Blogiau

CLODDIO CASTELL A CHAER BENTIR FERRITERS

Cylchlythyr

Cyflwyniad

Mae tîm CHERISH yn bwriadu gwneud gwaith cloddio archaeolegol yng Nghastell a Chaer Bentir Ferriter unwaith y bydd y cyfyngiadau presennol yn caniatáu hynny. Mae'r safle wedi'i leoli ar Benrhyn Ballyferriter, Dingle yn Sir Kerry. Mae Trwyn Doon (Dún an Fheirtéaraigh) yn bentir hir, cul sy'n ymestyn ychydig dros bum can metr o'r gogledd ddwyrain i'r de orllewin. Mae’r golygfeydd hardd o'r safle hwn yn cynnwys Trwyn Sybil i'r gogledd ac Ynysoedd Blasket i'r gorllewin. Mae’r gaer gynhanes yma’n un o 95 o geyrydd pentir arfordirol yn Sir Kerry, ac yn un o 508 o geyrydd o’r fath sydd wedi’u cofnodi o amgylch arfordir Iwerddon. Mae ceyrydd pentir yn cael eu heffeithio’n drwm gan erydiad ac felly mae prosiect CHERISH yn gwneud gwaith cloddio ar y safle rhyfeddol hwn er mwyn dysgu mwy am y math yma o safle archaeolegol Gwyddelig. Mae Caer Bentir Ferriter yn uniongyrchol i’r gogledd o’r safle cyfnod pontio Mesolithig Neolithig yng Nghildraeth Ferriter, a gloddiwyd yn y 1980au. Mae gan gloddio botensial i ddatgelu’r defnydd cyffrous iawn o’r pentir hwn dros filoedd o flynyddoedd. Bydd y cloddio’n adeiladu ar ein hymchwiliadau cychwynnol yng Nghaer Bentir Ferriter a oedd yn cynnwys arolwg drwy gerdded ar y safle, modelu tir manwl drwy fapio drôn ac arolwg geoffisegol gan ddefnyddio gradiometreg fagnetig ac arolygon gwrthedd. Mae canlyniadau'r arolygon hyn wedi llywio ein cynlluniau ar gyfer cloddio, gan nodi anomaleddau o ran topograffeg yr arwyneb a gwneuthuriad yr is-arwyneb, sydd â photensial i fod o wneuthuriad dyn.
Golygfa o'r awyr o Gaer Bentir a Chastell Ferriter, lle bydd gwaith cloddio CHERISH yn digwydd yr haf hwn.
Golygfa o'r awyr o Gaer Bentir a Chastell Ferriter, lle bydd gwaith cloddio CHERISH yn digwydd yr haf hwn.

Amddiffynfeydd y Safle

Mae'r ddwy gyfres o amddiffynfeydd ar y gaer bentir hon wedi'u lleoli lle mae dau gildraeth naturiol yn digwydd gan rannu'r pentir yn ddwy adran wahanol. Cafodd y ddau wddf yma o dir eu defnyddio a'u gwella gan adeiladwyr y gaer hon gyda chyfres o gloddiau a ffosydd, i ffurfio cyfres allanol a mewnol o amddiffynfeydd. Bydd y tîm yn edrych ar yr amddiffynfeydd hyn wrth gloddio i ddeall sut a phryd cawsant eu hadeiladu, yn ogystal â dysgu rhywbeth gobeithio am y bobl a'u hadeiladodd ac a oedd yn byw yn y gaer hon. Bydd y tîm yn cofnodi ac yn samplu deunyddiau adeiladu'r cloddiau a'r ffosydd i nodi gwahanol gyfnodau'r gwaith adeiladu, yn ogystal â'r dulliau a'r deunyddiau a ddefnyddiwyd wrth eu hadeiladu. Rydym yn gobeithio defnyddio dulliau dyddio gwyddonol i ddyddio rhai o'r cyfnodau deiliadaeth a/neu adeiladu.
Mae'r gyfres fewnol o amddiffynfeydd, gwaith carreg i'w gweld ar glawdd mewnol y clawdd dwbl yma o amddiffynfeydd
Mae'r gyfres fewnol o amddiffynfeydd, gwaith carreg i'w gweld ar glawdd mewnol y clawdd dwbl yma o amddiffynfeydd

