Mae animeiddiad newydd yn adrodd stori hinsawdd y pentref arfordirol hwn yng Ngwynedd o Oes yr Iâ i'r Ail Ryfel Byd
Rydyn ni'n gyffrous am lansio animeiddiad prosiect CHERISH o dirwedd Dinas Dinlle wrth iddi newid!
Yn ystod y 6 mlynedd diwethaf, mae archaeolegwyr a daearyddwyr wedi bod yn ymchwilio i gaer arfordirol Dinas Dinlle a thirwedd Morfa Dinlle i helpu i ddatgelu eu cyfrinachau cudd. Dechreuodd gwaith CHERISH yn 2017 yng nghaer arfordirol Dinas Dinlle, anheddiad cynhanesyddol hwyr sy'n erydu. Yma roedd y gwaith archaeolegol yn cynnwys arolygon o’r awyr a drôn newydd, arolygon topograffig a geoffisegol i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf a manwl gywir am yr heneb gofrestredig.
Arweiniodd y gwaith hwn at gloddio cymunedol, a wnaed ar ran CHERISH, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cadw gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd gyda chymorth byddin o wirfoddolwyr. Drwy gyfrwng dwy ffos, archwiliwyd y tu mewn i'r fryngaer yn agos at wyneb y clogwyn sy'n erydu a datgelwyd y tai crwn cynhanesyddol a Rhufeinig wedi'u claddu'n ddwfn o dan y tywod. Y datgeliad mwyaf arbennig oedd tŷ crwn mawr a thrawiadol, a gafodd ei gloddio'n llawn a'i gryfhau fel bod ymwelwyr yn gallu ymweld â'r strwythur trawiadol hwn heddiw.
Yn ystod y cloddio canfuwyd bod yr archaeoleg o fewn y fryngaer wedi'i chladdu o dan fetrau o dywod, a oedd yn caniatáu i ni ddefnyddio techneg arbennig (Goleuedd a Ysgogir yn Optegol) i'n helpu i ddyddio pryd chwythodd y tywod i mewn. Mae’r dyddiadau'n dangos bod y tywod yn her bresennol erioed i ddeiliaid y fryngaer; mae tystiolaeth o ffos fewnol y fryngaer yn dangos bod tywod wedi dechrau casglu yma o’r Oes Haearn Ganol ymlaen (tua 250 CC). Y tu mewn, mae croniad y tywod dros y tŷ crwn mawr yn awgrymu bod y tywod wedi cael llonydd i gronni dros y safle erbyn dechrau'r cyfnod Canoloesol tua 1100 OC.
O amgylch y fryngaer, bu tîm CHERISH yn echdynnu creiddiau o’r gwlybdiroedd ac yn dyddio’r mawn oedd yn dod i’r golwg ar drai ar y blaendraeth i ddarparu tystiolaeth ar gyfer esblygiad y dirwedd a hanes y llystyfiant. Roedd hyn yn dangos bod coetir i’w gweld lle mae'r traeth heddiw, tua 7500 o flynyddoedd yn ôl, yn y cyfnod Mesolithig; roedd lefel y môr tua 5 metr yn is nag ydyw ar hyn o bryd. Roedd y gwaith hefyd yn dangos bod cilfach lanw ar un adeg y tu ôl i’r gaer lle mae’r pentref a’r caeau heddiw – lleoliad perffaith ar gyfer harbwr ar gyfer cychod Oes yr Haearn a’r Rhufeiniaid!
Ymhellach i ffwrdd bu'r tîm yn archwilio a dyddio datblygiad Morfa Dinlle o amgylch Maes Awyr Caernarfon heddiw. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gallai Morfa Dinlle fod wedi datblygu i ddechrau fel ynys tua 2000 o flynyddoedd yn ôl, yn ystod y cyfnod pan oedd pobl yn byw ym mryngaer Dinas Dinlle. Yn ddiweddarach roedd y safle’n cael ei gau i ffwrdd oherwydd y llanw neu ei ynysu'n barhaol.