Mae Heneb Genedlaethol Dunbeg, sy’n cyfieithu fel caer fechan, yn atyniad twristiaidd poblogaidd yn Sir Kerry gyda’i rhesi nodedig o amddiffynfeydd a’r golygfeydd godidog dros Fae Dingle i Ynys Valentia a Safle Treftadaeth Byd Skellig Michael. Yn anffodus, mae’r safle wedi bod ar gau dros dro i’r cyhoedd ar gyfer gwaith atgyweirio a mesurau diogelwch wrth i’r môr barhau i erydu’r clogwyni. Mae’r erydiad hwn yn eithriadol ddifrifol yn ystod stormydd ac mae darogan y bydd stormydd yn fwy difrifol gyda newid yn yr hinsawdd.
Pan fyddwch yn mynd at y gaer bentir o'r ffordd, byddwch yn cerdded drwy bedwar clawdd, pum ffos, a rhagfur mewnol o gerrig sychion. Mae tramwyfa ganolog yn croesi'r cloddiau i'r rhagfur ond anogir pobl i gerdded ar ochr ddwyreiniol y gaer oherwydd erydiad wrth y fynedfa. Mae llwybr tanddaearol wedi’i adeiladu o gerrig, a elwir yn siambr danddaearol, yn ymestyn am fwy nag 16m o'r rhagfur i'r trydydd clawdd. Roedd llwybr gyda cherrig arno yn arwain o fynedfa'r rhagfur at strwythur cylch o gerrig sychion a elwir yn clochán y tu mewn i'r gaer
Mae gennym gofnod cymharol dda o newidiadau ar y safle hwn gan fod y gaer bentir wedi denu sylw hynafiaethwyr a daearegwyr o'r 19fed ganrif yn ogystal â thwristiaid o'r 20fed20fed ganrif. Ymwelodd George Du Noyer â'r safle a'i gofnodi yn 1856, ac mae'r gaer bentir siâp trionglog y tynnodd ei llun wedi colli hyd at 35m ar hyd ei hochr orllewinol sy'n eistedd ar y clogwyni 30m o uchder. Mae hyn wedi arwain at y gaer yn dod yn debycach i siâp cilgant yn y cynllun heddiw.
Effeithiodd gweithgarwch dynol yn y 19fed 19eg ganrif ar y gaer hefyd, gyda helwyr ysgyfarnogod yn troi cerrig drosodd, a cherrig yn cael eu cymryd ar gyfer adeiladu mewn mannau eraill. Cafwyd gwared ar waliau cerrig y caeau, a oedd unwaith yn croesi cloddiau a ffosydd y gaer, yn ystod gwaith adfer y Swyddfa Gwaith Cyhoeddus (OPW) yn 1892. Hefyd atgyweiriodd OPW do un o'r ddwy siambr warchod a oedd ar y naill ochr i fynedfa wal y rhagfur. Nid yw'r tŷ gwarchod gorllewinol yn bodoli mwyach. Fe wnaeth gwaith atgyweirio OPW greu cromlin hefyd wrth derfynellau'r rhagfur a gosodwyd wal derfyn yn ei lle. Roedd cynlluniau blaenorol o’r safle'n dangos bod wal rhagfur syth wedi bod yma.
Yn 1897, dywedodd Thomas Westropp fod tua 3m o dir wedi disgyn ar yr ochr orllewinol yn yr 20 mlynedd ddiwethaf. Mae'r Athro R.A.S. MacAlister, o Goleg Prifysgol Dulyn yn ddiweddarach, yn cofnodi ei fod wedi ymweld â'r safle yn 1896 ac eto yn 1898 ac yn ystod y cyfnod hwnnw roedd pen gorllewinol y rhagfur carreg wedi erydu i'r môr. Mae ymweliad arall gan OPW ym mis Medi 1915 yn braslunio diflaniad 9.5m o ochr orllewinol y rhagfur ers 1897 a dangoswyd holltau tir, arwydd o ansefydlogrwydd arfaethedig.
Yn 1977, comisiynodd OPW a'r Gwasanaeth Henebion Cenedlaethol waith cloddio i archwilio'r safle, ei ddyddiadau a'i hanes o ddeiliadaeth cyn i fwy o nodweddion gael eu colli. Mae golygfa o'r tu mewn i'r gaer yn edrych ar wal y rhagfur yn dangos bod erydiad y clogwyni o'r gorllewin wedi cyrraedd y tŷ gwarchod gorllewinol i ochr y fynedfa dan do. Datgelodd gwaith cloddio dan arweiniad yr Athro Terry Barry o Goleg y Drindod Dulyn dyllau pyst, aelwydydd a thyllau stanciau yn y clochán gan awgrymu llochesi plethwaith a gynhelir gan byst a stanciau pren. Dangosodd dadansoddiad o weddillion deiliadaeth ddeiet o foch, defaid, geifr, gwartheg, ceirw, adar a physgod. Mae’r dyddiadau radiocarbon yn awgrymu bod pobl yn byw yma yn y 10fed 10fed neu'r 11fed ganrif OC. Datgelodd gwaith cloddio pellach yn y rhagfur radiocarbon ffos fas gynharach yn dyddio o'r 6fed 6ed ganrif CC. Mae hyn yn dynodi hanes maith o ddefnydd ar y safle, er efallai na fu'n barhaus.
Yn ystod y 7 mlynedd ddiwethaf, mae’r clogwyn wedi bod yn profi cyfnod arall o ansefydlogrwydd. Ym mis Ionawr 2014, arweiniodd storm at ochr ddeheuol y fynedfa drwy’r rhagfur yn dymchwel gan achosi i adran syrthio yn agos at y llwybr drwy’r rhagfur carreg. Dechreuodd Prosiect CHERISH yn gynnar yn 2017 ac mae wedi bod yn cofnodi’r newidiadau diweddaraf gydag arolygon drôn a sganiwr laser rheolaidd. Ym mis Rhagfyr 2017, roedd rhaid cau’r safle eto ar ôl i lifogydd dirybudd i lawr Mount Eagle achosi erydiad nant yn sarn, cloddiau a ffosydd y gaer. Wedyn yn ystod Storm Eleanor ar 3ydd Ionawr 2018, dymchwelodd y rhan fwyaf o’r fynedfa dan do drwy’r rhagfur a’r tir islaw i’r môr. Roedd yr ardal dan do olaf yn y fynedfa hon wedi dymchwel erbyn ein hymweliad nesaf ym mis Ebrill 2019.