Safleoedd Cytiau

Yn y bymthegfed neu'r unfed ganrif ar bymtheg, ailddefnyddiwyd y gaer pan adeiladodd y teulu Eingl-Normanaidd, Ferriter, gastell ar glawdd mewnol yr amddiffynfeydd allanol. Roedd y tŷ tŵr hwn yn wreiddiol yn dŵr petryal 4 i 5 llawr gyda’r teulu Ferriter yn byw ynddo tan yr ail ganrif ar bymtheg. Mae Castell Ferriter wedi’i adeiladu ar glawdd mewnol amddiffynfeydd allanol y gaer. Mae'r castell wedi'i gofnodi mewn manylder uwch gan arolwg sgan laser 3D. Mae hyn yn rhoi union gofnod o'r castell adeg yr arolwg, ac yn caniatáu i'r tîm fonitro unrhyw newidiadau sy'n digwydd i'r castell. Bydd cloddio yn y rhan hon o'r gaer yn canolbwyntio ar safleoedd y tai petryal, y credir eu bod yn gysylltiedig â'r gweithgarwch canoloesol diweddarach ar y safle. Bydd ffos yn cael ei chloddio i amlygu lefel yr hen lawr adeg eu deiliadaeth ac i weld pa fath o waith adeiladu a ddefnyddiwyd i'w hadeiladu. Gall hyn ein galluogi i benderfynu sut mae'r strwythurau hyn yn berthnasol i’r tŷ tŵr a'i ddeiliaid. Mae ffynnon wedi’i chofnodi yn y rhan hon o’r safle, a bydd craidd yn cael ei ddefnyddio i benderfynu ai ffynnon yw hi mewn gwirionedd, er mwyn casglu deunydd ar gyfer ymchwiliadau palaeo-amgylcheddol.
Arolwg Sgan Laser CHERISH yng Nghastell Ferriter, Mehefin 2018.
Arolwg Sgan Laser CHERISH yng Nghastell Ferriter, Mehefin 2018.
Yn ail ran y gaer, ceir nifer o safleoedd cytiau a phantiau is-gylchol. Mae erydiad yn effeithio'n drwm ar y nodweddion archaeolegol hyn oherwydd eu lleoliad ar ochr y clogwyni ac felly mae'n bwysig iawn bod y tîm yn cael cymaint o wybodaeth â phosibl am y math hwn o safle cyn iddynt gael eu bwyta i gyd gan y môr. Bydd y tîm yn cloddio un o'r safleoedd cytiau mwy yn llawn, ac nid yw'r enghraifft a ddewiswyd wedi'i lleoli ar hyd ymyl y clogwyn, i ddarparu amgylchedd gwaith diogel i'r tîm. Bydd yr ymchwiliadau hyn yn galluogi i ni ddeall natur gwaith adeiladu'r strwythurau hyn yn ogystal â phryd a pham yr adeiladwyd y safleoedd cytiau hyn. Mae'r pantiau is-gylchol yn yr ardal hon yn nodweddion anarferol, a bydd y ffosydd cloddio yn y nodweddion hyn yn galluogi i ni benderfynu a ydynt wedi'u gwneud gan ddyn neu'n ddaearegol. Os ydynt yn nodweddion a wnaed gan ddyn byddwn yn eu cofnodi a’u samplu i ateb yr un cwestiynau ag yr ydym wedi'u gofyn am y nodweddion archaeolegol eraill yn y gaer hon. Yn ystod y cloddio efallai y byddwn yn datgelu arteffactau sydd wedi'u claddu am gannoedd o flynyddoedd, neu filoedd mewn rhai achosion. Os ydym yn ddigon ffodus i ddatgelu arteffactau gallent daflu goleuni ar y gwahanol gyfnodau o ddefnydd o'r safle hwn, a rhoi cipolwg i ni efallai ar y math o bobl a oedd yn byw yn y lleoliad hardd ond agored hwn.
Archaeolegydd y prosiect Ted Pollard yn cynnal arolwg geoffisegol o'r safle yn 2019.
Archaeolegydd y prosiect Ted Pollard yn cynnal arolwg geoffisegol o'r safle yn 2019.
Mae tîm CHERISH yn ddiolchgar iawn i Dennis Curran am roi caniatâd i ni weithio ar ei dir, am ei gyfeillgarwch a'i haelioni yn ystod y gwaith arolygu, ac am y cyfoeth o wybodaeth leol mae wedi'i rhannu â'r tîm.

