Cylchlythyr

Beth yw mapio UAV?

Mae’r gallu i gynhyrchu mapio drwy orgyffwrdd ffotograffau o’r awyr drwy broses a elwir yn ffotogrametreg wedi bod yn dechneg graidd mewn mapio ers blynyddoedd lawer. Mae datblygiadau diweddar mewn prosesu ffotograffig gan ddefnyddio techneg sy’n cael ei hadnabod fel Strwythur o Symudiad (SfM) yn galluogi defnyddio technegau ffotogrametrig i’w defnyddio ar orsafoedd gwaith sylfaenol a gliniaduron gan ddefnyddio meddalwedd cost isel. Mae SfM yn dadansoddi delweddau’n gorgyffwrdd ac yn defnyddio technegau cyfateb pixel i echdynnu geometreg testun y ffotograffiaeth. O gyfuno hyn â’r gallu i dynnu lluniau o’r awyr o Gerbyd Awyr Dioruchwyliaeth (UAV) neu ddrôn mae’n creu system fapio bwerus a hyblyg.

Mae cynnyrch prosesu Strwythur o Symudiad yn Fodel Arwyneb Digidol (DSM) o’r ardal leol gyda manylder eithriadol uchel. Mae’r manylder arolygu yn gyffredinol yn yr ystod 2 i 5cm, gan hyd yn oed weithio gyda ffotograffiaeth o UAV lefel mynediad.

UAV Phantom 4 Pro yn hedfan arolwg mapio ym Mwnt Glascarrig, Sir Wexford.
UAV Phantom 4 Pro yn hedfan arolwg mapio ym Mwnt Glascarrig, Sir Wexford.

Un elfen hanfodol o'r broses hon, yn enwedig os mai canfod newid yw'r prif amcan, yw'r gallu i roi'r DSM yn fanwl gywir yn ei leoliad daearyddol. Mae'n debyg mai system fapio genedlaethol yw hon fel yr Irish Transverse Mercator (ITM) yn Iwerddon. Mae angen Systemau Lloeren Mordwyo Byd-eang (GNSS), naill ai drwy synwyryddion mewnol ar yr UAV neu drwy ddefnyddio marcwyr tir a arolygir yn fanwl gywir. Pan wneir hyn, mae arolwg sylfaen wedi’i sefydlu y gellir cymharu arolwg yn y dyfodol yn ei erbyn, a’i gynnal i'r un fanyleb. Wedyn gellir nodi a mesur newid.

Dull rheoli arolwg GNSS yn cael ei fesur ar darged rheoli ar y tir
Dull rheoli arolwg GNSS yn cael ei fesur ar darged rheoli ar y tir

Mwnt a Beili Glascarrig, Sir Wexford

Mae safle mwnt a beili Glascarrig ar bentir sy’n edrych dros yr arfordir. Yn 1167, glaniodd Diarmuid Mac Murchada yng Nglascarrig ar ôl dychwelyd i Iwerddon a gofyn am help Brenin Harri II i adfer ei deyrnas, sef Leinster. Mae’n bur debyg bod y castell mwnt a beili wedi cael ei adeiladu gan William de Caunteton ar ddiwedd y 12fed ganrif. Yn 1311, dinistriwyd Glascarrig gan MacMurchadas. Bryd hynny mae aneddiad sylweddol sy’n cynnwys 48 o diroedd bwrdais wedi’i gofnodi yng Nglascarrig ac efallai bod y safle wedi cael ei adael ar ôl yr ymosodiad hwn.

Mae’r mwnt, twmpath â chopa gwastad wedi’i orchuddio gan laswellt sy’n bron i 6m o uchder a 36m mewn diametr, wedi’i ddiffinio gan ffos gwaelod fflat. I’r de o’r mwnt mae ardal gaeedig neu feili sydd â chlawdd o ddaear o’i amgylch. Mae’r safle mewn ardal o ddrifft rhewlifol sy’n ei wneud yn eithriadol agored i erydiad. Mae erydiad ardal ddwyreiniol y beili a’r ffos wedi creu casgliad cyfoethog o grochenwaith ac esgyrn anifeiliaid.

