iawn. Rydw i bob amser yn mynd yn nerfus pan fydd llawer o fetel ar safle, ond rydyn ni wedi gorchuddio ardal dda heddiw. Rydyn ni wedi gorfod rasio yn erbyn un o’r rasys llanwol cyflymaf yn y byd, ond rydw i’n falch o ddweud bod fy nhraed i dal yn sych!”
Gyda’r llanw’n troi a’r tonnau’n dechrau gorchuddio’r llongddrylliad a’i holl gyfrinachau eto, roedd yn amser troi am adref dros y clogfeini ac i fyny’r llwybr serth i ben y clogwyn. Roedd yr haul i’w weld o hyd, yn disgleirio ar y dŵr. Cwblhawyd diwrnod da o waith maes, gyda’r canlyniadau eto i ddod.
Trysor wedi’i gladdu ar draeth yng Nghymru – sy’n dal i ddatgelu ei hanes 185 mlynedd ar ôl cyrraedd ei orffwysfan terfynol yn Sir Benfro.