Map Lleoliad

Read More →

Ardaloedd Iwerddon

Ballinskelligs, County Kerry

Cylchlythyr

Map Lleoliad

Cyflwyniad

Ballinskelligs Bay is located on the western seaboard of Ireland. Nestled on the south western extent of the Iveragh Peninsula the bay faces outwards towards the vast Atlantic, having once played a pivotal role in Kerry’s monastic landscape. The UNESCO World Heritage Site of Skellig Michael lies off the Ballinskellig coast. The monastery of Skellig Michael was transferred to the west shore at Ballinskelligs in the mid eleventh century due to hazardous conditions on the rock.

The Priory

The priory of the Arroasian Canons of the Order of St Augustine was founded around 1210 and it retained possession of Great Skellig. The priory’s shoreline location has meant it has been the subject of much restoration work by the Office of Public Works. The erosion at the site has been happening since at least the eighteenth century and has resulted in the destruction of several buildings and much of the south east side of the monastery and graveyard. A substantial sea-wall, revetted by groynes, protects the site. The priory comprises a number of buildings which exhibit architectural details relating to various periods between the thirteenth and fifteenth centuries. The priory was disbanded by 1578. An ancient hamlet is located approximately a 120 metres to the north west of Ballinskelligs Priory, just beyond the northern extent of the OPW seawall. This area is being effected by erosion, that may be attributed to the hard defences in the area.

McCarthy’s Castle

McCarthy’s castle is located to the north of the Abbey sitting on the tip of a narrow promontory of land that juts into the sea. This tower house is probably 16th century in date and associated with the McCarthy’s who were chieftains in Cork and Kerry. The promontory suffers badly from erosion and has changed substantially in living memory, some of this change is often attributed to the 20th century construction of the concrete pier that lies at the end of the Promontory. The castle ruins remain largely intact; however, the southern corner is badly damaged with a breakthrough in the wall in this area. This is partly due to exposure to the sea and the wall being thinner due to the mural stairs located in this corner of the tower house. The land around the castle is impacted by erosion. Excavations were undertaken at the castle in 1988 and 1991 by John Sheehan, University College Cork. Two external lean-to structures with pitched-cobble floors identified during excavation and post-dating the primary period of occupation of the castle are believed to have been a fish curling station. It is recorded that Sir William Petty established a fishery at Ballinskelligs.

The dated tree stump from Inny strand tells how a Bronze Age forest was present in the north of the bay, the continuation of buried peats past the present low water mark indicate the forest covered the area that denotes the intertidal zone today. The basal dates of the peat cores around the Bay inform of the formation dates and phases of the wetlands that now encompass Ballinskelligs Bay. These peat cores will provide further insights into the environmental and climate records for the Bay since the Neolithic Period. The palaeo-environmental evidence when considered in context of the pattern of change recorded due to geological processes around the bay since at least the mid-18th century and in context of predicted climate change impacts due to atmospheric change such as rising sea level indicates a continual loss of the coastal margin into the future as the predominate forces at play continue to enlarge the bay here at Ballinskelligs.

Cynnwys Cysylltiedig

Read More →

Blogiau

CAER BENTIR DUNBEG SY’N DADFEILIO

Cylchlythyr

Mae Heneb Genedlaethol Dunbeg, sy’n cyfieithu fel caer fechan, yn atyniad twristiaidd poblogaidd yn Sir Kerry gyda’i rhesi nodedig o amddiffynfeydd a’r golygfeydd godidog dros Fae Dingle i Ynys Valentia a Safle Treftadaeth Byd Skellig Michael. Yn anffodus, mae’r safle wedi bod ar gau dros dro i’r cyhoedd ar gyfer gwaith atgyweirio a mesurau diogelwch wrth i’r môr barhau i erydu’r clogwyni. Mae’r erydiad hwn yn eithriadol ddifrifol yn ystod stormydd ac mae darogan y bydd stormydd yn fwy difrifol gyda newid yn yr hinsawdd.