Arolwg UAV ym Mwnt Glascarrig

Defnyddiwyd ap DJI Ground Station Pro i raglennu terfynau’r arolwg cyn cynnal arolwg mapio
Defnyddiwyd ap DJI Ground Station Pro i raglennu terfynau’r arolwg cyn cynnal arolwg mapio

Mae’r mwnt a’i dirwedd wedi cael eu mapio gan arolwg UAV ddwywaith hyd yma ar gyfer prosiect CHERISH (Mehefin 2018 a Chwefror 2019). Sefydlodd arolwg 2018 y llinell sylfaen, ar gyfer cymharu arolygon yn y dyfodol yn ei erbyn yn fanwl er mwyn canfod newid.

Mae’r arolygon hyd yma wedi defnyddio’r un UAV, ac wedi creu mwy na 400 o luniau, yn barod i gael eu prosesu drwy feddalwedd SfM. I sicrhau bod modd mapio arolwg yn fanwl gywir i ITM, sicrhawyd rheolaeth GNSS. Cynhyrchwyd DSM ac orthoddelwedd o’r mwnt, gyda manylder o 2.5cm, a manwl gywirdeb lleoliadol, mewn ITM, i radd arolygu well na 2cm.

Camau prosesu Agisoft Photoscan; y ffotograffiaeth yn barod ar gyfer echdynnu Model Gweddlun Digidol (DEM), a’r DEM o ganlyniad
Camau prosesu Agisoft Photoscan; y ffotograffiaeth yn barod ar gyfer echdynnu Model Gweddlun Digidol (DEM), a’r DEM o ganlyniad

Dadansoddiad GIS Glascarrig

I asesu a oes unrhyw newid wedi digwydd, mae’r ddau DSM yn cael eu harchwilio yn ein System Gwybodaeth Daearyddol (GIS). Mae model rhyddhad cysgodol o bob DSM yn galluogi cymharu gweledol, sy’n awgrymu nad oes unrhyw newid dramatig wedi digwydd.

Mae archwiliad gweledol yn hynod oddrychol. Nid yw’n arbennig o wyddonol a gallai golli newidiadau bychain ond arwyddocaol yn y dirwedd. Mae GIS yn galluogi i ni wneud yn llawer gwell na hyn drwy gyfrifiadau mathemategol i gyfrifiadura’r gwahaniaethau a’u harddangos yn raffig ar fap gwyriad.

Cymharu gweledol rhwng y modelau rhyddhad cysgodol wedi’u creu o ddata DEM a gofnodwyd ym mis Mehefin 2018 (llun ar y chwith) a Chwefror 2019 (dde)
Cymharu gweledol rhwng y modelau rhyddhad cysgodol wedi’u creu o ddata DEM a gofnodwyd ym mis Mehefin 2018 (llun ar y chwith) a Chwefror 2019 (dde)

Beth mae hyn yn ei ddweud wrthym?

Mae’r map gwyriad yn cadarnhau nad oes llawer wedi newid yng Nglascarrig yn ystod y cyfnod Mehefin 2018 – Chwefror 2019; mae’r safle wedi parhau’n sefydlog. Nid yw hyn yn syndod mawr efallai gan fod hwn yn gyfnod cymharol fyr o amser, heb storm fawr. Mae mwyafrif y safle o fewn yr ystod +/-0.1m ond mae rhai ardaloedd, yr arlliwiau glas, a oedd yn uwch yn 2018. Gellir esbonio hyn gan y gwahaniaethau mewn tyfiant llystyfiant tymhorol, arolwg ym mis Mehefin yn 2018, ac arolwg ym mis Chwefror yn 2019. Dyma wers i’w dysgu – wrth gynllunio ail arolygon, os yw’n bosibl, dylid cyfateb yr amser o’r flwyddyn. Traeth o gerrig mân yw’r arlliwiau coch ar ymyl ddwyreiniol yr ardal, sy’n ymddangos yn uwch yn 2019, gan ddynodi natur ddeinamig y blaendraeth.

Mae’r dadansoddiad hwn, er nad yw’n datgelu unrhyw ddifrod sylweddol ar y safle y tro hwn, wedi rhoi gwybodaeth eithriadol ddefnyddiol o ran profi gwerth y dechneg. Mae’n rhoi hyder y bydd mapio UAV ailadroddus yn datgelu graddfa unrhyw erydiad a fydd yn digwydd ar ein safleoedd monitro yn y dyfodol.

Map gwyriad yn dangos y gwahaniaeth uchder gafodd ei gyfrif yn y DEM o 2019 a 2018
Map gwyriad yn dangos y gwahaniaeth uchder gafodd ei gyfrif yn y DEM o 2019 a 2018

Map Lleoliad

cyCY