Blogiau

CLODDIO CASTELL A CHAER BENTIR FERRITERS

Cylchlythyr

Cyflwyniad

Mae tîm CHERISH yn bwriadu gwneud gwaith cloddio archaeolegol yng Nghastell a Chaer Bentir Ferriter unwaith y bydd y cyfyngiadau presennol yn caniatáu hynny. Mae'r safle wedi'i leoli ar Benrhyn Ballyferriter, Dingle yn Sir Kerry. Mae Trwyn Doon (Dún an Fheirtéaraigh) yn bentir hir, cul sy'n ymestyn ychydig dros bum can metr o'r gogledd ddwyrain i'r de orllewin. Mae’r golygfeydd hardd o'r safle hwn yn cynnwys Trwyn Sybil i'r gogledd ac Ynysoedd Blasket i'r gorllewin. Mae’r gaer gynhanes yma’n un o 95 o geyrydd pentir arfordirol yn Sir Kerry, ac yn un o 508 o geyrydd o’r fath sydd wedi’u cofnodi o amgylch arfordir Iwerddon. Mae ceyrydd pentir yn cael eu heffeithio’n drwm gan erydiad ac felly mae prosiect CHERISH yn gwneud gwaith cloddio ar y safle rhyfeddol hwn er mwyn dysgu mwy am y math yma o safle archaeolegol Gwyddelig. Mae Caer Bentir Ferriter yn uniongyrchol i’r gogledd o’r safle cyfnod pontio Mesolithig Neolithig yng Nghildraeth Ferriter, a gloddiwyd yn y 1980au. Mae gan gloddio botensial i ddatgelu’r defnydd cyffrous iawn o’r pentir hwn dros filoedd o flynyddoedd. Bydd y cloddio’n adeiladu ar ein hymchwiliadau cychwynnol yng Nghaer Bentir Ferriter a oedd yn cynnwys arolwg drwy gerdded ar y safle, modelu tir manwl drwy fapio drôn ac arolwg geoffisegol gan ddefnyddio gradiometreg fagnetig ac arolygon gwrthedd. Mae canlyniadau'r arolygon hyn wedi llywio ein cynlluniau ar gyfer cloddio, gan nodi anomaleddau o ran topograffeg yr arwyneb a gwneuthuriad yr is-arwyneb, sydd â photensial i fod o wneuthuriad dyn.
Golygfa o'r awyr o Gaer Bentir a Chastell Ferriter, lle bydd gwaith cloddio CHERISH yn digwydd yr haf hwn.
Golygfa o'r awyr o Gaer Bentir a Chastell Ferriter, lle bydd gwaith cloddio CHERISH yn digwydd yr haf hwn.

Amddiffynfeydd y Safle

Mae'r ddwy gyfres o amddiffynfeydd ar y gaer bentir hon wedi'u lleoli lle mae dau gildraeth naturiol yn digwydd gan rannu'r pentir yn ddwy adran wahanol. Cafodd y ddau wddf yma o dir eu defnyddio a'u gwella gan adeiladwyr y gaer hon gyda chyfres o gloddiau a ffosydd, i ffurfio cyfres allanol a mewnol o amddiffynfeydd. Bydd y tîm yn edrych ar yr amddiffynfeydd hyn wrth gloddio i ddeall sut a phryd cawsant eu hadeiladu, yn ogystal â dysgu rhywbeth gobeithio am y bobl a'u hadeiladodd ac a oedd yn byw yn y gaer hon. Bydd y tîm yn cofnodi ac yn samplu deunyddiau adeiladu'r cloddiau a'r ffosydd i nodi gwahanol gyfnodau'r gwaith adeiladu, yn ogystal â'r dulliau a'r deunyddiau a ddefnyddiwyd wrth eu hadeiladu. Rydym yn gobeithio defnyddio dulliau dyddio gwyddonol i ddyddio rhai o'r cyfnodau deiliadaeth a/neu adeiladu.
Mae'r gyfres fewnol o amddiffynfeydd, gwaith carreg i'w gweld ar glawdd mewnol y clawdd dwbl yma o amddiffynfeydd
Mae'r gyfres fewnol o amddiffynfeydd, gwaith carreg i'w gweld ar glawdd mewnol y clawdd dwbl yma o amddiffynfeydd