Pan fyddwch yn mynd at y gaer bentir o'r ffordd, byddwch yn cerdded drwy bedwar clawdd, pum ffos, a rhagfur mewnol o gerrig sychion. Mae tramwyfa ganolog yn croesi'r cloddiau i'r rhagfur ond anogir pobl i gerdded ar ochr ddwyreiniol y gaer oherwydd erydiad wrth y fynedfa. Mae llwybr tanddaearol wedi’i adeiladu o gerrig, a elwir yn siambr danddaearol, yn ymestyn am fwy nag 16m o'r rhagfur i'r trydydd clawdd. Roedd llwybr gyda cherrig arno yn arwain o fynedfa'r rhagfur at strwythur cylch o gerrig sychion a elwir yn clochán y tu mewn i'r gaer

Golygfeydd o wyneb ffres y clogwyn yn Dunbeg yn dangos clawdd, ffosydd a rhagfur yn y canol a clochán i’r dde ym mis Ebrill 2019
Golygfeydd o wyneb ffres y clogwyn yn Dunbeg yn dangos clawdd, ffosydd a rhagfur yn y canol a clochán i’r dde ym mis Ebrill 2019

Mae gennym gofnod cymharol dda o newidiadau ar y safle hwn gan fod y gaer bentir wedi denu sylw hynafiaethwyr a daearegwyr o'r 19fed ganrif yn ogystal â thwristiaid o'r 20fed20fed ganrif. Ymwelodd George Du Noyer â'r safle a'i gofnodi yn 1856, ac mae'r gaer bentir siâp trionglog y tynnodd ei llun wedi colli hyd at 35m ar hyd ei hochr orllewinol sy'n eistedd ar y clogwyni 30m o uchder. Mae hyn wedi arwain at y gaer yn dod yn debycach i siâp cilgant yn y cynllun heddiw.

Y fynedfa i Dunbeg (George Du Noyer yn yr Archaeological Journal March 1858 cyfrol 15)
Y fynedfa i Dunbeg (George Du Noyer yn yr Archaeological Journal March 1858 cyfrol 15)
Sut mae’n edrych heddiw gyda’r fynedfa wreiddiol i Dunbeg ar ôl dymchwel ym mis Ebrill 2019 © Archif Ffotograffig, Gwasanaeth Henebion Cenedlaethol Llywodraeth Iwerddon.
Sut mae’n edrych heddiw gyda’r fynedfa wreiddiol i Dunbeg ar ôl dymchwel ym mis Ebrill 2019 © Archif Ffotograffig, Gwasanaeth Henebion Cenedlaethol Llywodraeth Iwerddon.

Effeithiodd gweithgarwch dynol yn y 19fed 19eg ganrif ar y gaer hefyd, gyda helwyr ysgyfarnogod yn troi cerrig drosodd, a cherrig yn cael eu cymryd ar gyfer adeiladu mewn mannau eraill. Cafwyd gwared ar waliau cerrig y caeau, a oedd unwaith yn croesi cloddiau a ffosydd y gaer, yn ystod gwaith adfer y Swyddfa Gwaith Cyhoeddus (OPW) yn 1892. Hefyd atgyweiriodd OPW do un o'r ddwy siambr warchod a oedd ar y naill ochr i fynedfa wal y rhagfur. Nid yw'r tŷ gwarchod gorllewinol yn bodoli mwyach. Fe wnaeth gwaith atgyweirio OPW greu cromlin hefyd wrth derfynellau'r rhagfur a gosodwyd wal derfyn yn ei lle. Roedd cynlluniau blaenorol o’r safle'n dangos bod wal rhagfur syth wedi bod yma.

Yn 1897, dywedodd Thomas Westropp fod tua 3m o dir wedi disgyn ar yr ochr orllewinol yn yr 20 mlynedd ddiwethaf. Mae'r Athro R.A.S. MacAlister, o Goleg Prifysgol Dulyn yn ddiweddarach, yn cofnodi ei fod wedi ymweld â'r safle yn 1896 ac eto yn 1898 ac yn ystod y cyfnod hwnnw roedd pen gorllewinol y rhagfur carreg wedi erydu i'r môr. Mae ymweliad arall gan OPW ym mis Medi 1915 yn braslunio diflaniad 9.5m o ochr orllewinol y rhagfur ers 1897 a dangoswyd holltau tir, arwydd o ansefydlogrwydd arfaethedig.

Yn 1977, comisiynodd OPW a'r Gwasanaeth Henebion Cenedlaethol waith cloddio i archwilio'r safle, ei ddyddiadau a'i hanes o ddeiliadaeth cyn i fwy o nodweddion gael eu colli. Mae golygfa o'r tu mewn i'r gaer yn edrych ar wal y rhagfur yn dangos bod erydiad y clogwyni o'r gorllewin wedi cyrraedd y tŷ gwarchod gorllewinol i ochr y fynedfa dan do. Datgelodd gwaith cloddio dan arweiniad yr Athro Terry Barry o Goleg y Drindod Dulyn dyllau pyst, aelwydydd a thyllau stanciau yn y clochán gan awgrymu llochesi plethwaith a gynhelir gan byst a stanciau pren. Dangosodd dadansoddiad o weddillion deiliadaeth ddeiet o foch, defaid, geifr, gwartheg, ceirw, adar a physgod. Mae’r dyddiadau radiocarbon yn awgrymu bod pobl yn byw yma yn y 10fed 10fed neu'r 11fed ganrif OC. Datgelodd gwaith cloddio pellach yn y rhagfur radiocarbon ffos fas gynharach yn dyddio o'r 6fed 6ed ganrif CC. Mae hyn yn dynodi hanes maith o ddefnydd ar y safle, er efallai na fu'n barhaus.

Llun o ganol yr 20fed ganrif gyda’r fynedfa wedi’i hatgyweirio a dau dŷ gwarchod y naill ochr i’r fynedfa.
Llun o ganol yr 20fed ganrif gyda’r fynedfa wedi’i hatgyweirio a dau dŷ gwarchod y naill ochr i’r fynedfa.
Mae’r olygfa o’r 1970au yn dangos bod erydu wedi dechrau ar y tŷ gwarchod ar y chwith. © Archif Ffotograffig, Gwasanaeth Henebion Cenedlaethol, Llywodraeth Iwerddon.
Mae’r olygfa o’r 1970au yn dangos bod erydu wedi dechrau ar y tŷ gwarchod ar y chwith. © Archif Ffotograffig, Gwasanaeth Henebion Cenedlaethol, Llywodraeth Iwerddon.

Yn ystod y 7 mlynedd ddiwethaf, mae’r clogwyn wedi bod yn profi cyfnod arall o ansefydlogrwydd. Ym mis Ionawr 2014, arweiniodd storm at ochr ddeheuol y fynedfa drwy’r rhagfur yn dymchwel gan achosi i adran syrthio yn agos at y llwybr drwy’r rhagfur carreg. Dechreuodd Prosiect CHERISH yn gynnar yn 2017 ac mae wedi bod yn cofnodi’r newidiadau diweddaraf gydag arolygon drôn a sganiwr laser rheolaidd. Ym mis Rhagfyr 2017, roedd rhaid cau’r safle eto ar ôl i lifogydd dirybudd i lawr Mount Eagle achosi erydiad nant yn sarn, cloddiau a ffosydd y gaer. Wedyn yn ystod Storm Eleanor ar 3ydd Ionawr 2018, dymchwelodd y rhan fwyaf o’r fynedfa dan do drwy’r rhagfur a’r tir islaw i’r môr. Roedd yr ardal dan do olaf yn y fynedfa hon wedi dymchwel erbyn ein hymweliad nesaf ym mis Ebrill 2019.

Ffotograff o Dunbeg ym mis Ebrill 2018 yn dangos y fynedfa yn dymchwel drwy’r rhagfur
Ffotograff o Dunbeg ym mis Ebrill 2018 yn dangos y fynedfa yn dymchwel drwy’r rhagfur
Ffotograff o Dunbeg ym mis Ebrill 2019 yn dangos y fynedfa yn dymchwel drwy’r rhagfur
Ffotograff o Dunbeg ym mis Ebrill 2019 yn dangos y fynedfa yn dymchwel drwy’r rhagfur
Lluniau o Dunbeg a dynnwyd ym mis Rhagfyr 2017 (codwyd pyst cynnal pren yn y 1980au)
Lluniau o Dunbeg a dynnwyd ym mis Rhagfyr 2017 (codwyd pyst cynnal pren yn y 1980au)
Llun o Dunbeg a dynnwyd ym mis Ebrill 2019 yn dangos dymchweliad diweddar iawn y fynedfa drwy’r rhagfur o’r ochr ddeheuol
Llun o Dunbeg a dynnwyd ym mis Ebrill 2019 yn dangos dymchweliad diweddar iawn y fynedfa drwy’r rhagfur o’r ochr ddeheuol

Map Lleoliad

Read More →
cyCY