Safleoedd Cytiau

Yn y bymthegfed neu'r unfed ganrif ar bymtheg, ailddefnyddiwyd y gaer pan adeiladodd y teulu Eingl-Normanaidd, Ferriter, gastell ar glawdd mewnol yr amddiffynfeydd allanol. Roedd y tŷ tŵr hwn yn wreiddiol yn dŵr petryal 4 i 5 llawr gyda’r teulu Ferriter yn byw ynddo tan yr ail ganrif ar bymtheg. Mae Castell Ferriter wedi’i adeiladu ar glawdd mewnol amddiffynfeydd allanol y gaer. Mae'r castell wedi'i gofnodi mewn manylder uwch gan arolwg sgan laser 3D. Mae hyn yn rhoi union gofnod o'r castell adeg yr arolwg, ac yn caniatáu i'r tîm fonitro unrhyw newidiadau sy'n digwydd i'r castell. Bydd cloddio yn y rhan hon o'r gaer yn canolbwyntio ar safleoedd y tai petryal, y credir eu bod yn gysylltiedig â'r gweithgarwch canoloesol diweddarach ar y safle. Bydd ffos yn cael ei chloddio i amlygu lefel yr hen lawr adeg eu deiliadaeth ac i weld pa fath o waith adeiladu a ddefnyddiwyd i'w hadeiladu. Gall hyn ein galluogi i benderfynu sut mae'r strwythurau hyn yn berthnasol i’r tŷ tŵr a'i ddeiliaid. Mae ffynnon wedi’i chofnodi yn y rhan hon o’r safle, a bydd craidd yn cael ei ddefnyddio i benderfynu ai ffynnon yw hi mewn gwirionedd, er mwyn casglu deunydd ar gyfer ymchwiliadau palaeo-amgylcheddol.
Arolwg Sgan Laser CHERISH yng Nghastell Ferriter, Mehefin 2018.
Arolwg Sgan Laser CHERISH yng Nghastell Ferriter, Mehefin 2018.
Yn ail ran y gaer, ceir nifer o safleoedd cytiau a phantiau is-gylchol. Mae erydiad yn effeithio'n drwm ar y nodweddion archaeolegol hyn oherwydd eu lleoliad ar ochr y clogwyni ac felly mae'n bwysig iawn bod y tîm yn cael cymaint o wybodaeth â phosibl am y math hwn o safle cyn iddynt gael eu bwyta i gyd gan y môr. Bydd y tîm yn cloddio un o'r safleoedd cytiau mwy yn llawn, ac nid yw'r enghraifft a ddewiswyd wedi'i lleoli ar hyd ymyl y clogwyn, i ddarparu amgylchedd gwaith diogel i'r tîm. Bydd yr ymchwiliadau hyn yn galluogi i ni ddeall natur gwaith adeiladu'r strwythurau hyn yn ogystal â phryd a pham yr adeiladwyd y safleoedd cytiau hyn. Mae'r pantiau is-gylchol yn yr ardal hon yn nodweddion anarferol, a bydd y ffosydd cloddio yn y nodweddion hyn yn galluogi i ni benderfynu a ydynt wedi'u gwneud gan ddyn neu'n ddaearegol. Os ydynt yn nodweddion a wnaed gan ddyn byddwn yn eu cofnodi a’u samplu i ateb yr un cwestiynau ag yr ydym wedi'u gofyn am y nodweddion archaeolegol eraill yn y gaer hon. Yn ystod y cloddio efallai y byddwn yn datgelu arteffactau sydd wedi'u claddu am gannoedd o flynyddoedd, neu filoedd mewn rhai achosion. Os ydym yn ddigon ffodus i ddatgelu arteffactau gallent daflu goleuni ar y gwahanol gyfnodau o ddefnydd o'r safle hwn, a rhoi cipolwg i ni efallai ar y math o bobl a oedd yn byw yn y lleoliad hardd ond agored hwn.
Archaeolegydd y prosiect Ted Pollard yn cynnal arolwg geoffisegol o'r safle yn 2019.
Archaeolegydd y prosiect Ted Pollard yn cynnal arolwg geoffisegol o'r safle yn 2019.
Mae tîm CHERISH yn ddiolchgar iawn i Dennis Curran am roi caniatâd i ni weithio ar ei dir, am ei gyfeillgarwch a'i haelioni yn ystod y gwaith arolygu, ac am y cyfoeth o wybodaeth leol mae wedi'i rhannu â'r tîm.

Map Lleoliad

Read More →
cyCY